Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Lewis, Jeffrey (g.1942)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Un o gyfansoddwyr Cymreig amlycaf ei genhedlaeth. Fe’i ganed yn Aberafan a’i addysgu yng Ngholeg [[Prifysgol]] Cymru, Caerdydd. Bu’n astudio hefyd gyda György Ligeti (1923-2006) a Karlheinz Stockhausen (1928-2007) yn Darmstadt, Bogusław Schaeffer (g.1929) yn Kraków a Don Banks (1923-80) yn Llundain. Yn hynny o beth, derbyniodd addysg gan rai o’r athrawon mwyaf blaengar ar adeg allweddol yn ei hanes.
+
Un o gyfansoddwyr Cymreig amlycaf ei genhedlaeth. Fe’i ganed yn Aberafan a’i addysgu yng Ngholeg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru, Caerdydd. Bu’n astudio hefyd gyda György Ligeti (1923-2006) a Karlheinz Stockhausen (1928-2007) yn Darmstadt, Bogusław Schaeffer (g.1929) yn Kraków a Don Banks (1923-80) yn Llundain. Yn hynny o beth, derbyniodd addysg gan rai o’r athrawon mwyaf blaengar ar adeg allweddol yn ei hanes.
  
 
Cafodd gyfle i drosglwyddo’r hyn a ddysgwyd ganddo i fyfyrwyr Coleg Cerdd Leeds, lle bu’n gweithio rhwng 1969 ac 1972, a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle bu’n darlithio rhwng 1973 ac 1992. Yn gynnar yn ei yrfa ysgrifennodd nifer o ddarnau a oedd yn torri tir go newydd o fewn y cyd-destun Cymreig. Gwelir ffrwyth ei astudiaethau tramor mewn nifer o weithiau o’r 1960au ymlaen, er enghraifft ''Mutations 1'' (1969), ''Aurora'' (1973), ''Scenario'' (1975), ''Praeludium'' (1975), ''Memoria'' (1978) a ''Lumina Lucis'' (1982) - darnau gafaelgar i gerddorfa sy’n llawn lliw a drama ond yn symud yn raddol tuag at lonyddwch gorffenedig o ran naws, yn fwyaf arbennig yn y ddau ddarn olaf. Tuedda i ddefnyddio rhythmau ymwthiol a harmonïau cymhleth, yn enwedig yn y gweithiau cynnar, ond mae’n cyferbynnu hyn gyda llonyddwch a symlrwydd ac yn ei weithiau diweddaraf yn consurio byd dychmygol, breuddwydiol, lle mae amser yn amherthnasol neu’n ddiderfyn.
 
Cafodd gyfle i drosglwyddo’r hyn a ddysgwyd ganddo i fyfyrwyr Coleg Cerdd Leeds, lle bu’n gweithio rhwng 1969 ac 1972, a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle bu’n darlithio rhwng 1973 ac 1992. Yn gynnar yn ei yrfa ysgrifennodd nifer o ddarnau a oedd yn torri tir go newydd o fewn y cyd-destun Cymreig. Gwelir ffrwyth ei astudiaethau tramor mewn nifer o weithiau o’r 1960au ymlaen, er enghraifft ''Mutations 1'' (1969), ''Aurora'' (1973), ''Scenario'' (1975), ''Praeludium'' (1975), ''Memoria'' (1978) a ''Lumina Lucis'' (1982) - darnau gafaelgar i gerddorfa sy’n llawn lliw a drama ond yn symud yn raddol tuag at lonyddwch gorffenedig o ran naws, yn fwyaf arbennig yn y ddau ddarn olaf. Tuedda i ddefnyddio rhythmau ymwthiol a harmonïau cymhleth, yn enwedig yn y gweithiau cynnar, ond mae’n cyferbynnu hyn gyda llonyddwch a symlrwydd ac yn ei weithiau diweddaraf yn consurio byd dychmygol, breuddwydiol, lle mae amser yn amherthnasol neu’n ddiderfyn.
  
Yn gynnar yn ei yrfa perfformiodd [[Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]] ei ''Fanfares with Variations'' a’r ''Chamber Concerto'', a chlywyd ei ''Epitaphium - Children of the Sun'' yng [[Ngŵyl]] Cheltenham yn 1967. Treuliodd gyfnod ym Mharis gyda’r New Music Ensemble yn perfformio cerddoriaeth newydd ac enillodd wobrau yng nghystadlaethau Stroud a Zwolle yn yr Iseldiroedd wrth i’w yrfa ddatblygu. Cafodd ei ddarn ''Epitaph for Abelard & Heloise'' (1979) dderbyniad da ac fe’i perfformiwyd gan Odaline de la Martinez a’r ensemble Lontano.
+
Yn gynnar yn ei yrfa perfformiodd [[Cerddorfeydd, Corau, Cerddorfeydd Ieuenctid ac Ensemblau | Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]] ei ''Fanfares with Variations'' a’r ''Chamber Concerto'', a chlywyd ei ''Epitaphium - Children of the Sun'' yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | Ngŵyl]] Cheltenham yn 1967. Treuliodd gyfnod ym Mharis gyda’r New Music Ensemble yn perfformio cerddoriaeth newydd ac enillodd wobrau yng nghystadlaethau Stroud a Zwolle yn yr Iseldiroedd wrth i’w yrfa ddatblygu. Cafodd ei ddarn ''Epitaph for Abelard & Heloise'' (1979) dderbyniad da ac fe’i perfformiwyd gan Odaline de la Martinez a’r ensemble Lontano.
  
