Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Mealor, Paul (g.1975)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
Ers troad y ganrif mae nifer o’i weithiau wedi’u perfformio yng Nghymru a chan artistiaid Cymreig. Darlledwyd perfformiad [[Cerddorfeydd, Corau, Cerddorfeydd Ieuenctid ac Ensemblau | Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]] o’r gwaith ''Rising of the Sixfold Sun'' ar BBC Radio 3 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd (2000); cyfeiriwyd mewn cyfweliad at elfen ‘Fergaidd’ a chromataidd yn y gwaith hwn, yn arddangos arddull eclectig y cyfansoddwr. Yn 2002 perfformiwyd un o’i weithiau corawl cynharaf, A ''Prayer to Sunrise'', yn eglwys Neuadd Llaneurgain gan gôr ieuenctid Sir y Fflint. | Ers troad y ganrif mae nifer o’i weithiau wedi’u perfformio yng Nghymru a chan artistiaid Cymreig. Darlledwyd perfformiad [[Cerddorfeydd, Corau, Cerddorfeydd Ieuenctid ac Ensemblau | Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]] o’r gwaith ''Rising of the Sixfold Sun'' ar BBC Radio 3 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd (2000); cyfeiriwyd mewn cyfweliad at elfen ‘Fergaidd’ a chromataidd yn y gwaith hwn, yn arddangos arddull eclectig y cyfansoddwr. Yn 2002 perfformiwyd un o’i weithiau corawl cynharaf, A ''Prayer to Sunrise'', yn eglwys Neuadd Llaneurgain gan gôr ieuenctid Sir y Fflint. | ||
− | Yr un flwyddyn cafwyd datganiad o ddau waith lleisiol, ''Behold Again the Stars'', a berfformiwyd gan y bariton [[Williams, Jeremy Huw (g.1969) | Jeremy Huw Williams]] a’r pianydd Harvey Davies yn ystod [[Gŵyl]] Gerddoriaeth Newydd Bangor, a’r gân ... ''of night and the stars''... a berfformiwyd gan Williams a’r pianydd [[Llewelyn-Jones, Iwan (g.1959) | Iwan Llewelyn-Jones]] yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Cafodd ei Bedwarawd Llinynnol ei berfformio fel rhan o Ŵyl Bro Morgannwg hefyd. Yn 2003 cafwyd dehongliad o waith ar gyfer band pres, ''Rhapsody on a Theme of Purcell'', gan Fand Brighouse & Rastrick yn Neuadd Parc a Dâr, Treorci. Bu saib o oddeutu pum mlynedd cyn i weithiau diweddarach y cyfansoddwr ymddangos ar lwyfannau Cymreig; comisiynwyd gosodiad o eiriau Shakespeare ar gyfer y gwaith corawl ''Let Fall the Windows of Mine Eyes'' a berfformiwyd yn ystod Gŵyl Lleisiau Shakespeare, Aberhonddu (2008). | + | Yr un flwyddyn cafwyd datganiad o ddau waith lleisiol, ''Behold Again the Stars'', a berfformiwyd gan y bariton [[Williams, Jeremy Huw (g.1969) | Jeremy Huw Williams]] a’r pianydd Harvey Davies yn ystod [[Gwyliau Cerddoriaeth | Gŵyl]] Gerddoriaeth Newydd Bangor, a’r gân ... ''of night and the stars''... a berfformiwyd gan Williams a’r pianydd [[Llewelyn-Jones, Iwan (g.1959) | Iwan Llewelyn-Jones]] yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Cafodd ei Bedwarawd Llinynnol ei berfformio fel rhan o Ŵyl Bro Morgannwg hefyd. Yn 2003 cafwyd dehongliad o waith ar gyfer band pres, ''Rhapsody on a Theme of Purcell'', gan Fand Brighouse & Rastrick yn Neuadd Parc a Dâr, Treorci. Bu saib o oddeutu pum mlynedd cyn i weithiau diweddarach y cyfansoddwr ymddangos ar lwyfannau Cymreig; comisiynwyd gosodiad o eiriau Shakespeare ar gyfer y gwaith corawl ''Let Fall the Windows of Mine Eyes'' a berfformiwyd yn ystod Gŵyl Lleisiau Shakespeare, Aberhonddu (2008). |
Cyfrannodd Mealor ymhellach i gerddoriaeth yng Nghymru yn ystod ail ddegawd y ganrif. Cyfansoddwyd y gwaith siambr ''The Way of the Cross'', wedi’i gomisiynu gan Gerddorfa Siambr Cymru, er cof am William Mathias ar gyfer Gŵyl Biwmares (2012). Yn 2013 cydweithiodd Mealor gyda Chôrdydd trwy gynnal cyngerdd ar y cyd â’r cyfansoddwr corawl Americanaidd Morten Lauridsen yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac Eglwys Gadeiriol Llandaf. Eto yn 2013 cafwyd perfformiad cyntaf o ''The Farthest Shore'' yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a chomisiynwyd Mealor i ysgrifennu ''A Welsh Prayer'' ar gyfer Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru fel teyrnged i’r Tywysog Siarl. Recordiodd [[Terfel, Bryn (g.1965) | Bryn Terfel]] ei gân ‘Faith’s Call’ – darn sy’n arddangos