Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Protheroe, Daniel (1866-1934)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Cyfansoddwr a aned yn Ystradgynlais, Sir Frycheiniog. Cafodd ei fagu yn sŵn cerddoriaeth capel y teulu yng Nghwmgïedd, a dylanwadodd y traddodiad hwnnw yn drwm arno: tystiai fod cynifer â saith o gymanfaoedd canu yn cael eu cynnal yn yr ardal ar ddydd Llun y Pasg yn unig. Roedd [[canu corawl]] hefyd yn ymddatblygu yng nghyfnod ei blentyndod, a bu ei dad a’i fam yn aelodau o Gymdeithas Gorawl Dyffryn Tawe, dan arweiniad William Griffiths (Ifander). Dylanwad arall oedd y bandiau drwm a phib a deithiai i’r ardal i berfformio ar y strydoedd (gw. hefyd [[Bandiau Militaraidd]]). | + | Cyfansoddwr a aned yn Ystradgynlais, Sir Frycheiniog. Cafodd ei fagu yn sŵn cerddoriaeth capel y teulu yng Nghwmgïedd, a dylanwadodd y traddodiad hwnnw yn drwm arno: tystiai fod cynifer â saith o gymanfaoedd canu yn cael eu cynnal yn yr ardal ar ddydd Llun y Pasg yn unig. Roedd [[Corau Cymysg | canu corawl]] hefyd yn ymddatblygu yng nghyfnod ei blentyndod, a bu ei dad a’i fam yn aelodau o Gymdeithas Gorawl Dyffryn Tawe, dan arweiniad William Griffiths (Ifander). Dylanwad arall oedd y bandiau drwm a phib a deithiai i’r ardal i berfformio ar y strydoedd (gw. hefyd [[Bandiau Militaraidd]]). |
− | Fe’i prentisiwyd yn deiliwr yn siop ei ewythr, ond dysgodd [[sol-ffa]] ac elfennau cerddoriaeth yng nghapel Cwmgïedd gyda Philip Thomas a [[J. T. Rees]]. Ymddangosodd fel unawdydd yn canu alto ac ennill yn [[Eisteddfod]] y Deheudir yn 1880. O fewn ychydig, dechreuodd [[arwain]], ac yn ddeunaw oed aeth â chôr o Gwmgïedd i gystadlu mewn eisteddfod yn Llandeilo a chael gwobr gyntaf. Flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1886, wedi clywed gan berthynas iddo am y cyfleoedd a oedd ar gael yn y Byd Newydd, ymfudodd i Scranton, Pennsylvania, a bu’n byw yn Unol Daleithiau America weddill ei oes. Roedd Scranton yn ganolfan i fywyd Cymraeg yn y cyfnod hwnnw, a dechreuodd Protheroe arwain corau ymhlith y Cymry. Dywedir mai ef oedd y cyntaf i berfformio [[oratorio]] gyda cherddorfa yn Scranton. Daeth yn ddinesydd Americanaidd yn 1891. Priododd Hannah Harris, un o Gymry Scranton a oedd wedi’i geni yn Nhredegar, a chawsant ddwy ferch a mab. | + | Fe’i prentisiwyd yn deiliwr yn siop ei ewythr, ond dysgodd [[Tonic Sol-ffa | sol-ffa]] ac elfennau cerddoriaeth yng nghapel Cwmgïedd gyda Philip Thomas a [[Rees, J. T. (1857-1949) | J. T. Rees]]. Ymddangosodd fel unawdydd yn canu alto ac ennill yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] y Deheudir yn 1880. O fewn ychydig, dechreuodd [[Arweinydd, Arweinyddion | arwain]], ac yn ddeunaw oed aeth â chôr o Gwmgïedd i gystadlu mewn eisteddfod yn Llandeilo a chael gwobr gyntaf. Flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1886, wedi clywed gan berthynas iddo am y cyfleoedd a oedd ar gael yn y Byd Newydd, ymfudodd i Scranton, Pennsylvania, a bu’n byw yn Unol Daleithiau America weddill ei oes. Roedd Scranton yn ganolfan i fywyd Cymraeg yn y cyfnod hwnnw, a dechreuodd Protheroe arwain corau ymhlith y Cymry. Dywedir mai ef oedd y cyntaf i berfformio [[Oratorio, Yr | oratorio]] gyda cherddorfa yn Scranton. Daeth yn ddinesydd Americanaidd yn 1891. Priododd Hannah Harris, un o Gymry Scranton a oedd wedi’i geni yn Nhredegar, a chawsant ddwy ferch a mab. |