Ar gyfer doniau ''virtuoso'' Gillian Weir yr ysgrifennwyd dau o’i ddarnau organ, ''Momentum'' (1977) ac ''Esultante'' (1977), ac ynddynt ceir awgrym o allu allweddellol sylweddol y cyfansoddwr, sydd ei hun yn organydd medrus. Mae’n hoff o ysgrifennu ar gyfer unigolion y mae’n eu hadnabod, ac fe wnaeth y pianydd Jana Frenklova hyrwyddo gweithiau trawiadol fel ''Tableau'' (1980), ''Fantasy'' (1983) a ''Threnody'' (1990). Cyfansoddodd nifer o ddarnau [[corawl]], yn arbennig ''Carmen Paschale'' (1981), ''Hymnus Ante Somnum'' (1985), ''Westminster Mass'' (1990), ''Recordatio'' (1999) ac yn ddiweddarach gyfres o un ar ddeg siant, ''Sacred Chants'' (2005). Un o’i weithiau mwyaf effeithiol yw ''Silentia Noctis'' ar gyfer llais uchel a phiano lle mae’r soprano’n gweu patrymau llesmeiriol wrth hofran uwchben y cyfeiliant. Gwaith uchelgeisiol yw’r Concerto i Biano (1989) lle ceir cyfeiriadaeth rythmig eang ac ysgrifennu idiomatig a thechnegol feistrolgar ar gyfer yr unawdydd.
+
Ar gyfer doniau ''virtuoso'' Gillian Weir yr ysgrifennwyd dau o’i ddarnau organ, ''Momentum'' (1977) ac ''Esultante'' (1977), ac ynddynt ceir awgrym o allu allweddellol sylweddol y cyfansoddwr, sydd ei hun yn organydd medrus. Mae’n hoff o ysgrifennu ar gyfer unigolion y mae’n eu hadnabod, ac fe wnaeth y pianydd Jana Frenklova hyrwyddo gweithiau trawiadol fel ''Tableau'' (1980), ''Fantasy'' (1983) a ''Threnody'' (1990). Cyfansoddodd nifer o ddarnau [[Corau Cymysg | corawl]], yn arbennig ''Carmen Paschale'' (1981), ''Hymnus Ante Somnum'' (1985), ''Westminster Mass'' (1990), ''Recordatio'' (1999) ac yn ddiweddarach gyfres o un ar ddeg siant, ''Sacred Chants'' (2005). Un o’i weithiau mwyaf effeithiol yw ''Silentia Noctis'' ar gyfer llais uchel a phiano lle mae’r soprano’n gweu patrymau llesmeiriol wrth hofran uwchben y cyfeiliant. Gwaith uchelgeisiol yw’r Concerto i Biano (1989) lle ceir cyfeiriadaeth rythmig eang ac ysgrifennu idiomatig a thechnegol feistrolgar ar gyfer yr unawdydd.
  
 
Mae Jeffrey Lewis yn gyfansoddwr sydd wedi cymysgu dylanwadau allgerddorol gyda’r haniaethol trwy gydol ei yrfa, ac mae diffuantrwydd ei weledigaeth wedi ennyn parch mawr ymhlith llawer o’i gefnogwyr a gwybodusion cerddoriaeth fodern.
 
Mae Jeffrey Lewis yn gyfansoddwr sydd wedi cymysgu dylanwadau allgerddorol gyda’r haniaethol trwy gydol ei yrfa, ac mae diffuantrwydd ei weledigaeth wedi ennyn parch mawr ymhlith llawer o’i gefnogwyr a gwybodusion cerddoriaeth fodern.

Y diwygiad cyfredol, am 20:58, 31 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o gyfansoddwyr Cymreig amlycaf ei genhedlaeth. Fe’i ganed yn Aberafan a’i addysgu yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Bu’n astudio hefyd gyda György Ligeti (1923-2006) a Karlheinz Stockhausen (1928-2007) yn Darmstadt, Bogusław Schaeffer (g.1929) yn Kraków a Don Banks (1923-80) yn Llundain. Yn hynny o beth, derbyniodd addysg gan rai o’r athrawon mwyaf blaengar ar adeg allweddol yn ei hanes.

