Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Edward H Dafis"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
+ | __NOAUTOLINKS__ | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Torrwyd cwys newydd yn hanes [[adloniant]] Cymraeg pan drawyd nodau ‘Cân y Stiwdants’ gan Edward H Dafis (neu ‘Edward H’ fel y’u gelwir gan nifer) ym Mhafiliwn Corwen yn ystod [[Eisteddfod]] Genedlaethol Rhuthun yn 1973. Noson draddodiadol yn gyfuniad o gyngerdd a noson lawen wedi’i threfnu gan Gymdeithas yr Iaith oedd Tafodau Tân. Y disgwyl oedd y byddai’r gynulleidfa, yn ôl yr arfer, yn gwrando ar ei heistedd ar yr amrywiaeth o artistiaid. Ond pan glywyd y synau trydanol, buan y cododd nifer o’r gwrandawyr i ddawnsio yn yr ale. Ganed [[canu roc]] cynhenid Gymraeg am fod Edward H yn canu caneuon gwreiddiol i gyfeiliant gitarau trydan yn hytrach na chyfieithiadau fel y gwnaed gan rai o’r grwpiau blaenorol. | + | Torrwyd cwys newydd yn hanes [[adloniant]] Cymraeg pan drawyd nodau ‘Cân y Stiwdants’ gan Edward H Dafis (neu ‘Edward H’ fel y’u gelwir gan nifer) ym Mhafiliwn Corwen yn ystod [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Rhuthun yn 1973. Noson draddodiadol yn gyfuniad o gyngerdd a noson lawen wedi’i threfnu gan Gymdeithas yr Iaith oedd Tafodau Tân. Y disgwyl oedd y byddai’r gynulleidfa, yn ôl yr arfer, yn gwrando ar ei heistedd ar yr amrywiaeth o artistiaid. Ond pan glywyd y synau trydanol, buan y cododd nifer o’r gwrandawyr i ddawnsio yn yr ale. Ganed [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu roc]] cynhenid Gymraeg am fod Edward H yn canu caneuon gwreiddiol i gyfeiliant gitarau trydan yn hytrach na chyfieithiadau fel y gwnaed gan rai o’r grwpiau blaenorol. |
− | Fe ddisgrifiodd Roger Wallis a Krister Malm y digwyddiad fel ‘ymwahaniad symbolaidd’ rhwng y traddodiad acwstig a’r un newydd ‘trydanol’ yng Nghymru (Wallis a Malm 1983, 94), tra bod [[Sarah Hill]] yn datgan ei fod yr un mor arwyddocaol yng nghyd-destun diwylliant Cymru â phenderfyniad Bob Dylan i gefnu ar y gitâr acwstig yng [[Ngŵyl]] Jazz Newport yn y diwylliant Eingl-Americanaidd yn 1965 (Hill 2007, 78). Achoswyd cynnwrf gan griw o fechgyn a gredai yn yr hyn a dyfodd yn adnod i ieuenctid y cyfnod, sef ‘Gwnewch Bopeth yn Gymraeg’. | + | Fe ddisgrifiodd Roger Wallis a Krister Malm y digwyddiad fel ‘ymwahaniad symbolaidd’ rhwng y traddodiad acwstig a’r un newydd ‘trydanol’ yng Nghymru (Wallis a Malm 1983, 94), tra bod [[Hill, Sarah (g.1966) | Sarah Hill]] yn datgan ei fod yr un mor arwyddocaol yng nghyd-destun diwylliant Cymru â phenderfyniad Bob Dylan i gefnu ar y gitâr acwstig yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | Ngŵyl]] Jazz Newport yn y diwylliant Eingl-Americanaidd yn 1965 (Hill 2007, 78). Achoswyd cynnwrf gan griw o fechgyn a gredai yn yr hyn a dyfodd yn adnod i ieuenctid y cyfnod, sef ‘Gwnewch Bopeth yn Gymraeg’. |