− | Yn 1890 graddiodd yn MusBac ym Mhrifysgol Toronto, ac yn 1910 cafodd ddoethuriaeth gan Brifysgol Talaith Efrog Newydd. Yna yn 1894 symudodd i Milwaukee, lle bu’n arwain y gân yn yr Eglwys Fedyddiedig. Oddi yno aeth yn 1908 i Chicago yn gyfarwyddwr cerdd y Central Church, un o eglwysi mwyaf y ddinas, ac i ddysgu yn rhai o’r ysgolion cerdd lleol. Arweiniodd nifer o gorau yn Milwaukee ac yn Chicago, ac yn 1926 sefydlodd gôr meibion Cymreig yno. Yn 1918 golygodd lyfr [[emynau]] a thonau dwyieithog, ''Cân a Mawl'', at ddefnydd Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yng Ngogledd America. | + | Yn 1890 graddiodd yn MusBac ym Mhrifysgol Toronto, ac yn 1910 cafodd ddoethuriaeth gan Brifysgol Talaith Efrog Newydd. Yna yn 1894 symudodd i Milwaukee, lle bu’n arwain y gân yn yr Eglwys Fedyddiedig. Oddi yno aeth yn 1908 i Chicago yn gyfarwyddwr cerdd y Central Church, un o eglwysi mwyaf y ddinas, ac i ddysgu yn rhai o’r ysgolion cerdd lleol. Arweiniodd nifer o gorau yn Milwaukee ac yn Chicago, ac yn 1926 sefydlodd gôr meibion Cymreig yno. Yn 1918 golygodd lyfr [[Emyn-donau | emynau]] a thonau dwyieithog, ''Cân a Mawl'', at ddefnydd Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yng Ngogledd America. |
− | Astudiodd Protheroe gyda dau o gerddorion blaenllaw yr Unol Daleithiau, Edward Macdowell (1860-1908) a Dudley Buck (1839-1909). Datblygodd yn gyfansoddwr toreithiog, ond cerddoriaeth leisiol oedd ei gryfder. Ei weithiau mwyaf arhosol yw ei gytganau grymus i gorau meibion, megis ''Nidaros'' (i eiriau gan Longfellow) a ''Milwyr y Groes'', a’r caneuon i blant a luniodd i eiriau Nantlais, sy’n cynnwys caneuon megis ‘Mynd drot drot’ a ‘Lili wen fach’, y daethpwyd i’w hystyried bron yn [[ganeuon gwerin]] (gw. hefyd [[Hwiangerddi]]). Cenir rhai o’i [[emyn-donau]] o hyd, megis ‘Price’, ‘Wilkesbarre’, ‘Cwmgïedd’ a ‘Milwaukee’. Credai’n gryf ym mhwysigrwydd alaw ac mae ei waith yn felodaidd heb gymhlethdod technegol. | + | Astudiodd Protheroe gyda dau o gerddorion blaenllaw yr Unol Daleithiau, Edward Macdowell (1860-1908) a Dudley Buck (1839-1909). Datblygodd yn gyfansoddwr toreithiog, ond cerddoriaeth leisiol oedd ei gryfder. Ei weithiau mwyaf arhosol yw ei gytganau grymus i gorau meibion, megis ''Nidaros'' (i eiriau gan Longfellow) a ''Milwyr y Groes'', a’r caneuon i blant a luniodd i eiriau Nantlais, sy’n cynnwys caneuon megis ‘Mynd drot drot’ a ‘Lili wen fach’, y daethpwyd i’w hystyried bron yn [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | ganeuon gwerin]] (gw. hefyd [[Hwiangerdd (Hwiangerddi) | Hwiangerddi]]). Cenir rhai o’i [[Emyn-donau | emyn-donau]] o hyd, megis ‘Price’, ‘Wilkesbarre’, ‘Cwmgïedd’ a ‘Milwaukee’. Credai’n gryf ym mhwysigrwydd alaw ac mae ei waith yn felodaidd heb gymhlethdod technegol. |
− | Dychwelodd i Gymru’n rheolaidd i feirniadu mewn eisteddfodau ac i arwain cymanfaoedd canu a [[gwyliau]] corawl. Bu farw yn Chicago. | + | Dychwelodd i Gymru’n rheolaidd i feirniadu mewn eisteddfodau ac i arwain cymanfaoedd canu a [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau]] corawl. Bu farw yn Chicago. |
'''Rhidian Griffiths''' | '''Rhidian Griffiths''' |
Y diwygiad cyfredol, am 17:47, 7 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Cyfansoddwr a aned yn Ystradgynlais, Sir Frycheiniog. Cafodd ei fagu yn sŵn cerddoriaeth capel y teulu yng Nghwmgïedd, a dylanwadodd y traddodiad hwnnw yn drwm arno: tystiai fod cynifer â saith o gymanfaoedd canu yn cael eu cynnal yn yr ardal ar ddydd Llun y Pasg yn unig. Roedd canu corawl hefyd yn ymddatblygu yng nghyfnod ei blentyndod, a bu ei dad a’i fam yn aelodau o Gymdeithas Gorawl Dyffryn Tawe, dan arweiniad William Griffiths (Ifander). Dylanwad arall oedd y bandiau drwm a phib a deithiai i’r ardal i berfformio ar y strydoedd (gw. hefyd Bandiau Militaraidd).