symlrwydd hynod delynegol – ar ei albwm ''Homeward Bound'' yn ogystal, ar y cyd â Chôr Mormoniaid y Tabernacl, Salt Lake City (Deutsche Grammophon, 2013). Ym Medi 2013 clywyd cerddoriaeth Mealor yr ochr draw i’r Iwerydd pan berfformiwyd ''Anthem to St David'' mewn gwasanaeth gosber yn Eglwys Esgobol yr Holl Seintiau, Princeton, New Jersey. Trefnwyd y gwasanaeth fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni’r bardd R. S. Thomas. | Cyfrannodd Mealor ymhellach i gerddoriaeth yng Nghymru yn ystod ail ddegawd y ganrif. Cyfansoddwyd y gwaith siambr ''The Way of the Cross'', wedi’i gomisiynu gan Gerddorfa Siambr Cymru, er cof am William Mathias ar gyfer Gŵyl Biwmares (2012). Yn 2013 cydweithiodd Mealor gyda Chôrdydd trwy gynnal cyngerdd ar y cyd â’r cyfansoddwr corawl Americanaidd Morten Lauridsen yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac Eglwys Gadeiriol Llandaf. Eto yn 2013 cafwyd perfformiad cyntaf o ''The Farthest Shore'' yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a chomisiynwyd Mealor i ysgrifennu ''A Welsh Prayer'' ar gyfer Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru fel teyrnged i’r Tywysog Siarl. Recordiodd [[Terfel, Bryn (g.1965) | Bryn Terfel]] ei gân ‘Faith’s Call’ – darn sy’n arddangos symlrwydd hynod delynegol – ar ei albwm ''Homeward Bound'' yn ogystal, ar y cyd â Chôr Mormoniaid y Tabernacl, Salt Lake City (Deutsche Grammophon, 2013). Ym Medi 2013 clywyd cerddoriaeth Mealor yr ochr draw i’r Iwerydd pan berfformiwyd ''Anthem to St David'' mewn gwasanaeth gosber yn Eglwys Esgobol yr Holl Seintiau, Princeton, New Jersey. Trefnwyd y gwasanaeth fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni’r bardd R. S. Thomas. |
Y diwygiad cyfredol, am 19:40, 31 Mai 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ganed y cyfansoddwr Paul Mealor yn Llanelwy. Derbyniodd wersi cyfansoddi gan William Mathias yn ystod ei ieuenctid, ac yna treuliodd gyfnod fel disgybl i John Pickard a oedd yn ddarlithydd cerdd ym Mhrifysgol Bangor ar y pryd. Ar ôl astudio gyda Nicola LeFanu, graddiodd Mealor o Brifysgol Efrog yn 1997 gyda gradd BA a derbyniodd ddoethuriaeth yn 2002. Astudiodd gyda Hans Abrahamsen a Per Nørgård yn Copenhagen yn 1998–99 yn ogystal. Fe’i penodwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberdeen yn 2003, lle mae bellach yn Athro mewn Cyfansoddi. Mae’n Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau a dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth er Teilyngdod o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam, yn 2012 a Phrifysgol Bangor yn 2013.
Daeth Mealor i sylw rhyngwladol o ganlyniad i’r motét Ubi Caritas a berfformiwyd yn ystod seremoni priodas y Tywysog William, Dug Caergrawnt, a Catherine Middleton yn Abaty Westminster, Llundain, yn 2011. Dilynodd lwybr Mathias, felly, fel cyfansoddwr ar gyfer seremoni frenhinol (roedd Mathias wedi cyfansoddi’r anthem Let the people praise Thee, O God ar gyfer priodas Tywysog a Thywysoges Cymru yn 1981). Rhyddhaodd gasgliad o’i weithiau, gan gynnwys Ubi Caritas, ar yr albwm A Tender Light (Decca, 2011), yn cael eu perfformio gan y grŵp corawl Tenebrae. Roedd eisoes wedi rhyddhau dau albwm, sef Borderlands (Campion Cameo, 2006), a oedd hefyd yn cynnwys gwaith gan ei gyn-diwtor, John Pickard, a Stabat Mater (Campion Cameo, 2009).
Yn dilyn y sylw mawr i Ubi Caritas saethodd y gân ‘Wherever you are’ i frig siartiau senglau Nadolig 2011. Cyfansoddwyd y gân ar gyfer y Military Wives Choir, côr a sefydlwyd o dan arweiniad Gareth Malone yn dilyn cyfres deledu The Choir a ddarlledwyd ar y BBC. Perfformiodd Tenebrae y gân fel trac ychwanegol ar yr albwm A Tender Light. Fel y clywir ar yr albwm hwnnw, mae elfen ysbrydol ac emosiynol amlwg yn perthyn i weithiau corawl diweddar Mealor. Dywedir i’w ffydd Gristnogol gael ei hatgyfnerthu pan oedd yn naw mlwydd oed pan fu bron iddo foddi mewn llyn ar Ynys Môn, ac o ganlyniad i’r profiad hwn daeth cerddoriaeth a chanu corawl yn hollbwysig iddo. Roedd hefyd yn weithgar fel aelod o fandiau pres yng ngogledd Cymru yn ei ieuenctid, gan iddo ddysgu chwarae’r ewffoniwm.
