Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jenkins, David (1848-1915)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Gwnaeth David Jenkins gyfraniad aruthrol i gerddoriaeth Cymru fel cyfansoddwr, [[addysgwr]], [[arweinydd]], golygydd, beirniad a threfnydd. Ond oni bai am y ffaith ei fod wedi’i drwytho’n ifanc mewn [[sol-ffa]], mae’n bur annhebyg y byddai wedi symud o Drecastell, Sir Frycheiniog, lle y’i ganed a lle cafodd ei baratoi ar gyfer bod yn deiliwr. O leiaf fe gadwodd ei chwaeth at ddillad trwsiadus, fel y mae darluniau ohono’n awgrymu. Roedd ymhlith myfyrwyr cyntaf [[Joseph Parry]] (1841–1903) yn adran gerdd Coleg [[Prifysgol]] Cymru Aberystwyth yn 1874. Gan nad oedd modd sefyll arholiadau BMus Prifysgol Cymru ar y pryd, llwyddodd i ennill gradd MusBac Caergrawnt yn 1888. Daeth yn ddarlithydd pan ailagorwyd yr adran yn 1893 ac yn Athro yn 1910. | + | Gwnaeth David Jenkins gyfraniad aruthrol i gerddoriaeth Cymru fel cyfansoddwr, [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysgwr]], [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinydd]], golygydd, beirniad a threfnydd. Ond oni bai am y ffaith ei fod wedi’i drwytho’n ifanc mewn [[Tonic Sol-ffa | sol-ffa]], mae’n bur annhebyg y byddai wedi symud o Drecastell, Sir Frycheiniog, lle y’i ganed a lle cafodd ei baratoi ar gyfer bod yn deiliwr. O leiaf fe gadwodd ei chwaeth at ddillad trwsiadus, fel y mae darluniau ohono’n awgrymu. Roedd ymhlith myfyrwyr cyntaf [[Parry, Joseph (1841-1903) | Joseph Parry]] (1841–1903) yn adran gerdd Coleg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru Aberystwyth yn 1874. Gan nad oedd modd sefyll arholiadau BMus Prifysgol Cymru ar y pryd, llwyddodd i ennill gradd MusBac Caergrawnt yn 1888. Daeth yn ddarlithydd pan ailagorwyd yr adran yn 1893 ac yn Athro yn 1910. |
− | Daeth David Jenkins i amlygrwydd fel arweinydd cymanfaoedd canu - un o’r ychydig gyfleoedd i’r werin bobl ddod i gysylltiad â cherddoriaeth fyw. Roedd ganddo, yn ôl pob sôn, lais soniarus a gafael ar ei gynulleidfa. Yn dilyn marwolaeth [[Ieuan Gwyllt]] (John Roberts; 1822-77) cafodd rwydd hynt i deithio Cymru a chodi safonau canu. Ef yn wir oedd ‘Kaiser y Gymanfa’ uwchben torf o gantorion. | + | Daeth David Jenkins i amlygrwydd fel arweinydd cymanfaoedd canu - un o’r ychydig gyfleoedd i’r werin bobl ddod i gysylltiad â cherddoriaeth fyw. Roedd ganddo, yn ôl pob sôn, lais soniarus a gafael ar ei gynulleidfa. Yn dilyn marwolaeth [[Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822-77) | Ieuan Gwyllt]] (John Roberts; 1822-77) cafodd rwydd hynt i deithio Cymru a chodi safonau canu. Ef yn wir oedd ‘Kaiser y Gymanfa’ uwchben torf o gantorion. |
− | Ei brif weithiau yw gweithiau [[corawl]] ar raddfa fawr megis ''Arch y Cyfamod, Dafydd a Goliath, A Psalm of Life, Dewi Sant, Job, Llyn y Morwynion, Yr Ystorm, Golygfeydd yn Hanes Moses, The Galley Slave,'' yr [[opera]] ''The Enchanted Isle'' a’r | + | Ei brif weithiau yw gweithiau [[Corau Cymysg | corawl]] ar raddfa fawr megis ''Arch y Cyfamod, Dafydd a Goliath, A Psalm of Life, Dewi Sant, Job, Llyn y Morwynion, Yr Ystorm, Golygfeydd yn Hanes Moses, The Galley Slave,'' yr [[opera]] ''The Enchanted Isle'' a’r opera anghyhoeddedig ‘Aylwin’. Cyhoeddodd ei waith ei hun o Gastell Brychan yn Aberystwyth a bu farw’n unigolyn cyfoethog. Perfformiwyd ''A Psalm of Life'' yn y Palas Grisial yn Llundain gan gôr o 2,000 o gantorion ym mis Gorffennaf 1896 a chafodd dderbyniad da. |
