Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sosialaeth"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 5: Llinell 5:
 
Y farn gyffredinol ymhlith ysgolheigion megis [[Raymond Williams]] (1983: 288) yw mai [[ideoleg]] wleidyddol a ddatblygodd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw sosialaeth, yn bennaf fel ymateb i’r newidiadau cymdeithasol ac economaidd a sgubodd ar draws Ewrop o ganlyniad i ddatblygiad y gymdeithas ddiwydiannol fodern. Byth ers y dyddiau cynnar hyn, mae pwyslais ymysg sosialwyr ar yr angen i drawsnewid cymdeithas er gwell, a hynny ar sail egwyddorion megis [[cydraddoldeb]] a chydweithrediad, wedi bod yn nodwedd amlwg o ddadleuon sosialwyr o bob math.
 
Mae’r term sosialaeth hefyd yn cyfeirio at y math o system economaidd a chymdeithasol mae sosialwyr yn dadlau sydd ei angen. Yn ''The State and Revolution'', datganodd Vladimir Lenin (1917/1999: 57) (datblygwr math o [[Marcsaeth|Farcsaeth]] o’r enw [[Marcsaeth-Leniniaeth]], arweinydd y chwyldro comiwnyddol cyntaf ym 1917 ac yn dilyn hynny arweinydd cyntaf yr Undeb Sofietaidd) mai sosialaeth yw’r hyn a welodd [[Karl Marx]] fel cam cyntaf chwyldroadol tuag at [[comiwnyddiaeth|gomiwnyddiaeth]] sydd yn dilyn [[cyfalafiaeth]]. Mae’n bwysig cofio roedd [[Marx]] yn defnyddio’r termau sosialaeth a chomiwnyddiaeth yn gyfnewidiol a dim yn gwahaniaethu rhwng y dau derm. Yn ôl Marx (1875/1999: 9), gan fod gymdeithas sosialaidd yn ymgodi o gymdeithas gyfalafol, dydi sosialaeth heb aeddfedu digon eto er mwyn fod yn rhydd o nodweddion economaidd a chymdeithasol [[cyfalafiaeth]].
+
Mae’r term sosialaeth hefyd yn cyfeirio at y math o system economaidd a chymdeithasol mae sosialwyr yn dadlau sydd ei angen. Yn ''The State and Revolution'', datganodd Vladimir Lenin (1917/1999: 57) (datblygwr math o [[Marcsaeth|Farcsaeth]] o’r enw [[Marcsaeth-Leniniaeth]], arweinydd y chwyldro comiwnyddol cyntaf ym 1917 ac yn dilyn hynny arweinydd cyntaf yr Undeb Sofietaidd) mai sosialaeth yw’r hyn a welodd [[Karl Marx]] fel cam cyntaf chwyldroadol tuag at [[comiwnyddiaeth|gomiwnyddiaeth]] sydd yn dilyn [[cyfalafiaeth]]. Mae’n bwysig cofio roedd [[Karl Marx]] yn defnyddio’r termau sosialaeth a chomiwnyddiaeth yn gyfnewidiol a dim yn gwahaniaethu rhwng y dau derm. Yn ôl Marx (1875/1999: 9), gan fod gymdeithas sosialaidd yn ymgodi o gymdeithas gyfalafol, dydi sosialaeth heb aeddfedu digon eto er mwyn fod yn rhydd o nodweddion economaidd a chymdeithasol [[cyfalafiaeth]].
  
