Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Roberts, Richard (Caernarfon) (1769-1855)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Telynor, datgeinydd, athro a beirniad eisteddfodol yng Nghymru ddiwedd y 18g. a dechrau’r 19g. Fe’i ganed yn Nhaltreuddyn, Dyffryn Ardudwy, ac er iddo fwrw ei brentisiaeth fel telynor yng Nghefn Mein ym mhlwyf Llannor, Llŷn, a Phlas Hen, Llanystumdwy (sef Talhenbont bellach), treuliodd gyfran helaeth o’i yrfa broffesiynol yn arfer ei grefft yng Nghaernarfon, lle’r oedd cynulleidfa barod a phoblogaeth fwy sylweddol i’w gefnogi. Fel un o delynorion amryddawn ei ddydd, cysylltir ei enw fel athro â’r to ifanc o gerddorion a fu’n cynnal y [[delyn deires]] yng Nghymru’r 19g., rhai fel [[John Roberts]] (Telynor Cymru), John Wood Jones (gw. [[Woodiaid, Teulu’r]]) a Huw Pugh o Ddolgellau.
+
Telynor, datgeinydd, athro a beirniad eisteddfodol yng Nghymru ddiwedd y 18g. a dechrau’r 19g. Fe’i ganed yn Nhaltreuddyn, Dyffryn Ardudwy, ac er iddo fwrw ei brentisiaeth fel telynor yng Nghefn Mein ym mhlwyf Llannor, Llŷn, a Phlas Hen, Llanystumdwy (sef Talhenbont bellach), treuliodd gyfran helaeth o’i yrfa broffesiynol yn arfer ei grefft yng Nghaernarfon, lle’r oedd cynulleidfa barod a phoblogaeth fwy sylweddol i’w gefnogi. Fel un o delynorion amryddawn ei ddydd, cysylltir ei enw fel athro â’r to ifanc o gerddorion a fu’n cynnal y [[Telyn Deires | delyn deires]] yng Nghymru’r 19g., rhai fel [[Roberts, John (Alaw Elwy, Telynor Cymru; 1816-94) | John Roberts]] (Telynor Cymru), John Wood Jones (gw. [[Woodiaid, Teulu’r]]) a Huw Pugh o Ddolgellau.
  
Collodd Richard Roberts ei olwg yn ystod ei blentyndod o ganlyniad i’r frech wen ond mynnodd ennill ei fywoliaeth trwy ddiddanu a pherfformio’n gyhoeddus, gan ddilyn ôl troed rhai fel [[John Parry Ddall]] (Rhiwabon). William Williams (Wil Penmorfa) oedd ei athro pennaf ond daliai gyswllt agos â [[John Parry]] (Bardd Alaw) a edmygai ei grefft a’i allu yn fawr fel y nododd yn ''The Welsh Harper'' (Cyf. 2, 1848). Daeth Richard Roberts i enwogrwydd, fodd bynnag, yn sgil ei lwyddiant eisteddfodol fel telynor yn Wrecsam (1820) ac yn Ninbych (1828) a hefyd fel beirniad yn [[Eisteddfodau]]’r Fenni (1843), y Drenewydd, Aberffraw a Rhuddlan (1850).
+
Collodd Richard Roberts ei olwg yn ystod ei blentyndod o ganlyniad i’r frech wen ond mynnodd ennill ei fywoliaeth trwy ddiddanu a pherfformio’n gyhoeddus, gan ddilyn ôl troed rhai fel [[Parry, John (Parry Ddall; c.1710-82) | John Parry Ddall]] (Rhiwabon). William Williams (Wil Penmorfa) oedd ei athro pennaf ond daliai gyswllt agos â [[Parry, John (Bardd Alaw; 1776-1851) | John Parry]] (Bardd Alaw) a edmygai ei grefft a’i allu yn fawr fel y nododd yn ''The Welsh Harper'' (Cyf. 2, 1848). Daeth Richard Roberts i enwogrwydd, fodd bynnag, yn sgil ei lwyddiant eisteddfodol fel telynor yn Wrecsam (1820) ac yn Ninbych (1828) a hefyd fel beirniad yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfodau]]’r Fenni (1843), y Drenewydd, Aberffraw a Rhuddlan (1850).
  
 
Ei gyfraniad mwyaf i fyd telynori yng Nghymru oedd ei ymdrechion i hyrwyddo’r defnydd o’r offeryn yn Llundain (e.e. ymhlith aelodau Cymdeithas y Gwyneddigion) a’i gasgliad cyhoeddedig ''Cambrian Harmony'' (1829) a oedd yn ffrwyth blynyddoedd lawer o gasglu ceinciau’r traddodiad Cymreig. Gwelir bod y gyfrol hon yn wahanol iawn i brif gasgliadau cerddorol y 19g. Ynddi ceir 30 cainc ar gyfer y delyn deires sy’n gynnyrch y traddodiad llafar (wedi eu copïo gan gerddor cymwys, oherwydd dallineb Richard Roberts) a oedd yn dal mewn bri yr adeg honno, deunydd sy’n seiliedig ar geinciau ar gyfer y [[ffidil]] a welir hefyd yn [[Llawysgrif]] Morris Edwards (Llsgr. Bangor 2294) o gerddoriaeth, ynghyd â rhai ceinciau a atgynhyrchwyd o gasgliadau cerddoriaeth y 19g.
 
