Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Fôn, Bryn (g.1954)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Disgyddiaeth)
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Canwr [[pop]] ac actor a fagwyd ym mhentref Llanllyfni ger Caernarfon. Ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle aeth ymlaen i’r Coleg Normal ym Mangor. Ymunodd â’r band Crysbas yn [[Eisteddfod]] Aberteifi yn 1976, gan ryddhau’r sengl ‘Draenog Marw’/‘Y Nhw’ ar label Sain yn 1978, a’r EP ''Ma Di Bwrw'' flwyddyn yn ddiweddarach. Bu hefyd yn canu yn yr opera [[roc]] ''Dic Penderyn'' yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1978. Yn yr 1980au daeth yn ffigwr amlwg ar lwyfan ac ar y sgrin deledu, gan actio mewn nifer o gynyrchiadau theatr, ynghyd â chwarae’r cymeriad Tecwyn yn y gyfres deledu ''C’mon Midffîld!'' (Ffilmiau’r Nant).
+
Canwr [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | pop]] ac actor a fagwyd ym mhentref Llanllyfni ger Caernarfon. Ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle aeth ymlaen i’r Coleg Normal ym Mangor. Ymunodd â’r band Crysbas yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Aberteifi yn 1976, gan ryddhau’r sengl ‘Draenog Marw’/‘Y Nhw’ ar label Sain yn 1978, a’r EP ''Ma Di Bwrw'' flwyddyn yn ddiweddarach. Bu hefyd yn canu yn yr opera [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | roc]] ''Dic Penderyn'' yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1978. Yn yr 1980au daeth yn ffigwr amlwg ar lwyfan ac ar y sgrin deledu, gan actio mewn nifer o gynyrchiadau theatr, ynghyd â chwarae’r cymeriad Tecwyn yn y gyfres deledu ''C’mon Midffîld!'' (Ffilmiau’r Nant).
  
Ffurfiodd Sobin a’r Smaeliaid yn 1988. Rhwng 1988 ac 1992 bu’r grŵp yn perfformio’n gyson ledled Cymru, gan ryddhau tair record hir, ''Sobin a’r Smaeliaid'' (Sain, 1990), ''Caib'' (Sain, 1991) ac ''…A Rhaw'' (Sain, 1992). Roedd eu caneuon roc canol-y-ffordd, apelgar megis ‘Mardi-gras ym Mangor Uchaf’ ac ‘Ar y Trên i Afonwen’ yn hynod boblogaidd, yn arbennig ymhlith cynulleidfaoedd yn ardaloedd cefn gwlad Cymru.
+
Ffurfiodd Sobin a’r Smaeliaid yn 1988. Rhwng 1988 ac 1992 bu’r grŵp yn perfformio’n gyson ledled Cymru, gan ryddhau tair record hir, ''Sobin a’r Smaeliaid'' (Sain, 1990), ''Caib'' (Sain, 1991) ac ''...A Rhaw'' (Sain, 1992). Roedd eu caneuon roc canol-y-ffordd, apelgar megis ‘Mardi-gras ym Mangor Uchaf’ ac ‘Ar y Trên i Afonwen’ yn hynod boblogaidd, yn arbennig ymhlith cynulleidfaoedd yn ardaloedd cefn gwlad Cymru. [[Delwedd:Bryn Fôn, Sobin a'r Smaeliaid.jpeg|thumb|<small>Bryn Fôn, Sobin a'r Smaeliaid.</small>]]
  
