Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Lewis, Idris (1889-1952)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Cyfansoddwr a phennaeth cerdd cyntaf BBC Cymru. Fe’i ganed yn Birchgrove, Llansamlet, Abertawe. Dangosodd addewid cerddorol yn ifanc, ac yn un ar ddeg oed yr oedd yn organydd capel yr Annibynwyr yn Llansamlet. Yn ddiweddarach daeth yn organydd capel Siloh, Llanelli, lle’r oedd ei frawd, D. H. Lewis, yn arweinydd y gân. Bu’n fyfyriwr yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle’r astudiodd gyda Frederick Bridge a Charles Wood, a chyfeiliodd i Gôr [[Eisteddfod]] Genedlaethol Llundain yn Neuadd y Frenhines yn 1909. | + | Cyfansoddwr a phennaeth cerdd cyntaf BBC Cymru. Fe’i ganed yn Birchgrove, Llansamlet, Abertawe. Dangosodd addewid cerddorol yn ifanc, ac yn un ar ddeg oed yr oedd yn organydd capel yr Annibynwyr yn Llansamlet. Yn ddiweddarach daeth yn organydd capel Siloh, Llanelli, lle’r oedd ei frawd, D. H. Lewis, yn arweinydd y gân. Bu’n fyfyriwr yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle’r astudiodd gyda Frederick Bridge a Charles Wood, a chyfeiliodd i Gôr [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Llundain yn Neuadd y Frenhines yn 1909. |
− | Bu am gyfnod ar daith gyfeilio yn y Dwyrain Pell cyn ymsefydlu yn Llundain a gwneud bywoliaeth ym myd y theatr. Rhwng 1915 ac 1927 yr oedd yn un o gyfarwyddwyr cerdd Theatr Daly, a gweithiodd hefyd yn theatrau’r Lyric a’r Gaiety. Ymunodd â staff stiwdios ffilm British International Pictures yn Elstree, a dod yn gyfarwyddwr cerdd yno yn 1931. Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer nifer o ffilmiau megis ''Blossom Time'', ''Maid of the Mountains'' a ''Royal Cavalcade'', a chydweithiodd yn agos â’r tenor adnabyddus Richard Tauber, gan drefnu ac arwain cerddoriaeth yn ei ffilmiau ac arwain [[cerddorfeydd]] i’w recordiau. Bu hefyd yn organydd dwy o eglwysi Presbyteraidd Llundain ac yn [[arweinydd]] Cymdeithas Gorawl Cymry Llundain. | + | Bu am gyfnod ar daith gyfeilio yn y Dwyrain Pell cyn ymsefydlu yn Llundain a gwneud bywoliaeth ym myd y theatr. Rhwng 1915 ac 1927 yr oedd yn un o gyfarwyddwyr cerdd Theatr Daly, a gweithiodd hefyd yn theatrau’r Lyric a’r Gaiety. Ymunodd â staff stiwdios [[ffilm]] British International Pictures yn Elstree, a dod yn gyfarwyddwr cerdd yno yn 1931. Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer nifer o ffilmiau megis ''Blossom Time'', ''Maid of the Mountains'' a ''Royal Cavalcade'', a chydweithiodd yn agos â’r tenor adnabyddus Richard Tauber, gan drefnu ac arwain cerddoriaeth yn ei ffilmiau ac arwain [[Cerddorfeydd, Corau, Cerddorfeydd Ieuenctid ac Ensemblau | cerddorfeydd]] i’w recordiau. Bu hefyd yn organydd dwy o eglwysi Presbyteraidd Llundain ac yn [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinydd]] Cymdeithas Gorawl Cymry Llundain. |
Roedd Sam Jones, pennaeth y BBC yng ngogledd Cymru, wedi cael argraff dda o waith Idris Lewis ym myd ffilm, a phan hybysebwyd swydd Cyfarwyddwr Cerdd i ranbarth Cymreig newydd y BBC, fe’i cymhellodd i gynnig amdani. Yn 1935 penodwyd Idris Lewis o blith 70 o ymgeiswyr. Disgwylid i’r Cyfarwyddwr greu rhaglenni, cynnal clyweliadau ac arwain darllediadau cerddorfaol a darllediadau eraill. Daliodd y swydd o fis Rhagfyr 1935 hyd at ei ymddeoliad ym mis Tachwedd 1950. | Roedd Sam Jones, pennaeth y BBC yng ngogledd Cymru, wedi cael argraff dda o waith Idris Lewis ym myd ffilm, a phan hybysebwyd swydd Cyfarwyddwr Cerdd i ranbarth Cymreig newydd y BBC, fe’i cymhellodd i gynnig amdani. Yn 1935 penodwyd Idris Lewis o blith 70 o ymgeiswyr. Disgwylid i’r Cyfarwyddwr greu rhaglenni, cynnal clyweliadau ac arwain darllediadau cerddorfaol a darllediadau eraill. Daliodd y swydd o fis Rhagfyr 1935 hyd at ei ymddeoliad ym mis Tachwedd 1950. | ||
