Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jones, Gwyn Hughes (g.1969)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Ganed y canwr [[clasurol]] Gwyn Hughes Jones yn Llanbedr-goch, Ynys Môn. Cychwynnodd ei addysg gerddorol trwy fynychu gwersi canu gyda Pauline Desch. Bu’n fuddugol mewn nifer o [[eisteddfodau]], gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni yn 1990. Erbyn hynny roedd wedi symud o’r ynys i astudio yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall, Llundain, lle’r enillodd Ysgoloriaeth Kathleen Ferrier yn 1992. Fel bariton y cafodd y llwyddiant hwnnw, ond aeth ymlaen wedyn i astudio gyda David Pollard fel tenor. | + | Ganed y canwr [[Clasurol a Chelfyddydol, Cerddoriaeth | clasurol]] Gwyn Hughes Jones yn Llanbedr-goch, Ynys Môn. Cychwynnodd ei addysg gerddorol trwy fynychu gwersi canu gyda Pauline Desch. Bu’n fuddugol mewn nifer o [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]], gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni yn 1990. Erbyn hynny roedd wedi symud o’r ynys i astudio yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall, Llundain, lle’r enillodd Ysgoloriaeth Kathleen Ferrier yn 1992. Fel bariton y cafodd y llwyddiant hwnnw, ond aeth ymlaen wedyn i astudio gyda David Pollard fel tenor. |
− | Yn 1995 chwaraeodd ran y Fferïwr mewn perfformiad o waith cysegredig Benjamin Britten, ''Curlew River'', gydag adolygiadau ffafriol o’r recordiad yn cyfeirio at ei ddawn wrth bortreadu’r cymeriad. Yn yr un flwyddyn ymddangosodd am y tro cyntaf gydag | + | Yn 1995 chwaraeodd ran y Fferïwr mewn perfformiad o waith cysegredig Benjamin Britten, ''Curlew River'', gydag adolygiadau ffafriol o’r recordiad yn cyfeirio at ei ddawn wrth bortreadu’r cymeriad. Yn yr un flwyddyn ymddangosodd am y tro cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru gan chwarae rôl Ismaele yn [[opera]] Verdi ''Nabucco'', a derbyniodd glod yn y wasg gerddorol am berfformiad hynod addawol. Aeth ymlaen i wneud ymddangosiadau rheolaidd gyda’r cwmni mewn operâu fel ''Rigoletto'' (2005), ''La Bohème'' (2009), ''Carmen'' (2010) a ''Manon Lescaut'' (2014). |
Perfformia’n rheolaidd gydag Opera Cenedlaethol Lloegr yn ogystal; fe’i canmolwyd yn y wasg am ei bortread dirdynnol ac angerddol o gymeriad Macduff yn eu cynhyrchiad o ''Macbeth'' gan Verdi, a rhyddhawyd y recordiad o’r perfformiad ar label Chandos yn 2014. Yn 2015 perfformiodd mewn cynhyrchiad o waith Wagner am y tro cyntaf, gan chwarae rhan Walter von Stolzing mewn cynhyrchiad Saesneg o ''The Mastersingers of Nuremberg;'' ystyriai’r tenor ei berfformiad o waith Wagner yn ‘garreg filltir’ bersonol iddo. | Perfformia’n rheolaidd gydag Opera Cenedlaethol Lloegr yn ogystal; fe’i canmolwyd yn y wasg am ei bortread dirdynnol ac angerddol o gymeriad Macduff yn eu cynhyrchiad o ''Macbeth'' gan Verdi, a rhyddhawyd y recordiad o’r perfformiad ar label Chandos yn 2014. Yn 2015 perfformiodd mewn cynhyrchiad o waith Wagner am y tro cyntaf, gan chwarae rhan Walter von Stolzing mewn cynhyrchiad Saesneg o ''The Mastersingers of Nuremberg;'' ystyriai’r tenor ei berfformiad o waith Wagner yn ‘garreg filltir’ bersonol iddo. | ||
