Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "De Lloyd, David (1883-1948)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Cyfansoddwr ac athro [[prifysgol]]. Ganed David John De Lloyd yn Sgiwen, Sir Forgannwg, yn fab i asiant yswiriant, ac am gyfran helaeth o’i flynyddoedd cynnar bu’r teulu’n symud o le i le, cyn ymsefydlu maes o law ym Mhenparcau, Aberystwyth.
+
Cyfansoddwr ac athro [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | prifysgol]]. Ganed David John De Lloyd yn Sgiwen, Sir Forgannwg, yn fab i asiant yswiriant, ac am gyfran helaeth o’i flynyddoedd cynnar bu’r teulu’n symud o le i le, cyn ymsefydlu maes o law ym Mhenparcau, Aberystwyth.
  
Amlygodd de Lloyd ddawn gerddorol ryfeddol yn blentyn. Yn 1894, cyfarfu â John Spencer Curwen, hyrwyddwr y drefn nodiant sol-ffa, pan oedd Curwen yn ymweld â Chaerfyrddin ar gyfer un o gynadleddau’r Gymdeithas [[Tonic Sol-ffa]]. Yn sgil y cyfarfyddiad, bu de Lloyd yng nghwmni Curwen ar daith o gwmpas y Deyrnas Unedig, gan ysgwyddo’r cyfrifoldeb am arddangos cymwysiadau mwy cymhleth y drefn nodiant sol-ffa. Ar ôl dychwelyd i Gymru enillodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, i astudio hanes. Cafodd radd BA yn 1903, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach ef oedd y cyntaf i raddio o Brifysgol Cymru â gradd BMus. Barnwyd bod ei ddawn mor eithriadol nes dyfarnu iddo ysgoloriaeth dysteb gyhoeddus i fynd yn ei flaen i astudio yn Leipzig.
 
Llinell 8: Llinell 8:
 
Ar ôl dychwelyd o’r Almaen bu’n dysgu mewn ysgolion yn Llundain a Llanelli, ac enillodd ddwy radd gerddoriaeth arall, gan gynnwys DMus o Brifysgol Dulyn. Yn 1919 fe’i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Cyrhaeddodd yno bron yr un pryd ag y penodwyd [[Walford Davies]] i’r Gadair Gerddoriaeth. Roeddynt yn gymeriadau gwahanol iawn i’w gilydd. Roedd Walford Davies yn lliwgar a charismataidd, a llawer o’i amser yn cael ei lyncu gan ymrwymiadau allanol, gan gynnwys bod yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Cymru ac yn Gadeirydd Cyngor Cerddoriaeth Cymru. Roedd de Lloyd, ar y llaw arall, yn dawelach a mwy encilgar wrth natur ond yn ymroi’n gydwybodol i’w ddyletswyddau. Ceir yr argraff mai ef a oedd yn ysgwyddo llawer o’r baich o redeg yr adran a’i chyngherddau cyhoeddus yn llyfn ac nid oedd yn syndod mai ef a olynodd Walford Davies fel Athro yn 1926.
 
Roedd yn ergyd greulon i’r brifysgol pan fu farw de Lloyd, a oedd wedi gweithio mor ddiwyd ac effeithiol yno, a hynny ar ddiwrnod ei ymddeoliad. Roedd wedi dwyn clod a bri i’r coleg, wedi bod yn hynod weithgar fel [[arweinydd]] corau a grwpiau offerynnol ac wedi bod wrth galon bywyd cerddorol Aberystwyth am ddeng mlynedd ar hugain, yn ogystal â gwasanaethu’n ddiflino fel beirniad mewn [[eisteddfodau]] ar hyd a lled y wlad.
+
Roedd yn ergyd greulon i’r brifysgol pan fu farw de Lloyd, a oedd wedi gweithio mor ddiwyd ac effeithiol yno, a hynny ar ddiwrnod ei ymddeoliad. Roedd wedi dwyn clod a bri i’r coleg, wedi bod yn hynod weithgar fel [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinydd]] corau a grwpiau offerynnol ac wedi bod wrth galon bywyd cerddorol Aberystwyth am ddeng mlynedd ar hugain, yn ogystal â gwasanaethu’n ddiflino fel beirniad mewn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]] ar hyd a lled y wlad.
  