'''2. Datblygiad Sosialaeth'''
 
'''2. Datblygiad Sosialaeth'''
Llinell 26: Llinell 26:
 
Ymhellach, gan mai bodau cymdeithasol ydym tuedda sosialwyr fel August Claessens (2009), gwleidydd sosialaidd o America, i wrthod yr awgrym fod pobl yn meddu ar natur gynhenid na ellir ei newid – hynny yw ein bod oll, o ran natur, naill ai’n greaduriaid da neu ddrwg. Nid ydym yn byw ein bywydau mewn gwagle. Yn hytrach, rydym oll yn byw ein bywydau fel aelodau o gymunedau penodol, a bydd yr amgylchiadau cymdeithasol a wynebwn yn ystod ein bywydau yn cyfrannu at siapio ein cymeriad a’n galluoedd. Ffôl felly yw awgrymu bod nodweddion o’r fath yn bethau sydd wedi’u rhag-osod cyn ein geni.  
 
''3.2. Cydweithrediad'''
+
'''3.2. Cydweithrediad'''
  
Yn sgil y ffaith eu bod yn dewis dehongli bodau dynol fel creaduriaid cymdeithasol, mae sosialwyr hefyd yn tueddu i roi pwyslais ar ein gallu i gydweithio’n effeithiol ag eraill (gweler Newman 2005). Ymhellach, credant y gall y cydweithio hwn ddeillio o gymhellion moesol, anhunanol – nid oes rhaid cynnig gwobr faterol benodol, fel y dadleua meddylwyr sydd yn cefnogi [[cyfalafiaeth]]. Yn nhyb nifer o sosialwyr, gellir meithrin y parodrwydd mewnol hwn i gydweithio a chyfrannu tuag at y lles cyffredin trwy ddatblygu’n hymwybyddiaeth o gyfrifoldeb dros ein gilydd a’n cyd-ddyn.
 
''3.3. [[Cydraddoldeb]]'''
+
'''3.3. [[Cydraddoldeb]]'''
  
Yr ymrwymiad cryf i [[cydraddoldeb|gydraddoldeb]] yw un o brif nodweddion sosialaeth – iddynt hwy, hon, heb os, yw’r egwyddor wleidyddol bwysicaf. Ymhellach, y duedd ymhlith sosialwyr fel Bernard Shaw (gweler Shaw a Gahan 2016), y dramodydd a’r meddyliwr gwleidyddol o Iwerddon, yw arddel y syniad o gydraddoldeb cymdeithasol neu gydraddoldeb canlyniad, yn hytrach na’r syniad mwy cyfyngedig o gyfle cyfartal a gaiff ei arddel gan [[rhyddfrydiaeth]]. Yn nhyb sosialwyr, mae’r ffurf fwy pellgyrhaeddol hon ar gydraddoldeb yn hanfodol er mwyn sicrhau cyfiawnder.
 
Llinell 36: Llinell 36:
 
Yn wahanol i [[rhyddfrydiaeth|ryddfrydwyr]], nid yw sosialwyr yn barod i dderbyn bod modd cyfiawnhau anghydraddoldeb o ran cyfoeth o fewn cymdeithas ar sail y ffaith bod unigolion oll yn wahanol, ac yn meddu ar alluoedd a hefyd ddiddordebau gwahanol. Nid yw sosialwyr yn gwadu bodolaeth gwahaniaethau cynhenid pwysig ymhlith aelodau cymdeithas ac nid ydynt yn mynnu y dylid trefnu bod pawb yn meddu ar union yr un talentau a sgiliau. Fodd bynnag, cred sosialwyr fod yr achosion mwyaf amlwg ac eithafol o anghydraddoldeb (e.e. gwahaniaethau sylweddol o ran incwm, lefelau iechyd a safon byw) yn deillio o driniaeth gymdeithasol anffafriol, ac na ellir eu diystyru trwy gyfeirio at rai o’r gwahaniaethau o ran sgiliau a geir rhwng unigolion.
 
''3.4. [[Dull Cynhyrchu]] a Pherchnogaeth o dan Sosialaeth'''
+
'''3.4. [[Dull Cynhyrchu]] a Pherchnogaeth o dan Sosialaeth'''
  
Mae sosialwyr yn aml yn olrhain gwreiddiau anghydraddoldeb o fewn cymdeithas i fodolaeth eiddo preifat – nid yn gymaint eiddo personol megis dillad, ceir neu dai, ond yn hytrach yr eiddo hwnnw y gellir ei drin fel [[cyfalafiaeth|‘cyfalaf’]] y gellir ei ddefnyddio er mwyn cynhyrchu mwy o gyfoeth.
 