− | Ar lefel ryngwladol, mae wedi | + | Ar lefel ryngwladol, mae wedi perfformio ledled Ewrop, gan gynnwys Paris a Lyon. Ymddangosodd ar lwyfannau theatrig yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf mewn rôl yn ''Falstaff'' Verdi (Chicago, 1999) ac yna’r Opera Metropolitan, Efrog Newydd, ddwy flynedd yn ddiweddarach. Mae’n canu mewn gweithiau cyngerdd yn ogystal, gan gynnwys Symffoni Rhif 9 (Corawl) Beethoven, ''Messiah'' Handel a ''Das Lied von der Erde'' Mahler. |
− | Mae wedi rhyddhau sawl albwm ar label Sain, sydd oll yn arddangos ei allu i addasu’n esmwyth i sawl ''genre'' cerddorol, boed yn ariâu operatig, [[emyn-donau]] neu [[alawon traddodiadol]] Cymreig. Gydag [[Annette Bryn Parri]] fel cyfeilydd, rhyddhawyd ''Tenor'' (Sain, 1996), ''Baner ein Gwlad'' (Sain, 1998) a ''Canu’r Cymry'' (Sain, 2011); yn yr olaf o’r rhain telir teyrnged i’r cyfansoddwyr a fu’n flaengar yn y traddodiad Cymreig o ganu unawdau. Agora’r albwm gyda pherfformiad beiddgar a deinamig o ‘Mentra Gwen’, tra clywir sioncrwydd ac ysgafnder yn ‘O Na Byddai’n Haf o Hyd’, tristwch yn ‘Yr Hen Gerddor’, difrifoldeb ac angerdd yn ‘Gweddi Pechadur’ a balchder cenedlaethol yn ‘Yr Ornest’, ‘Cymru Fach’, ‘Gwlad y Delyn’ a ‘Cymru Annwyl’, sy’n cloi’r casgliad. | + | Mae wedi rhyddhau sawl albwm ar label Sain, sydd oll yn arddangos ei allu i addasu’n esmwyth i sawl ''genre'' cerddorol, boed yn ariâu operatig, [[Emyn-donau | emyn-donau]] neu [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon traddodiadol]] Cymreig. Gydag [[Parri, Annette Bryn (g.1956) | Annette Bryn Parri]] fel cyfeilydd, rhyddhawyd ''Tenor'' (Sain, 1996), ''Baner ein Gwlad'' (Sain, 1998) a ''Canu’r Cymry'' (Sain, 2011); yn yr olaf o’r rhain telir teyrnged i’r cyfansoddwyr a fu’n flaengar yn y traddodiad Cymreig o ganu unawdau. Agora’r albwm gyda pherfformiad beiddgar a deinamig o ‘Mentra Gwen’, tra clywir sioncrwydd ac ysgafnder yn ‘O Na Byddai’n Haf o Hyd’, tristwch yn ‘Yr Hen Gerddor’, difrifoldeb ac angerdd yn ‘Gweddi Pechadur’ a balchder cenedlaethol yn ‘Yr Ornest’, ‘Cymru Fach’, ‘Gwlad y Delyn’ a ‘Cymru Annwyl’, sy’n cloi’r casgliad. |
Cred y tenor fod perfformio’r caneuon hyn yn gydnabyddiaeth o ''repertoire'' canu Eisteddfodol ei ieuenctid; mae’n arddangos cryn hyder wrth ddychwelyd at ei wreiddiau cerddorol a theimla ei bod yn ddyletswydd arno i rannu ei ddiwylliant Cymreig â chynulleidfa ehangach. | Cred y tenor fod perfformio’r caneuon hyn yn gydnabyddiaeth o ''repertoire'' canu Eisteddfodol ei ieuenctid; mae’n arddangos cryn hyder wrth ddychwelyd at ei wreiddiau cerddorol a theimla ei bod yn ddyletswydd arno i rannu ei ddiwylliant Cymreig â chynulleidfa ehangach. |
Y diwygiad cyfredol, am 19:44, 13 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ganed y canwr clasurol Gwyn Hughes Jones yn Llanbedr-goch, Ynys Môn. Cychwynnodd ei addysg gerddorol trwy fynychu gwersi canu gyda Pauline Desch. Bu’n fuddugol mewn nifer o eisteddfodau, gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni yn 1990. Erbyn hynny roedd wedi symud o’r ynys i astudio yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall, Llundain, lle’r enillodd Ysgoloriaeth Kathleen Ferrier yn 1992. Fel bariton y cafodd y llwyddiant hwnnw, ond aeth ymlaen wedyn i astudio gyda David Pollard fel tenor.
