Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Elwyn-Edwards, Dilys (1918-2012)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 16: Llinell 16:
 
Dechreuodd gyhoeddi casgliadau o ganeuon a rhan-ganeuon [[Corau Cymysg | corawl]] tua diwedd yr 1950au a daeth nifer o’r rhain yn glasuron, megis ''Chwe Chân i Blant'' (I. D. Hooson, 1962) a ''Caneuon y Tri Aderyn'' (R. Williams Parry, 1962). Erys ‘Mae hiraeth yn y môr’ o’r casgliad hwn ymhlith y caneuon Cymraeg perffeithiaf a’r mwyaf poblogaidd a gyfansoddwyd erioed, er y byddai Dilys bob amser yn mynnu mai dim ond o dan berswâd y dramodydd John Gwilym Jones y’i cyfansoddodd gan ei bod hi ei hun yn amau y gellid gosod [[soned]] yn llwyddiannus.
 
Dechreuodd gyhoeddi casgliadau o ganeuon a rhan-ganeuon [[Corau Cymysg | corawl]] tua diwedd yr 1950au a daeth nifer o’r rhain yn glasuron, megis ''Chwe Chân i Blant'' (I. D. Hooson, 1962) a ''Caneuon y Tri Aderyn'' (R. Williams Parry, 1962). Erys ‘Mae hiraeth yn y môr’ o’r casgliad hwn ymhlith y caneuon Cymraeg perffeithiaf a’r mwyaf poblogaidd a gyfansoddwyd erioed, er y byddai Dilys bob amser yn mynnu mai dim ond o dan berswâd y dramodydd John Gwilym Jones y’i cyfansoddodd gan ei bod hi ei hun yn amau y gellid gosod [[soned]] yn llwyddiannus.
  
[[Delwedd:Mae Hiraeth yn y Mor.png|200px|bawd|chwith]]<small>Bar 1–4 o ‘Mae Hiraeth yn y Môr’ gan Dilys Elwyn-Edwards (© Cwmni Cyhoeddi Gwynn).</small>]]
+
[[Delwedd:Mae Hiraeth yn y Mor Dilys Elwyn Edwards.png|thumb|<small>Bar 1–4 o ‘Mae Hiraeth yn y Môr’ gan Dilys Elwyn-Edwards (© Cwmni Cyhoeddi Gwynn).</small>]]
  
 
Daeth rhai caneuon o blith ei chasgliadau diweddarach hefyd yn glasuron, megis ‘Hydref’ i eiriau [[T. Gwynn Jones]] o’r cylch ''Caneuon y Tymhorau'', ac o 1983 ymlaen cyfansoddodd yn helaeth eto ar gyfer corau, gan gynnwys nifer o ddarnau cysegredig. Roedd yn dibynnu’n llwyr ar farn a chefnogaeth Elwyn ar bob mater barddonol ac wrth ymwneud â geiriau, ac yn dilyn ei farwolaeth yn 2003 rhoddodd y gorau i gyfansoddi’n gyfan gwbl.
 
Daeth rhai caneuon o blith ei chasgliadau diweddarach hefyd yn glasuron, megis ‘Hydref’ i eiriau [[T. Gwynn Jones]] o’r cylch ''Caneuon y Tymhorau'', ac o 1983 ymlaen cyfansoddodd yn helaeth eto ar gyfer corau, gan gynnwys nifer o ddarnau cysegredig. Roedd yn dibynnu’n llwyr ar farn a chefnogaeth Elwyn ar bob mater barddonol ac wrth ymwneud â geiriau, ac yn dilyn ei farwolaeth yn 2003 rhoddodd y gorau i gyfansoddi’n gyfan gwbl.

Y diwygiad cyfredol, am 14:21, 25 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o brif gyfansoddwyr caneuon Cymru yn ystod yr 20g. Tra oedd yn ddisgybl yn Ysgol Dr Williams yn ei thref enedigol, Dolgellau, dangosodd ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth a barddoniaeth gan ddechrau cyfansoddi caneuon yn gynnar a defnyddio’i doniau fel cantores a phianydd i amlygu ei thalent greadigol.

Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Girton, Caergrawnt (cryn gamp mewn cyfnod pan nad oedd i ferched hawliau cyfartal yn y brifysgol honno), ond dewisodd yn hytrach dderbyn Ysgoloriaeth Joseph Parry i Brifysgol Caerdydd. Er iddi gael y cwrs yno yn sych a diddychymyg, digwyddodd dau beth yng Nghaerdydd a oedd i newid cwrs ei bywyd, sef iddi ddarganfod cerddoriaeth Herbert Howells (1892–1983) (wrth ganu ei waith yn y côr) a chyfarfod ei darpar ŵr, un o Gymry Llundain oedd â’i fryd ar y weinidogaeth, David Elwyn Edwards.