− | Gyda dyfodiad Idris Lewis i Gaerdydd ffurfiwyd Cerddorfa Gymreig o 20 aelod a chorff o 50 o leisiau, y BBC Welsh Singers, a fyddai’n darlledu’n gyson. Ffurfiwyd hefyd wythawdau i ganu yn y gwasanaeth boreol dyddiol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr gefnogaeth i gyfansoddwyr ifanc megis [[Grace Williams]], [[Mansel Thomas]] ac [[Arwel Hughes]] a cheisio hybu cerddoriaeth Gymreig trwy ddarlledu. Yn sgil y gwaith o baratoi a chynllunio rhaglenni trefnodd lawer iawn o gerddoriaeth, ond daeth yn adnabyddus hefyd fel cyfansoddwr caneuon. Daeth rhai ohonynt, megis ‘Bugail Aberdyfi’ o’i rieingerdd ''Alun Mabon'' a ‘Cân yr Arad Goch’, yn wirioneddol boblogaidd, felly hefyd ‘Llansteffan’, ei drefniant o alaw Gymreig i eiriau gan Wil Ifan. Mae arddull y rhain yn syml a diaddurn ond yn gynnil effeithiol. | + | Gyda dyfodiad Idris Lewis i Gaerdydd ffurfiwyd Cerddorfa Gymreig o 20 aelod a chorff o 50 o leisiau, y BBC Welsh Singers, a fyddai’n darlledu’n gyson. Ffurfiwyd hefyd wythawdau i ganu yn y gwasanaeth boreol dyddiol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr gefnogaeth i gyfansoddwyr ifanc megis [[Williams, Grace (1906-77) | Grace Williams]], [[Thomas, Mansel (1909-86) | Mansel Thomas]] ac [[Hughes, Arwel (1909-1988) | Arwel Hughes]] a cheisio hybu cerddoriaeth Gymreig trwy ddarlledu. Yn sgil y gwaith o baratoi a chynllunio rhaglenni trefnodd lawer iawn o gerddoriaeth, ond daeth yn adnabyddus hefyd fel cyfansoddwr caneuon. Daeth rhai ohonynt, megis ‘Bugail Aberdyfi’ o’i rieingerdd ''Alun Mabon'' a ‘Cân yr Arad Goch’, yn wirioneddol boblogaidd, felly hefyd ‘Llansteffan’, ei drefniant o alaw Gymreig i eiriau gan Wil Ifan. Mae arddull y rhain yn syml a diaddurn ond yn gynnil effeithiol. |
Yn 1945 cyhoeddodd gyfrol arloesol, ''Cerddoriaeth yng Nghymru'', sy’n ymdrin â hanes cerddoriaeth Gymreig ac yn rhoi sylw i ddatblygiadau diweddar, gan alw am sefydlu cerddorfa a chôr cenedlaethol, datblygiad a hyrwyddwyd yn ddiweddarach gan y BBC ei hun. | Yn 1945 cyhoeddodd gyfrol arloesol, ''Cerddoriaeth yng Nghymru'', sy’n ymdrin â hanes cerddoriaeth Gymreig ac yn rhoi sylw i ddatblygiadau diweddar, gan alw am sefydlu cerddorfa a chôr cenedlaethol, datblygiad a hyrwyddwyd yn ddiweddarach gan y BBC ei hun. |
Y diwygiad cyfredol, am 20:56, 31 Mai 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Cyfansoddwr a phennaeth cerdd cyntaf BBC Cymru. Fe’i ganed yn Birchgrove, Llansamlet, Abertawe. Dangosodd addewid cerddorol yn ifanc, ac yn un ar ddeg oed yr oedd yn organydd capel yr Annibynwyr yn Llansamlet. Yn ddiweddarach daeth yn organydd capel Siloh, Llanelli, lle’r oedd ei frawd, D. H. Lewis, yn arweinydd y gân. Bu’n fyfyriwr yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle’r astudiodd gyda Frederick Bridge a Charles Wood, a chyfeiliodd i Gôr Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn Neuadd y Frenhines yn 1909.
