Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Anghydfod Wapping"
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Saesneg: ''Wapping dispute'' | Saesneg: ''Wapping dispute'' | ||
− | Un o’r streiciau mwyaf chwerw ym myd papurau newyddion Prydain. Dechreuodd anghydfod Wapping ym mis Ionawr 1986 pan wrthododd tua 6000 o weithwyr News International, sef cwmni Rupert Murdoch (cyhoeddwr ''The Times'', ''Sunday Times'', ''The Sun'' a ''News of the World''), dderbyn amodau gwaith newydd yr oedd y rheolwyr am eu cyflwyno. Roedd yr amodau hyn yn cynnwys gofynion bod yr undebau’n cytuno i beidio â streicio, cael gwared ar y drefn bod yn rhaid i weithwyr fod yn aelodau undeb (y ‘''closed shop''’), a chyflwyno trefniadau gweithio yr oedd y cyflogwr yn eu ystyried yn fwy hyblyg. Golyga hyn y byddai rhai gweithwyr yn gorfod ymgymryd â thasgau yr oedd gweithwyr eraill yn arfer eu cyflawni, e.e. byddai’r newyddiadurwr yn teipio copi yn syth i mewn i’r system yn hytrach na danfon y copi at weithredwr leinoteip i’w deipio. Cyflwynwyd technoleg newydd (sef disodli’r ffordd o argraffu gan ddefnyddio metel poeth gyda dulliau argraffu electronig) er mwyn bod yn fwy cost-effeithiol. | + | Un o’r streiciau mwyaf chwerw ym myd papurau [[newyddion]] Prydain. Dechreuodd anghydfod Wapping ym mis Ionawr 1986 pan wrthododd tua 6000 o weithwyr News International, sef cwmni Rupert Murdoch (cyhoeddwr ''The Times'', ''Sunday Times'', ''The Sun'' a ''News of the World''), dderbyn amodau gwaith newydd yr oedd y rheolwyr am eu cyflwyno. Roedd yr amodau hyn yn cynnwys gofynion bod yr undebau’n cytuno i beidio â streicio, cael gwared ar y drefn bod yn rhaid i weithwyr fod yn aelodau undeb (y ‘''closed shop''’), a chyflwyno trefniadau gweithio yr oedd y cyflogwr yn eu ystyried yn fwy hyblyg. Golyga hyn y byddai rhai gweithwyr yn gorfod ymgymryd â thasgau yr oedd gweithwyr eraill yn arfer eu cyflawni, e.e. byddai’r newyddiadurwr yn teipio [[copi]] yn syth i mewn i’r system yn hytrach na danfon y copi at weithredwr leinoteip i’w deipio. Cyflwynwyd technoleg newydd (sef disodli’r ffordd o argraffu gan ddefnyddio metel poeth gyda dulliau argraffu electronig) er mwyn bod yn fwy cost-effeithiol. |
− | Roedd y rheolwyr am i’r gweithwyr gytuno i symud o Stryd y | + | Roedd y rheolwyr am i’r gweithwyr gytuno i symud o Stryd y Fflyd (''Fleet Street'') i waith argraffu newydd yn Wapping, Dwyrain Llundain. Yn wyneb y bygythiad o golli eu swyddi, derbyniodd y rhan fwyaf o newyddiadurwyr y telerau newydd, tra gwnaeth eraill, yn enwedig yr argraffwyr, wrthod. Gosodwyd llinellau piced gan y streicwyr. Yr oeddent yn ceisio atal bysiau a oedd yn cludo gweithwyr i’r gwaith newydd. Arestiwyd llawer, a chafodd nifer eu hanafu. Roedd ''News International'', gyda chefnogaeth yr heddlu a’r Llywodraeth, yn gallu sicrhau bod y pedwar [[papur newydd]] yn cael eu cynhyrchu’n ddi-dor. Erbyn i’r streic gael ei setlo o blaid News International ym mis Chwefror 1987, roedd cwmnïau newyddion eraill wedi penderfynu dilyn y cwmni gan adael Fleet Street ac efelychu ei arferion argraffu. |
Y diwygiad cyfredol, am 10:59, 4 Ebrill 2019
Saesneg: Wapping dispute
Un o’r streiciau mwyaf chwerw ym myd papurau newyddion Prydain. Dechreuodd anghydfod Wapping ym mis Ionawr 1986 pan wrthododd tua 6000 o weithwyr News International, sef cwmni Rupert Murdoch (cyhoeddwr The Times, Sunday Times, The Sun a News of the World), dderbyn amodau gwaith newydd yr oedd y rheolwyr am eu cyflwyno. Roedd yr amodau hyn yn cynnwys gofynion bod yr undebau’n cytuno i beidio â streicio, cael gwared ar y drefn bod yn rhaid i weithwyr fod yn aelodau undeb (y ‘closed shop’), a chyflwyno trefniadau gweithio yr oedd y cyflogwr yn eu ystyried yn fwy hyblyg. Golyga hyn y byddai rhai gweithwyr yn gorfod ymgymryd â thasgau yr oedd gweithwyr eraill yn arfer eu cyflawni, e.e. byddai’r newyddiadurwr yn teipio copi yn syth i mewn i’r system yn hytrach na danfon y copi at weithredwr leinoteip i’w deipio. Cyflwynwyd technoleg newydd (sef disodli’r ffordd o argraffu gan ddefnyddio metel poeth gyda dulliau argraffu electronig) er mwyn bod yn fwy cost-effeithiol.
Roedd y rheolwyr am i’r gweithwyr gytuno i symud o Stryd y Fflyd (Fleet Street) i waith argraffu newydd yn Wapping, Dwyrain Llundain. Yn wyneb y bygythiad o golli eu swyddi, derbyniodd y rhan fwyaf o newyddiadurwyr y telerau newydd, tra gwnaeth eraill, yn enwedig yr argraffwyr, wrthod. Gosodwyd llinellau piced gan y streicwyr. Yr oeddent yn ceisio atal bysiau a oedd yn cludo gweithwyr i’r gwaith newydd. Arestiwyd llawer, a chafodd nifer eu hanafu. Roedd News International, gyda chefnogaeth yr heddlu a’r Llywodraeth, yn gallu sicrhau bod y pedwar papur newydd yn cael eu cynhyrchu’n ddi-dor. Erbyn i’r streic gael ei setlo o blaid News International ym mis Chwefror 1987, roedd cwmnïau newyddion eraill wedi penderfynu dilyn y cwmni gan adael Fleet Street ac efelychu ei arferion argraffu.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.