Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Candelas"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Ffurfiwyd y [[band]] roc Candelas yn ardal y Bala yn 2009. Yr aelodau gwreiddiol oedd Osian Williams (prif leisydd, gitâr, drymiau), Ifan Jones (gitâr), Tomos Edwards (gitâr fas) a Gruffydd Edwards (gitâr). Ymunodd Lewis Williams ar y drymiau yn 2012, gan alluogi Osian Williams i ganolbwyntio ar ganu a chwarae’r gitâr. | + | Ffurfiwyd y [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | band]] roc Candelas yn ardal y Bala yn 2009. Yr aelodau gwreiddiol oedd Osian Williams (prif leisydd, gitâr, drymiau), Ifan Jones (gitâr), Tomos Edwards (gitâr fas) a Gruffydd Edwards (gitâr). Ymunodd Lewis Williams ar y drymiau yn 2012, gan alluogi Osian Williams i ganolbwyntio ar ganu a chwarae’r gitâr. |
− | Disgrifir cerddoriaeth Candelas fel [[canu roc]] ''indie'' pwerus gyda chyffyrddiadau o’r ''blues'', ynghyd â dylanwadau trymach na’r hyn a oedd i’w glywed yn y sîn bop Gymraeg ar y pryd, megis Queens of the Stone Age, Band of Skulls, cerddoriaeth gynnar Kings of Leon a cherddoriaeth ddiweddar yr Arctic Monkeys. Rhyddhawyd eu EP ''Kim y Syniad'' (Peno, 2011) ac yna’r albwm ddwyieithog eponymaidd ''Candelas'' (Peno, 2013) ar eu label eu hunain. Daeth rhai o’r caneuon megis ‘Anifail’ a ‘Symud Ymlaen’ yn gyfarwydd iawn ar donfeddi Radio Cymru ar y pryd, ynghyd â bod yn boblogaidd mewn nosweithiau byw. | + | Disgrifir cerddoriaeth Candelas fel [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu roc]] ''indie'' pwerus gyda chyffyrddiadau o’r ''blues'', ynghyd â dylanwadau trymach na’r hyn a oedd i’w glywed yn y sîn bop Gymraeg ar y pryd, megis Queens of the Stone Age, Band of Skulls, cerddoriaeth gynnar Kings of Leon a cherddoriaeth ddiweddar yr Arctic Monkeys. Rhyddhawyd eu EP ''Kim y Syniad'' (Peno, 2011) ac yna’r albwm ddwyieithog eponymaidd ''Candelas'' (Peno, 2013) ar eu label eu hunain. Daeth rhai o’r caneuon megis ‘Anifail’ a ‘Symud Ymlaen’ yn gyfarwydd iawn ar donfeddi Radio Cymru ar y pryd, ynghyd â bod yn boblogaidd mewn nosweithiau byw. |
Yn 2014 cawsant eu dewis fel un o fandiau prosiect Gorwelion BBC Cymru, sef cynllun a sefydlwyd gan BBC Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol newydd yng Nghymru. Daethant i’r brig mewn amryw gategori yng Ngwobrau’r Selar dros y blynyddoedd, megis Record Hir Orau (gyda’r albwm ''Candelas''), cân orau (‘Anifail’) ynghyd â Band Gorau yn 2013; a Band Gorau a Gwaith Celf Gorau am ''Bodoli’n Ddistaw'' yn 2014. Yn ogystal, enillodd drymiwr y band, Lewis Williams, wobr Offerynnwr y Flwyddyn yr un flwyddyn. | Yn 2014 cawsant eu dewis fel un o fandiau prosiect Gorwelion BBC Cymru, sef cynllun a sefydlwyd gan BBC Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol newydd yng Nghymru. Daethant i’r brig mewn amryw gategori yng Ngwobrau’r Selar dros y blynyddoedd, megis Record Hir Orau (gyda’r albwm ''Candelas''), cân orau (‘Anifail’) ynghyd â Band Gorau yn 2013; a Band Gorau a Gwaith Celf Gorau am ''Bodoli’n Ddistaw'' yn 2014. Yn ogystal, enillodd drymiwr y band, Lewis Williams, wobr Offerynnwr y Flwyddyn yr un flwyddyn. | ||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
Daeth Candelas o dan label I Ka Ching yn haf 2014 pan ryddhawyd dwy sengl ganddynt, ‘Cynt a’n Bellach’ a ‘Dim Cyfrinach’. Yn dilyn hyn rhyddhawyd eu hail albwm, ''Bodoli’n Ddistaw'' (I Ka Ching, 2014). Roedd elfen hunangofiannol yn perthyn i’r albwm yn dilyn marwolaeth annhymig Derec Williams, tad Osian – un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn a Chwmni Theatr Meirion – gyda chaneuon tywyll a dwys megis y trac olaf ar yr albwm, ‘Awn Ni’n Nôl’, yn trafod colled, rhwystredigaeth ac anobaith. | Daeth Candelas o dan label I Ka Ching yn haf 2014 pan ryddhawyd dwy sengl ganddynt, ‘Cynt a’n Bellach’ a ‘Dim Cyfrinach’. Yn dilyn hyn rhyddhawyd eu hail albwm, ''Bodoli’n Ddistaw'' (I Ka Ching, 2014). Roedd elfen hunangofiannol yn perthyn i’r albwm yn dilyn marwolaeth annhymig Derec Williams, tad Osian – un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn a Chwmni Theatr Meirion – gyda chaneuon tywyll a dwys megis y trac olaf ar yr albwm, ‘Awn Ni’n Nôl’, yn trafod colled, rhwystredigaeth ac anobaith. | ||