Cafodd gyfle i drosglwyddo’r hyn a ddysgwyd ganddo i fyfyrwyr Coleg Cerdd Leeds, lle bu’n gweithio rhwng 1969 ac 1972, a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle bu’n darlithio rhwng 1973 ac 1992. Yn gynnar yn ei yrfa ysgrifennodd nifer o ddarnau a oedd yn torri tir go newydd o fewn y cyd-destun Cymreig. Gwelir ffrwyth ei astudiaethau tramor mewn nifer o weithiau o’r 1960au ymlaen, er enghraifft Mutations 1 (1969), Aurora (1973), Scenario (1975), Praeludium (1975), Memoria (1978) a Lumina Lucis (1982) - darnau gafaelgar i gerddorfa sy’n llawn lliw a drama ond yn symud yn raddol tuag at lonyddwch gorffenedig o ran naws, yn fwyaf arbennig yn y ddau ddarn olaf. Tuedda i ddefnyddio rhythmau ymwthiol a harmonïau cymhleth, yn enwedig yn y gweithiau cynnar, ond mae’n cyferbynnu hyn gyda llonyddwch a symlrwydd ac yn ei weithiau diweddaraf yn consurio byd dychmygol, breuddwydiol, lle mae amser yn amherthnasol neu’n ddiderfyn.

Yn gynnar yn ei yrfa perfformiodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ei Fanfares with Variations a’r Chamber Concerto, a chlywyd ei Epitaphium - Children of the Sun yng Ngŵyl Cheltenham yn 1967. Treuliodd gyfnod ym Mharis gyda’r New Music Ensemble yn perfformio cerddoriaeth newydd ac enillodd wobrau yng nghystadlaethau Stroud a Zwolle yn yr Iseldiroedd wrth i’w yrfa ddatblygu. Cafodd ei ddarn Epitaph for Abelard & Heloise (1979) dderbyniad da ac fe’i perfformiwyd gan Odaline de la Martinez a’r ensemble Lontano.

Ar gyfer doniau virtuoso Gillian Weir yr ysgrifennwyd dau o’i ddarnau organ, Momentum (1977) ac Esultante (1977), ac ynddynt ceir awgrym o allu allweddellol sylweddol y cyfansoddwr, sydd ei hun yn organydd medrus. Mae’n hoff o ysgrifennu ar gyfer unigolion y mae’n eu hadnabod, ac fe wnaeth y pianydd Jana Frenklova hyrwyddo gweithiau trawiadol fel Tableau (1980), Fantasy (1983) a Threnody (1990). Cyfansoddodd nifer o ddarnau corawl, yn arbennig Carmen Paschale (1981), Hymnus Ante Somnum (1985), Westminster Mass (1990), Recordatio (1999) ac yn ddiweddarach gyfres o un ar ddeg siant, Sacred Chants (2005). Un o’i weithiau mwyaf effeithiol yw Silentia Noctis ar gyfer llais uchel a phiano lle mae’r soprano’n gweu patrymau llesmeiriol wrth hofran uwchben y cyfeiliant. Gwaith uchelgeisiol yw’r Concerto i Biano (1989) lle ceir cyfeiriadaeth rythmig eang ac ysgrifennu idiomatig a thechnegol feistrolgar ar gyfer yr unawdydd.

Mae Jeffrey Lewis yn gyfansoddwr sydd wedi cymysgu dylanwadau allgerddorol gyda’r haniaethol trwy gydol ei yrfa, ac mae diffuantrwydd ei weledigaeth wedi ennyn parch mawr ymhlith llawer o’i gefnogwyr a gwybodusion cerddoriaeth fodern.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth ddethol

  • D. Henshall, ‘Memento Mori – an appreciation of Jeffrey Lewis’s recent orchestral music’, Cerddoriaeth Cymru, 6/6 (1980), 61–70; a 6/7 (1981), 32–40
  • C. Tommis, ‘Y Gitâr Gymreig – Jeffrey Lewis’, Guitar International (Gorffennaf, 1989), 22–7
  • D. K. Jones, nodiadau ar gyfer recordiad Threnody, Cantus, Teneritas, Sonante a Trilogy (Asc CSCD43, 2000)
  • ———, ‘A glimpse of infinity: time and stillness in the music of Jeffrey Lewis’, The Musical Times, 145/1889 (Gaeaf, 2004), 65–74
  • ———, nodiadau ar gyfer recordiad Epitaph for Abelard and Heloise, Litania, Musica Aeterna (Campion Cameo CAMEO2037, 2005)
  • ———, The Music of Jeffrey Lewis (traethawd DPhil, Prifysgol Manceinion, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.