− | Y mae cyfanweithiau mawr David Jenkins yn dioddef o ddiffyg cysondeb mewn arddull. Fel yn achos ei athro Joseph Parry, ceir adrannau sy’n efelychu cyfansoddwyr o’r cyfnod Rhamantaidd, megis Felix Mendelssohn a Charles Gounod, ac yna ffiwg Handelaidd i ddilyn, a gorddefnyddiodd yr amseriad triphlyg yn y mwyafrif o’i weithiau. Ei wir allu fel cyfansoddwr (fel ei athro), oedd fel lluniwr [[emyn-donau]] effeithiol, ‘Penlan’ a ‘Builth’ yn eu plith. | + | Y mae cyfanweithiau mawr David Jenkins yn dioddef o ddiffyg cysondeb mewn arddull. Fel yn achos ei athro Joseph Parry, ceir adrannau sy’n efelychu cyfansoddwyr o’r cyfnod Rhamantaidd, megis Felix Mendelssohn a Charles Gounod, ac yna ffiwg Handelaidd i ddilyn, a gorddefnyddiodd yr amseriad triphlyg yn y mwyafrif o’i weithiau. Ei wir allu fel cyfansoddwr (fel ei athro), oedd fel lluniwr [[Emyn-donau | emyn-donau]] effeithiol, ‘Penlan’ a ‘Builth’ yn eu plith. |
Yn Aberystwyth cyflwynodd y myfyrwyr a’r cyhoedd i nifer helaeth o weithiau corawl mawr o dan ei arweiniad, megis ''The Golden Legend'' (Sullivan) yn 1887, ''The Ancient Mariner'' (Barnett) yn 1888, ''Acis a Galatea, Messiah, Samson'' (Handel), ''Y Greadigaeth'' (Haydn), ''St Paul'' a ''Walpurgisnacht'' (Mendelssohn), ''The Revenge'' (Stanford) a’i waith ef ei hun ''A Psalm of Life'' yn 1896. Arweiniodd sawl perfformiad o ''Hiawatha’s Wedding Feas''t a ''The Death of Minnehaha'' gan Samuel Coleridge Taylor (1875-1912), ffefryn mawr yn y cyfnod. | Yn Aberystwyth cyflwynodd y myfyrwyr a’r cyhoedd i nifer helaeth o weithiau corawl mawr o dan ei arweiniad, megis ''The Golden Legend'' (Sullivan) yn 1887, ''The Ancient Mariner'' (Barnett) yn 1888, ''Acis a Galatea, Messiah, Samson'' (Handel), ''Y Greadigaeth'' (Haydn), ''St Paul'' a ''Walpurgisnacht'' (Mendelssohn), ''The Revenge'' (Stanford) a’i waith ef ei hun ''A Psalm of Life'' yn 1896. Arweiniodd sawl perfformiad o ''Hiawatha’s Wedding Feas''t a ''The Death of Minnehaha'' gan Samuel Coleridge Taylor (1875-1912), ffefryn mawr yn y cyfnod. | ||
− | Parthed ei waith fel trefnydd ei adran, dywedodd [[J. Lloyd Williams]] amdano ei fod yn ‘fwy o bregethwr Cymanfa nag o fugail eglwys’. Ond o leiaf cynigiodd gyfleoedd i unigolion wella eu gallu offerynnol mewn ysgol haf gerddorfaol. Roedd Williams hefyd yn feirniadol ohono fel golygydd ''Y Cerddor'', ond roedd Jenkins yn ddigon chwilfrydig fel cerddor i deithio i glywed operâu Richard Wagner yn Bayreuth ac i hysbysu ei ddarllenwyr am y profiad, er na chafodd hynny fawr o effaith ar ei gyfansoddi ef ei hun. | + | Parthed ei waith fel trefnydd ei adran, dywedodd [[Williams, J. Lloyd (1854-1945) | J. Lloyd Williams]] amdano ei fod yn ‘fwy o bregethwr Cymanfa nag o fugail eglwys’. Ond o leiaf cynigiodd gyfleoedd i unigolion wella eu gallu offerynnol mewn ysgol haf gerddorfaol. Roedd Williams hefyd yn feirniadol ohono fel golygydd ''Y Cerddor'', ond roedd Jenkins yn ddigon chwilfrydig fel cerddor i deithio i glywed operâu Richard Wagner yn Bayreuth ac i hysbysu ei ddarllenwyr am y profiad, er na chafodd hynny fawr o effaith ar ei gyfansoddi ef ei hun. |
'''Lyn Davies''' | '''Lyn Davies''' |
Y diwygiad cyfredol, am 19:03, 13 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Gwnaeth David Jenkins gyfraniad aruthrol i gerddoriaeth Cymru fel cyfansoddwr, addysgwr, arweinydd, golygydd, beirniad a threfnydd. Ond oni bai am y ffaith ei fod wedi’i drwytho’n ifanc mewn sol-ffa, mae’n bur annhebyg y byddai wedi symud o Drecastell, Sir Frycheiniog, lle y’i ganed a lle cafodd ei baratoi ar gyfer bod yn deiliwr. O leiaf fe gadwodd ei chwaeth at ddillad trwsiadus, fel y mae darluniau ohono’n awgrymu. Roedd ymhlith myfyrwyr cyntaf Joseph Parry (1841–1903) yn adran gerdd Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1874. Gan nad oedd modd sefyll arholiadau BMus Prifysgol Cymru ar y pryd, llwyddodd i ennill gradd MusBac Caergrawnt yn 1888. Daeth yn ddarlithydd pan ailagorwyd yr adran yn 1893 ac yn Athro yn 1910.