− | Fodd bynnag, nid oedd pob cân mor bersonol, a daeth ‘Llwytha’r Gwn’ – deuawd ar y cyd â’r gantores Alys Williams (a brofodd lwyddiant yng nghystadleuaeth ''The Voice'') – yn arbennig o boblogaidd. Lansiwyd ''Bodoli’n Ddistaw'' mewn noson arbennig yn Neuadd Buddug y Bala, ar 22 Ionawr 2015, ac fe’i darlledwyd yn fyw ar raglen C2 Radio Cymru. Candelas oedd prif berfformwyr Maes B yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015. | + | Fodd bynnag, nid oedd pob cân mor bersonol, a daeth ‘Llwytha’r Gwn’ – deuawd ar y cyd â’r gantores Alys Williams (a brofodd lwyddiant yng nghystadleuaeth ''The Voice'') – yn arbennig o boblogaidd. Lansiwyd ''Bodoli’n Ddistaw'' mewn noson arbennig yn Neuadd Buddug y Bala, ar 22 Ionawr 2015, ac fe’i darlledwyd yn fyw ar raglen C2 Radio Cymru. Candelas oedd prif berfformwyr Maes B yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015. |
− | Yr un flwyddyn enillodd Osian Williams gystadleuaeth Tlws y Cerddor (gwobr y prif gyfansoddwr) yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu hefyd ynghlwm â nifer o brosiectau eraill. Yn eu mysg bu’n aelod o Endaf Gremlin, grŵp ‘gwneud’ (neu ''supergroup'') Cymraeg, gyda’r aelodau eraill yn cynnwys Mei Gwynedd ([[Sibrydion]], [[Big Leaves]]), Rhys Aneurin ([[Yr Ods]]), Dylan Hughes (Radio Luxembourg, Race Horses) a Dafydd Hughes ([[Cowbois Rhos Botwnnog]]). Ffurfiwyd y band yn 2013 ac aethant ati i ryddhau albwm eponymaidd yn Awst 2014 (JigCal, 2014), cyn cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn eu bod wedi dod i ben. Prosiect arall yw Siddi, deuawd gwerin gyfoes rhwng Osian a’i chwaer Branwen Williams (a fu’n perfformio gyda Cowbois Rhos Botwnnog a’r Jessops) a ffurfiwyd yn 2013; rhyddhawyd albwm cysyniadol o’r enw ''Un Tro'' ganddynt ar label I Ka Ching yn 2013. | + | Yr un flwyddyn enillodd Osian Williams gystadleuaeth Tlws y Cerddor (gwobr y prif gyfansoddwr) yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu hefyd ynghlwm â nifer o brosiectau eraill. Yn eu mysg bu’n aelod o Endaf Gremlin, grŵp ‘gwneud’ (neu ''supergroup'') Cymraeg, gyda’r aelodau eraill yn cynnwys Mei Gwynedd ([[Big Leaves | Sibrydion]], [[Big Leaves]]), Rhys Aneurin ([[Yr Ods]]), Dylan Hughes (Radio Luxembourg, Race Horses) a Dafydd Hughes ([[Cowbois Rhos Botwnnog]]). Ffurfiwyd y band yn 2013 ac aethant ati i ryddhau albwm eponymaidd yn Awst 2014 (JigCal, 2014), cyn cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn eu bod wedi dod i ben. Prosiect arall yw Siddi, deuawd gwerin gyfoes rhwng Osian a’i chwaer Branwen Williams (a fu’n perfformio gyda Cowbois Rhos Botwnnog a’r Jessops) a ffurfiwyd yn 2013; rhyddhawyd albwm cysyniadol o’r enw ''Un Tro'' ganddynt ar label I Ka Ching yn 2013. |
'''Nia Davies Williams''' | '''Nia Davies Williams''' | ||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
=Disgyddiaeth= | =Disgyddiaeth= | ||
− | + | *''Kim y Syniad'' [EP] (Cyhoeddiadau Peno, 2011) | |
− | + | *''Candelas'' (Cyhoeddiadau Peno, 2013) | |
− | + | *‘Cynt a’n Bellach’ [sengl] (I Ka Ching, 2014) | |
− | + | *‘Dim Cyfrinach’ [sengl] (I Ka Ching, 2014) | |
− | + | *''Bodoli’n Ddistaw'' ''Testun italig''(I Ka Ching IKACHING012, 2014) | |
− | + | *''Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae?'' (I Ka Ching IKACHING040, 2018) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 08:35, 2 Mehefin 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ffurfiwyd y band roc Candelas yn ardal y Bala yn 2009. Yr aelodau gwreiddiol oedd Osian Williams (prif leisydd, gitâr, drymiau), Ifan Jones (gitâr), Tomos Edwards (gitâr fas) a Gruffydd Edwards (gitâr). Ymunodd Lewis Williams ar y drymiau yn 2012, gan alluogi Osian Williams i ganolbwyntio ar ganu a chwarae’r gitâr.