− | Aelodau gwreiddiol y grŵp oedd Hefin Elis (gitâr flaen ac allweddellau), ynghyd â’i gyfaill o Bont-rhyd- y-fen, John Griffiths (gitâr fas), Dewi ‘Pws’ Morris o Dre-boeth, Abertawe (gitarydd a lleisydd) a Charli Britton o Gaerdydd (drymiau). Roedd gan Charli Britton brofiad o chwarae mewn grwpiau megis Y Cyffro ac roedd Hefin Elis wedi bod yn ymwneud â grwpiau coleg ym Mhrifysgol Aberystwyth megis Y Datguddiad, Y Chwyldro a Y Nhw. Bu Dewi Pws yn aelod o’r [[Tebot Piws]] a bu John Griffiths yn aelod o grwpiau Saesneg yn ei gynefin. Cyn sefydlu’r grŵp, arferai Hefin Elis gyfrannu | + | Aelodau gwreiddiol y grŵp oedd Hefin Elis (gitâr flaen ac allweddellau), ynghyd â’i gyfaill o Bont-rhyd- y-fen, John Griffiths (gitâr fas), Dewi ‘Pws’ Morris o Dre-boeth, Abertawe (gitarydd a lleisydd) a Charli Britton o Gaerdydd (drymiau). Roedd gan Charli Britton brofiad o chwarae mewn grwpiau megis Y Cyffro ac roedd Hefin Elis wedi bod yn ymwneud â grwpiau coleg ym Mhrifysgol Aberystwyth megis Y Datguddiad, Y Chwyldro a Y Nhw. Bu Dewi Pws yn aelod o’r [[Tebot Piws, Y | Tebot Piws]] a bu John Griffiths yn aelod o grwpiau Saesneg yn ei gynefin. Cyn sefydlu’r grŵp, arferai Hefin Elis gyfrannu colofn i’r ''Faner'' o dan y ffugenw Edward H Dafis, a oedd yn ymdrin â’r [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu pop]] Cymraeg yn ddi-flewyn-ar-dafod. Roedd hyd yn oed yn feirniadol ohono’i hun fel cerddor a daeth Dewi Pws hefyd o dan ei lach. Ond yr oedd yn gwbl ddidwyll y dylai ieuenctid Cymru gael yr un profiad a’r un cynnwrf yn eu hiaith eu hunain â phan fyddent yn gwrando ar grwpiau Saesneg. |
− | Rhyddhawyd EP cyntaf y band ar label Sain yn 1973, a oedd yn cynnwys trefniant o’r alaw werin ‘Ffarwél i Langyfelach Lon’ ynghyd â’r gân roc ‘Gwrandewch’. Yn fuan wedi hynny, ymunodd Cleif Prendelyn (Clive Harpwood) o’r [[grŵp gwerin]]-roc adferol Ac Eraill – un arall o fechgyn Cwm Afan – fel lleisydd a chyfansoddwr. Roedd y gyntaf o dair record hir a ryddhawyd rhwng 1974 ac 1976, ''Hen Ffordd Gymreig o Fyw'' (Sain, 1974), yn dilyn patrwm tebyg wrth gyfuno trefniannau gwerin fel ‘Pontypridd’ gydag [[anthemau]] roc trwm megis ‘Tŷ Haf’ a ‘Pishyn’. | + | Rhyddhawyd EP cyntaf y band ar label Sain yn 1973, a oedd yn cynnwys trefniant o’r alaw werin ‘Ffarwél i Langyfelach Lon’ ynghyd â’r gân roc ‘Gwrandewch’. Yn fuan wedi hynny, ymunodd Cleif Prendelyn (Clive Harpwood) o’r [[Gwerin, grwpiau | grŵp gwerin]]-roc adferol Ac Eraill – un arall o fechgyn Cwm Afan – fel lleisydd a chyfansoddwr. Roedd y gyntaf o dair record hir a ryddhawyd rhwng 1974 ac 1976, ''Hen Ffordd Gymreig o Fyw'' (Sain, 1974), yn dilyn patrwm tebyg wrth gyfuno trefniannau gwerin fel ‘Pontypridd’ gydag [[anthemau]] roc trwm megis ‘Tŷ Haf’ a ‘Pishyn’. |
