Rhyddfrydiaeth glasurol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Classic Liberalism)

Cyflwyno Rhyddfrydiaeth Glasurol

Rhyddfrydiaeth Glasurol yw’r hynaf o’r ddwy brif ffrwd sydd wedi deillio o Ryddfrydiaeth (Rhyddfrydiaeth Fodern yw’r llall). Mae gwreiddiau’r ffrwd hon o ryddfrydiaeth yn ymestyn yn ôl i’r ail ganrif ar bymtheg ac erbyn degawdau cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd Rhyddfrydiaeth Glasurol wedi dod i hawlio cefnogaeth eang iawn, yn enwedig ar draws y byd Seisnig. Yn wir, o ganlyniad i’r ffaith bod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cael ei hystyried fel oes aur i’r ffrwd hon o ryddfrydiaeth cyfeirir ati weithiau fel ‘Rhyddfrydiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’

Nodweddion Allweddol Rhyddfrydiaeth Glasurol

Mae dadleuon sy’n perthyn i’r traddodiad rhyddfrydol hwn yn tueddu i fod yn rhai sy’n pwysleisio’r elfennau craidd canlynol: unigolyddiaeth, rhyddid negatif a’r wladwriaeth gyfyngedig.

Unigolyddiaeth

Mae’r pwyslais rhyddfrydol ar yr unigolyn yn amlwg iawn yn syniadau’r garfan glasurol (Smith 2013). Fodd bynnag, unigolyddiaeth go eithafol yw hon. Caiff cymdeithas ei dehongli fel dim mwy na chasgliad o unigolion sydd oll yn ymdrechu i fodloni eu hanghenion a’u dyheadau gwahanol. Yn ôl y dehongliad hwn, mae bodau dynol yn greaduriaid annibynnol a chwbl hunangynhaliol heb unrhyw gyfrifoldeb tuag at unigolion eraill neu i’r gymdeithas yn gyffredinol.

Rhyddid Negatif

Mae’r dehongliad uchod o natur cymdeithas – sef casgliad o unigolion annibynnol a hunangynhaliol – yna’n dylanwadu ar ddehongliad y rhyddfrydwyr clasurol o natur rhyddid. Disgrifir y dehongliad hwn fel rhyddid negatif (Berlin 1969) ac mae’n seiliedig ar y dybiaeth y bydd yr unigolyn yn rhydd cyhyd ag y bo’n cael llonydd i fyw ei fywyd heb unrhyw ymyrraeth ac yn medru gwneud yn union fel y mynno. Disgrifir y dehongliad hwn fel un negatif, gan ei fod yn seiliedig ar y gred bod rhyddid yn deillio o ddiddymu unrhyw rwystrau neu gyfyngiadau allai amharu ar ymreolaeth yr unigolyn.

Gwladwriaeth Gyfyngedig

Mae’r pwyslais ar ryddid negatif, yn ei dro, yn effeithio ar syniadau’r rhyddfrydwyr clasurol ynglŷn â rôl y wladwriaeth. Caiff hanfod y syniadau hyn eu cyfleu yn effeithiol gan eiriau Thomas Paine (1776/2009: 7) a ddisgrifiodd y wladwriaeth fel ‘a necessary evil’ – rhywbeth hanfodol, ond eto nid rhywbeth y dylid ei ddathlu a’i fawrygu. Ar y naill law, mae’r wladwriaeth yn hanfodol, gan ei bod yn cyfrannu at gynnal trefn ac felly yn atal gwrthdaro rhwng unigolion. Byddai cymdeithas wâr yn amhosib heb reoleiddiwr o’r fath – byddai cyflwr o ryddid negyddol pur yn arwain at ansefydlogrwydd parhaol wrth i unigolion a’u buddiannau fynd benben â’i gilydd. Ond ar y llaw arall, mae rhyddfrydwyr clasurol yn mynnu na ddylid dathlu a mawrygu’r wladwriaeth, gan fod sefydlu endid o’r fath yn siŵr o arwain at gyfyngu cryn dipyn ar ryddid pob unigolyn. O ganlyniad, er mwyn glynu cymaint â phosib at y ddelfryd o ryddid negatif, mae Rhyddfrydwyr Clasurol yn mynnu y dylid cyfyngu’n sylweddol ar gyfrifoldebau’r wladwriaeth. Yn fras, ni ddylid caniatáu i’r wladwriaeth wneud dim mwy na’r hyn sy’n hanfodol er mwyn cadw cyfraith a threfn ac i warchod unigolion a’u heiddo rhag ei gilydd neu ymosodiad allanol. Dylid ymddiried pob cyfrifoldeb arall yng ngalluoedd yr unigolion annibynnol a hunangynhaliol sy’n byw o fewn cymdeithas. Golyga hyn fod Rhyddfrydwyr Clasurol wedi bod yn wrthwynebus i’r syniad y dylai’r wladwriaeth ymyrryd mewn meysydd polisi cymdeithasol neu economaidd pwysig, fel addysg, iechyd neu gyflogaeth.

