Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ethnoganoledd"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '(Saesneg: ''Ethnocentricism'') Mae’r term hwn yn disgrifio’r modd y gall bydolwg gael ei siapio gan werthoedd, diwylliant a safonau’...') |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
(Saesneg: ''Ethnocentricism'') | (Saesneg: ''Ethnocentricism'') | ||
− | Mae’r term hwn yn disgrifio’r modd y gall bydolwg gael ei siapio gan [[gwerthoedd|werthoedd]], diwylliant a safonau’r grŵp y mae unigolyn yn perthyn iddo. Mae safbwynt ethnoganolog yn un sy’n credu yng ngoruchafiaeth bydolwg y grŵp, ac yn feirniadol o grwpiau eraill nad ydynt yn arddel yr un safbwynt. Gall y grŵp fod ar sail [[hil]], [[iaith]], [[cenedl]], [[crefydd]] neu hunaniaeth arall. Mae’n cynnwys | + | Mae’r term hwn yn disgrifio’r modd y gall bydolwg gael ei siapio gan [[gwerthoedd|werthoedd]], diwylliant a safonau’r grŵp y mae unigolyn yn perthyn iddo. Mae safbwynt ethnoganolog yn un sy’n credu yng ngoruchafiaeth bydolwg y grŵp, ac yn feirniadol o grwpiau eraill nad ydynt yn arddel yr un safbwynt. Gall y grŵp fod ar sail [[hil]], [[iaith]], [[cenedl]], [[crefydd]] neu hunaniaeth arall. Mae’n cynnwys <nowiki>tuedd</nowiki> i weld [[gwerthoedd]] a safonau’r grŵp fel rhai cyffredin i bawb. |
Gellir olrhain y term i ddiwedd y 19g, yng ngwaith y cymdeithasegwr Pwylaidd Ludwig Gumplowicz (gweler Bizumic 2014), a dechrau’r 20g yng ngwaith y cymdeithasegydd William G. Sumner (1906). Defnyddiai Gumplowicz y term ‘ethnocentrismus’ i ddisgrifio’r camsyniad fod y grŵp ethnig y mae unigolyn yn perthyn iddo yn uwchraddol i bob grŵp arall, yn y presennol ac yn hanesyddol. Yn ei waith ar ‘folkways’, neu ‘ffordd y werin’, sef confensiynau cymdeithasol nad ydynt wedi’u gwreiddio mewn ystyriaethau moesol, mae Sumner yn tynnu sylw at elfen ethnoganolog yn y modd y mae aelodau o wahanol grwpiau yn ystyried eu ‘harferion’ hwy fel rhai cyffredinol, yn hytrach na rhai penodol i’w grŵp nhw. | Gellir olrhain y term i ddiwedd y 19g, yng ngwaith y cymdeithasegwr Pwylaidd Ludwig Gumplowicz (gweler Bizumic 2014), a dechrau’r 20g yng ngwaith y cymdeithasegydd William G. Sumner (1906). Defnyddiai Gumplowicz y term ‘ethnocentrismus’ i ddisgrifio’r camsyniad fod y grŵp ethnig y mae unigolyn yn perthyn iddo yn uwchraddol i bob grŵp arall, yn y presennol ac yn hanesyddol. Yn ei waith ar ‘folkways’, neu ‘ffordd y werin’, sef confensiynau cymdeithasol nad ydynt wedi’u gwreiddio mewn ystyriaethau moesol, mae Sumner yn tynnu sylw at elfen ethnoganolog yn y modd y mae aelodau o wahanol grwpiau yn ystyried eu ‘harferion’ hwy fel rhai cyffredinol, yn hytrach na rhai penodol i’w grŵp nhw. |
Y diwygiad cyfredol, am 14:57, 7 Medi 2024
(Saesneg: Ethnocentricism)
Mae’r term hwn yn disgrifio’r modd y gall bydolwg gael ei siapio gan werthoedd, diwylliant a safonau’r grŵp y mae unigolyn yn perthyn iddo. Mae safbwynt ethnoganolog yn un sy’n credu yng ngoruchafiaeth bydolwg y grŵp, ac yn feirniadol o grwpiau eraill nad ydynt yn arddel yr un safbwynt. Gall y grŵp fod ar sail hil, iaith, cenedl, crefydd neu hunaniaeth arall. Mae’n cynnwys tuedd i weld gwerthoedd a safonau’r grŵp fel rhai cyffredin i bawb.
Gellir olrhain y term i ddiwedd y 19g, yng ngwaith y cymdeithasegwr Pwylaidd Ludwig Gumplowicz (gweler Bizumic 2014), a dechrau’r 20g yng ngwaith y cymdeithasegydd William G. Sumner (1906). Defnyddiai Gumplowicz y term ‘ethnocentrismus’ i ddisgrifio’r camsyniad fod y grŵp ethnig y mae unigolyn yn perthyn iddo yn uwchraddol i bob grŵp arall, yn y presennol ac yn hanesyddol. Yn ei waith ar ‘folkways’, neu ‘ffordd y werin’, sef confensiynau cymdeithasol nad ydynt wedi’u gwreiddio mewn ystyriaethau moesol, mae Sumner yn tynnu sylw at elfen ethnoganolog yn y modd y mae aelodau o wahanol grwpiau yn ystyried eu ‘harferion’ hwy fel rhai cyffredinol, yn hytrach na rhai penodol i’w grŵp nhw.
Grug Muse
Llyfryddiaeth
Bizumic, B. (2014), ‘Who coined the concept of ethnocentrism? A brief report’, Journal of Social and Political Psychology 2(1), 3–10.
Larson, C. (1973), ‘Heroic ethnocentrism: the idea of universality in literature’, The American Scholar, 42(3), 463–75.
Sumner, W. G. (1906), Folkways: a study of the sociological importance of usages, manners, customs, mores, and morals (New York: Mentor).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.