Llinell 42: Llinell 42:
 
Mae’r niwed cymdeithasol sy’n deillio o fodolaeth eiddo preifat yn cwmpasu sawl agwedd. I ddechrau, mynnir bod perchnogaeth breifat ar eiddo yn creu anghyfiawnder: gan fod cynhyrchu cyfoeth wastad yn dibynnu ar ymdrech gydweithredol gan ystod eang o bobl, dylai’r cyfoeth hwnnw fod yn eiddo i’r gymuned gyfan yn hytrach na rhai unigolion dethol. Yn ail, honnir bod eiddo preifat yn niweidio ein hymdeimlad o foesoldeb trwy gymell pobl i feddwl mewn termau materol ac i dybio bod hapusrwydd yn ddibynnol ar gywain cymaint o gyfoeth â phosib. Yn drydydd, dadleuir bod eiddo preifat yn arwain ar rannu cymdeithas ac yn cymell gwrthdaro, er enghraifft rhwng y gweithwyr a’r cyflogwyr neu rhwng y cyfoethog a’r tlawd.
 
O ganlyniad, mae sosialwyr wedi dadlau y dylid cyfyngu ar berchnogaeth o gyfalaf preifat. Er enghraifft, credai [[Karl Marx]] a chefnogwyr [[Marcsaeth]] fod [[cydraddoldeb]] cymdeithasol yn galw am ddiddymu perchnogaeth breifat ar [[cyfalaf|gyfalaf]] yn llwyr fel rhan o’r broses o sefydlu’r gymdeithas gomiwnyddol. Yn ''Y Maniffesto Comwinyddol'', rhagwelai Marx ac Engels (1848/2014: 50) y bydd yr proletariat yn sefydlu ei hun ‘yn ddosbarth llywodraethol, ac ennill y frwydr dros ddemocratiaeth… [ac yn] [c]anoli’r moddion cynhyrchu yn nwylo'r wladwriaeth’ yn ystod y cam cyntaf chwyldroadol tuag at [[comiwnyddiaeth|gomiwnyddiaeth]]. Felly, y [[gwladwriaeth|wladwriaeth]] sydd yn rheoli’r [[dull cynhyrchu]] o dan sosialaeth yn hytrach ‘na’r bourgeoisie (y dosbarth uwch) o dan [[cyfalafiaeth|gyfalafiaeth]]. Ond, yn wahanol i gomiwnyddiaeth, mae’n bosib i unigolion dal fod yn berchen ar eiddo a bod y [[dull cynhyrchu]] heb gael ei ganoli’n gyfangwbl yn nwylo'r gymdeithas o unigolion o dan sosialaeth.
+
O ganlyniad, mae sosialwyr wedi dadlau y dylid cyfyngu ar berchnogaeth o gyfalaf preifat. Er enghraifft, credai [[Karl Marx]] a chefnogwyr [[Marcsaeth]] fod [[cydraddoldeb]] cymdeithasol yn galw am ddiddymu perchnogaeth breifat ar [[cyfalafiaeth|gyfalaf]] yn llwyr fel rhan o’r broses o sefydlu’r gymdeithas gomiwnyddol. Yn ''Y Maniffesto Comwinyddol'', rhagwelai Marx ac Engels (1848/2014: 50) y bydd yr proletariat yn sefydlu ei hun ‘yn ddosbarth llywodraethol, ac ennill y frwydr dros ddemocratiaeth… [ac yn] [c]anoli’r moddion cynhyrchu yn nwylo'r wladwriaeth’ yn ystod y cam cyntaf chwyldroadol tuag at [[comiwnyddiaeth|gomiwnyddiaeth]]. Felly, y [[gwladwriaeth|wladwriaeth]] sydd yn rheoli’r [[dull cynhyrchu]] o dan sosialaeth yn hytrach ‘na’r bourgeoisie (y dosbarth uwch) o dan [[cyfalafiaeth|gyfalafiaeth]]. Ond, yn wahanol i gomiwnyddiaeth, mae’n bosib i unigolion dal fod yn berchen ar eiddo a bod y [[dull cynhyrchu]] heb gael ei ganoli’n gyfangwbl yn nwylo'r gymdeithas o unigolion o dan sosialaeth.
  