Meddylwyr Rhyddfydol Glasurol Pwysig

Un meddyliwr pwysig a gysylltir â’r ffrwd glasurol o ryddfrydiaeth a ddatblygodd i fod mor boblogaidd erbyn degawdau cyntaf y bedwaredd ganrif yw John Locke (1632-1704). Daeth Locke i amlygrwydd fel meddyliwr gwleidyddol yn dilyn Chwyldro Gogoneddus Lloegr ym 1688. Arweiniodd y Chwyldro hwn at gyfyngu ar rym absoliwt y frenhiniaeth a gellir dehongli llawer o waith Locke – ac yn enwedig felly ei gyhoeddiad pwysicaf sef y Two Treatises of Government (1689/2003) – fel amddiffyniad o’r newidiadau hyn.

Yn arwyddocaol, yn ystod penodau olaf y Two Treatises mae Locke (1689/2003) hefyd yn mynd ati i amlinellu ei syniadau ynglŷn â seiliau cymdeithas gyfiawn. Man cychwyn Locke yw disgrifio bywyd unigolion yn y cyflwr naturiol – cyflwr cymdeithasol dychmygol lle mae pobl yn byw gyda’i gilydd yn gwbl gydradd heb ddibynnu ar awdurdod unrhyw lywodraeth. Yn y cyflwr naturiol hwn, bydd bywyd yn cael ei reoleiddio gan gyfres o gyfreithiau naturiol, sef yr hawl i fywyd, rhyddid ac eiddo. Dyma elfennau sydd, yn nhyb Locke, yn gwbl hanfodol er mwyn caniatáu i unigolion fyw bywyd cyflawn. Eto i gyd, gan nad oes unrhyw lywodraeth yn bodoli yn y cyflwr naturiol, ni ellir sicrhau y bydd y cyfreithiau pwysig hyn yn cael eu cynnal.

Mewn amgylchiadau o’r fath, cred Locke y byddai pawb yn dod i gytundeb ynglŷn â’r angen i sefydlu gwladwriaeth. Mae Locke yn gweld y broses hon fel y ‘cyfamod cymdeithasol (social contract)’ (Dienstag 1996). Wedi iddo gael ei sefydlu, gwaith y llywodraeth fyddai cynnal ein hawliau naturiol – bywyd, rhyddid ac eiddo. Tra bo hyn yn digwydd bydd disgwyl i bawb ufuddhau i’r wladwriaeth. Eto i gyd, yn nhyb Locke, mae’r grym a drosglwyddir gan bobl i’r wladwriaeth yn gyfyngedig iawn o ran ei sgôp. Nid yw’n ymestyn y tu hwnt i’r dasg o gynnal a gwarchod ein hawliau naturiol. I Locke (1689/2003), mae’r wladwriaeth angen canolbwyntio ar dasgau cyfyngedig iawn megis cadw trefn a gwarchod pobl a’u heiddo rhag ymosodiadau. Yn nhyb Locke, ni ddylai’r wladwriaeth ymyrryd mewn unrhyw fater sy’n ymestyn y tu hwnt i’r terfynau hyn. Dylai’r dasg o ddelio â materion cymdeithasol ehangach gael ei gadael i unigolion preifat. Felly, o ystyried syniadau John Locke, gwelir bod cryn debygrwydd rhyngddynt a’r dadleuon hynny ynglŷn â rhyddid negyddol a gwladwriaeth gyfyngedig a ymgorfforwyd maes o law o dan faner rhyddfrydiaeth glasurol ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Meddyliwr arall y dylid ei ystyried yng nghyd destun rhyddfrydiaeth glasurol yw’r economegydd, Adam Smith (1723-1790). Roedd gwaith Smith, er enghraifft cyfrolau megis The Wealth of Nations (1776/2007), yn gyfraniad pwysig i’r drafodaeth ynglŷn â rôl briodol y wladwriaeth, ac yn benodol, ei rôl o fewn yr economi.