Wedi cyfnod yn ôl yn Ysgol Dr Williams yn dysgu, enillodd ysgoloriaeth bellach i’r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain yn ystod yr 1950au cynnar lle gwireddodd freuddwyd trwy astudio am dair blynedd gyda Herbert Howells ei hun. Yn ystod y cyfnod hwn roedd yn byw yn Rhydychen lle’r oedd Elwyn yn astudio yng Ngholeg Mansfield.

Roedd Howells yn enwog, fel athro, am ei allu i ddarganfod rhuddin personol ei ddisgyblion ac yna i’w galluogi i ddatblygu ar hyd llwybr a oedd yn gydnaws â’u greddf gynhenid. Yn achos Dilys Elwyn-Edwards canolbwyntiodd ei sylw ar ei thalent delynegol naturiol gan ddadansoddi tarddle ei harddull yn iaith foddawl gyfrin cyfansoddwyr Seisnig megis Delius, Vaughan Williams, Gustav Holst a Peter Warlock; sylwodd hefyd fod elfen Geltaidd yn perthyn i nifer o’r tueddiadau hyn er nad oeddynt â’u gwreiddiau o gwbl mewn unrhyw draddodiad neu ganu gwerin.

Camp Dilys wrth aeddfedu oedd perffeithio iaith gerddorol ystwyth a chanadwy a oedd yn glir a chain ei mynegiant ond yn deillio hefyd o gyfoeth y traddodiad lieder ‘clasurol’ Almaenig, fel y’i hamlygwyd yng ngwaith Franz Schubert a Robert Schumann, a’r chanson Ffrengig yng nghaneuon Gabriel Fauré, Maurice Ravel a Claude Debussy. Ffefryn arall ganddi oedd Edvard Grieg, ac roedd cyfrolau caneuon y cyfansoddwyr hyn yn aml i’w canfod yn agored ar biano Dilys. Llwyddodd i greu arddull glasurol Gymreig yn ei chaneuon, un a ddeilliai’n uniongyrchol o’i hymateb greddfol i batrwm yr iaith yn y farddoniaeth a oedd agosaf at ei chalon.

Wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon, lle’r oedd Elwyn yn weinidog gyda’r Presbyteriaid yng nghapel Castle Square (a hithau’n wraig gweinidog anghonfensiynol iawn), bu Dilys am gyfnod yn athrawes gerddoriaeth yn Ysgol Syr Hugh Owen ac wedyn yn diwtor piano yn y Coleg Normal, Bangor, a hefyd yn y Brifysgol yno.

Dechreuodd gyhoeddi casgliadau o ganeuon a rhan-ganeuon corawl tua diwedd yr 1950au a daeth nifer o’r rhain yn glasuron, megis Chwe Chân i Blant (I. D. Hooson, 1962) a Caneuon y Tri Aderyn (R. Williams Parry, 1962). Erys ‘Mae hiraeth yn y môr’ o’r casgliad hwn ymhlith y caneuon Cymraeg perffeithiaf a’r mwyaf poblogaidd a gyfansoddwyd erioed, er y byddai Dilys bob amser yn mynnu mai dim ond o dan berswâd y dramodydd John Gwilym Jones y’i cyfansoddodd gan ei bod hi ei hun yn amau y gellid gosod soned yn llwyddiannus.

Bar 1–4 o ‘Mae Hiraeth yn y Môr’ gan Dilys Elwyn-Edwards (© Cwmni Cyhoeddi Gwynn).

Daeth rhai caneuon o blith ei chasgliadau diweddarach hefyd yn glasuron, megis ‘Hydref’ i eiriau T. Gwynn Jones o’r cylch Caneuon y Tymhorau, ac o 1983 ymlaen cyfansoddodd yn helaeth eto ar gyfer corau, gan gynnwys nifer o ddarnau cysegredig. Roedd yn dibynnu’n llwyr ar farn a chefnogaeth Elwyn ar bob mater barddonol ac wrth ymwneud â geiriau, ac yn dilyn ei farwolaeth yn 2003 rhoddodd y gorau i gyfansoddi’n gyfan gwbl.

Wrth ganolbwyntio ar ei phriod feysydd ym myd cerddoriaeth leisiol a chorawl gellid dweud i Dilys adnabod yn reddfol ei rhychwant fel cyfansoddwr. Nid oedd yn chwennych bri fel symffonydd neu’n feistr ffurfiau offerynnol ar raddfa fawr, ond yn rhinwedd ei chyfraniad dethol a deheuig gellir proffwydo y bydd ei henw yn para’n fyw pan fydd enwau cyfansoddwyr eraill llawer mwy uchelgeisiol o bosibl wedi hen fynd yn angof.

Geraint Lewis

Llyfryddiaeth

  • D. Elwyn-Edwards a P. Kinney, ‘Songwriter to Singer’, Cerddoriaeth Cymru, 6/4 (1980), 7–13
  • G. Lewis, ‘Caneuon y Tri Aderyn’, Cerddoriaeth Cymru, 8/6 (1987), 26–9
  • S. Fuller a N. LeFanu, ‘Reclaiming the Muse’, Contemporary Music Review, xi (1994)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.