Jenkins, Katherine (g.1980): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
CadiW (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...'
 
CadiW (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''


Llinell 11: Llinell 11:


Fe’i gwelir yn rheolaidd ar y teledu - nid yn unig fel
Fe’i gwelir yn rheolaidd ar y teledu - nid yn unig fel
cantores ond hefyd fel actores - gan iddi ymddangos yn opera sebon ''Emmerdale'' yn ystod 2007 ac mewn rhifyn arbennig o ''Doctor Who'' yn 2010. Cystadlodd fel dawnswraig yn y gyfres Americanaidd ''Dancing with the Stars'' yn 2012; roedd y diddordeb mewn dawnsio wedi dod i’r amlwg rai blynyddoedd yn gynharach wrth iddi dreulio cyfnod ar daith adloniant ''Viva La Diva'' ledled Prydain gyda’r ddawnswraig Darcey Bussell yn 2008.
cantores ond hefyd fel actores - gan iddi ymddangos yn [[opera]] sebon ''Emmerdale'' yn ystod 2007 ac mewn rhifyn arbennig o ''Doctor Who'' yn 2010. Cystadlodd fel dawnswraig yn y gyfres Americanaidd ''Dancing with the Stars'' yn 2012; roedd y diddordeb mewn dawnsio wedi dod i’r amlwg rai blynyddoedd yn gynharach wrth iddi dreulio cyfnod ar daith [[adloniant]] ''Viva La Diva'' ledled Prydain gyda’r ddawnswraig Darcey Bussell yn 2008.


I rai beirniaid, cyfrifir poblogrwydd Jenkins fel arwydd pellach o’r awydd i apelio at y ‘cyfenwadur lleiaf’ o fewn y byd cerddoriaeth glasurol cyfoes. Er enghraifft, dywedodd Jeremy Nicholas mai hi a cherddorion tebyg (megis Russell Watson) oedd y peth agosaf i gantorion [[opera]] ym marn y ‘person ar y stryd’, lle ystyrir y gallu i chwarae darn clasurol syml fel ''Für Elise'' yn arwydd o ddawn anghyffredin (Nicholas 2015, 97). Fodd bynnag, yn nhermau gwerthiant recordiau bu Jenkins yn un o’r cantorion mwyaf llwyddiannus i ddod o Gymru yn ystod degawd cyntaf yr 21g. gan gipio’r wobr am y record hir orau yn y Classic Brit Awards ddwywaith yn olynol yn 2005 a 2006 - y person cyntaf erioed i wneud hynny.
I rai beirniaid, cyfrifir poblogrwydd Jenkins fel arwydd pellach o’r awydd i apelio at y ‘cyfenwadur lleiaf’ o fewn y byd cerddoriaeth glasurol cyfoes. Er enghraifft, dywedodd Jeremy Nicholas mai hi a cherddorion tebyg (megis Russell Watson) oedd y peth agosaf i gantorion [[opera]] ym marn y ‘person ar y stryd’, lle ystyrir y gallu i chwarae darn clasurol syml fel ''Für Elise'' yn arwydd o ddawn anghyffredin (Nicholas 2015, 97). Fodd bynnag, yn nhermau gwerthiant recordiau bu Jenkins yn un o’r cantorion mwyaf llwyddiannus i ddod o Gymru yn ystod degawd cyntaf yr 21g. gan gipio’r wobr am y record hir orau yn y Classic Brit Awards ddwywaith yn olynol yn 2005 a 2006 - y person cyntaf erioed i wneud hynny.

Fersiwn yn ôl 16:29, 11 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y mezzo-soprano Katherine Jenkins yng Nghastell-nedd. Ymunodd a chôr Eglwys Dewi Sant, Castell-nedd, yn saith mlwydd oed, gan fynychu’r ysgol gynradd eglwysig Ysgol Alderman Davies. Aeth ymlaen i dderbyn ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin tra bu hefyd yn aelod o’r Ysgol Frenhinol Cerddoriaeth Eglwysig rhwng 1991 ac 1996. Derbyniodd hyfforddiant lleisiol gan y tenor John Hugh Thomas cyn ennill ysgoloriaeth i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain, yn 17 mlwydd oed; yno astudiodd gyda Beatrice Unsworth gan raddio yn 2002. Fe’i hetholwyd yn Aelod Cysylltiol o’r Academi (ARAM) yn sgil ei chyfraniad i gerddoriaeth. Yn 2014 derbyniodd OBE am ei chyfraniad i gerddoriaeth a gweithgarwch elusennol.