Cynyddwyd poblogrwydd y grŵp yn 1990 pan enillodd Bryn Fôn gystadleuaeth [[Cân i Gymru]] gyda’r gân bop ''reggae'' hwyliog ‘Gwlad y Rasta Gwyn’, a gyfansoddodd ar y cyd â gitarydd blaen y grŵp, Rhys Parri. Dangosai’r gân ‘Meibion y Fflam’ gydymdeimlad â Meibion Glyndŵr a’r ymgyrch losgi tai haf, ac yn 1990 arestiwyd Bryn Fôn o dan amheuaeth o fod yn rhan o’r ymgyrch. Fe’i rhyddhawyd yn ddiweddarach yn ddigyhuddiad, ond gellir dadlau bod y sylw wedi lledu’i apêl ymhellach. Rhwng 1988 ac 1992 gwerthodd y grŵp dros 25,000 o recordiau, mwy na grwpiau roc mawr yr 1970au a’r 1980au megis [[Edward H Dafis]] a [[Geraint Jarman]] a’r Cynganeddwyr.
+
Cynyddwyd poblogrwydd y grŵp yn 1990 pan enillodd Bryn Fôn gystadleuaeth [[Cân i Gymru]] gyda’r gân bop ''reggae'' hwyliog ‘Gwlad y Rasta Gwyn’, a gyfansoddodd ar y cyd â gitarydd blaen y grŵp, Rhys Parri. Dangosai’r gân ‘Meibion y Fflam’ gydymdeimlad â Meibion Glyndŵr a’r ymgyrch losgi tai haf, ac yn 1990 arestiwyd Bryn Fôn o dan amheuaeth o fod yn rhan o’r ymgyrch. Fe’i rhyddhawyd yn ddiweddarach yn ddigyhuddiad, ond gellir dadlau bod y sylw wedi lledu’i apêl ymhellach. Rhwng 1988 ac 1992 gwerthodd y grŵp dros 25,000 o recordiau, mwy na grwpiau roc mawr yr 1970au a’r 1980au megis [[Edward H Dafis]] a [[Jarman, Geraint (g.1950) | Geraint Jarman]] a’r Cynganeddwyr.
  
Fodd bynnag, erbyn 1994 roedd poblogrwydd y grŵp yn dechrau edwino ac aeth Bryn Fôn ati i ryddhau albwm unigol gan ofyn i Emyr Huws Jones (un o aelodau’r [[Tebot Piws]] gynt) gyfansoddi caneuon ar gyfer y record. Rhyddhawyd ''Dyddiau Digymar'' (Crai, 1994), gyda Les Morrison yn cynhyrchu, a chefnogaeth cerddorion amryddawn fel y gitarydd Bernie Holland (a fu’n perfformio gydag artistiaid fel Georgie Fame a Van Morrison), y drymwyr Graham Land ac Arran Ahmun, y chwaraewr [[jazz]] bas dwbl Paula Gardiner a’r gantores Luned Gwilym, ynghyd â’r hollbresennol Rhys Parri ar y gitâr. Daeth trefniannau o hen ganeuon megis ‘Ceidwad y Goleudy’, a chaneuon newydd fel ‘Rebel Wicend’, yn hynod boblogaidd. Yn wir, yn 2004 aeth trefniant Bryn Fôn o ‘Ceidwad y Goleudy’ i frig siart Mawredd Mawr Radio Cymru o’r cant o ganeuon Cymraeg gorau erioed.
+
Fodd bynnag, erbyn 1994 roedd poblogrwydd y grŵp yn dechrau edwino ac aeth Bryn Fôn ati i ryddhau albwm unigol gan ofyn i Emyr Huws Jones (un o aelodau’r [[Tebot Piws, Y | Tebot Piws]] gynt) gyfansoddi caneuon ar gyfer y record. Rhyddhawyd ''Dyddiau Digymar'' (Crai, 1994), gyda Les Morrison yn cynhyrchu, a chefnogaeth cerddorion amryddawn fel y gitarydd Bernie Holland (a fu’n perfformio gydag artistiaid fel Georgie Fame a Van Morrison), y drymwyr Graham Land ac Arran Ahmun, y chwaraewr [[jazz]] bas dwbl Paula Gardiner a’r gantores Luned Gwilym, ynghyd â’r hollbresennol Rhys Parri ar y gitâr. Daeth trefniannau o hen ganeuon megis ‘Ceidwad y Goleudy’, a chaneuon newydd fel ‘Rebel Wicend’, yn hynod boblogaidd. Yn wir, yn 2004 aeth trefniant Bryn Fôn o ‘Ceidwad y Goleudy’ i frig siart Mawredd Mawr Radio Cymru o’r cant o ganeuon Cymraeg gorau erioed.
  