Mewn cyferbyniad, mae’r [[Democratiaid Cymdeithasol]] wedi ffafrio llwybr mwy cymedrol – sefydlu rheolaeth gyffredin mewn ystod gyfyngedig o feysydd, er enghraifft yn achos rhai diwydiannau allweddol megis glo, dur, trydan a nwy – yr hyn a ddisgrifiwyd fel uchelfannau’r economi.
+
Mewn cyferbyniad, mae’r [[Democratiaeth Gymdeithasol|Democratiaid Cymdeithasol]] wedi ffafrio llwybr mwy cymedrol – sefydlu rheolaeth gyffredin mewn ystod gyfyngedig o feysydd, er enghraifft yn achos rhai diwydiannau allweddol megis glo, dur, trydan a nwy – yr hyn a ddisgrifiwyd fel uchelfannau’r economi.
  
'''3.5. Dosbarth'''
 
'''3.5. Dosbarth'''
Llinell 56: Llinell 56:
 
Yn ei lyfr, ''Credoau'r Cymry'', mae Huw Williams (2016) yn trafod yn fanwl syniadau sosialwyr o Gymru megis Aneurin Bevan, Robert Owen a Raymond Williams.
 
Yn ei lyfr, ''Credoau'r Cymry'', mae Huw Williams (2016) yn trafod yn fanwl syniadau sosialwyr o Gymru megis Aneurin Bevan, Robert Owen a Raymond Williams.
  
'''Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar ''Sosialaeth: Nodweddion Allweddol a Sosialaeth: Ffrydiau Amrywiol'' gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau ''Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddo''l sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i [[addasu]] gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol <nowiki>Caerdydd</nowiki>.'''
+
'''Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar ''Sosialaeth: Nodweddion Allweddol a Sosialaeth: Ffrydiau Amrywiol'' gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau ''Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddo''l sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i <nowiki>[[addasu]]</nowiki> gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol <nowiki>Caerdydd</nowiki>.'''
  
== Llyfryddiaeth ==
 
== Llyfryddiaeth ==
Llinell 79: Llinell 79:
 
Willliams, R. (1983) ''Keywords: A Vocabulary of Culture and Society''. (Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen)
 
Willliams, R. (1983) ''Keywords: A Vocabulary of Culture and Society''. (Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen)
  
Williams, H. (2016) Credoau'r Cymry: ymddiddanion dychmygol ac adlewyrchiadau athronyddol. (<nowiki>Caerdydd</nowiki>: Gwasg Prifysgol Cymru)
+
Williams, H. (2016) ''Credoau'r Cymry: ymddiddanion dychmygol ac adlewyrchiadau athronyddol''. (<nowiki>Caerdydd</nowiki>: Gwasg Prifysgol Cymru)
  
{{CC BY-SA}}
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Gwyddorau_Cymdeithasol]]
 
[[Categori:Gwyddorau_Cymdeithasol]]

Y diwygiad cyfredol, am 08:28, 8 Medi 2024

(Saesneg: Socialism)

1. Cyflwyno Sosialaeth

Y farn gyffredinol ymhlith ysgolheigion megis Raymond Williams (1983: 288) yw mai ideoleg wleidyddol a ddatblygodd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw sosialaeth, yn bennaf fel ymateb i’r newidiadau cymdeithasol ac economaidd a sgubodd ar draws Ewrop o ganlyniad i ddatblygiad y gymdeithas ddiwydiannol fodern. Byth ers y dyddiau cynnar hyn, mae pwyslais ymysg sosialwyr ar yr angen i drawsnewid cymdeithas er gwell, a hynny ar sail egwyddorion megis cydraddoldeb a chydweithrediad, wedi bod yn nodwedd amlwg o ddadleuon sosialwyr o bob math.