Ei gyfraniad mwyaf i fyd telynori yng Nghymru oedd ei ymdrechion i hyrwyddo’r defnydd o’r offeryn yn Llundain (e.e. ymhlith aelodau Cymdeithas y Gwyneddigion) a’i gasgliad cyhoeddedig ''Cambrian Harmony'' (1829) a oedd yn ffrwyth blynyddoedd lawer o gasglu ceinciau’r traddodiad Cymreig. Gwelir bod y gyfrol hon yn wahanol iawn i brif gasgliadau cerddorol y 19g. Ynddi ceir 30 cainc ar gyfer y delyn deires sy’n gynnyrch y traddodiad llafar (wedi eu copïo gan gerddor cymwys, oherwydd dallineb Richard Roberts) a oedd yn dal mewn bri yr adeg honno, deunydd sy’n seiliedig ar geinciau ar gyfer y [[ffidil]] a welir hefyd yn [[Llawysgrif]] Morris Edwards (Llsgr. Bangor 2294) o gerddoriaeth, ynghyd â rhai ceinciau a atgynhyrchwyd o gasgliadau cerddoriaeth y 19g.

Diwygiad 20:22, 7 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Telynor, datgeinydd, athro a beirniad eisteddfodol yng Nghymru ddiwedd y 18g. a dechrau’r 19g. Fe’i ganed yn Nhaltreuddyn, Dyffryn Ardudwy, ac er iddo fwrw ei brentisiaeth fel telynor yng Nghefn Mein ym mhlwyf Llannor, Llŷn, a Phlas Hen, Llanystumdwy (sef Talhenbont bellach), treuliodd gyfran helaeth o’i yrfa broffesiynol yn arfer ei grefft yng Nghaernarfon, lle’r oedd cynulleidfa barod a phoblogaeth fwy sylweddol i’w gefnogi. Fel un o delynorion amryddawn ei ddydd, cysylltir ei enw fel athro â’r to ifanc o gerddorion a fu’n cynnal y delyn deires yng Nghymru’r 19g., rhai fel John Roberts (Telynor Cymru), John Wood Jones (gw. Woodiaid, Teulu’r) a Huw Pugh o Ddolgellau.

Collodd Richard Roberts ei olwg yn ystod ei blentyndod o ganlyniad i’r frech wen ond mynnodd ennill ei fywoliaeth trwy ddiddanu a pherfformio’n gyhoeddus, gan ddilyn ôl troed rhai fel John Parry Ddall (Rhiwabon). William Williams (Wil Penmorfa) oedd ei athro pennaf ond daliai gyswllt agos â John Parry (Bardd Alaw) a edmygai ei grefft a’i allu yn fawr fel y nododd yn The Welsh Harper (Cyf. 2, 1848). Daeth Richard Roberts i enwogrwydd, fodd bynnag, yn sgil ei lwyddiant eisteddfodol fel telynor yn Wrecsam (1820) ac yn Ninbych (1828) a hefyd fel beirniad yn Eisteddfodau’r Fenni (1843), y Drenewydd, Aberffraw a Rhuddlan (1850).

Ei gyfraniad mwyaf i fyd telynori yng Nghymru oedd ei ymdrechion i hyrwyddo’r defnydd o’r offeryn yn Llundain (e.e. ymhlith aelodau Cymdeithas y Gwyneddigion) a’i gasgliad cyhoeddedig Cambrian Harmony (1829) a oedd yn ffrwyth blynyddoedd lawer o gasglu ceinciau’r traddodiad Cymreig. Gwelir bod y gyfrol hon yn wahanol iawn i brif gasgliadau cerddorol y 19g. Ynddi ceir 30 cainc ar gyfer y delyn deires sy’n gynnyrch y traddodiad llafar (wedi eu copïo gan gerddor cymwys, oherwydd dallineb Richard Roberts) a oedd yn dal mewn bri yr adeg honno, deunydd sy’n seiliedig ar geinciau ar gyfer y ffidil a welir hefyd yn Llawysgrif Morris Edwards (Llsgr. Bangor 2294) o gerddoriaeth, ynghyd â rhai ceinciau a atgynhyrchwyd o gasgliadau cerddoriaeth y 19g.

Ymddengys rhai o’r alawon (e.e. ‘Difyrwch y brenin’, ‘Morfa Rhuddlan’ a ‘Dafydd y Garreg Wen’) ar ffurf Thema ac Amrywiadau tra mae eraill (e.e. ‘Hufen y cwrw melyn’ a ‘Breuddwyd Dafydd Rhys’) yn dilyn trefn gwbl gonfensiynol. Ceir trefniant ar gyfer dwy delyn deires o’r gainc ‘Sweet Richard’ ar ddiwedd y gyfrol, sef yr alaw a berfformiwyd gan Richard Roberts yn Eisteddfod Wrecsam, 1820, ac Eisteddfod Dinbych, 1828, pan ddyfarnwyd iddo’r Delyn Arian a’r Delyn Aur. Bu farw yn 1855 ac fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys Llanbeblig, Caernarfon.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • Richard Roberts, Cambrian Harmony, being a collection of Welch airs never before published. Arranged as they were originally performed by the ancient Britons, adapted for the harp and piano forte (Dulyn a Chaernarfon, 1829)
  • M. O. Jones, Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig (Caerdydd, 1890)
  • Robert Griffith, Llyfr Cerdd Dannau, ymchwiliad i hanes hen gerddoriaeth a’r dulliau hynaf o ganu (Caernarfon, 1913)
  • Ann Rosser, Telyn a Thelynor: Hanes y Delyn yng Nghymru, 1700–1900 (Caerdydd, 1981)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.