Llwyddodd y grŵp i gynnig profiad newydd, cyffrous o adloniant cyfoes i ieuenctid Cymru, gyda nifer fawr yn gwisgo macynon gwddf coch fel arwydd o’u teyrngarwch i’r grŵp. Ond nid adloniant oedd unig fwriad y band. Roedd negeseuon gwladgarol yn perthyn i’w caneuon hefyd, gyda ‘Yn y Fro’, ‘Tŷ Haf’ a ‘Derwen Gam’ yn adlewyrchu berw gwleidyddol Cymreig y cyfnod, tra bod ‘Mr Duw’ yn gân delynegol drawiadol ynglŷn â hunanamheuaeth grefyddol. | Llwyddodd y grŵp i gynnig profiad newydd, cyffrous o adloniant cyfoes i ieuenctid Cymru, gyda nifer fawr yn gwisgo macynon gwddf coch fel arwydd o’u teyrngarwch i’r grŵp. Ond nid adloniant oedd unig fwriad y band. Roedd negeseuon gwladgarol yn perthyn i’w caneuon hefyd, gyda ‘Yn y Fro’, ‘Tŷ Haf’ a ‘Derwen Gam’ yn adlewyrchu berw gwleidyddol Cymreig y cyfnod, tra bod ‘Mr Duw’ yn gân delynegol drawiadol ynglŷn â hunanamheuaeth grefyddol. | ||
− | Dilynwyd ''Hen Ffordd Gymreig o Fyw'' gyda ''Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw'' (Sain, 1975) a ''’Sneb yn Becso Dam'' (Sain, 1976), yr olaf yn | + | Dilynwyd ''Hen Ffordd Gymreig o Fyw'' gyda ''Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw'' (Sain, 1975) a ''’Sneb yn Becso Dam'' (Sain, 1976), yr olaf yn alegori fodern ar stori’r mab afradlon yn ffurf record gysyniad am hanes merch o’r enw Lisa Pant Ddu. Erbyn y cyfnod hwnnw, clywid ystod eang o arddulliau yng nghaneuon y grŵp, o’r arddull werin-roc, i ''reggae'', ffync a roc trwm. Rhoddodd Edward H y gorau i berfformio ym mis Medi 1976 mewn cyngerdd ffarwél gofiadwy ym Mhafiliwn Corwen, ac yn 1977 cyhoeddwyd cyfrol yn olrhain gyrfa’r grŵp, ''Doedd Neb yn Becso Dam''. Fodd bynnag, ailffurfiodd y grŵp yn 1978 gan ryddhau un record sengl a dwy record hir arall – ''Yn Erbyn y Ffactore'' (Sain, 1979) a ''Plant y Fflam'' (Sain, 1980) – cyn tewi yn 1981. |
− | Roedd ''Yn Erbyn y Ffactore'' yn cynnwys y gân roc trwm anthemig ‘Breuddwyd Roc a Rôl’ a’r faled boblogaidd ‘Ysbryd y Nos’, tra bod ''Plant y Fflam'' yn record gysyniad fwy chwedlonol a rhithiol ei naws na ''’Sneb yn Becso Dam''. Dyfarnwyd Gwobr Arbennig Sgrech i’r grŵp yn 1980. Yn y cyfamser, aeth Dewi Pws ymlaen i ffurfio Mochyn ’Apus gyda chyn-aelod Hywel Ffiaidd, y canwr theatrig Dyfed Thomas, a’r gitaryddion [[Tich Gwilym]] a | + | Roedd ''Yn Erbyn y Ffactore'' yn cynnwys y gân roc trwm anthemig ‘Breuddwyd Roc a Rôl’ a’r faled boblogaidd ‘Ysbryd y Nos’, tra bod ''Plant y Fflam'' yn record gysyniad fwy chwedlonol a rhithiol ei naws na ''’Sneb yn Becso Dam''. Dyfarnwyd Gwobr Arbennig Sgrech i’r grŵp yn 1980. Yn y cyfamser, aeth Dewi Pws ymlaen i ffurfio Mochyn ’Apus gyda chyn-aelod Hywel Ffiaidd, y canwr theatrig Dyfed Thomas, a’r gitaryddion [[Gwilym, Tich (Robert John Gwilliam; 1950-2005) | Tich Gwilym]] a Dafydd Pierce, tra’r aeth Hefin Elis a Cleif Harpwood i fyd y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]] fel cynhyrchwyr [[Rhaglenni Teledu Pop | rhaglenni teledu]]. |
