Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cenedl"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '(Saesneg: ''Nation'') ''1. Cyflwyno’r Genedl''' Mae’r genedl yn cael ei ystyried yn uned wleidyddol greiddiol gan ffurfiau gwahanol ar cenedlaetho...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
 
(Saesneg: ''Nation'')
 
(Saesneg: ''Nation'')
  
''1. Cyflwyno’r Genedl'''
+
'''1. Cyflwyno’r Genedl'''
  
Mae’r genedl yn cael ei ystyried yn uned wleidyddol greiddiol gan ffurfiau gwahanol ar [[cenedlaetholdeb|genedlaetholdeb]]. Er hyn, mae ceisio egluro beth yn union yw cenedl, ynghyd â beth yw ei nodweddion allweddol, wedi profi’n dasg anodd iawn sydd wedi esgor ar gryn ansicrwydd.
 
Llinell 21: Llinell 21:
 
'''2. Cenedl a Chenedl-wladwriaeth (''Nation-State'')'''
 
'''2. Cenedl a Chenedl-wladwriaeth (''Nation-State'')'''
  
Mae’n werth hefyd cydnabod y gwahaniaeth rhwng cenedl a chenedl-wladwriaeth. Y prif wahaniaeth yw’r ffaith fod gwladwriaeth yn endid gwleidyddol tra bod cenedl yn endid diwylliannol. Er enghraifft, mae cenedl yn cyfeirio tuag at endid o bobol sy’n gweld eu hunain yn perthyn i grŵp penodol oherwydd eu bod yn rhannu rhinweddau megis iaith, diwylliant, crefydd, arferion, traddodiadau a hanes cyffredin. Mae’r genedl-wladwriaeth felly yn cyfuno’r ddau agwedd hyn ac yn cyfeirio tuag at wladwriaeth sydd yn llywodraethu cenedl (Wimmer a Feinstein 2010).
+
Mae’n werth hefyd cydnabod y gwahaniaeth rhwng cenedl a chenedl-wladwriaeth. Y prif wahaniaeth yw’r ffaith fod gwladwriaeth yn endid gwleidyddol tra bod cenedl yn endid diwylliannol. Er enghraifft, mae cenedl yn cyfeirio tuag at endid o bobol sy’n gweld eu hunain yn perthyn i grŵp penodol oherwydd eu bod yn rhannu rhinweddau megis iaith, diwylliant, [[crefydd]], arferion, traddodiadau a hanes cyffredin. Mae’r genedl-wladwriaeth felly yn cyfuno’r ddau agwedd hyn ac yn cyfeirio tuag at wladwriaeth sydd yn llywodraethu cenedl (Wimmer a Feinstein 2010).
  
Serch hynny nid yw pob cenedl yn [[wladwriaeth]]. Er enghraifft mae’r Cwrdiaid (Kurds) sydd yn byw mewn rhannau o Dwrci, Irac, Iran a Syria yn cael ei adnabod fel un o’r genhedloedd fwyaf yn y byd sydd heb wladwriaeth (Eliassi 2016). Mae’r rhain yn cael ei adnabod fel cenhedloedd diwladwriaeth (''stateless nations'').  
 
Llinell 30: Llinell 30:
 
Mae ymchwilwyr fel Williams (2019) yn gweld Cymru fel cenedl diwladwriaeth oherwydd er bod [[datganoli]] yn golygu bod gan Gymru bwerau i basio deddfwriaethau mewn nifer o feysydd polisi, mae Cymru dal o dan rheolaeth y wladwriaeth Prydeinig gan fod ganddynt dal bŵer i wneud penderfyniadau ynghylch rhai meysydd polisi sydd yn effeithio ar Gymru.
 
Mae’r athronwr [[J. R. Jones]] (1911-1970) yn ei ysgrif, ''Prydeindod'' (1966/2013), yn trafod yn fanwl y cysyniad o genedl. Yn ôl Jones mae [[tair]] elfen i’r genedl – sef tiriogaeth diffiniedig, priod iaith y diriogaeth a chrynhoad y diriogaeth dan un wladwriaeth sofran. Ond heb y tair elfen yma nid oes modd i genedl ffurfio yn ôl Jones wrth iddo ddadlau mai nid Cenedl yw Cymru, ond yn hytrach ‘Pobl’ gan iddi ddim gwladwriaeth. Fe ffurfiwyd y Cymry – Pobl – grŵp iaith drwy broses a elwir yn ‘cydymdreiddiad tir y Cymry â'r iaith Gymraeg’ (Jones 1966/2013: 12).
+
Mae’r athronwr [[J. R. Jones]] (1911-1970) yn ei ysgrif, ''Prydeindod'' (1966/2013), yn trafod yn fanwl y cysyniad o genedl. Yn ôl Jones mae <nowiki>tair</nowiki> elfen i’r genedl – sef tiriogaeth diffiniedig, priod iaith y diriogaeth a chrynhoad y diriogaeth dan un wladwriaeth sofran. Ond heb y [[tair]] elfen yma nid oes modd i genedl ffurfio yn ôl Jones wrth iddo ddadlau mai nid Cenedl yw Cymru, ond yn hytrach ‘Pobl’ gan iddi ddim gwladwriaeth. Fe ffurfiwyd y Cymry – Pobl – grŵp iaith drwy broses a elwir yn ‘cydymdreiddiad tir y Cymry â'r iaith Gymraeg’ (Jones 1966/2013: 12).
  