Mae’r term sosialaeth hefyd yn cyfeirio at y math o system economaidd a chymdeithasol mae sosialwyr yn dadlau sydd ei angen. Yn The State and Revolution, datganodd Vladimir Lenin (1917/1999: 57) (datblygwr math o Farcsaeth o’r enw Marcsaeth-Leniniaeth, arweinydd y chwyldro comiwnyddol cyntaf ym 1917 ac yn dilyn hynny arweinydd cyntaf yr Undeb Sofietaidd) mai sosialaeth yw’r hyn a welodd Karl Marx fel cam cyntaf chwyldroadol tuag at gomiwnyddiaeth sydd yn dilyn cyfalafiaeth. Mae’n bwysig cofio roedd Karl Marx yn defnyddio’r termau sosialaeth a chomiwnyddiaeth yn gyfnewidiol a dim yn gwahaniaethu rhwng y dau derm. Yn ôl Marx (1875/1999: 9), gan fod gymdeithas sosialaidd yn ymgodi o gymdeithas gyfalafol, dydi sosialaeth heb aeddfedu digon eto er mwyn fod yn rhydd o nodweddion economaidd a chymdeithasol cyfalafiaeth.

2. Datblygiad Sosialaeth

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwyd datblygiadau mawrion a gwelwyd symudiad poblogaeth anferthol o’r wlad i’r dref sef trefoli (urbanisation). Esgorodd newidiadau o’r fath ar amgylchiadau byw a gwaith anodd dros ben i aelodau’r proletariat (y dosbarth gweithiol newydd). Golygai polisïau economaidd laissez-faire y cyfnod fod gan gyflogwyr y rhyddid i osod cyflogau ac i drefnu amodau gwaith fel y mynnent. O ganlyniad, tueddai cyflogau i fod yn isel. Ar ben hynny, tueddai’r diwrnod gwaith i fod yn hir iawn (hyd at 12 awr), roedd y defnydd o blant yn y gweithle’n gyffredin ac roedd y peryg o anafiadau ac o ddiweithdra yn gysgodion parhaol. Mae Engels (1844-1845/2010) yn Condition of the Working Class in England yn disgrifio safonau byw a gwaith y dosbarth gweithiol yn ystod y cyfnod yma.

Arweiniodd y caledi a’r tlodi enbyd a oedd yn nodweddu bywyd y dosbarth gweithiol at amheuaeth gynyddol ynghylch rhinweddau’r gymdeithas gyfalafol fodern. O ganlyniad, erbyn y 1820au a’r 1830au roedd amryw o feddylwyr - hynny yw y sosialwyr cynnar - megis Robert Owen (1830), y diwydiannwr a’r dyngarwr o Gymru, yn dechrau meddwl am ffyrdd amgen o drefnu cymdeithas a’r economi. Tybiodd yr arloeswyr hyn fod yr ymatebion a gâi eu cynnig gan ryddfrydiaeth y cyfnod yn canolbwyntio’n ormodol ar ddiwygio gwleidyddol graddol a bod galw am syniadau a oedd yn rhoi mwy o sylw i’r angen i drawsnewid seiliau economaidd cymdeithas.

Eto i gyd, mae’n bwysig cofio na cheir un ffurf swyddogol ar sosialaeth. Yn hytrach, dros y blynyddoedd, datblygodd ystod o ffrydiau sosialaidd gwahanol, yn bennaf Marcsaeth a Democratiaeth Gymdeithasol.

