Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gorky's Zygotic Mynci"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 4: Llinell 4:
 
(gw. hefyd [[Childs, Euros (g.1975)]] a [[James, Richard (g.1975)]])
 
(gw. hefyd [[Childs, Euros (g.1975)]] a [[James, Richard (g.1975)]])
  
[[Grŵp pop]] arbrofol a ffurfiwyd yn Sir Benfro gan y ffrindiau ysgol [[Euros Childs]] (llais ac allweddellau), John Lawrence (llais a gitâr) a [[Richard James]] (gitâr fas). Yn ddiweddarach, ymunodd Euros Rowlands (drymiau) a Megan Childs (feiolin).
+
[[Grŵp pop]] arbrofol a ffurfiwyd yn Sir Benfro gan y ffrindiau ysgol Euros Childs (llais ac allweddellau), John Lawrence (llais a gitâr) a Richard James (gitâr fas). Yn ddiweddarach, ymunodd Euros Rowlands (drymiau) a Megan Childs (feiolin).
  
 
Y ddau beth mwyaf nodedig am gyfnod cynnar Gorky’s Zygotic Mynci oedd y ffaith eu bod yn blant ysgol pan ddaethant i sylw’r cyhoedd am y tro cyntaf, ac yn ail yr ystod o ddylanwadau eclectig a glywid yn eu cerddoriaeth (popeth o gerddoriaeth draddodiadol i seicedelia ac o roc blaengar i bop gwerin Eingl-Americanaidd). Roedd eu cerddoriaeth, felly, yn gymysgedd hynod greadigol (ac yn aml yn hudolus) o seiniau a syniadau, egni a nodweddion unigryw. Ar ôl recordio dau gasét annibynnol a chyfnewid mewn personél (roedd [[Steffan Cravos]] yn aelod cyn iddo fynd ati i sefydlu [[Tystion]]), aeth y band pump aelod ati i lofnodi cytundeb gyda’r label recordiau Ankst.
 
Y ddau beth mwyaf nodedig am gyfnod cynnar Gorky’s Zygotic Mynci oedd y ffaith eu bod yn blant ysgol pan ddaethant i sylw’r cyhoedd am y tro cyntaf, ac yn ail yr ystod o ddylanwadau eclectig a glywid yn eu cerddoriaeth (popeth o gerddoriaeth draddodiadol i seicedelia ac o roc blaengar i bop gwerin Eingl-Americanaidd). Roedd eu cerddoriaeth, felly, yn gymysgedd hynod greadigol (ac yn aml yn hudolus) o seiniau a syniadau, egni a nodweddion unigryw. Ar ôl recordio dau gasét annibynnol a chyfnewid mewn personél (roedd [[Steffan Cravos]] yn aelod cyn iddo fynd ati i sefydlu [[Tystion]]), aeth y band pump aelod ati i lofnodi cytundeb gyda’r label recordiau Ankst.

Diwygiad 16:08, 16 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(gw. hefyd Childs, Euros (g.1975) a James, Richard (g.1975))

Grŵp pop arbrofol a ffurfiwyd yn Sir Benfro gan y ffrindiau ysgol Euros Childs (llais ac allweddellau), John Lawrence (llais a gitâr) a Richard James (gitâr fas). Yn ddiweddarach, ymunodd Euros Rowlands (drymiau) a Megan Childs (feiolin).

Y ddau beth mwyaf nodedig am gyfnod cynnar Gorky’s Zygotic Mynci oedd y ffaith eu bod yn blant ysgol pan ddaethant i sylw’r cyhoedd am y tro cyntaf, ac yn ail yr ystod o ddylanwadau eclectig a glywid yn eu cerddoriaeth (popeth o gerddoriaeth draddodiadol i seicedelia ac o roc blaengar i bop gwerin Eingl-Americanaidd). Roedd eu cerddoriaeth, felly, yn gymysgedd hynod greadigol (ac yn aml yn hudolus) o seiniau a syniadau, egni a nodweddion unigryw. Ar ôl recordio dau gasét annibynnol a chyfnewid mewn personél (roedd Steffan Cravos yn aelod cyn iddo fynd ati i sefydlu Tystion), aeth y band pump aelod ati i lofnodi cytundeb gyda’r label recordiau Ankst.

