Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llewelyn-Jones, Iwan (g.1959)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Mae’n hoff o chwarae cerddoriaeth gan Debussy a Ravel ac mae ei ddehongliad o ''Ondine'' gan yr olaf yn hynod synhwyrus. Nid cerddoriaeth o Ffrainc yn unig sy’n apelio ato, fodd bynnag, a chofir am ei chwe datganiad yn 2004 o weithiau gan Chopin. Yn 2001 rhyddhaodd gryno-ddisg o weithiau cyfansoddwyr Cymreig, ''Portreadau Cymreig'', gan ddilyn hyn ddeng mlynedd yn ddiweddarach gyda ''Caneuon Heb Eiriau'', lle bu’n trefnu ac addasu cerddoriaeth Gymreig a’i chyflwyno ar newydd wedd. | Mae’n hoff o chwarae cerddoriaeth gan Debussy a Ravel ac mae ei ddehongliad o ''Ondine'' gan yr olaf yn hynod synhwyrus. Nid cerddoriaeth o Ffrainc yn unig sy’n apelio ato, fodd bynnag, a chofir am ei chwe datganiad yn 2004 o weithiau gan Chopin. Yn 2001 rhyddhaodd gryno-ddisg o weithiau cyfansoddwyr Cymreig, ''Portreadau Cymreig'', gan ddilyn hyn ddeng mlynedd yn ddiweddarach gyda ''Caneuon Heb Eiriau'', lle bu’n trefnu ac addasu cerddoriaeth Gymreig a’i chyflwyno ar newydd wedd. | ||
− | Ymhlith y cyfansoddwyr a ysgrifennodd ddarnau ar ei gyfer y mae [[Alun Hoddinott]], [[Karl Jenkins]], [[Richard Elfyn Jones]], [[Geraint Lewis]], [[John Metcalf]] a [[John Pickard]]. Yn 2005 dyfarnwyd iddo Wobr Syr [[Geraint Evans]] gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru. Mae wedi perfformio lawer tro gyda [[Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]] mewn gweithiau gan Chopin, Litolff a Mozart, ac mae’n cyfrannu’n gyson i arlwy Radio 3, Radio Cymru ac S4C. | + | Ymhlith y cyfansoddwyr a ysgrifennodd ddarnau ar ei gyfer y mae [[Hoddinott, Alun (1929-2008) | Alun Hoddinott]], [[Jenkins, Karl (g.1944) | Karl Jenkins]], [[Jones, Richard Elfyn (g.1944) | Richard Elfyn Jones]], [[Lewis, Geraint (g.1958) |Geraint Lewis]], [[Metcalf, John (g.1946) | John Metcalf]] a [[Pickard, John (g.1963) | John Pickard]]. Yn 2005 dyfarnwyd iddo Wobr Syr [[Evans, Geraint (1922-92) | Geraint Evans]] gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru. Mae wedi perfformio lawer tro gyda [[Cerddorfeydd, Corau, Cerddorfeydd Ieuenctid ac Ensemblau | Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]] mewn gweithiau gan Chopin, Litolff a Mozart, ac mae’n cyfrannu’n gyson i arlwy Radio 3, Radio Cymru ac S4C. |
− | Bu hefyd yn weithgar ym maes cerddoriaeth mewn [[addysg]], gan gyhoeddi nifer o werslyfrau (e.e. ap Siôn a Llewelyn-Jones 2011). Derbyniodd ddoethuriaeth am ddatganiad a thraethawd hir ar gerddoriaeth Ravel o Brifysgol Caerdydd yn 2016. Daeth yn aelod o staff adran gerddoriaeth [[Prifysgol]] Bangor yn ystod yr un flwyddyn. | + | Bu hefyd yn weithgar ym maes cerddoriaeth mewn [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysg]], gan gyhoeddi nifer o werslyfrau (e.e. ap Siôn a Llewelyn-Jones 2011). Derbyniodd ddoethuriaeth am ddatganiad a thraethawd hir ar gerddoriaeth Ravel o Brifysgol Caerdydd yn 2016. Daeth yn aelod o staff adran gerddoriaeth [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Bangor yn ystod yr un flwyddyn. |
'''Richard Elfyn Jones''' | '''Richard Elfyn Jones''' |
Y diwygiad cyfredol, am 21:04, 31 Mai 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Pianydd sy’n hanu o Amlwch, Ynys Môn. Fe’i hedmygir am gywreinrwydd ei berfformiadau, yn enwedig yn y repertoire Ffrengig, a gweithiau newydd gan gyfansoddwyr Cymreig. Astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, a’r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle dyfarnwyd iddo Wobr Chopin, Gwobr Deuawd Offerynnol a Medal Aur Hopkinson. Cafodd lwyddiant mewn cystadlaethau tramor yn Sbaen, Ffrainc a’r Eidal. Astudiodd hefyd gyda Noretta Conci a Cecile Ousset (g.1936). Daeth i sylw ar ôl ei gyngerdd llwyddiannus cyntaf yn Neuadd Wigmore yn 1987.
Mae’n hoff o chwarae cerddoriaeth gan Debussy a Ravel ac mae ei ddehongliad o Ondine gan yr olaf yn hynod synhwyrus. Nid cerddoriaeth o Ffrainc yn unig sy’n apelio ato, fodd bynnag, a chofir am ei chwe datganiad yn 2004 o weithiau gan Chopin. Yn 2001 rhyddhaodd gryno-ddisg o weithiau cyfansoddwyr Cymreig, Portreadau Cymreig, gan ddilyn hyn ddeng mlynedd yn ddiweddarach gyda Caneuon Heb Eiriau, lle bu’n trefnu ac addasu cerddoriaeth Gymreig a’i chyflwyno ar newydd wedd.
Ymhlith y cyfansoddwyr a ysgrifennodd ddarnau ar ei gyfer y mae Alun Hoddinott, Karl Jenkins, Richard Elfyn Jones, Geraint Lewis, John Metcalf a John Pickard. Yn 2005 dyfarnwyd iddo Wobr Syr Geraint Evans gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru. Mae wedi perfformio lawer tro gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC mewn gweithiau gan Chopin, Litolff a Mozart, ac mae’n cyfrannu’n gyson i arlwy Radio 3, Radio Cymru ac S4C.
Bu hefyd yn weithgar ym maes cerddoriaeth mewn addysg, gan gyhoeddi nifer o werslyfrau (e.e. ap Siôn a Llewelyn-Jones 2011). Derbyniodd ddoethuriaeth am ddatganiad a thraethawd hir ar gerddoriaeth Ravel o Brifysgol Caerdydd yn 2016. Daeth yn aelod o staff adran gerddoriaeth Prifysgol Bangor yn ystod yr un flwyddyn.
Richard Elfyn Jones
Disgyddiaeth
- Portreadau Cymreig (Sain SCD2308, 2001)
- Caneuon Heb Eiriau (Sain SCD2646, 2011)
Llyfryddiaeth
- Alun Guy ac Iwan Llewelyn-Jones, TGAU Cerddoriaeth – Llawlyfr y Myfyriwr (Llundain, 2009)
- Pwyll ap Siôn ac Iwan Llewelyn-Jones, Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes: Canllaw i Fyfyrwyr (Aberystwyth, 2011)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.