3. Nodweddion Allweddol Sosialaeth

Wrth gwrs ers degawdau cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae syniadau sosialaidd wedi esblygu cryn dipyn. Eto i gyd, gellir rhestru cyfres o elfennau pwysig sy’n tueddu i gael eu hystyried fel rhai sy’n nodweddu’r byd-olwg sosialaidd; elfennau sy’n caniatáu i ni wahaniaethu rhwng sosialaeth ac ideolegau gwleidyddol eraill, yn arbennig Rhyddfrydiaeth neu Geidwadaeth.

3.1. Cymuned

Nodwedd sosialaidd allweddol yw’r gred fod bodau dynol, yn eu hanfod, yn greaduriaid cymdeithasol, ac yn sgil hynny, ein bod ar ein gorau pan fyddwn yn gweithio gydag eraill fel rhan o gymuned er mwyn goresgyn problemau ac anawsterau. Mae hon yn weledigaeth gyfunolaidd (collectivist) sy’n rhoi pwyslais ar werth ymdrechu i gyflawni nodau cyffredin yn hytrach na cheisio hunan-les.

Ymhellach, gan mai bodau cymdeithasol ydym tuedda sosialwyr fel August Claessens (2009), gwleidydd sosialaidd o America, i wrthod yr awgrym fod pobl yn meddu ar natur gynhenid na ellir ei newid – hynny yw ein bod oll, o ran natur, naill ai’n greaduriaid da neu ddrwg. Nid ydym yn byw ein bywydau mewn gwagle. Yn hytrach, rydym oll yn byw ein bywydau fel aelodau o gymunedau penodol, a bydd yr amgylchiadau cymdeithasol a wynebwn yn ystod ein bywydau yn cyfrannu at siapio ein cymeriad a’n galluoedd. Ffôl felly yw awgrymu bod nodweddion o’r fath yn bethau sydd wedi’u rhag-osod cyn ein geni.

3.2. Cydweithrediad

Yn sgil y ffaith eu bod yn dewis dehongli bodau dynol fel creaduriaid cymdeithasol, mae sosialwyr hefyd yn tueddu i roi pwyslais ar ein gallu i gydweithio’n effeithiol ag eraill (gweler Newman 2005). Ymhellach, credant y gall y cydweithio hwn ddeillio o gymhellion moesol, anhunanol – nid oes rhaid cynnig gwobr faterol benodol, fel y dadleua meddylwyr sydd yn cefnogi cyfalafiaeth. Yn nhyb nifer o sosialwyr, gellir meithrin y parodrwydd mewnol hwn i gydweithio a chyfrannu tuag at y lles cyffredin trwy ddatblygu’n hymwybyddiaeth o gyfrifoldeb dros ein gilydd a’n cyd-ddyn.

3.3. Cydraddoldeb

Yr ymrwymiad cryf i gydraddoldeb yw un o brif nodweddion sosialaeth – iddynt hwy, hon, heb os, yw’r egwyddor wleidyddol bwysicaf. Ymhellach, y duedd ymhlith sosialwyr fel Bernard Shaw (gweler Shaw a Gahan 2016), y dramodydd a’r meddyliwr gwleidyddol o Iwerddon, yw arddel y syniad o gydraddoldeb cymdeithasol neu gydraddoldeb canlyniad, yn hytrach na’r syniad mwy cyfyngedig o gyfle cyfartal a gaiff ei arddel gan rhyddfrydiaeth. Yn nhyb sosialwyr, mae’r ffurf fwy pellgyrhaeddol hon ar gydraddoldeb yn hanfodol er mwyn sicrhau cyfiawnder.