Prin y perfformir ei gyfansoddiadau niferus bellach. Yn eu plith y mae [[opera]], ''Gwenllian'' (1924); ''Tir na n’Og'', cân delynegol i eiriau gan [[T. Gwynn Jones]]; [[cantata]], ''Gwlad fy Nhadau''; a sawl [[emyn-dôn]]. Roedd yn drefnydd cerddoriaeth hefyd a chyhoeddodd argraffiad o ''Forty Welsh Traditional Tunes'', a ymddangosodd yn y ''Transactions of the Cardiganshire Antiquarian Society'' yn 1929.
+
Prin y perfformir ei gyfansoddiadau niferus bellach. Yn eu plith y mae [[opera]], ''Gwenllian'' (1924); ''Tir na n’Og'', cân delynegol i eiriau gan [[T. Gwynn Jones]]; [[Cantata | cantata]], ''Gwlad fy Nhadau''; a sawl [[Emyn-donau | emyn-dôn]]. Roedd yn drefnydd cerddoriaeth hefyd a chyhoeddodd argraffiad o ''Forty Welsh Traditional Tunes'', a ymddangosodd yn y ''Transactions of the Cardiganshire Antiquarian Society'' yn 1929.
  
'''Trevor Herbert'''
 
'''Trevor Herbert'''

Diwygiad 22:11, 31 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr ac athro prifysgol. Ganed David John De Lloyd yn Sgiwen, Sir Forgannwg, yn fab i asiant yswiriant, ac am gyfran helaeth o’i flynyddoedd cynnar bu’r teulu’n symud o le i le, cyn ymsefydlu maes o law ym Mhenparcau, Aberystwyth.

Amlygodd de Lloyd ddawn gerddorol ryfeddol yn blentyn. Yn 1894, cyfarfu â John Spencer Curwen, hyrwyddwr y drefn nodiant sol-ffa, pan oedd Curwen yn ymweld â Chaerfyrddin ar gyfer un o gynadleddau’r Gymdeithas Tonic Sol-ffa. Yn sgil y cyfarfyddiad, bu de Lloyd yng nghwmni Curwen ar daith o gwmpas y Deyrnas Unedig, gan ysgwyddo’r cyfrifoldeb am arddangos cymwysiadau mwy cymhleth y drefn nodiant sol-ffa. Ar ôl dychwelyd i Gymru enillodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, i astudio hanes. Cafodd radd BA yn 1903, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach ef oedd y cyntaf i raddio o Brifysgol Cymru â gradd BMus. Barnwyd bod ei ddawn mor eithriadol nes dyfarnu iddo ysgoloriaeth dysteb gyhoeddus i fynd yn ei flaen i astudio yn Leipzig.

Ar ôl dychwelyd o’r Almaen bu’n dysgu mewn ysgolion yn Llundain a Llanelli, ac enillodd ddwy radd gerddoriaeth arall, gan gynnwys DMus o Brifysgol Dulyn. Yn 1919 fe’i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Cyrhaeddodd yno bron yr un pryd ag y penodwyd Walford Davies i’r Gadair Gerddoriaeth. Roeddynt yn gymeriadau gwahanol iawn i’w gilydd. Roedd Walford Davies yn lliwgar a charismataidd, a llawer o’i amser yn cael ei lyncu gan ymrwymiadau allanol, gan gynnwys bod yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Cymru ac yn Gadeirydd Cyngor Cerddoriaeth Cymru. Roedd de Lloyd, ar y llaw arall, yn dawelach a mwy encilgar wrth natur ond yn ymroi’n gydwybodol i’w ddyletswyddau. Ceir yr argraff mai ef a oedd yn ysgwyddo llawer o’r baich o redeg yr adran a’i chyngherddau cyhoeddus yn llyfn ac nid oedd yn syndod mai ef a olynodd Walford Davies fel Athro yn 1926.

Roedd yn ergyd greulon i’r brifysgol pan fu farw de Lloyd, a oedd wedi gweithio mor ddiwyd ac effeithiol yno, a hynny ar ddiwrnod ei ymddeoliad. Roedd wedi dwyn clod a bri i’r coleg, wedi bod yn hynod weithgar fel arweinydd corau a grwpiau offerynnol ac wedi bod wrth galon bywyd cerddorol Aberystwyth am ddeng mlynedd ar hugain, yn ogystal â gwasanaethu’n ddiflino fel beirniad mewn eisteddfodau ar hyd a lled y wlad.

Prin y perfformir ei gyfansoddiadau niferus bellach. Yn eu plith y mae opera, Gwenllian (1924); Tir na n’Og, cân delynegol i eiriau gan T. Gwynn Jones; cantata, Gwlad fy Nhadau; a sawl emyn-dôn. Roedd yn drefnydd cerddoriaeth hefyd a chyhoeddodd argraffiad o Forty Welsh Traditional Tunes, a ymddangosodd yn y Transactions of the Cardiganshire Antiquarian Society yn 1929.

Trevor Herbert

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.