Ethnoganoledd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Ethnocentricism)

Mae’r term hwn yn disgrifio’r modd y gall bydolwg gael ei siapio gan werthoedd, diwylliant a safonau’r grŵp y mae unigolyn yn perthyn iddo. Mae safbwynt ethnoganolog yn un sy’n credu yng ngoruchafiaeth bydolwg y grŵp, ac yn feirniadol o grwpiau eraill nad ydynt yn arddel yr un safbwynt. Gall y grŵp fod ar sail hil, iaith, cenedl, crefydd neu hunaniaeth arall. Mae’n cynnwys tuedd i weld gwerthoedd a safonau’r grŵp fel rhai cyffredin i bawb.

Gellir olrhain y term i ddiwedd y 19g, yng ngwaith y cymdeithasegwr Pwylaidd Ludwig Gumplowicz (gweler Bizumic 2014), a dechrau’r 20g yng ngwaith y cymdeithasegydd William G. Sumner (1906). Defnyddiai Gumplowicz y term ‘ethnocentrismus’ i ddisgrifio’r camsyniad fod y grŵp ethnig y mae unigolyn yn perthyn iddo yn uwchraddol i bob grŵp arall, yn y presennol ac yn hanesyddol. Yn ei waith ar ‘folkways’, neu ‘ffordd y werin’, sef confensiynau cymdeithasol nad ydynt wedi’u gwreiddio mewn ystyriaethau moesol, mae Sumner yn tynnu sylw at elfen ethnoganolog yn y modd y mae aelodau o wahanol grwpiau yn ystyried eu ‘harferion’ hwy fel rhai cyffredinol, yn hytrach na rhai penodol i’w grŵp nhw.

Grug Muse

Llyfryddiaeth

Bizumic, B. (2014), ‘Who coined the concept of ethnocentrism? A brief report’, Journal of Social and Political Psychology 2(1), 3–10.

Larson, C. (1973), ‘Heroic ethnocentrism: the idea of universality in literature’, The American Scholar, 42(3), 463–75.

Sumner, W. G. (1906), Folkways: a study of the sociological importance of usages, manners, customs, mores, and morals (New York: Mentor).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.