Dilynwyd ''Dyddiau Digymar'' gyda ''Dawnsio ar y Dibyn'' (Crai, 1998), y tro hwn gyda nifer o awduron a chyfansoddwyr yn cyfrannu caneuon, gyda’r cerddor o Abertawe (fu’n perfformio gyda’r Brodyr Gregory, [[Max Boyce]] a Bryn ei hun), Peter Williams, yn cynhyrchu. Yn eu plith yr oedd Alun ‘Sbardun’ Huws, Barry ‘Archie’ Jones o’r grŵp [[Celt]], ynghyd â’r bytholwyrdd Emyr Huws Jones. Sicrhaodd un o ganeuon Barry Jones, ‘Un Funud Fach’, y wobr gyntaf am yr ail dro i Bryn Fôn yn 1997 yng nghystadleuaeth [[Cân i Gymru]], ond ni lwyddodd ''Dawnsio ar y Dibyn'' i greu’r un argraff â ''Dyddiau Digymar'' o bosib oherwydd natur orgynnil a myfyrgar nifer o’r caneuon.
+
Dilynwyd ''Dyddiau Digymar'' gyda ''Dawnsio ar y Dibyn'' (Crai, 1998), y tro hwn gyda nifer o awduron a chyfansoddwyr yn cyfrannu caneuon, gyda’r cerddor o Abertawe (fu’n perfformio gyda’r Brodyr Gregory, [[Boyce, Max (g.1943) | Max Boyce]] a Bryn ei hun), Peter Williams, yn cynhyrchu. Yn eu plith yr oedd Alun ‘Sbardun’ Huws, Barry ‘Archie’ Jones o’r grŵp [[Celt]], ynghyd â’r bytholwyrdd Emyr Huws Jones. Sicrhaodd un o ganeuon Barry Jones, ‘Un Funud Fach’, y wobr gyntaf am yr ail dro i Bryn Fôn yn 1997 yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, ond ni lwyddodd ''Dawnsio ar y Dibyn'' i greu’r un argraff â ''Dyddiau Digymar'' o bosib oherwydd natur orgynnil a myfyrgar nifer o’r caneuon.
  
Bu saib o chwe mlynedd cyn rhyddhau ''Abacus'', y tro hwn ar label annibynnol laBelaBel a hynny o dan yr enw Bryn Fôn a’r Band (2004). Bu’n llwyddiant, yn arbennig y deyrnged i Leonard Cohen yn y gân ‘Y Bardd o Montreal’. Fe’i dilynwyd yn 2005 gan ''CAM'', a oedd yn arddangos dylanwadau mwy gwerinol, ac yna, dair blynedd yn ddiweddarach, gan ''Toca'', 2008. Parhaodd Bryn Fôn i berfformio’n fyw gyda band sefydlog oedd yn cynnwys, ynghŷd â Rhys Parri a Graham Land, John Williams ar yr allweddellau a Neil Williams (gynt o [[Maffia Mr Huws]]) ar y bas, gan gynnwys ymddangosiad ar noson olaf Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, Llanelli, yn 2014. Fe’i disgrifiwyd gan [[Dafydd Iwan]] unwaith fel ‘un o’r ychydig sydd wedi llwyddo i gyfuno gyrfa lwyddiannus fel actor gyda’r byd canu, a gall gyflwyno baled deimladwy neu gân draddodiadol gyda’r un effaith â’r gân roc fwyaf pwerus’.
+
Bu saib o chwe mlynedd cyn rhyddhau ''Abacus'', y tro hwn ar label annibynnol laBelaBel a hynny o dan yr enw Bryn Fôn a’r Band (2004). Bu’n llwyddiant, yn arbennig y deyrnged i Leonard Cohen yn y gân ‘Y Bardd o Montreal’. Fe’i dilynwyd yn 2005 gan ''CAM'', a oedd yn arddangos dylanwadau mwy gwerinol, ac yna, dair blynedd yn ddiweddarach, gan ''Toca'', 2008. Parhaodd Bryn Fôn i berfformio’n fyw gyda band sefydlog oedd yn cynnwys, ynghŷd â Rhys Parri a Graham Land, John Williams ar yr allweddellau a Neil Williams (gynt o [[Maffia Mr Huws]]) ar y bas, gan gynnwys ymddangosiad ar noson olaf Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, Llanelli, yn 2014. Fe’i disgrifiwyd gan [[Iwan, Dafydd (g.1943) | Dafydd Iwan]] unwaith fel ‘un o’r ychydig sydd wedi llwyddo i gyfuno gyrfa lwyddiannus fel actor gyda’r byd canu, a gall gyflwyno [[baled]] deimladwy neu gân draddodiadol gyda’r un effaith â’r gân roc fwyaf pwerus’.
  