Ysgrifennai Smith mewn cyfnod pan roedd hi’n arferol i wladwriaethau reoleiddio cryn dipyn ar weithrediad yr economi. Er enghraifft, trwy’r unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg. tybid y dylai gwladwriaethau ymyrryd yn yr economi er mwyn hybu’r broses o allforio nwyddau, ond ar yr un pryd, cyfyngu ar yr angen i fewnforio. Un o brif amcanion ysgrifau economaidd Smith oedd ymosod ar y meddylfryd hwn a dangos y byddai’n llawer mwy llesol pe bai’r wladwriaeth yn camu’n ôl yn llwyr o’r economi. I ddechrau, dadleuodd Smith fod ymyrraeth barhaol gan y wladwriaeth mewn materion economaidd yn cyfyngu ar ryddid pobl, er enghraifft: rhyddid perchnogion cwmnïau i benderfynu pa nwyddau i’w cynhyrchu, i bwy roeddent am eu gwerthu ac am ba bris; rhyddid gweithwyr i benderfynu i bwy roeddent am weithio, am faint o gyflog ac am faint o amser bob wythnos; a rhyddid cwsmeriaid i benderfynu pa nwyddau yr hoffent eu prynu. Fodd bynnag, yn ogystal â hybu rhyddid economaidd unigolion, dadleuodd Smith y byddai cam yn ôl gan y ddadl hon o gred Smith y dylid meddwl am yr economi fel marchnad sy’n meddu ar y gallu i drefnu a rheoleiddio ei hun. O ganlyniad, dylid atal unrhyw ymyrraeth allanol gan y wladwriaeth, er enghraifft wrth wynebu sialensiau megis diweithdra neu chwyddiant, gan adael i faterion o’r fath gael eu datrys trwy gyfrwng ‘llaw anweledig’ y farchnad (Smith 1776/2007: 293).

Datblygodd syniadau economaidd tebyg i rai Smith i fod yn ganolog i agenda’r Rhyddfrydwyr Clasurol erbyn dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Arweiniodd hyn at gred mewn polisïau economaidd laissez-faire, sef polisïau sy’n datgan y dylai’r wladwriaeth ymatal rhag ymyrryd yng ngweithrediad yr economi (Sally 1998). Yn ymarferol, golygai hyn fod Rhyddfrydwyr Clasurol wedi tueddu i wrthwynebu mesurau gan y wladwriaeth sydd â’r nod o reoleiddio agweddau ar yr economi, er enghraifft:

• Mesurau sy’n cyfyngu ar hyd y diwrnod gwaith.

• Mesurau sy’n sefydlu lleiafswm cyflog i bob gweithiwr.

• Mesurau sy’n sefydlu safonau iechyd a diogelwch y dylai pob cyflogwr eu gwarantu.

Dylanwad Rhyddfrydiaeth Glasurol

Eto i gyd, nid dim ond corff o syniadau gwleidyddol sy’n perthyn i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac sydd bellach ond o ddiddordeb hanesyddol yw Rhyddfrydiaeth Glasurol. Er bod y ffrwd hon o ryddfrydiaeth wedi colli cryn dipyn o hygrededd erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, gwelwyd llawer o’i dadleuon a’i hegwyddorion creiddiol yn ailymddangos ac yn hawlio cefnogaeth o’r newydd o tua’r 1970au ymlaen. Sbardunwyd datblygiad y ffurf fodern ar Ryddfrydiaeth Glasurol gan waith ffigurau fel Friedreich von Hayek (1960), Ayn Rand (gweler Gotthelf a Salmieri 2016) a Robert Nozick (1974). Unwaith eto, mewn rhannau o’r byd Seisnig, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig y gwreiddiodd y syniadau hyn i ddechrau – yn enwedig yn ystod cyfnod Ronald Reagan a Margaret Thatcher yn ystod yr 1980au. Fodd bynnag, law yn llaw â datblygiad globaleiddio economaidd, fe’u gwelwyd yn ymledu i bedwar ban byd erbyn dechrau’r unfed ganrif ar hugain. Yn aml iawn, adwaenid y ffrwd fwy diweddar yma o feddwl gan y label neoryddfrydiaeth.

Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Rhyddfrydiaeth: Ffrydiau Amrywiol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i addasu gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Llyfryddiaeth

Berlin, I. (1969). Four Essays on Liberty. (Oxford: Oxford University Press)

Dienstag, J. (1996) ‘Between History and Nature: Social Contract Theory in Locke and the Founders’, The Journal of Politics, 58 (4), 985-1009

Gotthelf, A., a Salmieri, G, (2016). A companion to Ayn Rand. (West Sussex: Wiley Blackwell)

Hayek, F. H., (1960). The Constitution of Liberty. (London: Routledge)

Locke, J. (1687/2003). Two Treatises of Government and a Letter Concerning Toleration. (New Hale: Yale University Press)

Nozick, R., (1974). Anarchy, State and Utopia. (Oxford: Blackwell)

Paine, T. (1776/2009). Common Sense. (Auckland: The Floating Press)

Smith, A. (1776/2007). The Wealth of the Nations. (Hampshire: Harriman House)

Smith, G. (2013). The System of Liberty: Themes in the History of Classical Liberalism (Cambridge: Cambridge University Press)

Sally, R. (1998). Classical Liberalism and International Economic Order: Studies in Theory and Intellectual History. London: Routledge


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.