Mae dehongliad J.R. Jones yn un reit gyfyngedig, ac sydd yn ceisio diffinio’r genedl mewn modd gwrthrychol ar sail rhestr benodol o nodweddion. Fel y trafodir uchod, mae’n bwysig cydnabod bod hi’n bosib diffinio cenedl mewn modd goddrychol hefyd.
 
'''Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Cenedlaetholdeb: Nodweddion Allweddol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i [[addasu]] gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol <nowiki>Caerdydd</nowiki>.'''
+
'''Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Cenedlaetholdeb: Nodweddion Allweddol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i <nowiki>addasu</nowiki> gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol <nowiki>Caerdydd</nowiki>.'''
  
Diwygiad 12:59, 7 Medi 2024

(Saesneg: Nation)

1. Cyflwyno’r Genedl

Mae’r genedl yn cael ei ystyried yn uned wleidyddol greiddiol gan ffurfiau gwahanol ar genedlaetholdeb. Er hyn, mae ceisio egluro beth yn union yw cenedl, ynghyd â beth yw ei nodweddion allweddol, wedi profi’n dasg anodd iawn sydd wedi esgor ar gryn ansicrwydd.

Mae yna duedd i ddiffinio neu ddisgrifio cenedl yn nhermau gwrthrychol (objective), ac ar y llaw arall termau goddrychol (subjective).

Ar y lefel fwyaf cyffredinol, gellir diffinio cenedl fel endid sy’n dwyn ynghyd grŵp o bobl sy’n rhannu iaith, diwylliant, crefydd, arferion, traddodiadau a hanes cyffredin, ac sydd hefyd, fel arfer, yn rhannu tiriogaeth gyffredin. Mae hefyd consensws cyffredinol ynghlwm fod y genedl yn gymuned diriogaethol ar wahân i grwpiau hiliol, llwythol neu grefyddol.

Eto i gyd, ni ellir dibynnu’n llwyr ar nodweddion gwrthrychol (objective) tebyg i’r uchod er mwyn diffinio cenedl. Mae bron pob cenedl yn cynnwys amrywiaethau ieithyddol, diwylliannol, crefyddol neu ar sail ethnigrwydd o ryw fath. Ymhellach, ceir sawl enghraifft o genhedloedd gwahanol sy’n rhannu’r un iaith neu’r un grefydd. Golyga hyn mai anodd, os nad amhosib, fyddai ceisio llunio un rhestr derfynol a diamod o feini prawf gwrthrychol i’w defnyddio er mwyn pennu pryd a ble y gellir datgan bod cenedl yn bodoli.

O ganlyniad, rhaid i unrhyw ymgais i ddiffinio cenedl gyfuno ystyriaeth o nodweddion gwrthrychol, megis iaith, diwylliant, neu draddodiadau cyffredin, gydag ystyriaeth o deimladau goddrychol (subjective) aelodau’r genedl megis hunaniaeth genedlaethol. Credai Moore (1997) fod disgrifio hunaniaeth genedlaethol mewn termau goddrychol yn osgoi’r broblem o beth sydd yn wirioneddol yn cwmpasu’r cysyniad o ‘genedl’.

Yn ôl yr athronydd a’r hanesydd Ffrengig Ernest Renan (1823-1892), yn y pendraw yr hyn sy’n diffinio cenedl yw’r ffaith fod grŵp penodol o bobl yn deisyfu meddwl am eu hunain fel cenedl, ac yn ymrwymo i weithio gyda’i gilydd i sicrhau cydnabyddiaeth o hynny gan eraill (gweler Renan 2018). Fel arfer, bydd yr alwad hon am gydnabyddiaeth yn rhoi pwyslais ar ddyhead aelodau’r genedl i gael eu cydnabod fel cymuned wleidyddol unigryw, ac yn sgil hynny, i feddu ar lefel o ymreolaeth wleidyddol. Gall yr ymreolaeth hon gael ei sicrhau trwy sefydlu gwladwriaeth annibynnol, neu trwy drefniant ffederal neu gydffederal mwy cyfyngedig.