 
'''Pwyll ap Siôn'''
 
'''Pwyll ap Siôn'''
Llinell 18: Llinell 18:
 
==Disgyddiaeth==
 
==Disgyddiaeth==
  
:gyda Crysbas:
+
'''gyda Crysbas:'''
  
:‘Draenog Marw’/‘Y Nhw’ [sengl] (Sain 66S, 1978)
+
*‘Draenog Marw’/‘Y Nhw’ [sengl] (Sain 66S, 1978)
  
:‘Ma Di Bwrw’/‘Blŵs Tŷ Golchi’/‘Mor Gryg yw’r Morgrug’/‘Amser’ [EP] (Sain 72E, 1979)
+
*‘Ma Di Bwrw’/‘Blŵs Tŷ Golchi’/‘Mor Gryg yw’r Morgrug’/‘Amser’ [EP] (Sain 72E, 1979)
  
:gyda Sobin a’r Smaeliaid:
+
'''gyda Sobin a’r Smaeliaid:'''
  
:''Sobin a’r Smaeliaid'' (Sain SCD9075, 1990)
+
*''Sobin a’r Smaeliaid'' (Sain SCD9075, 1990)
  
:''Caib'' (Sain SCD4052, 1991)
+
*''Caib'' (Sain SCD4052, 1991)
  
:''…A Rhaw'' (Sain SCD2017, 1992)
+
*''…A Rhaw'' (Sain SCD2017, 1992)
  
:''Goreuon Sobin'' (Sain SCD2521, 2005)
+
*''Goreuon Sobin'' (Sain SCD2521, 2005)
  
:Recordiau hir unigol:
+
'''Recordiau hir unigol:'''
  
:''Dyddiau Digymar'' (Crai CD044, 1994)
+
*''Dyddiau Digymar'' (Crai CD044, 1994)
  
:''Dawnsio ar y Dibyn'' (Crai CD061, 1998)
+
*''Dawnsio ar y Dibyn'' (Crai CD061, 1998)
  
:gyda Bryn Fôn a’r Band:
+
'''gyda Bryn Fôn a’r Band:'''
  
:''Abacus'' (laBelaBel 001, 2004)
+
*''Abacus'' (laBelaBel 001, 2004)
  
:''CAM'' (laBelaBel 002, 2005)
+
*''CAM'' (laBelaBel 002, 2005)
  
:''Toca'' (laBelaBel 003, 2008)
+
*''Toca'' (laBelaBel 003, 2008)
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 13:04, 11 Medi 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Canwr pop ac actor a fagwyd ym mhentref Llanllyfni ger Caernarfon. Ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle aeth ymlaen i’r Coleg Normal ym Mangor. Ymunodd â’r band Crysbas yn Eisteddfod Aberteifi yn 1976, gan ryddhau’r sengl ‘Draenog Marw’/‘Y Nhw’ ar label Sain yn 1978, a’r EP Ma Di Bwrw flwyddyn yn ddiweddarach. Bu hefyd yn canu yn yr opera roc Dic Penderyn yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1978. Yn yr 1980au daeth yn ffigwr amlwg ar lwyfan ac ar y sgrin deledu, gan actio mewn nifer o gynyrchiadau theatr, ynghyd â chwarae’r cymeriad Tecwyn yn y gyfres deledu C’mon Midffîld! (Ffilmiau’r Nant).

Ffurfiodd Sobin a’r Smaeliaid yn 1988. Rhwng 1988 ac 1992 bu’r grŵp yn perfformio’n gyson ledled Cymru, gan ryddhau tair record hir, Sobin a’r Smaeliaid (Sain, 1990), Caib (Sain, 1991) ac ...A Rhaw (Sain, 1992). Roedd eu caneuon roc canol-y-ffordd, apelgar megis ‘Mardi-gras ym Mangor Uchaf’ ac ‘Ar y Trên i Afonwen’ yn hynod boblogaidd, yn arbennig ymhlith cynulleidfaoedd yn ardaloedd cefn gwlad Cymru.
Bryn Fôn, Sobin a'r Smaeliaid.

Cynyddwyd poblogrwydd y grŵp yn 1990 pan enillodd Bryn Fôn gystadleuaeth Cân i Gymru gyda’r gân bop reggae hwyliog ‘Gwlad y Rasta Gwyn’, a gyfansoddodd ar y cyd â gitarydd blaen y grŵp, Rhys Parri. Dangosai’r gân ‘Meibion y Fflam’ gydymdeimlad â Meibion Glyndŵr a’r ymgyrch losgi tai haf, ac yn 1990 arestiwyd Bryn Fôn o dan amheuaeth o fod yn rhan o’r ymgyrch. Fe’i rhyddhawyd yn ddiweddarach yn ddigyhuddiad, ond gellir dadlau bod y sylw wedi lledu’i apêl ymhellach. Rhwng 1988 ac 1992 gwerthodd y grŵp dros 25,000 o recordiau, mwy na grwpiau roc mawr yr 1970au a’r 1980au megis Edward H Dafis a Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr.