Disgrifir cerddoriaeth Candelas fel canu roc indie pwerus gyda chyffyrddiadau o’r blues, ynghyd â dylanwadau trymach na’r hyn a oedd i’w glywed yn y sîn bop Gymraeg ar y pryd, megis Queens of the Stone Age, Band of Skulls, cerddoriaeth gynnar Kings of Leon a cherddoriaeth ddiweddar yr Arctic Monkeys. Rhyddhawyd eu EP Kim y Syniad (Peno, 2011) ac yna’r albwm ddwyieithog eponymaidd Candelas (Peno, 2013) ar eu label eu hunain. Daeth rhai o’r caneuon megis ‘Anifail’ a ‘Symud Ymlaen’ yn gyfarwydd iawn ar donfeddi Radio Cymru ar y pryd, ynghyd â bod yn boblogaidd mewn nosweithiau byw.
Yn 2014 cawsant eu dewis fel un o fandiau prosiect Gorwelion BBC Cymru, sef cynllun a sefydlwyd gan BBC Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol newydd yng Nghymru. Daethant i’r brig mewn amryw gategori yng Ngwobrau’r Selar dros y blynyddoedd, megis Record Hir Orau (gyda’r albwm Candelas), cân orau (‘Anifail’) ynghyd â Band Gorau yn 2013; a Band Gorau a Gwaith Celf Gorau am Bodoli’n Ddistaw yn 2014. Yn ogystal, enillodd drymiwr y band, Lewis Williams, wobr Offerynnwr y Flwyddyn yr un flwyddyn.
Daeth Candelas o dan label I Ka Ching yn haf 2014 pan ryddhawyd dwy sengl ganddynt, ‘Cynt a’n Bellach’ a ‘Dim Cyfrinach’. Yn dilyn hyn rhyddhawyd eu hail albwm, Bodoli’n Ddistaw (I Ka Ching, 2014). Roedd elfen hunangofiannol yn perthyn i’r albwm yn dilyn marwolaeth annhymig Derec Williams, tad Osian – un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn a Chwmni Theatr Meirion – gyda chaneuon tywyll a dwys megis y trac olaf ar yr albwm, ‘Awn Ni’n Nôl’, yn trafod colled, rhwystredigaeth ac anobaith.
Fodd bynnag, nid oedd pob cân mor bersonol, a daeth ‘Llwytha’r Gwn’ – deuawd ar y cyd â’r gantores Alys Williams (a brofodd lwyddiant yng nghystadleuaeth The Voice) – yn arbennig o boblogaidd. Lansiwyd Bodoli’n Ddistaw mewn noson arbennig yn Neuadd Buddug y Bala, ar 22 Ionawr 2015, ac fe’i darlledwyd yn fyw ar raglen C2 Radio Cymru. Candelas oedd prif berfformwyr Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015.
Yr un flwyddyn enillodd Osian Williams gystadleuaeth Tlws y Cerddor (gwobr y prif gyfansoddwr) yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu hefyd ynghlwm â nifer o brosiectau eraill. Yn eu mysg bu’n aelod o Endaf Gremlin, grŵp ‘gwneud’ (neu supergroup) Cymraeg, gyda’r aelodau eraill yn cynnwys Mei Gwynedd ( Sibrydion, Big Leaves), Rhys Aneurin (Yr Ods), Dylan Hughes (Radio Luxembourg, Race Horses) a Dafydd Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog). Ffurfiwyd y band yn 2013 ac aethant ati i ryddhau albwm eponymaidd yn Awst 2014 (JigCal, 2014), cyn cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn eu bod wedi dod i ben. Prosiect arall yw Siddi, deuawd gwerin gyfoes rhwng Osian a’i chwaer Branwen Williams (a fu’n perfformio gyda Cowbois Rhos Botwnnog a’r Jessops) a ffurfiwyd yn 2013; rhyddhawyd albwm cysyniadol o’r enw Un Tro ganddynt ar label I Ka Ching yn 2013.
Nia Davies Williams
Disgyddiaeth
- Kim y Syniad [EP] (Cyhoeddiadau Peno, 2011)
- Candelas (Cyhoeddiadau Peno, 2013)
- ‘Cynt a’n Bellach’ [sengl] (I Ka Ching, 2014)
- ‘Dim Cyfrinach’ [sengl] (I Ka Ching, 2014)
- Bodoli’n Ddistaw Testun italig(I Ka Ching IKACHING012, 2014)
- Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae? (I Ka Ching IKACHING040, 2018)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.