Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwyliau Cerddoriaeth"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
Ers hynny mae’r Ŵyl wedi cynnwys yn ei rhaglen yr holl glasuron safonol i gorau gan Bach, Handel, Beethoven, Mendelssohn a Brahms ynghyd â pherfformiadau cyngerdd o operâu fel ''Carmen'' Bizet a ''Nabucco'' ac ''Aida'' Verdi, dan arweiniad yr Eidalwr o’r Ariannin Carlo Felice Cillario (1915–2007). Bu cynrychiolaeth dda o weithiau Prydeinig: ''Hiawatha’s Wedding Feast'' Coleridge-Taylor, ''The Dream of Gerontius'' a ''The Music-Makers'' Elgar, ''Sea Symphony, Benedicite'' a ''Serenade to Music'' Vaughan Williams, ''The Rio Grande'' Lambert ac ''A Child of our Time'' gan Tippett. Bu pwyslais amlwg hefyd ar ''repertoire'' Cymreig fel ''Rhapsody on Welsh Airs'' Percy Fletcher, ''Song of the Wind'' Vincent Thomas, ''Gweddi'' [[Hughes, Arwel (1909-1988) | Arwel Hughes]], a ''The Country Beyond the Stars'' a ''St Peter'' [[Jones, Daniel (1912-93) | Daniel Jones]]. | Ers hynny mae’r Ŵyl wedi cynnwys yn ei rhaglen yr holl glasuron safonol i gorau gan Bach, Handel, Beethoven, Mendelssohn a Brahms ynghyd â pherfformiadau cyngerdd o operâu fel ''Carmen'' Bizet a ''Nabucco'' ac ''Aida'' Verdi, dan arweiniad yr Eidalwr o’r Ariannin Carlo Felice Cillario (1915–2007). Bu cynrychiolaeth dda o weithiau Prydeinig: ''Hiawatha’s Wedding Feast'' Coleridge-Taylor, ''The Dream of Gerontius'' a ''The Music-Makers'' Elgar, ''Sea Symphony, Benedicite'' a ''Serenade to Music'' Vaughan Williams, ''The Rio Grande'' Lambert ac ''A Child of our Time'' gan Tippett. Bu pwyslais amlwg hefyd ar ''repertoire'' Cymreig fel ''Rhapsody on Welsh Airs'' Percy Fletcher, ''Song of the Wind'' Vincent Thomas, ''Gweddi'' [[Hughes, Arwel (1909-1988) | Arwel Hughes]], a ''The Country Beyond the Stars'' a ''St Peter'' [[Jones, Daniel (1912-93) | Daniel Jones]]. | ||
− | Ymhlith yr unawdwyr a berfformiodd yr oedd y sopranos Isobel Baillie, Stiles Allen a Heather Harper, y contraltos Astra Desmond, Constance Shacklock a Norma Proctor, y tenoriaid Parry Jones, Richard Lewis, David Galliver a John Mitchinson, a’r baswyr Keith Falkner, Owen Brannigan, Trevor Anthony, John Carol Case a Raimund Herincx. Roedd yr [[arweinyddion]] hirdymor yn cynnwys Adrian Boult, John Barbirolli, Eric Chadwick, Charles Groves, Reginald Jacques a Henry Wood a ddywedodd, ar ôl cyfarwyddo ''Requiem'' Verdi yn 1939, fod y perfformiad wedi ‘creu safon newydd o lwyddiant corawl yn rhengoedd cantorion Cymru’ (Allen 1948, 34). Hyd yr Ail Ryfel Byd, amaturiaid oedd yr offerynwyr cerddorfaol at ei gilydd, ond pan ailddechreuodd yr Ŵyl yn 1946 cyflogwyd ensemblau fel yr Hallé, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham a Cherddorfa Symffoni Bournemouth. | + | Ymhlith yr unawdwyr a berfformiodd yr oedd y sopranos Isobel Baillie, Stiles Allen a Heather Harper, y contraltos Astra Desmond, Constance Shacklock a Norma Proctor, y tenoriaid