Yn wahanol i ryddfrydwyr, nid yw sosialwyr yn barod i dderbyn bod modd cyfiawnhau anghydraddoldeb o ran cyfoeth o fewn cymdeithas ar sail y ffaith bod unigolion oll yn wahanol, ac yn meddu ar alluoedd a hefyd ddiddordebau gwahanol. Nid yw sosialwyr yn gwadu bodolaeth gwahaniaethau cynhenid pwysig ymhlith aelodau cymdeithas ac nid ydynt yn mynnu y dylid trefnu bod pawb yn meddu ar union yr un talentau a sgiliau. Fodd bynnag, cred sosialwyr fod yr achosion mwyaf amlwg ac eithafol o anghydraddoldeb (e.e. gwahaniaethau sylweddol o ran incwm, lefelau iechyd a safon byw) yn deillio o driniaeth gymdeithasol anffafriol, ac na ellir eu diystyru trwy gyfeirio at rai o’r gwahaniaethau o ran sgiliau a geir rhwng unigolion.

3.4. Dull Cynhyrchu a Pherchnogaeth o dan Sosialaeth

Mae sosialwyr yn aml yn olrhain gwreiddiau anghydraddoldeb o fewn cymdeithas i fodolaeth eiddo preifat – nid yn gymaint eiddo personol megis dillad, ceir neu dai, ond yn hytrach yr eiddo hwnnw y gellir ei drin fel ‘cyfalaf’ y gellir ei ddefnyddio er mwyn cynhyrchu mwy o gyfoeth.

Mae’r niwed cymdeithasol sy’n deillio o fodolaeth eiddo preifat yn cwmpasu sawl agwedd. I ddechrau, mynnir bod perchnogaeth breifat ar eiddo yn creu anghyfiawnder: gan fod cynhyrchu cyfoeth wastad yn dibynnu ar ymdrech gydweithredol gan ystod eang o bobl, dylai’r cyfoeth hwnnw fod yn eiddo i’r gymuned gyfan yn hytrach na rhai unigolion dethol. Yn ail, honnir bod eiddo preifat yn niweidio ein hymdeimlad o foesoldeb trwy gymell pobl i feddwl mewn termau materol ac i dybio bod hapusrwydd yn ddibynnol ar gywain cymaint o gyfoeth â phosib. Yn drydydd, dadleuir bod eiddo preifat yn arwain ar rannu cymdeithas ac yn cymell gwrthdaro, er enghraifft rhwng y gweithwyr a’r cyflogwyr neu rhwng y cyfoethog a’r tlawd.

O ganlyniad, mae sosialwyr wedi dadlau y dylid cyfyngu ar berchnogaeth o gyfalaf preifat. Er enghraifft, credai Karl Marx a chefnogwyr Marcsaeth fod cydraddoldeb cymdeithasol yn galw am ddiddymu perchnogaeth breifat ar gyfalaf yn llwyr fel rhan o’r broses o sefydlu’r gymdeithas gomiwnyddol. Yn Y Maniffesto Comwinyddol, rhagwelai Marx ac Engels (1848/2014: 50) y bydd yr proletariat yn sefydlu ei hun ‘yn ddosbarth llywodraethol, ac ennill y frwydr dros ddemocratiaeth… [ac yn] [c]anoli’r moddion cynhyrchu yn nwylo'r wladwriaeth’ yn ystod y cam cyntaf chwyldroadol tuag at gomiwnyddiaeth. Felly, y wladwriaeth sydd yn rheoli’r dull cynhyrchu o dan sosialaeth yn hytrach ‘na’r bourgeoisie (y dosbarth uwch) o dan gyfalafiaeth. Ond, yn wahanol i gomiwnyddiaeth, mae’n bosib i unigolion dal fod yn berchen ar eiddo a bod y dull cynhyrchu heb gael ei ganoli’n gyfangwbl yn nwylo'r gymdeithas o unigolion o dan sosialaeth.

Mewn cyferbyniad, mae’r Democratiaid Cymdeithasol wedi ffafrio llwybr mwy cymedrol – sefydlu rheolaeth gyffredin mewn ystod gyfyngedig o feysydd, er enghraifft yn achos rhai diwydiannau allweddol megis glo, dur, trydan a nwy – yr hyn a ddisgrifiwyd fel uchelfannau’r economi.