Mae Anderson (1983), yn ei lyfr Imagined Communities: Reflections on the Origins and Spread of Nationalism' yn dadlau fod y ‘genedl’ yn gymuned gwleidyddol dychmygol neu ‘imagined political community’. Mae cymuned ddychmygol yn boblogaethau o unigolion sydd yn hunan-adnabod o dan hunaniaeth gymunedol gyffredin, ac fel arfer wedi’u clymu at ei gilydd drwy syniadau o undod ynghylch nodweddion megis crefydd, iaith, diwylliant, hunaniaeth ag ati. Mae gwaith Anderson wedi bod yn ddylanwadol iawn am ddadleuon ynghylch cenedlaetholdeb. Mae Anderson yn pwysleisio’r cysyniad fod y genedl yn gymuned ddychmygol oherwydd efallai na fydd unigolion byth yn dod i gysylltiad a mwyafrif helaeth o aelodau eraill y grŵp ond yn y pen draw yn ymlynu i'r syniadau o berthyn i'r grŵp. Dywedai Anderson (1983: 15):

…it is imagined because the members of even the smallest nation will never know most of their fellow-members, meet them, or even hear of them, yet in the minds of reach lives the image of their communion.

2. Cenedl a Chenedl-wladwriaeth (Nation-State)

Mae’n werth hefyd cydnabod y gwahaniaeth rhwng cenedl a chenedl-wladwriaeth. Y prif wahaniaeth yw’r ffaith fod gwladwriaeth yn endid gwleidyddol tra bod cenedl yn endid diwylliannol. Er enghraifft, mae cenedl yn cyfeirio tuag at endid o bobol sy’n gweld eu hunain yn perthyn i grŵp penodol oherwydd eu bod yn rhannu rhinweddau megis iaith, diwylliant, crefydd, arferion, traddodiadau a hanes cyffredin. Mae’r genedl-wladwriaeth felly yn cyfuno’r ddau agwedd hyn ac yn cyfeirio tuag at wladwriaeth sydd yn llywodraethu cenedl (Wimmer a Feinstein 2010).

Serch hynny nid yw pob cenedl yn wladwriaeth. Er enghraifft mae’r Cwrdiaid (Kurds) sydd yn byw mewn rhannau o Dwrci, Irac, Iran a Syria yn cael ei adnabod fel un o’r genhedloedd fwyaf yn y byd sydd heb wladwriaeth (Eliassi 2016). Mae’r rhain yn cael ei adnabod fel cenhedloedd diwladwriaeth (stateless nations).

3. Cenedl a Chymru

Mae ymchwilwyr fel Williams (2019) yn gweld Cymru fel cenedl diwladwriaeth oherwydd er bod datganoli yn golygu bod gan Gymru bwerau i basio deddfwriaethau mewn nifer o feysydd polisi, mae Cymru dal o dan rheolaeth y wladwriaeth Prydeinig gan fod ganddynt dal bŵer i wneud penderfyniadau ynghylch rhai meysydd polisi sydd yn effeithio ar Gymru.

Mae’r athronwr J. R. Jones (1911-1970) yn ei ysgrif, Prydeindod (1966/2013), yn trafod yn fanwl y cysyniad o genedl. Yn ôl Jones mae tair elfen i’r genedl – sef tiriogaeth diffiniedig, priod iaith y diriogaeth a chrynhoad y diriogaeth dan un wladwriaeth sofran. Ond heb y tair elfen yma nid oes modd i genedl ffurfio yn ôl Jones wrth iddo ddadlau mai nid Cenedl yw Cymru, ond yn hytrach ‘Pobl’ gan iddi ddim gwladwriaeth. Fe ffurfiwyd y Cymry – Pobl – grŵp iaith drwy broses a elwir yn ‘cydymdreiddiad tir y Cymry â'r iaith Gymraeg’ (Jones 1966/2013: 12).

Mae dehongliad J.R. Jones yn un reit gyfyngedig, ac sydd yn ceisio diffinio’r genedl mewn modd gwrthrychol ar sail rhestr benodol o nodweddion. Fel y trafodir uchod, mae’n bwysig cydnabod bod hi’n bosib diffinio cenedl mewn modd goddrychol hefyd.

Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Cenedlaetholdeb: Nodweddion Allweddol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i addasu gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Llyfryddiaeth

Anderson, B. (1983), Imagined Communities: Reflections on the Origins and Spread of Nationalism. (London; New York: Verso)

Eliassi, B. (2016) ‘Statelessness in a world of nation-states: the cases of Kurdish diasporas in Sweden and the UK’, Journal of Ethnic and Migration Studies, 42 (9), 1403-1419

Moore, M. (1997) ‘On national self-determination’, Political Studies, 45 (5), Vol.45 (5), 900-913

Jones, J. R. (1966/2013), Prydeindod. https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=2038~4n~NOVt9fmN [Cyrchwyd: 25 Mai 2021]

Renan, E. (2018). What is a Nation? And Other Political Writings (Efrog Newydd: Columbia University Press)

Williams, S. (2019). Rethinking Stateless Nations and National Identity in Wales and the Basque Country. (London: Palgrave Macmillan)

Wimmer, A. a Feinstein, Y. (2010). ‘The Rise of the Nation-State across the World, 1816 to 2001’. American Sociological Review, 75 (5), 764–790

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.