Parry Jones, Richard Lewis, David Galliver a John Mitchinson, a’r baswyr Keith Falkner, Owen Brannigan, Trevor Anthony, John Carol Case a Raimund Herincx. Roedd yr [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinyddion]] hirdymor yn cynnwys Adrian Boult, John Barbirolli, Eric Chadwick, Charles Groves, Reginald Jacques a Henry Wood a ddywedodd, ar ôl cyfarwyddo ''Requiem'' Verdi yn 1939, fod y perfformiad wedi ‘creu safon newydd o lwyddiant corawl yn rhengoedd cantorion Cymru’ (Allen 1948, 34). Hyd yr Ail Ryfel Byd, amaturiaid oedd yr offerynwyr cerddorfaol at ei gilydd, ond pan ailddechreuodd yr Ŵyl yn 1946 cyflogwyd ensemblau fel yr Hallé, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham a Cherddorfa Symffoni Bournemouth. |
− | Heddiw mae Côr yr Ŵyl yn cynnwys tua chant o aelodau o dri o gorau cysylltiedig: Llanidloes, Llandinam a Chaersws, gyda Chymdeithasau Corawl y Drenewydd a’r Trallwng ynghyd â chantorion unigol o ardal Machynlleth yn cefnogi a Philharmonia Gogledd Cymru yn cyfeilio. Cynhelir yr Ŵyl bob mis Mai yn Theatr Hafren yn y Drenewydd. Mae’n cynnal y cysylltiadau â theulu Davies ond yn dibynnu fwyfwy ar gymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru a noddwyr preifat. Ymhlith yr arweinyddion diweddar bu Owain Arwel Hughes, Roland Morris a Gwyn L. Williams, a arweiniodd y perfformiad cyntaf o waith [[Jones, Richard Elfyn (g.1944) | Richard Elfyn Jones]], ''Goroesiad Cenedl'' i nodi’r Milflwyddiant. Dathlodd yr arweinydd presennol, Patrick Larley, 90fed penblwydd yr Ŵyl yn 2011 drwy gyfansoddi ''The Gentle Earth of Wales,'' ffantasia gorawl mewn naw symudiad sy’n defnyddio [[alawon gwerin]] Cymru a thestunau gan feirdd a chanddynt gysylltiadau â Maldwyn, sef George Herbert ac R. S. Thomas. | + | Heddiw mae Côr yr Ŵyl yn cynnwys tua chant o aelodau o dri o gorau cysylltiedig: Llanidloes, Llandinam a Chaersws, gyda Chymdeithasau Corawl y Drenewydd a’r Trallwng ynghyd â chantorion unigol o ardal Machynlleth yn cefnogi a Philharmonia Gogledd Cymru yn cyfeilio. Cynhelir yr Ŵyl bob mis Mai yn Theatr Hafren yn y Drenewydd. Mae’n cynnal y cysylltiadau â theulu Davies ond yn dibynnu fwyfwy ar gymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru a noddwyr preifat. Ymhlith yr arweinyddion diweddar bu Owain Arwel Hughes, Roland Morris a Gwyn L. Williams, a arweiniodd y perfformiad cyntaf o waith [[Jones, Richard Elfyn (g.1944) | Richard Elfyn Jones]], ''Goroesiad Cenedl'' i nodi’r Milflwyddiant. Dathlodd yr arweinydd presennol, Patrick Larley, 90fed penblwydd yr Ŵyl yn 2011 drwy gyfansoddi ''The Gentle Earth of Wales,'' ffantasia gorawl mewn naw symudiad sy’n defnyddio [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon gwerin]] Cymru a thestunau gan feirdd a chanddynt gysylltiadau â Maldwyn, sef George Herbert ac R. S. Thomas. |