Daeth David Jenkins i amlygrwydd fel arweinydd cymanfaoedd canu - un o’r ychydig gyfleoedd i’r werin bobl ddod i gysylltiad â cherddoriaeth fyw. Roedd ganddo, yn ôl pob sôn, lais soniarus a gafael ar ei gynulleidfa. Yn dilyn marwolaeth Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822-77) cafodd rwydd hynt i deithio Cymru a chodi safonau canu. Ef yn wir oedd ‘Kaiser y Gymanfa’ uwchben torf o gantorion.
Ei brif weithiau yw gweithiau corawl ar raddfa fawr megis Arch y Cyfamod, Dafydd a Goliath, A Psalm of Life, Dewi Sant, Job, Llyn y Morwynion, Yr Ystorm, Golygfeydd yn Hanes Moses, The Galley Slave, yr opera The Enchanted Isle a’r opera anghyhoeddedig ‘Aylwin’. Cyhoeddodd ei waith ei hun o Gastell Brychan yn Aberystwyth a bu farw’n unigolyn cyfoethog. Perfformiwyd A Psalm of Life yn y Palas Grisial yn Llundain gan gôr o 2,000 o gantorion ym mis Gorffennaf 1896 a chafodd dderbyniad da.
Y mae cyfanweithiau mawr David Jenkins yn dioddef o ddiffyg cysondeb mewn arddull. Fel yn achos ei athro Joseph Parry, ceir adrannau sy’n efelychu cyfansoddwyr o’r cyfnod Rhamantaidd, megis Felix Mendelssohn a Charles Gounod, ac yna ffiwg Handelaidd i ddilyn, a gorddefnyddiodd yr amseriad triphlyg yn y mwyafrif o’i weithiau. Ei wir allu fel cyfansoddwr (fel ei athro), oedd fel lluniwr emyn-donau effeithiol, ‘Penlan’ a ‘Builth’ yn eu plith.
Yn Aberystwyth cyflwynodd y myfyrwyr a’r cyhoedd i nifer helaeth o weithiau corawl mawr o dan ei arweiniad, megis The Golden Legend (Sullivan) yn 1887, The Ancient Mariner (Barnett) yn 1888, Acis a Galatea, Messiah, Samson (Handel), Y Greadigaeth (Haydn), St Paul a Walpurgisnacht (Mendelssohn), The Revenge (Stanford) a’i waith ef ei hun A Psalm of Life yn 1896. Arweiniodd sawl perfformiad o Hiawatha’s Wedding Feast a The Death of Minnehaha gan Samuel Coleridge Taylor (1875-1912), ffefryn mawr yn y cyfnod.
Parthed ei waith fel trefnydd ei adran, dywedodd J. Lloyd Williams amdano ei fod yn ‘fwy o bregethwr Cymanfa nag o fugail eglwys’. Ond o leiaf cynigiodd gyfleoedd i unigolion wella eu gallu offerynnol mewn ysgol haf gerddorfaol. Roedd Williams hefyd yn feirniadol ohono fel golygydd Y Cerddor, ond roedd Jenkins yn ddigon chwilfrydig fel cerddor i deithio i glywed operâu Richard Wagner yn Bayreuth ac i hysbysu ei ddarllenwyr am y profiad, er na chafodd hynny fawr o effaith ar ei gyfansoddi ef ei hun.
Lyn Davies
Llyfryddiaeth
- J. Lloyd Williams, ‘Y Diweddar Athro D. Jenkins’, Y Wawr, III/2 (1916), iv
- J. H. Jones (gol.), Er Cof am yr Athro David Jenkins, 1935 (Lerpwl, 1935)
- Gareth Williams, Valleys of Song: music and society in Wales, 1840–1914 (Caerdydd, 1998)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.