Ail-ffurfiodd y grŵp yn 1996 ar gyfer cyfres o gyngherddau yn Stiwdio Barcud, Caernarfon, a ddarlledwyd yn ddiweddarach ar S4C, ac yna ar gyfer perfformiad yng Ngŵyl y Faenol yn 2001. Yn 2005, cyhoeddwyd casgliad cyflawn o’u caneuon o dan yr enw ''Edward H – Mewn Bocs'' (Sain, 2005). Yn 2011, aeth aelodau’r band, ac eithrio Dewi Pws, ati i berfformio o dan yr enw ‘H a’r Band’. Daeth y band at ei gilydd am y tro olaf i berfformio ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych ar 9 Awst 2013 o flaen cynulleidfa o oddeutu 7,000. | Ail-ffurfiodd y grŵp yn 1996 ar gyfer cyfres o gyngherddau yn Stiwdio Barcud, Caernarfon, a ddarlledwyd yn ddiweddarach ar S4C, ac yna ar gyfer perfformiad yng Ngŵyl y Faenol yn 2001. Yn 2005, cyhoeddwyd casgliad cyflawn o’u caneuon o dan yr enw ''Edward H – Mewn Bocs'' (Sain, 2005). Yn 2011, aeth aelodau’r band, ac eithrio Dewi Pws, ati i berfformio o dan yr enw ‘H a’r Band’. Daeth y band at ei gilydd am y tro olaf i berfformio ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych ar 9 Awst 2013 o flaen cynulleidfa o oddeutu 7,000. | ||
+ | |||
+ | '''Hefin Wyn''' | ||
==Disgyddiaeth== | ==Disgyddiaeth== | ||
− | + | *''Edward H Dafis'' [EP] (Sain S38, 1973) | |
− | + | *''Hen Ffordd Gymreig o Fyw'' (Sain 1016, 1974) | |
− | + | *''Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw'' (Sain 1034, 1975) | |
− | + | *‘Dyma’r Urdd’ [sengl] (Sain S61, 1976) | |
− | + | *‘Singl Tragwyddol’ [sengl] (Sain S63, 1976) | |
− | + | *''’Sneb yn Becso Dam'' (Sain 1053, 1976) | |
− | + | *‘Uffern ar y Ddaear’/‘VC10’ [sengl] (Sain 67S, 1978) | |
− | + | *''Yn Erbyn y Ffactore'' (Sain 1144M, 1979) | |
− | + | *''Plant y Fflam'' (Sain C796, 1980) | |
− | + | *''Gig Olaf Edward H Dafis'' (Sain DVD137, 2013) | |
− | + | *'''Casgliadau:''' | |
− | + | *''Breuddwyd Roc a Rôl – 20 o’r caneuon gorau (1974–1980)''(Sain SCD8027, 2001) | |
− | + | *''Edward H – Mewn Bocs'' (yr holl draciau ar 6 CD) (Sain SCD2428, 2005) | |
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | + | *Hefin Wyn, ''Doedd Neb yn Becso Dam'' (Penygroes, 1977) | |
− | + | *Roger Wallis a Krister Malm, ‘Sain Cymru: The Role of the Welsh Phonographic Industry in the Development of a Welsh Language Pop/Rock/Folk Scene’, ''Popular Music'', 3 (1983), 77–105 | |
− | + | *Sarah Hill, ''‘Blerwytirhwng?’ The Place of Welsh Pop Music'' (Aldershot, 2007) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 10:44, 25 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Torrwyd cwys newydd yn hanes adloniant Cymraeg pan drawyd nodau ‘Cân y Stiwdants’ gan Edward H Dafis (neu ‘Edward H’ fel y’u gelwir gan nifer) ym Mhafiliwn Corwen yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun yn 1973. Noson draddodiadol yn gyfuniad o gyngerdd a noson lawen wedi’i threfnu gan Gymdeithas yr Iaith oedd Tafodau Tân. Y disgwyl oedd y byddai’r gynulleidfa, yn ôl yr arfer, yn gwrando ar ei heistedd ar yr amrywiaeth o artistiaid. Ond pan glywyd y synau trydanol, buan y cododd nifer o’r gwrandawyr i ddawnsio yn yr ale. Ganed canu roc cynhenid Gymraeg am fod Edward H yn canu caneuon gwreiddiol i gyfeiliant gitarau trydan yn hytrach na chyfieithiadau fel y gwnaed gan rai o’r grwpiau blaenorol.