Cynhaliwyd y ''Three Valleys Festival'' (Gŵyl y Tri Chwm) gyntaf ym mis Mai 1930 pan ddaeth Walford Davies â thri chôr at ei gilydd ynghyd â thri arweinydd gwadd, Henry Wood, W. Gillies Whittaker a Malcolm Sargent, am wythnos o berfformiadau gan gynnwys ''Hymn of Praise'' Mendelssohn a ''Messiah'' Handel. Deuai aelodau’r corau o gymoedd Rhondda, Dâr a Merthyr ac roedd yr Ŵyl yn eithaf unigryw, yn ôl y daflen, gan ei bod yn gwasanaethu achos cerddoriaeth ar y naill law ac yn ymdrech ar raddfa fawr i adfywio cymdeithas yr un pryd. Gwnaed colled o £640, a dalwyd gan grant gan Ymddiriedolaeth Carnegie i gynorthwyo cerddoriaeth mewn ardaloedd difreintiedig. Torrwyd yn ôl ar yr Ŵyl a’i gwneud yn ddigwyddiad tridiau o 1932 gyda Sargent yn arwain ar saith achlysur yn olynol. Erbyn 1938 roedd 29 o gorau cyfun yn cynnwys 2,770 o gantorion, a cherddorfa o 70 o offerynwyr yn cyfeilio. | Cynhaliwyd y ''Three Valleys Festival'' (Gŵyl y Tri Chwm) gyntaf ym mis Mai 1930 pan ddaeth Walford Davies â thri chôr at ei gilydd ynghyd â thri arweinydd gwadd, Henry Wood, W. Gillies Whittaker a Malcolm Sargent, am wythnos o berfformiadau gan gynnwys ''Hymn of Praise'' Mendelssohn a ''Messiah'' Handel. Deuai aelodau’r corau o gymoedd Rhondda, Dâr a Merthyr ac roedd yr Ŵyl yn eithaf unigryw, yn ôl y daflen, gan ei bod yn gwasanaethu achos cerddoriaeth ar y naill law ac yn ymdrech ar raddfa fawr i adfywio cymdeithas yr un pryd. Gwnaed colled o £640, a dalwyd gan grant gan Ymddiriedolaeth Carnegie i gynorthwyo cerddoriaeth mewn ardaloedd difreintiedig. Torrwyd yn ôl ar yr Ŵyl a’i gwneud yn ddigwyddiad tridiau o 1932 gyda Sargent yn arwain ar saith achlysur yn olynol. Erbyn 1938 roedd 29 o gorau cyfun yn cynnwys 2,770 o gantorion, a cherddorfa o 70 o offerynwyr yn cyfeilio. |
Y diwygiad cyfredol, am 16:15, 8 Gorffennaf 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Yr ŵyl gyntaf o bwys yng Nghymru nad oedd yn un gystadleuol oedd Gŵyl Harlech, a sefydlwyd yn 1867 yn ôl awgrym Owen Roberts, saer o Dalsarnau, ac a gynhaliwyd gyntaf ar 25 Mehefin 1868. Cyfarfu grŵp o weinidogion, ysgolfeistri a masnachwyr Anghydffurfiol yn festri un o gapeli Dyffryn a ffurfio Undeb Cerddorol Dirwestwyr Ardudwy, a ddaeth yn ddiweddarach yn Canu Harlech. Samuel Holland, un o gymeriadau blaenllaw diwydiant llechi Ffestiniog ac AS Meirionnydd dros y Rhyddfrydwyr yn ddiweddarach, a noddai’r cyngherddau dirwest cynnar hyn o ran-ganeuon, anthemau ac emyn-donau a esblygodd maes o law yn berfformiadau oratorio llawn Cylchwyl Gerddorol Castell Harlech.
Yn ei hanterth, roedd yr Ŵyl yn fenter gydweithredol ryfeddol lle byddai unawdwyr, cerddorfa a chorau cyfun o oddeutu 1,500 o leisiau yn ymgynnull yn flynyddol o bedair sir wledig Meirionnydd, Caernarfon, Trefaldwyn ac Aberteifi, i berfformio yn yr awyr agored yng nghwrt mewnol y Castell. Daeth Harlech yn ganolfan ddiwylliannol unigryw ar adeg Gŵyl a helaethwyd platfformau ei gorsaf drenau, a oedd hefyd wedi agor yn 1867, i dderbyn y cantorion niferus ac aelodau’r cynulleidfaoedd a gyrhaeddai ar drenau arbennig.