Ers troad y ganrif mae nifer o’i weithiau wedi’u perfformio yng Nghymru a chan artistiaid Cymreig. Darlledwyd perfformiad Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o’r gwaith Rising of the Sixfold Sun ar BBC Radio 3 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd (2000); cyfeiriwyd mewn cyfweliad at elfen ‘Fergaidd’ a chromataidd yn y gwaith hwn, yn arddangos arddull eclectig y cyfansoddwr. Yn 2002 perfformiwyd un o’i weithiau corawl cynharaf, A Prayer to Sunrise, yn eglwys Neuadd Llaneurgain gan gôr ieuenctid Sir y Fflint.
Yr un flwyddyn cafwyd datganiad o ddau waith lleisiol, Behold Again the Stars, a berfformiwyd gan y bariton Jeremy Huw Williams a’r pianydd Harvey Davies yn ystod Gŵyl Gerddoriaeth Newydd Bangor, a’r gân ... of night and the stars... a berfformiwyd gan Williams a’r pianydd Iwan Llewelyn-Jones yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Cafodd ei Bedwarawd Llinynnol ei berfformio fel rhan o Ŵyl Bro Morgannwg hefyd. Yn 2003 cafwyd dehongliad o waith ar gyfer band pres, Rhapsody on a Theme of Purcell, gan Fand Brighouse & Rastrick yn Neuadd Parc a Dâr, Treorci. Bu saib o oddeutu pum mlynedd cyn i weithiau diweddarach y cyfansoddwr ymddangos ar lwyfannau Cymreig; comisiynwyd gosodiad o eiriau Shakespeare ar gyfer y gwaith corawl Let Fall the Windows of Mine Eyes a berfformiwyd yn ystod Gŵyl Lleisiau Shakespeare, Aberhonddu (2008).
Cyfrannodd Mealor ymhellach i gerddoriaeth yng Nghymru yn ystod ail ddegawd y ganrif. Cyfansoddwyd y gwaith siambr The Way of the Cross, wedi’i gomisiynu gan Gerddorfa Siambr Cymru, er cof am William Mathias ar gyfer Gŵyl Biwmares (2012). Yn 2013 cydweithiodd Mealor gyda Chôrdydd trwy gynnal cyngerdd ar y cyd â’r cyfansoddwr corawl Americanaidd Morten Lauridsen yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac Eglwys Gadeiriol Llandaf. Eto yn 2013 cafwyd perfformiad cyntaf o The Farthest Shore yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a chomisiynwyd Mealor i ysgrifennu A Welsh Prayer ar gyfer Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru fel teyrnged i’r Tywysog Siarl. Recordiodd Bryn Terfel ei gân ‘Faith’s Call’ – darn sy’n arddangos symlrwydd hynod delynegol – ar ei albwm Homeward Bound yn ogystal, ar y cyd â Chôr Mormoniaid y Tabernacl, Salt Lake City (Deutsche Grammophon, 2013). Ym Medi 2013 clywyd cerddoriaeth Mealor yr ochr draw i’r Iwerydd pan berfformiwyd Anthem to St David mewn gwasanaeth gosber yn Eglwys Esgobol yr Holl Seintiau, Princeton, New Jersey. Trefnwyd y gwasanaeth fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni’r bardd R. S. Thomas.
Perfformir gweithiau Mealor yn rhyngwladol. Comisiynwyd Spirit of Hope yn 2014 gan Ganolfan Mileniwm Cymru ac Only Kids Aloud ar gyfer perfformiad yn Theatr Artscape, Cape Town. Ymhlith ei weithiau diweddaraf y mae’r darn corawl a cherddorfaol Celtic Prayers, cylch o ganeuon sy’n plethu dylanwadau a thestunau Celtaidd, ar gyfer dydd Gŵyl Dewi 2014. Perfformiwyd y gwaith am y tro cyntaf yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, gan Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol y BBC ynghyd â llu o leisiau ieuenctid de Cymru.
Ers 2011 cyhoeddir ei weithiau gan gwmni Novello, gyda rhan o’i gatalog yn parhau i gael ei chyhoeddi gan Wasg Gerddoriaeth Prifysgol Efrog. Yn ogystal â’i waith fel cyfansoddwr, sefydlodd Ŵyl Gerdd Llaneurgain yn 1997, ac fe’i penodwyd yn is-lywydd Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru yn 2013.
Tristian Evans
Disgyddiaeth
- A Tender Light (Decca 2781149, 2011)
Llyfryddiaeth
- Adrian Edwards, ‘New English Choral Music’, Gramophone (Gorffennaf, 2014), 83
- Cyfweliad personol â’r awdur
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.