Bu am gyfnod ar daith gyfeilio yn y Dwyrain Pell cyn ymsefydlu yn Llundain a gwneud bywoliaeth ym myd y theatr. Rhwng 1915 ac 1927 yr oedd yn un o gyfarwyddwyr cerdd Theatr Daly, a gweithiodd hefyd yn theatrau’r Lyric a’r Gaiety. Ymunodd â staff stiwdios ffilm British International Pictures yn Elstree, a dod yn gyfarwyddwr cerdd yno yn 1931. Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer nifer o ffilmiau megis Blossom Time, Maid of the Mountains a Royal Cavalcade, a chydweithiodd yn agos â’r tenor adnabyddus Richard Tauber, gan drefnu ac arwain cerddoriaeth yn ei ffilmiau ac arwain cerddorfeydd i’w recordiau. Bu hefyd yn organydd dwy o eglwysi Presbyteraidd Llundain ac yn arweinydd Cymdeithas Gorawl Cymry Llundain.
Roedd Sam Jones, pennaeth y BBC yng ngogledd Cymru, wedi cael argraff dda o waith Idris Lewis ym myd ffilm, a phan hybysebwyd swydd Cyfarwyddwr Cerdd i ranbarth Cymreig newydd y BBC, fe’i cymhellodd i gynnig amdani. Yn 1935 penodwyd Idris Lewis o blith 70 o ymgeiswyr. Disgwylid i’r Cyfarwyddwr greu rhaglenni, cynnal clyweliadau ac arwain darllediadau cerddorfaol a darllediadau eraill. Daliodd y swydd o fis Rhagfyr 1935 hyd at ei ymddeoliad ym mis Tachwedd 1950.
Gyda dyfodiad Idris Lewis i Gaerdydd ffurfiwyd Cerddorfa Gymreig o 20 aelod a chorff o 50 o leisiau, y BBC Welsh Singers, a fyddai’n darlledu’n gyson. Ffurfiwyd hefyd wythawdau i ganu yn y gwasanaeth boreol dyddiol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr gefnogaeth i gyfansoddwyr ifanc megis Grace Williams, Mansel Thomas ac Arwel Hughes a cheisio hybu cerddoriaeth Gymreig trwy ddarlledu. Yn sgil y gwaith o baratoi a chynllunio rhaglenni trefnodd lawer iawn o gerddoriaeth, ond daeth yn adnabyddus hefyd fel cyfansoddwr caneuon. Daeth rhai ohonynt, megis ‘Bugail Aberdyfi’ o’i rieingerdd Alun Mabon a ‘Cân yr Arad Goch’, yn wirioneddol boblogaidd, felly hefyd ‘Llansteffan’, ei drefniant o alaw Gymreig i eiriau gan Wil Ifan. Mae arddull y rhain yn syml a diaddurn ond yn gynnil effeithiol.
Yn 1945 cyhoeddodd gyfrol arloesol, Cerddoriaeth yng Nghymru, sy’n ymdrin â hanes cerddoriaeth Gymreig ac yn rhoi sylw i ddatblygiadau diweddar, gan alw am sefydlu cerddorfa a chôr cenedlaethol, datblygiad a hyrwyddwyd yn ddiweddarach gan y BBC ei hun.
Rhidian Griffiths
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.