Parhaodd y gyfres gyntaf o wyliau am 19 tymor yn olynol a thalwyd i offerynwyr cerddorfaol ddod o brif ddinasoedd Lloegr, gan na chredid bod offerynwyr Cymru yn ddigon medrus. Byddai’r corau’n canu ar wahân a chyda’i gilydd dros dri diwrnod: cerddoriaeth gysegredig yn y bore, cerddoriaeth seciwlar yn y prynhawn a darn sylweddol gyda’r nos fel Messiah Handel, Creadigaeth Haydn neu Elijah Mendelssohn. Ieuan Gwyllt oedd yr arweinydd cyntaf a châi pob côr ymarfer unigol, gan roi cyfle iddo wella. Roedd pawb hefyd yn cael clywed prif unawdwyr y dydd, pobl fel Edith Wynne, Mary Davies, Laura Evans Williams, Sybil Vane, Dilys Jones, Eos Morlais, Owain Alaw, David Ellis, Walter Glynne, Owen Bryngwyn, David Brazell, Brinley Richards a Joseph Parry, cyfle a oedd yn anghyffredin ar y pryd.
O 1910 adfywiwyd yr Ŵyl gan Owen O. Roberts, ysgolfeistr yn Nolgellau a mab y sylfaenydd. Perfformiodd 16 o gorau o Borthmadog i Fachynlleth, i gyfeiliant cerddorfa Vasco Akeroyd o Lerpwl, i 8,000 o bobl yn y Castell gyda channoedd yn rhagor y tu allan. Erbyn yr 1920au, ar ôl ffurfio Cerddorfa Symffoni Cymru, câi’r Ŵyl ei harwain gan Henry Wood a Henry Walford Davies a chan Edward Elgar a gyfarwyddodd The Apostles yn 1924. Ymhlith y cyfansoddiadau Cymreig yr oedd gwaith D. Christmas Williams (1871–1926), Suite yn D leiaf (1924), a thynnodd sylwebyddion sylw at symbolaeth gŵyl ‘a gâi ei chynnal o fewn i’r union furiau a godwyd i fygu cenedligrwydd Cymreig a sathru’r Gymraeg dan draed’ (Cambrian News, 10 Gorffennaf 1914). Gallai tywydd gwael amharu ar yr Ŵyl – yn 1920 ni pherfformiwyd y Messiah oherwydd glaw. Ac roedd nifer y côr-gantorion hefyd yn gallu arwain at ddiffyg disgyblaeth, gyda rhai’n cyrraedd yn hwyr neu’n diflannu’n gynnar gan godi gwrychyn eu cyd-gantorion a’r gynulleidfa. Yn ôl poster 1927, yr Ŵyl hon oedd y wledd gerddorol ragoraf yng Nghymru, ond erbyn 1934 roedd wedi mynd yn aberth i’r Dirwasgiad.
Ystyriai Walford Davies Ŵyl Harlech yn ‘esiampl organig o Ŵyl Gerddorol Sirol’ (Davies 1926, 14), yn rhydd o feirniadaethau, gwobrau ariannol a’r awydd i drechu eraill fel mewn Eisteddfod gystadleuol. Ar ôl ei benodi’n Athro Cerddoriaeth Gregynog cyntaf Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1919, a ffurfio’r Montgomery County Recreation Association gan David Davies, sef Arglwydd Davies o Landinam yn ddiweddarach, yr un flwyddyn, cynhaliwyd The Montgomeryshire Music Festival (Gŵyl Gerddoriaeth Sir Drefaldwyn) am y tro cyntaf ar 21 Gorffennaf 1921.
