Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Yr Ymoleuo"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '(Saesneg: ''The Enlightenment'') Mudiad diwylliannol a deallusol oedd yr Ymoleuo (adnabyddir hefyd fel yr Oleuedigaeth) a ddaeth i amlygrwydd yn ystod y...')
 
Llinell 11: Llinell 11:
 
Yn fwy diweddar, mae damcaniaethwyr fel Michel Foucault a damcaniaethwyr sydd yn gysylltiedig gyda Theori Feirniadol Ysgol Frankfurt fel Theodor Adorno wedi dadansoddi’r Ymoleuo. Yn ei draethawd ddoethurol, mae Garmon Iago (2019) yn edrych ar sut mae Michel Foucault a Theodor Adorno yn trafod yr Ymoleuo yn eu gweithiau.
 
Yn fwy diweddar, mae damcaniaethwyr fel Michel Foucault a damcaniaethwyr sydd yn gysylltiedig gyda Theori Feirniadol Ysgol Frankfurt fel Theodor Adorno wedi dadansoddi’r Ymoleuo. Yn ei draethawd ddoethurol, mae Garmon Iago (2019) yn edrych ar sut mae Michel Foucault a Theodor Adorno yn trafod yr Ymoleuo yn eu gweithiau.
  
'''Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Rhyddfrydiaeth: Nodweddion Allweddol gan Dr Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) a Cyflwyniad i Gymdeithaseg gan Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges (rhan o Becyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) wedi’u haddasu gan Adam Pierce a Dr Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol <nowiki>Caerdydd</nowiki>.'''
+
'''Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar ''Rhyddfrydiaeth: Nodweddion Allweddol'' gan Dr Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) a ''Cyflwyniad i Gymdeithaseg'' gan Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges (rhan o ''Becyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg'' sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) wedi’u haddasu gan Adam Pierce a Dr Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol <nowiki>Caerdydd</nowiki>.'''
  
 
== Llyfryddiaeth ==
 
== Llyfryddiaeth ==
Llinell 19: Llinell 19:
 
Hamilton, P. (1992).  ‘The Enlightenment and the Birth of Social Science.’ yn Hall, S., a Gieben, B. (goln) ''The Formations of Modernity: Understanding Modern Societies – Book I'' (Caergrawnt: Policy Press), tt. 15-69
 
Hamilton, P. (1992).  ‘The Enlightenment and the Birth of Social Science.’ yn Hall, S., a Gieben, B. (goln) ''The Formations of Modernity: Understanding Modern Societies – Book I'' (Caergrawnt: Policy Press), tt. 15-69
  
Iago, G.D. ''‘Goleuedigaeth yng Ngweithiau Adorno a Foucault: Tuag at Ddealltwriaeth Newydd o Berthynas eu Gweithiau.’ '' traethawd PhD, Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, 2019.
+
Iago, G.D. ''‘Goleuedigaeth yng Ngweithiau Adorno a Foucault: Tuag at Ddealltwriaeth Newydd o Berthynas eu Gweithiau.’ '' traethawd PhD, Prifysgol [[Caerdydd]], Caerdydd, 2019.
  
 
Israel, J. (2001). ''Radical Enlightenment''. (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen)
 
Israel, J. (2001). ''Radical Enlightenment''. (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen)

Diwygiad 19:18, 7 Medi 2024

(Saesneg: The Enlightenment)

Mudiad diwylliannol a deallusol oedd yr Ymoleuo (adnabyddir hefyd fel yr Oleuedigaeth) a ddaeth i amlygrwydd yn ystod y ddeunawfed ganrif, gan arwain at danseilio dehongliadau traddodiadol o grefydd, gwleidyddiaeth a dysg trwy ddyrchafu cred yng ngallu pobl i ddefnyddio eu gallu i resymu er mwyn deall y byd.

