Candelas

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ffurfiwyd y band roc Candelas yn ardal y Bala yn 2009. Yr aelodau gwreiddiol oedd Osian Williams (prif leisydd, gitâr, drymiau), Ifan Jones (gitâr), Tomos Edwards (gitâr fas) a Gruffydd Edwards (gitâr). Ymunodd Lewis Williams ar y drymiau yn 2012, gan alluogi Osian Williams i ganolbwyntio ar ganu a chwarae’r gitâr.

Disgrifir cerddoriaeth Candelas fel canu roc indie pwerus gyda chyffyrddiadau o’r blues, ynghyd â dylanwadau trymach na’r hyn a oedd i’w glywed yn y sîn bop Gymraeg ar y pryd, megis Queens of the Stone Age, Band of Skulls, cerddoriaeth gynnar Kings of Leon a cherddoriaeth ddiweddar yr Arctic Monkeys. Rhyddhawyd eu EP Kim y Syniad (Peno, 2011) ac yna’r albwm ddwyieithog eponymaidd Candelas (Peno, 2013) ar eu label eu hunain. Daeth rhai o’r caneuon megis ‘Anifail’ a ‘Symud Ymlaen’ yn gyfarwydd iawn ar donfeddi Radio Cymru ar y pryd, ynghyd â bod yn boblogaidd mewn nosweithiau byw.

Yn 2014 cawsant eu dewis fel un o fandiau prosiect Gorwelion BBC Cymru, sef cynllun a sefydlwyd gan BBC Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol newydd yng Nghymru. Daethant i’r brig mewn amryw gategori yng Ngwobrau’r Selar dros y blynyddoedd, megis Record Hir Orau (gyda’r albwm Candelas), cân orau (‘Anifail’) ynghyd â Band Gorau yn 2013; a Band Gorau a Gwaith Celf Gorau am Bodoli’n Ddistaw yn 2014. Yn ogystal, enillodd drymiwr y band, Lewis Williams, wobr Offerynnwr y Flwyddyn yr un flwyddyn.

Daeth Candelas o dan label I Ka Ching yn haf 2014 pan ryddhawyd dwy sengl ganddynt, ‘Cynt a’n Bellach’ a ‘Dim Cyfrinach’. Yn dilyn hyn rhyddhawyd eu hail albwm, Bodoli’n Ddistaw (I Ka Ching, 2014). Roedd elfen hunangofiannol yn perthyn i’r albwm yn dilyn marwolaeth annhymig Derec Williams, tad Osian – un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn a Chwmni Theatr Meirion – gyda chaneuon tywyll a dwys megis y trac olaf ar yr albwm, ‘Awn Ni’n Nôl’, yn trafod colled, rhwystredigaeth ac anobaith.

Fodd bynnag, nid oedd pob cân mor bersonol, a daeth ‘Llwytha’r Gwn’ – deuawd ar y cyd â’r gantores Alys Williams (a brofodd lwyddiant yng nghystadleuaeth The Voice) – yn arbennig o boblogaidd. Lansiwyd Bodoli’n Ddistaw mewn noson arbennig yn Neuadd Buddug y Bala, ar 22 Ionawr 2015, ac fe’i darlledwyd yn fyw ar raglen C2 Radio Cymru. Candelas oedd prif berfformwyr Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015.

Yr un flwyddyn enillodd Osian Williams gystadleuaeth Tlws y Cerddor (gwobr y prif gyfansoddwr) yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu hefyd ynghlwm â nifer o brosiectau eraill. Yn eu mysg bu’n aelod o Endaf Gremlin, grŵp ‘gwneud’ (neu supergroup) Cymraeg, gyda’r aelodau eraill yn cynnwys Mei Gwynedd ( Sibrydion, Big Leaves), Rhys Aneurin (Yr Ods), Dylan Hughes (Radio Luxembourg, Race Horses) a Dafydd Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog). Ffurfiwyd y band yn 2013 ac aethant ati i ryddhau albwm eponymaidd yn Awst 2014 (JigCal, 2014), cyn cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn eu bod wedi dod i ben. Prosiect arall yw Siddi, deuawd gwerin gyfoes rhwng Osian a’i chwaer Branwen Williams (a fu’n perfformio gyda Cowbois Rhos Botwnnog a’r Jessops) a ffurfiwyd yn 2013; rhyddhawyd albwm cysyniadol o’r enw Un Tro ganddynt ar label I Ka Ching yn 2013.

Nia Davies Williams

Disgyddiaeth

  • Kim y Syniad [EP] (Cyhoeddiadau Peno, 2011)
  • Candelas (Cyhoeddiadau Peno, 2013)
  • ‘Cynt a’n Bellach’ [sengl] (I Ka Ching, 2014)
  • ‘Dim Cyfrinach’ [sengl] (I Ka Ching, 2014)
  • Bodoli’n Ddistaw Testun italig(I Ka Ching IKACHING012, 2014)
  • Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae? (I Ka Ching IKACHING040, 2018)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.