Yn 1995 chwaraeodd ran y Fferïwr mewn perfformiad o waith cysegredig Benjamin Britten, Curlew River, gydag adolygiadau ffafriol o’r recordiad yn cyfeirio at ei ddawn wrth bortreadu’r cymeriad. Yn yr un flwyddyn ymddangosodd am y tro cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru gan chwarae rôl Ismaele yn opera Verdi Nabucco, a derbyniodd glod yn y wasg gerddorol am berfformiad hynod addawol. Aeth ymlaen i wneud ymddangosiadau rheolaidd gyda’r cwmni mewn operâu fel Rigoletto (2005), La Bohème (2009), Carmen (2010) a Manon Lescaut (2014).
Perfformia’n rheolaidd gydag Opera Cenedlaethol Lloegr yn ogystal; fe’i canmolwyd yn y wasg am ei bortread dirdynnol ac angerddol o gymeriad Macduff yn eu cynhyrchiad o Macbeth gan Verdi, a rhyddhawyd y recordiad o’r perfformiad ar label Chandos yn 2014. Yn 2015 perfformiodd mewn cynhyrchiad o waith Wagner am y tro cyntaf, gan chwarae rhan Walter von Stolzing mewn cynhyrchiad Saesneg o The Mastersingers of Nuremberg; ystyriai’r tenor ei berfformiad o waith Wagner yn ‘garreg filltir’ bersonol iddo.
Ar lefel ryngwladol, mae wedi perfformio ledled Ewrop, gan gynnwys Paris a Lyon. Ymddangosodd ar lwyfannau theatrig yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf mewn rôl yn Falstaff Verdi (Chicago, 1999) ac yna’r Opera Metropolitan, Efrog Newydd, ddwy flynedd yn ddiweddarach. Mae’n canu mewn gweithiau cyngerdd yn ogystal, gan gynnwys Symffoni Rhif 9 (Corawl) Beethoven, Messiah Handel a Das Lied von der Erde Mahler.
Mae wedi rhyddhau sawl albwm ar label Sain, sydd oll yn arddangos ei allu i addasu’n esmwyth i sawl genre cerddorol, boed yn ariâu operatig, emyn-donau neu alawon traddodiadol Cymreig. Gydag Annette Bryn Parri fel cyfeilydd, rhyddhawyd Tenor (Sain, 1996), Baner ein Gwlad (Sain, 1998) a Canu’r Cymry (Sain, 2011); yn yr olaf o’r rhain telir teyrnged i’r cyfansoddwyr a fu’n flaengar yn y traddodiad Cymreig o ganu unawdau. Agora’r albwm gyda pherfformiad beiddgar a deinamig o ‘Mentra Gwen’, tra clywir sioncrwydd ac ysgafnder yn ‘O Na Byddai’n Haf o Hyd’, tristwch yn ‘Yr Hen Gerddor’, difrifoldeb ac angerdd yn ‘Gweddi Pechadur’ a balchder cenedlaethol yn ‘Yr Ornest’, ‘Cymru Fach’, ‘Gwlad y Delyn’ a ‘Cymru Annwyl’, sy’n cloi’r casgliad.
Cred y tenor fod perfformio’r caneuon hyn yn gydnabyddiaeth o repertoire canu Eisteddfodol ei ieuenctid; mae’n arddangos cryn hyder wrth ddychwelyd at ei wreiddiau cerddorol a theimla ei bod yn ddyletswydd arno i rannu ei ddiwylliant Cymreig â chynulleidfa ehangach.
Tristian Evans
Disgyddiaeth
- Benjamin Britten, Curlew River (Koch/Schwann 3-1397- 2, 1996)
- Tenor (Sain SCD2124, 1996)
- Baner ein Gwlad (Sain SCD2189, 1998)
- Canu’r Cymry (Sain SCD2549, 2011)
- Verdi, Macbeth (Chandos CHAN3180-2, 2014)
Llyfryddiaeth
- Michael Oliver, ‘Britten Curlew River, Op. 71’, Gramophone (Mai, 1996), 115
- ‘Canu dros Gymru: portread o Gwyn Hughes Jones’, Golwg (26 Mehefin 1997), 26
- Lisa Bowen, ‘Gwyn Hughes Jones’, Opera Friend, 78 (Ebrill, 2011), 8–9
- Non Tudur, ‘Cyfrifoldeb y tenor i’w wlad’, Golwg (16 Chwefror 2012), 20
- Rupert Christiansen, ‘Verdi: Macbeth: “sharply energised”,’ The Telegraph (24 Ebrill 2014)
- ‘Verdi Macbeth’, Gramophone (Mehefin, 2014), 92
- Sioned Webb, ‘Colosws Cymraeg y Coliseum’, Barn, 626 (Mawrth, 2015), 32–3
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.