Fe ddisgrifiodd Roger Wallis a Krister Malm y digwyddiad fel ‘ymwahaniad symbolaidd’ rhwng y traddodiad acwstig a’r un newydd ‘trydanol’ yng Nghymru (Wallis a Malm 1983, 94), tra bod Sarah Hill yn datgan ei fod yr un mor arwyddocaol yng nghyd-destun diwylliant Cymru â phenderfyniad Bob Dylan i gefnu ar y gitâr acwstig yng Ngŵyl Jazz Newport yn y diwylliant Eingl-Americanaidd yn 1965 (Hill 2007, 78). Achoswyd cynnwrf gan griw o fechgyn a gredai yn yr hyn a dyfodd yn adnod i ieuenctid y cyfnod, sef ‘Gwnewch Bopeth yn Gymraeg’.
Aelodau gwreiddiol y grŵp oedd Hefin Elis (gitâr flaen ac allweddellau), ynghyd â’i gyfaill o Bont-rhyd- y-fen, John Griffiths (gitâr fas), Dewi ‘Pws’ Morris o Dre-boeth, Abertawe (gitarydd a lleisydd) a Charli Britton o Gaerdydd (drymiau). Roedd gan Charli Britton brofiad o chwarae mewn grwpiau megis Y Cyffro ac roedd Hefin Elis wedi bod yn ymwneud â grwpiau coleg ym Mhrifysgol Aberystwyth megis Y Datguddiad, Y Chwyldro a Y Nhw. Bu Dewi Pws yn aelod o’r Tebot Piws a bu John Griffiths yn aelod o grwpiau Saesneg yn ei gynefin. Cyn sefydlu’r grŵp, arferai Hefin Elis gyfrannu colofn i’r Faner o dan y ffugenw Edward H Dafis, a oedd yn ymdrin â’r canu pop Cymraeg yn ddi-flewyn-ar-dafod. Roedd hyd yn oed yn feirniadol ohono’i hun fel cerddor a daeth Dewi Pws hefyd o dan ei lach. Ond yr oedd yn gwbl ddidwyll y dylai ieuenctid Cymru gael yr un profiad a’r un cynnwrf yn eu hiaith eu hunain â phan fyddent yn gwrando ar grwpiau Saesneg.
Rhyddhawyd EP cyntaf y band ar label Sain yn 1973, a oedd yn cynnwys trefniant o’r alaw werin ‘Ffarwél i Langyfelach Lon’ ynghyd â’r gân roc ‘Gwrandewch’. Yn fuan wedi hynny, ymunodd Cleif Prendelyn (Clive Harpwood) o’r grŵp gwerin-roc adferol Ac Eraill – un arall o fechgyn Cwm Afan – fel lleisydd a chyfansoddwr. Roedd y gyntaf o dair record hir a ryddhawyd rhwng 1974 ac 1976, Hen Ffordd Gymreig o Fyw (Sain, 1974), yn dilyn patrwm tebyg wrth gyfuno trefniannau gwerin fel ‘Pontypridd’ gydag anthemau roc trwm megis ‘Tŷ Haf’ a ‘Pishyn’.
Llwyddodd y grŵp i gynnig profiad newydd, cyffrous o adloniant cyfoes i ieuenctid Cymru, gyda nifer fawr yn gwisgo macynon gwddf coch fel arwydd o’u teyrngarwch i’r grŵp. Ond nid adloniant oedd unig fwriad y band. Roedd negeseuon gwladgarol yn perthyn i’w caneuon hefyd, gyda ‘Yn y Fro’, ‘Tŷ Haf’ a ‘Derwen Gam’ yn adlewyrchu berw gwleidyddol Cymreig y cyfnod, tra bod ‘Mr Duw’ yn gân delynegol drawiadol ynglŷn â hunanamheuaeth grefyddol.
