Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Strwythur cymdeithasol"
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | (Saesneg: ''Structure'') | + | (Saesneg: ''Social Structure'') |
Yn y gwyddorau cymdeithasol, strwythur yw’r systemau o berthnasau sydd yn bodoli rhwng unigolion mewn cymdeithas (Blau 1977; Porpora 1989; Lopez a Scott 2000). Gall cyfeirio at drefniant cymdeithas fel strwythur dosbarth cymdeithasol a sefydliadau fel y teulu a’r economi. | Yn y gwyddorau cymdeithasol, strwythur yw’r systemau o berthnasau sydd yn bodoli rhwng unigolion mewn cymdeithas (Blau 1977; Porpora 1989; Lopez a Scott 2000). Gall cyfeirio at drefniant cymdeithas fel strwythur dosbarth cymdeithasol a sefydliadau fel y teulu a’r economi. | ||
− | Mae rhai gwyddonwyr cymdeithasol fel Émile Durkheim a damcaniaethwyr sydd yn gysylltiedig gyda Swyddogaetholdeb yn pwysleisio dylanwad strwythurau cymdeithas, a’r modd y maent yn dylanwadu ac yn cyfyngu ar benderfyniadau neu weithredoedd unigolion. Tuedda’r gwyddonwyr cymdeithasol yma i dan-chwarae dylanwad [[galluedd]] ar benderfyniadau neu weithredoedd unigolion. | + | Mae rhai gwyddonwyr cymdeithasol fel [[Émile Durkheim]] a damcaniaethwyr sydd yn gysylltiedig gyda [[Swyddogaetholdeb]] yn pwysleisio dylanwad strwythurau cymdeithas, a’r modd y maent yn dylanwadu ac yn cyfyngu ar benderfyniadau neu weithredoedd unigolion. Tuedda’r gwyddonwyr cymdeithasol yma i dan-chwarae dylanwad [[galluedd]] ar benderfyniadau neu weithredoedd unigolion. |
− | Yn fwy diweddar, mae gwyddonwyr cymdeithasol cyfoes fel Pierre Bourdieu ac Anthony Giddens wedi pwysleisio bod cyfuniad o strwythur a [[galluedd]] yn gallu esbonio ymddygiad unigolion o fewn cymdeithas. | + | Yn fwy diweddar, mae gwyddonwyr cymdeithasol cyfoes fel [[Pierre Bourdieu]] ac Anthony Giddens wedi pwysleisio bod cyfuniad o strwythur a [[galluedd]] yn gallu esbonio ymddygiad unigolion o fewn cymdeithas. |
'''Mae’r cofnod yma’n seiliedig ar ''Cyflwyniad i Gymdeithaseg'' gan Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges (rhan o Becyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) wedi’i <nowiki>addasu</nowiki> gan Adam Pierce a Dr Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol <nowiki> Caerdydd</nowiki>.''' | '''Mae’r cofnod yma’n seiliedig ar ''Cyflwyniad i Gymdeithaseg'' gan Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges (rhan o Becyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) wedi’i <nowiki>addasu</nowiki> gan Adam Pierce a Dr Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol <nowiki> Caerdydd</nowiki>.''' | ||
− | == | + | == Llyfryddiaeth == |
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
López, J. a Scott, J. (2000), ''Social Structure.'' (Buckingham: Gwasg Prifysgol Agored) | López, J. a Scott, J. (2000), ''Social Structure.'' (Buckingham: Gwasg Prifysgol Agored) | ||
− | |||
{{CC BY-SA}} | {{CC BY-SA}} | ||
[[Categori:Gwyddorau_Cymdeithasol]] | [[Categori:Gwyddorau_Cymdeithasol]] |
Y diwygiad cyfredol, am 15:27, 25 Mai 2023
(Saesneg: Social Structure)
Yn y gwyddorau cymdeithasol, strwythur yw’r systemau o berthnasau sydd yn bodoli rhwng unigolion mewn cymdeithas (Blau 1977; Porpora 1989; Lopez a Scott 2000). Gall cyfeirio at drefniant cymdeithas fel strwythur dosbarth cymdeithasol a sefydliadau fel y teulu a’r economi.
Mae rhai gwyddonwyr cymdeithasol fel Émile Durkheim a damcaniaethwyr sydd yn gysylltiedig gyda Swyddogaetholdeb yn pwysleisio dylanwad strwythurau cymdeithas, a’r modd y maent yn dylanwadu ac yn cyfyngu ar benderfyniadau neu weithredoedd unigolion. Tuedda’r gwyddonwyr cymdeithasol yma i dan-chwarae dylanwad galluedd ar benderfyniadau neu weithredoedd unigolion.
Yn fwy diweddar, mae gwyddonwyr cymdeithasol cyfoes fel Pierre Bourdieu ac Anthony Giddens wedi pwysleisio bod cyfuniad o strwythur a galluedd yn gallu esbonio ymddygiad unigolion o fewn cymdeithas.
Mae’r cofnod yma’n seiliedig ar Cyflwyniad i Gymdeithaseg gan Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges (rhan o Becyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) wedi’i addasu gan Adam Pierce a Dr Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.
Llyfryddiaeth
Blau, P. (1977). ‘A Macrosociological Theory of Social Structure', American Journal of Sociology, 83 (1), 26-54
Porpora, D. (1989). ‘Four Concepts of Social Structure’, Journal for the Theory of Social Behaviour, 19 (2), 195-211
López, J. a Scott, J. (2000), Social Structure. (Buckingham: Gwasg Prifysgol Agored)
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.