Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sefydliadau"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 5: Llinell 5:
 
Esiamplau o sefydliadau cymdeithasol sydd â rôl benodol o fewn cymdeithas yw’r [[teulu]], y system addysg, [[crefydd]], a’r llywodraeth. Er enghraifft, yn ôl [[swyddogaetholdeb]] prif rôl y [[teulu]] yw atgyfnerthu a [[cymdeithasoli|chymdeithasoli]] unigolion.
 
Esiamplau o sefydliadau cymdeithasol sydd â rôl benodol o fewn cymdeithas yw’r [[teulu]], y system addysg, [[crefydd]], a’r llywodraeth. Er enghraifft, yn ôl [[swyddogaetholdeb]] prif rôl y [[teulu]] yw atgyfnerthu a [[cymdeithasoli|chymdeithasoli]] unigolion.
  
Mae theorïau consensws fel [[swyddogaetholdeb]] yn gweld sefydliadau cymdeithasol yn hanfodol i oroesiad cymdeithas (gweler Prys a Hodges 2020). Ond mae theorïau gwrthdaro megis [[Marcsaeth]], [[ffeministiaeth]], [[damcaniaeth feirniadol hil]], [[damcaniaeth feirniadol anabledd]], [[ôl-drefedigaethedd]] a [[theori cwia]r yn gweld bod sefydliadau cymdeithasol yn hytrach yn cynnal [[anghydraddoldeb|anghydraddoldebau]] gan eu bod yn gweithredu er mwyn ffafrio un grŵp dros eraill.
+
Mae theorïau consensws fel [[swyddogaetholdeb]] yn gweld sefydliadau cymdeithasol yn hanfodol i oroesiad cymdeithas (gweler Prys a Hodges 2020). Ond mae theorïau gwrthdaro megis [[Marcsaeth]], [[ffeministiaeth]], [[damcaniaeth feirniadol hil]], [[damcaniaeth feirniadol anabledd]], [[ôl-drefedigaethedd]] a [[theori cwiar] yn gweld bod sefydliadau cymdeithasol yn hytrach yn cynnal [[anghydraddoldeb|anghydraddoldebau]] gan eu bod yn gweithredu er mwyn ffafrio un grŵp dros eraill.
  
 
'''Adam Pierce'''
 
'''Adam Pierce'''

Y diwygiad cyfredol, am 13:56, 7 Medi 2024

(Saesneg: Institutions)

Mae gan gymdeithas anghenion sylfaenol. Gan eu bod yn cyflawni swyddogaethau hanfodol i’r gymdeithas ehangach, mae rôl sefydliadau cymdeithasol yn ganolog i sylfaen cymdeithas. Mae sefydliadau cymdeithasol yn cynorthwyo cymdeithas i weithredu’n effeithiol drwy gynnal anghenion sylfaenol cymdeithas (Schaefer 2012).

Esiamplau o sefydliadau cymdeithasol sydd â rôl benodol o fewn cymdeithas yw’r teulu, y system addysg, crefydd, a’r llywodraeth. Er enghraifft, yn ôl swyddogaetholdeb prif rôl y teulu yw atgyfnerthu a chymdeithasoli unigolion.

Mae theorïau consensws fel swyddogaetholdeb yn gweld sefydliadau cymdeithasol yn hanfodol i oroesiad cymdeithas (gweler Prys a Hodges 2020). Ond mae theorïau gwrthdaro megis Marcsaeth, ffeministiaeth, damcaniaeth feirniadol hil, damcaniaeth feirniadol anabledd, ôl-drefedigaethedd a [[theori cwiar] yn gweld bod sefydliadau cymdeithasol yn hytrach yn cynnal anghydraddoldebau gan eu bod yn gweithredu er mwyn ffafrio un grŵp dros eraill.

Adam Pierce

Llyfryddiaeth

Prys, C. a Hodges, R. (2020), Cyflwyniad i Gymdeithaseg https://indd.adobe.com/view/0b0da3d8-e44e-4900-8475-a3c016add729 [Cyrchwyd: 29 Medi 2021].

Schaefer, R. (2012), Sociology: a brief introduction (New York: McGraw-Hill).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.