Tra oedd yn fyfyrwraig ac yn y blynyddoedd dilynol bu’n gweithio mewn meysydd amrywiol gan gynnwys addysgu canu mewn ysgol berfformio ac fel athrawes beripatetig, a chyfnod yn modelu. Yna derbyniodd gytundeb gan Universal Classics i ryddhau chwe albwm a ddaeth â hi i sylw fel artist a oedd yn croesi’r ffin rhwng cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth boblogaidd mewn marchnad ryngwladol.

Daeth i frig y siartiau albymau clasurol gyda’i recordiad cyntaf, Premiere (UCJ, 2004). Bu’r recordiadau dilynol, sef Second Nature (2004), Living a Dream (2005), Serenade (2006), Rejoice (2007) a Sacred Arias (2008), pob un dan label Universal, yn fasnachol boblogaidd yn ogystal. Wedi cwblhau’r cytundeb â chwmni recordio Universal aeth ymlaen i weithio gyda Warner Music yn 2009 gan gynhyrchu Believe (2009), Daydream (2011) a’r albwm Nadoligaidd This is Christmas (2012), cyn dychwelyd at un o is-labeli Universal, Decca Records, gyda My Christmas (2012) a Home Sweet Home (2014).

Bydd yn rhoi perfformiadau cyhoeddus ac elusennol yn rheolaidd. Ers 2003 mae wedi canu anthem genedlaethol Cymru cyn gemau rygbi rhyngwladol gan ymuno â thîm rygbi Cymru fel masgot yng Nghwpan y Byd, Awstralia. Perfformiodd yn Berlin yn un o gyngherddau elusennol Live 8 a drefnwyd gan Bob Geldof yn 2005, a derbyniodd wahoddiad gan Sefydliad y Lluoedd Prydeinig i berfformio mewn cyngherddau ar gyfer aelodau o’r lluoedd arfog yn Irac ac Affganistan. Daeth yn weithgar gyda’r Lleng Brydeinig Frenhinol trwy berfformio yng ngwasanaethau Sul y Cofio.

Fe’i gwelir yn rheolaidd ar y teledu - nid yn unig fel cantores ond hefyd fel actores - gan iddi ymddangos yn opera sebon Emmerdale yn ystod 2007 ac mewn rhifyn arbennig o Doctor Who yn 2010. Cystadlodd fel dawnswraig yn y gyfres Americanaidd Dancing with the Stars yn 2012; roedd y diddordeb mewn dawnsio wedi dod i’r amlwg rai blynyddoedd yn gynharach wrth iddi dreulio cyfnod ar daith adloniant Viva La Diva ledled Prydain gyda’r ddawnswraig Darcey Bussell yn 2008.

I rai beirniaid, cyfrifir poblogrwydd Jenkins fel arwydd pellach o’r awydd i apelio at y ‘cyfenwadur lleiaf’ o fewn y byd cerddoriaeth glasurol cyfoes. Er enghraifft, dywedodd Jeremy Nicholas mai hi a cherddorion tebyg (megis Russell Watson) oedd y peth agosaf i gantorion opera ym marn y ‘person ar y stryd’, lle ystyrir y gallu i chwarae darn clasurol syml fel Für Elise yn arwydd o ddawn anghyffredin (Nicholas 2015, 97). Fodd bynnag, yn nhermau gwerthiant recordiau bu Jenkins yn un o’r cantorion mwyaf llwyddiannus i ddod o Gymru yn ystod degawd cyntaf yr 21g. gan gipio’r wobr am y record hir orau yn y Classic Brit Awards ddwywaith yn olynol yn 2005 a 2006 - y person cyntaf erioed i wneud hynny.

Tristian Evans

Disgyddiaeth

  • Premiere (UCJ 986 606-4, 2004)
  • Second Nature (Universal 9869033, 2004)
  • Living a Dream (Universal 476 306-3, 2005)
  • Serenade (Universal 476 571-8, 2006)
  • Rejoice (Universal 476 620-0, 2007)
  • Sacred Arias (Universal 476 697-1, 2008)
  • Believe (Warner Music 825646828555, 2009)
  • Daydream (Warner Music 5249880582, 2011)
  • This is Christmas (Warner Music 5053105509225, 2012)
  • My Christmas (Decca 4765152, 2012)
  • Home Sweet Home (Decca 3773443, 2014)

Llyfryddiaeth

  • Alun Guy, Cantorion o Fri: Ar Lwyfan y Byd (Llandysul, 2005)
  • Katherine Jenkins, Time to Say Hello (Llundain, 2009)
  • Jeremy Nicholas, ‘Adolygiad o Sleeping in Temples gan Susan Tomes’, Gramophone (Mawrth 2015), 96–7

__NOAUTOLINKS__


Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.