Fodd bynnag, erbyn 1994 roedd poblogrwydd y grŵp yn dechrau edwino ac aeth Bryn Fôn ati i ryddhau albwm unigol gan ofyn i Emyr Huws Jones (un o aelodau’r Tebot Piws gynt) gyfansoddi caneuon ar gyfer y record. Rhyddhawyd Dyddiau Digymar (Crai, 1994), gyda Les Morrison yn cynhyrchu, a chefnogaeth cerddorion amryddawn fel y gitarydd Bernie Holland (a fu’n perfformio gydag artistiaid fel Georgie Fame a Van Morrison), y drymwyr Graham Land ac Arran Ahmun, y chwaraewr jazz bas dwbl Paula Gardiner a’r gantores Luned Gwilym, ynghyd â’r hollbresennol Rhys Parri ar y gitâr. Daeth trefniannau o hen ganeuon megis ‘Ceidwad y Goleudy’, a chaneuon newydd fel ‘Rebel Wicend’, yn hynod boblogaidd. Yn wir, yn 2004 aeth trefniant Bryn Fôn o ‘Ceidwad y Goleudy’ i frig siart Mawredd Mawr Radio Cymru o’r cant o ganeuon Cymraeg gorau erioed.

Dilynwyd Dyddiau Digymar gyda Dawnsio ar y Dibyn (Crai, 1998), y tro hwn gyda nifer o awduron a chyfansoddwyr yn cyfrannu caneuon, gyda’r cerddor o Abertawe (fu’n perfformio gyda’r Brodyr Gregory, Max Boyce a Bryn ei hun), Peter Williams, yn cynhyrchu. Yn eu plith yr oedd Alun ‘Sbardun’ Huws, Barry ‘Archie’ Jones o’r grŵp Celt, ynghyd â’r bytholwyrdd Emyr Huws Jones. Sicrhaodd un o ganeuon Barry Jones, ‘Un Funud Fach’, y wobr gyntaf am yr ail dro i Bryn Fôn yn 1997 yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, ond ni lwyddodd Dawnsio ar y Dibyn i greu’r un argraff â Dyddiau Digymar o bosib oherwydd natur orgynnil a myfyrgar nifer o’r caneuon.

Bu saib o chwe mlynedd cyn rhyddhau Abacus, y tro hwn ar label annibynnol laBelaBel a hynny o dan yr enw Bryn Fôn a’r Band (2004). Bu’n llwyddiant, yn arbennig y deyrnged i Leonard Cohen yn y gân ‘Y Bardd o Montreal’. Fe’i dilynwyd yn 2005 gan CAM, a oedd yn arddangos dylanwadau mwy gwerinol, ac yna, dair blynedd yn ddiweddarach, gan Toca, 2008. Parhaodd Bryn Fôn i berfformio’n fyw gyda band sefydlog oedd yn cynnwys, ynghŷd â Rhys Parri a Graham Land, John Williams ar yr allweddellau a Neil Williams (gynt o Maffia Mr Huws) ar y bas, gan gynnwys ymddangosiad ar noson olaf Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, Llanelli, yn 2014. Fe’i disgrifiwyd gan Dafydd Iwan unwaith fel ‘un o’r ychydig sydd wedi llwyddo i gyfuno gyrfa lwyddiannus fel actor gyda’r byd canu, a gall gyflwyno baled deimladwy neu gân draddodiadol gyda’r un effaith â’r gân roc fwyaf pwerus’.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

gyda Crysbas:

  • ‘Draenog Marw’/‘Y Nhw’ [sengl] (Sain 66S, 1978)
  • ‘Ma Di Bwrw’/‘Blŵs Tŷ Golchi’/‘Mor Gryg yw’r Morgrug’/‘Amser’ [EP] (Sain 72E, 1979)

gyda Sobin a’r Smaeliaid:

  • Sobin a’r Smaeliaid (Sain SCD9075, 1990)
  • Caib (Sain SCD4052, 1991)
  • …A Rhaw (Sain SCD2017, 1992)
  • Goreuon Sobin (Sain SCD2521, 2005)

Recordiau hir unigol:

  • Dyddiau Digymar (Crai CD044, 1994)
  • Dawnsio ar y Dibyn (Crai CD061, 1998)

gyda Bryn Fôn a’r Band:

  • Abacus (laBelaBel 001, 2004)
  • CAM (laBelaBel 002, 2005)
  • Toca (laBelaBel 003, 2008)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.