Dilynwyd Hen Ffordd Gymreig o Fyw gyda Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw (Sain, 1975) a ’Sneb yn Becso Dam (Sain, 1976), yr olaf yn alegori fodern ar stori’r mab afradlon yn ffurf record gysyniad am hanes merch o’r enw Lisa Pant Ddu. Erbyn y cyfnod hwnnw, clywid ystod eang o arddulliau yng nghaneuon y grŵp, o’r arddull werin-roc, i reggae, ffync a roc trwm. Rhoddodd Edward H y gorau i berfformio ym mis Medi 1976 mewn cyngerdd ffarwél gofiadwy ym Mhafiliwn Corwen, ac yn 1977 cyhoeddwyd cyfrol yn olrhain gyrfa’r grŵp, Doedd Neb yn Becso Dam. Fodd bynnag, ailffurfiodd y grŵp yn 1978 gan ryddhau un record sengl a dwy record hir arall – Yn Erbyn y Ffactore (Sain, 1979) a Plant y Fflam (Sain, 1980) – cyn tewi yn 1981.
Roedd Yn Erbyn y Ffactore yn cynnwys y gân roc trwm anthemig ‘Breuddwyd Roc a Rôl’ a’r faled boblogaidd ‘Ysbryd y Nos’, tra bod Plant y Fflam yn record gysyniad fwy chwedlonol a rhithiol ei naws na ’Sneb yn Becso Dam. Dyfarnwyd Gwobr Arbennig Sgrech i’r grŵp yn 1980. Yn y cyfamser, aeth Dewi Pws ymlaen i ffurfio Mochyn ’Apus gyda chyn-aelod Hywel Ffiaidd, y canwr theatrig Dyfed Thomas, a’r gitaryddion Tich Gwilym a Dafydd Pierce, tra’r aeth Hefin Elis a Cleif Harpwood i fyd y cyfryngau fel cynhyrchwyr rhaglenni teledu.
Ail-ffurfiodd y grŵp yn 1996 ar gyfer cyfres o gyngherddau yn Stiwdio Barcud, Caernarfon, a ddarlledwyd yn ddiweddarach ar S4C, ac yna ar gyfer perfformiad yng Ngŵyl y Faenol yn 2001. Yn 2005, cyhoeddwyd casgliad cyflawn o’u caneuon o dan yr enw Edward H – Mewn Bocs (Sain, 2005). Yn 2011, aeth aelodau’r band, ac eithrio Dewi Pws, ati i berfformio o dan yr enw ‘H a’r Band’. Daeth y band at ei gilydd am y tro olaf i berfformio ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych ar 9 Awst 2013 o flaen cynulleidfa o oddeutu 7,000.
Hefin Wyn
Disgyddiaeth
- Edward H Dafis [EP] (Sain S38, 1973)
- Hen Ffordd Gymreig o Fyw (Sain 1016, 1974)
- Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw (Sain 1034, 1975)
- ‘Dyma’r Urdd’ [sengl] (Sain S61, 1976)
- ‘Singl Tragwyddol’ [sengl] (Sain S63, 1976)
- ’Sneb yn Becso Dam (Sain 1053, 1976)
- ‘Uffern ar y Ddaear’/‘VC10’ [sengl] (Sain 67S, 1978)
- Yn Erbyn y Ffactore (Sain 1144M, 1979)
- Plant y Fflam (Sain C796, 1980)
- Gig Olaf Edward H Dafis (Sain DVD137, 2013)
- Casgliadau:
- Breuddwyd Roc a Rôl – 20 o’r caneuon gorau (1974–1980)(Sain SCD8027, 2001)
- Edward H – Mewn Bocs (yr holl draciau ar 6 CD) (Sain SCD2428, 2005)
Llyfryddiaeth
- Hefin Wyn, Doedd Neb yn Becso Dam (Penygroes, 1977)
- Roger Wallis a Krister Malm, ‘Sain Cymru: The Role of the Welsh Phonographic Industry in the Development of a Welsh Language Pop/Rock/Folk Scene’, Popular Music, 3 (1983), 77–105
- Sarah Hill, ‘Blerwytirhwng?’ The Place of Welsh Pop Music (Aldershot, 2007)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.