Anghydfod Wapping

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Wapping dispute

Un o’r streiciau mwyaf chwerw ym myd papurau newyddion Prydain. Dechreuodd anghydfod Wapping ym mis Ionawr 1986 pan wrthododd tua 6000 o weithwyr News International, sef cwmni Rupert Murdoch (cyhoeddwr The Times, Sunday Times, The Sun a News of the World), dderbyn amodau gwaith newydd yr oedd y rheolwyr am eu cyflwyno. Roedd yr amodau hyn yn cynnwys gofynion bod yr undebau’n cytuno i beidio â streicio, cael gwared ar y drefn bod yn rhaid i weithwyr fod yn aelodau undeb (y ‘closed shop’), a chyflwyno trefniadau gweithio yr oedd y cyflogwr yn eu ystyried yn fwy hyblyg. Golyga hyn y byddai rhai gweithwyr yn gorfod ymgymryd â thasgau yr oedd gweithwyr eraill yn arfer eu cyflawni, e.e. byddai’r newyddiadurwr yn teipio copi yn syth i mewn i’r system yn hytrach na danfon y copi at weithredwr leinoteip i’w deipio. Cyflwynwyd technoleg newydd (sef disodli’r ffordd o argraffu gan ddefnyddio metel poeth gyda dulliau argraffu electronig) er mwyn bod yn fwy cost-effeithiol.

Roedd y rheolwyr am i’r gweithwyr gytuno i symud o Stryd y Fflyd (Fleet Street) i waith argraffu newydd yn Wapping, Dwyrain Llundain. Yn wyneb y bygythiad o golli eu swyddi, derbyniodd y rhan fwyaf o newyddiadurwyr y telerau newydd, tra gwnaeth eraill, yn enwedig yr argraffwyr, wrthod. Gosodwyd llinellau piced gan y streicwyr. Yr oeddent yn ceisio atal bysiau a oedd yn cludo gweithwyr i’r gwaith newydd. Arestiwyd llawer, a chafodd nifer eu hanafu. Roedd News International, gyda chefnogaeth yr heddlu a’r Llywodraeth, yn gallu sicrhau bod y pedwar papur newydd yn cael eu cynhyrchu’n ddi-dor. Erbyn i’r streic gael ei setlo o blaid News International ym mis Chwefror 1987, roedd cwmnïau newyddion eraill wedi penderfynu dilyn y cwmni gan adael Fleet Street ac efelychu ei arferion argraffu.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.