Cyfeirir at y cyfnod yma fel Oes yr Ymoleuo (Age of Enlightenment). Yn ystod y cyfnod yma, gwelwyd datblygiadau mawr ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg, wrth i bobl ddod i ddeall y byd o’u cwmpas yn well a chynnig esboniadau newydd amdano. Dyma gyfnod ble’r oedd rhai o’r hen esboniadau am strwythur a threfniant cymdeithas yn cael eu herio a syniadau newydd yn cael eu cyflwyno yn eu lle. Cyn hynny, roedd strwythur a threfniant cymdeithas yn seiliedig ar y gred bod Duw wedi dewis pa unigolion byddai mewn pŵer a byddai’n gallu teyrnasu dros aelodau cymdeithas (Hamilton 1992). Yn wir, os oedd unrhyw un yn meiddio cwestiynu’r drefn, byddai hynny’n cael ei ddehongli fel heresi. Heriwyd y syniadau hyn yn ystod y cyfnod hwn ac fe fu’n rhaid i feddylwyr yr Ymoleuo chwilio am esboniadau newydd am natur a threfn cymdeithas.

Rhai o ffigyrau blaenllaw’r Ymoleuo oedd David Hume (athronydd Albanaidd), Benjamin Franklin (polymath Prydeinig-Americanaidd sydd yn cael ei weld fel un o sylfaenwyr Unol Daleithiau o America), John Locke (athronydd Saesneg sy’n gysylltiedig gyda rhyddfrydiaeth glasurol), Immanuel Kant (athronydd Almaeneg), Jean-Jacques Rousseau (athronydd Ffrengig) Adam Smith (economydd Albanaidd sy’n gysylltiedig gyda rhyddfrydiaeth glasurol) a Mary Woolstonecraft (athronydd Saesneg ac ymgyrchydd dros hawliau merched sydd yn cael ei gweld fel un o sylfaenwyr ffeministiaeth). Roedd yna unigolion o Gymru oedd hefyd yn gysylltiedig gyda’r Ymoleuo megis yr athronwyr, Richard Price a David Williams. Yn ogystal, sefydlwyd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (hefyd adnabyddir fel y Cymmrodorion), cymdeithas dysgu oedd wedi’i lleoli yn Llundain yn y 1750au (Evans 2004). Mae’r Cymmrodorion yn dal i fodoli heddiw yma. Maent yn cyhoeddi erthyglau academaidd ac yn cynnal sgyrsiau gydag academyddion. Ceir mwy o wybodaeth am y Cymmrodorion ar eu gwefan - https://www.cymmrodorion.org/

Cafodd yr Ymoleuo effaith sylweddol ar gymdeithas gan arwain at ddyfodiad gwyddorau cymdeithasol (Hamilton 1992), cyfrannu at fodernedd (Robertson 2015) ac at y broses o resymoliad a seciwlareiddio (Israel 2001).

Yn fwy diweddar, mae damcaniaethwyr fel Michel Foucault a damcaniaethwyr sydd yn gysylltiedig gyda Theori Feirniadol Ysgol Frankfurt fel Theodor Adorno wedi dadansoddi’r Ymoleuo. Yn ei draethawd ddoethurol, mae Garmon Iago (2019) yn edrych ar sut mae Michel Foucault a Theodor Adorno yn trafod yr Ymoleuo yn eu gweithiau.

Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Rhyddfrydiaeth: Nodweddion Allweddol gan Dr Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) a Cyflwyniad i Gymdeithaseg gan Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges (rhan o Becyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) wedi’u haddasu gan Adam Pierce a Dr Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Llyfryddiaeth

Evans, R.J.W. (2004). ‘Was there a Welsh Enlightenment?’ yn Davies R.R., a Jenkins, G.H. (goln) From Medieval to Modern Wales: historical essays in honour of Kenneth O. Morgan and Ralph A. Griffiths (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 142-160

Hamilton, P. (1992). ‘The Enlightenment and the Birth of Social Science.’ yn Hall, S., a Gieben, B. (goln) The Formations of Modernity: Understanding Modern Societies – Book I (Caergrawnt: Policy Press), tt. 15-69

Iago, G.D. ‘Goleuedigaeth yng Ngweithiau Adorno a Foucault: Tuag at Ddealltwriaeth Newydd o Berthynas eu Gweithiau.’ traethawd PhD, Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, 2019.

Israel, J. (2001). Radical Enlightenment. (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen)

Robertson, J. (2015). The Enlightenment: a Very Short Introduction. (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.