Fe’i prentisiwyd yn deiliwr yn siop ei ewythr, ond dysgodd sol-ffa ac elfennau cerddoriaeth yng nghapel Cwmgïedd gyda Philip Thomas a J. T. Rees. Ymddangosodd fel unawdydd yn canu alto ac ennill yn Eisteddfod y Deheudir yn 1880. O fewn ychydig, dechreuodd arwain, ac yn ddeunaw oed aeth â chôr o Gwmgïedd i gystadlu mewn eisteddfod yn Llandeilo a chael gwobr gyntaf. Flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1886, wedi clywed gan berthynas iddo am y cyfleoedd a oedd ar gael yn y Byd Newydd, ymfudodd i Scranton, Pennsylvania, a bu’n byw yn Unol Daleithiau America weddill ei oes. Roedd Scranton yn ganolfan i fywyd Cymraeg yn y cyfnod hwnnw, a dechreuodd Protheroe arwain corau ymhlith y Cymry. Dywedir mai ef oedd y cyntaf i berfformio oratorio gyda cherddorfa yn Scranton. Daeth yn ddinesydd Americanaidd yn 1891. Priododd Hannah Harris, un o Gymry Scranton a oedd wedi’i geni yn Nhredegar, a chawsant ddwy ferch a mab.
Yn 1890 graddiodd yn MusBac ym Mhrifysgol Toronto, ac yn 1910 cafodd ddoethuriaeth gan Brifysgol Talaith Efrog Newydd. Yna yn 1894 symudodd i Milwaukee, lle bu’n arwain y gân yn yr Eglwys Fedyddiedig. Oddi yno aeth yn 1908 i Chicago yn gyfarwyddwr cerdd y Central Church, un o eglwysi mwyaf y ddinas, ac i ddysgu yn rhai o’r ysgolion cerdd lleol. Arweiniodd nifer o gorau yn Milwaukee ac yn Chicago, ac yn 1926 sefydlodd gôr meibion Cymreig yno. Yn 1918 golygodd lyfr emynau a thonau dwyieithog, Cân a Mawl, at ddefnydd Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yng Ngogledd America.
Astudiodd Protheroe gyda dau o gerddorion blaenllaw yr Unol Daleithiau, Edward Macdowell (1860-1908) a Dudley Buck (1839-1909). Datblygodd yn gyfansoddwr toreithiog, ond cerddoriaeth leisiol oedd ei gryfder. Ei weithiau mwyaf arhosol yw ei gytganau grymus i gorau meibion, megis Nidaros (i eiriau gan Longfellow) a Milwyr y Groes, a’r caneuon i blant a luniodd i eiriau Nantlais, sy’n cynnwys caneuon megis ‘Mynd drot drot’ a ‘Lili wen fach’, y daethpwyd i’w hystyried bron yn ganeuon gwerin (gw. hefyd Hwiangerddi). Cenir rhai o’i emyn-donau o hyd, megis ‘Price’, ‘Wilkesbarre’, ‘Cwmgïedd’ a ‘Milwaukee’. Credai’n gryf ym mhwysigrwydd alaw ac mae ei waith yn felodaidd heb gymhlethdod technegol.
Dychwelodd i Gymru’n rheolaidd i feirniadu mewn eisteddfodau ac i arwain cymanfaoedd canu a gwyliau corawl. Bu farw yn Chicago.
Rhidian Griffiths
Llyfryddiaeth
- Daniel Protheroe, Nodau damweiniol a d’rawyd o dro i dro (Lerpwl, 1924)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.