3.5. Dosbarth

Mae dosbarth yn thema sy’n dod i’r amlwg mewn gwaith sosialaidd mewn dau ffordd wahanol. I ddechrau, caiff dosbarth ei drin fel cysyniad dadansoddol. Y duedd ymhlith sosialwyr megis Marx a ddadleuwyr dros Farcsaeth fu i ddehongli cymdeithas fel casgliad o ddosbarthiadau gwahanol gyda phob dosbarth yn dwyn ynghyd bobl sy’n rhannu’r un statws economaidd. Bydd aelodau pob dosbarth wedyn yn tueddu i uniaethu â’i gilydd ac i rannu’r un math o fyd-olwg. O ganlyniad, yn nhyb sosialwyr, dosbarthiadau, yn hytrach nag unigolion, yw’r actorion allweddol o fewn cymdeithas, a deall hynt y dosbarthiadau hyn yw’r allwedd er mwyn deall unrhyw newid cymdeithasol neu wleidyddol. Mae’r gred hon i’w gweld yn fwyaf amlwg yn namcaniaethau hanesyddol Karl Marx lle honnir bod esblygiad hanes yn ganlyniad i gyfres o wrthdrawiadau rhwng gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol sef ei ddull o fateroliaeth hanesyddol.

Yn ail, mae sosialaeth yn aml yn cael ei thrin fel ideoleg sy’n cynnig amddiffyniad o fuddiannau un dosbarth cymdeithasol yn benodol, sef y dosbarth gweithiol. Dyma’r dosbarth sydd yn dioddef ecsploetio a gorthrwm parhaol yn sgil natur cyfalafiaeth, ond, ar yr un pryd, dyma’r dosbarth sydd â’r potensial i arwain y ffordd tuag at y gymdeithas sosialaidd well.

4. Sosialaeth a Chymru

Yn ei lyfr, Credoau'r Cymry, mae Huw Williams (2016) yn trafod yn fanwl syniadau sosialwyr o Gymru megis Aneurin Bevan, Robert Owen a Raymond Williams.

Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Sosialaeth: Nodweddion Allweddol a Sosialaeth: Ffrydiau Amrywiol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i [[addasu]] gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Llyfryddiaeth

Claessens, A. (2009) The logic of socialism. (Victoria: Leopold Publishing)

Engels, F. (1844-1845/2010). Condition of the Working Class in England. https://www.marxists.org/archive/marx/works/download/pdf/condition-working-class-england.pdf [Cyrchwyd: 7 Hydref 2020]

Lenin, V. (1917/1999) The State and Revolution. https://www.marxists.org/ebooks/lenin/state-and-revolution.pdf [Cyrchwyd: 7 Hydref 2020]

Marx, K. (1875/1999) Critique of the Gotha Programme. https://www.marxists.org/archive/marx/works/download/Marx_Critque_of_the_Gotha_Programme.pdf [Cyrchwyd: 7 Hydref 2020]

Marx, K ac Engels, F. (1848/2014), Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1982~4u~vx7iUPMZ [Cyrchwyd: 1 Mawrth 2021]

Newman, M. (2005) Socialism: a very short introduction. (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen)

Owen, R. (1830) Lectures on an Entire New State of Society: Comprehending an Analysis of British Society, Relative to the Production and Distribution of Wealth, the Formation of Character, and Government, Domestic and Foreign. jstor.org/stable/10.2307/60200813. [Cyrchwyd: 7 Hydref 2020]

Shaw, B. a Gahan, P. (2016) ‘Six Fabian Lectures on Redistribution of Income.’ Shaw (36) 1, 10–52

Willliams, R. (1983) Keywords: A Vocabulary of Culture and Society. (Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen)

Williams, H. (2016) Credoau'r Cymry: ymddiddanion dychmygol ac adlewyrchiadau athronyddol. (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.