Yn ystod y cyfnod hwn (1993–6), fe ryddhaodd y grŵp rai o’r recordiau mwyaf arbrofol erioed yn hanes pop Cymraeg. Roedd hyn yn ymestyn o’r gwaith celf ar gloriau’r albymau (gan y cynhyrchydd Alan Holmes) i’r cymysgedd eang o offerynnau. Cyfansoddwyd a recordiwyd y caneuon oddi ar eu halbwm gyntaf Patio (Ankst, 1992) tra roeddent yn ddisgyblion yn Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin, ac fe ddaeth ‘Diamonds o Monte Carlo’, gyda’i wrthgyferbyniadau beiddgar o’r soniarus a’r anghytsain â sylw iddynt ar y cyfryngau. Profodd y ddau albwm a ddilynodd, Tatay (Ankst, 1994) a Bwyd Time (Ankst, 1995) allu a chreadigrwydd y grŵp, ac ymhen dim, roedd doniau digamsyniol, hyder ifanc ac agwedd ffwrdd-â-hi’r band wedi ennill enw a dilynwyr iddynt y tu hwnt i Gymru.

Un o’r rhesymau am apêl ryngwladol Gorky’s Zygotic Mynci oedd yr hylifedd ieithyddol rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Yn 1996, rhyddhawyd casgliad o ganeuon ar gyfer y farchnad Americanaidd, ac er na chyrhaeddodd hwnnw’r siartiau pop llwyddodd i ennyn diddordeb y labeli mawr. Arweiniodd hynny at lofnodi cytundeb gyda label Fontana yn Los Angeles, Califfornia. Yng Nghymru, roedd pryder ynghylch y ffaith y byddai grwpiau Cymraeg eraill yn ymbellhau oddi wrth yr iaith ac y byddai’r gynulleidfa Gymraeg yn cael ei thraflyncu gan y diwydiant pop Eingl- Americanaidd. Ar fwy nag un achlysur bu’n rhaid i aelodau Gorky’s fynnu’r hawl i barhau i ganu’n ddwyieithog, oedd yn un o nodweddion y grŵp o’r cychwyn cyntaf.

Yn sgil symud at Fontana, tymherwyd rhywfaint ar elfennau mwyaf rhyfygus y grŵp, er mai bwriad Barafundle (Fontana, 1997), a enwyd ar ôl traeth yn Sir Benfro, oedd cyfleu eu hapêl wreiddiol ar gyfer cynulleidfa newydd. Llwyddodd y sengl oddi ar yr albwm, ‘Patio Song’, gyrraedd 50 uchaf siartiau Prydain yn 1996. Yn eu halbwm nesaf, Gorky 5 (Fontana 1998), roedd yn amlwg eu bod yn troi at arddull gerddorol lai radical, ond gan gadw ambell fflach annisgwyl.

Daeth y cytundeb gyda Fontana i ben ar ôl Gorky 5, a symudodd y grŵp at label Mantra ar gyfer eu halbwm nesaf, Spanish Dance Troupe (Mantra 1999). Yn ystod cyfnod recordio’r albwm ymadawodd John Lawrence â’r grŵp gan ddechrau gyrfa fel cerddor unigol (o dan yr enw Infinity Chimps) a chynhyrchydd. Bellach roedd Richard James yn chwarae gitâr ac ymaelododd Rhodri Puw (o Ffa Coffi Pawb) â’r grŵp.

Dangosai’r albymau a ddilynodd, megis The Blue Trees (Mantra, 2000), How I Long to Feel That Summer in My Heart (Mantra, 2001) a’u cyhoeddiad olaf, Sleep/Holiday (Mantra, 2003), yr un grefft, elfennau melodaidd a’r un synwyrusrwydd cerddorol. Ond rywsut, ni lwyddodd Gorky’s Zygotic Mynci erioed i hawlio’r poblogrwydd yr oeddynt yn ei haeddu. Cyn cyhoeddi’n ffurfiol fod y grŵp wedi chwalu, roedd Euros Childs a Richard James eisoes wedi dechrau recordio fel artistiaid unigol. Rhoddodd y grŵp unigryw hwn i’r byd pop Cymraeg rai o’i ganeuon mwyaf dewr a swynol. Dangosodd hefyd y gallai cerddoriaeth Gymraeg deithio i gyfeiriadau annisgwyl ar draws y byd, a hynny allan o ffynnon fach yn Sir Benfro.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

  • Allumette [casét] (1991)
  • Peiriant Pleser [casét] (1992)
  • Patio (Ankst 055, 1992)
  • Tatay (Ankst 047, 1994)
  • Llanfwrog [EP] (Ankst 056, 1995)
  • Bwyd Time (Ankst CD059, 1995)
  • Amber Gambler [EP] (Ankst 068, 1996)
  • Barafundle (Fontana 534769-1, 1997)
  • Gorky 5 (Fontana 558822-2, 1998)
  • Spanish Dance Troupe (Mantra MNTCD1015, 1999)
  • The Blue Trees (Mantra MNTCDM1023, 2000)
  • How I Long to Feel That Summer in My Heart (Mantra MNTCD1025, 2001)
  • Sleep/Holiday (Sanctuary SANCD-183, 2003)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.