Pafiliwn y Sir yn y Drenewydd oedd y lleoliad, sef hen sied awyrennau o Swydd Lincoln a brynwyd am £7,250 gan y Swyddfa Ryfel a’i haddasu i wneud lle i 2,000 o bobl eistedd. Perfformiodd 19 o gorau cyfun, cyfanswm o 1,300 o leisiau Hymn of Praise Mendelssohn a rhan gyntaf Requiem Mozart. Yr arweinydd oedd John Morgan Nicholas, Trefnydd Cerddoriaeth Sir Drefaldwyn, ac roedd y gerddorfa lawn yn cynnwys Hubert Davies, Arthur Williams ac aelodau eraill o staff yr adran gerdd yn Aberystwyth. Ar y gofraglen ceir yr arwyddair ‘Môr o gân yw Cymru i gyd’ ac mae rhagair Walford Davies yn disgrifio’r Ŵyl fel ‘digwyddiad mawr, llawn posibiliadau bendigedig ... Gŵyl yn tarddu o galon a meddwl Maldwyn’.
Ers hynny mae’r Ŵyl wedi cynnwys yn ei rhaglen yr holl glasuron safonol i gorau gan Bach, Handel, Beethoven, Mendelssohn a Brahms ynghyd â pherfformiadau cyngerdd o operâu fel Carmen Bizet a Nabucco ac Aida Verdi, dan arweiniad yr Eidalwr o’r Ariannin Carlo Felice Cillario (1915–2007). Bu cynrychiolaeth dda o weithiau Prydeinig: Hiawatha’s Wedding Feast Coleridge-Taylor, The Dream of Gerontius a The Music-Makers Elgar, Sea Symphony, Benedicite a Serenade to Music Vaughan Williams, The Rio Grande Lambert ac A Child of our Time gan Tippett. Bu pwyslais amlwg hefyd ar repertoire Cymreig fel Rhapsody on Welsh Airs Percy Fletcher, Song of the Wind Vincent Thomas, Gweddi Arwel Hughes, a The Country Beyond the Stars a St Peter Daniel Jones.
Ymhlith yr unawdwyr a berfformiodd yr oedd y sopranos Isobel Baillie, Stiles Allen a Heather Harper, y contraltos Astra Desmond, Constance Shacklock a Norma Proctor, y tenoriaid Parry Jones, Richard Lewis, David Galliver a John Mitchinson, a’r baswyr Keith Falkner, Owen Brannigan, Trevor Anthony, John Carol Case a Raimund Herincx. Roedd yr arweinyddion hirdymor yn cynnwys Adrian Boult, John Barbirolli, Eric Chadwick, Charles Groves, Reginald Jacques a Henry Wood a ddywedodd, ar ôl cyfarwyddo Requiem Verdi yn 1939, fod y perfformiad wedi ‘creu safon newydd o lwyddiant corawl yn rhengoedd cantorion Cymru’ (Allen 1948, 34). Hyd yr Ail Ryfel Byd, amaturiaid oedd yr offerynwyr cerddorfaol at ei gilydd, ond pan ailddechreuodd yr Ŵyl yn 1946 cyflogwyd ensemblau fel yr Hallé, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham a Cherddorfa Symffoni Bournemouth.
Heddiw mae Côr yr Ŵyl yn cynnwys tua chant o aelodau o dri o gorau cysylltiedig: Llanidloes, Llandinam a Chaersws, gyda Chymdeithasau Corawl y Drenewydd a’r Trallwng ynghyd â chantorion unigol o ardal Machynlleth yn cefnogi a Philharmonia Gogledd Cymru yn cyfeilio. Cynhelir yr Ŵyl bob mis Mai yn Theatr Hafren yn y Drenewydd. Mae’n cynnal y cysylltiadau â theulu Davies ond yn dibynnu fwyfwy ar gymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru a noddwyr preifat. Ymhlith yr arweinyddion diweddar bu Owain Arwel Hughes, Roland Morris a Gwyn L. Williams, a arweiniodd y perfformiad cyntaf o waith Richard Elfyn Jones, Goroesiad Cenedl i nodi’r Milflwyddiant. Dathlodd yr arweinydd presennol, Patrick Larley, 90fed penblwydd yr Ŵyl yn 2011 drwy gyfansoddi The Gentle Earth of Wales, ffantasia gorawl mewn naw symudiad sy’n defnyddio alawon gwerin Cymru a thestunau gan feirdd a chanddynt gysylltiadau â Maldwyn, sef George Herbert ac R. S. Thomas.
Cynhaliwyd y Three Valleys Festival (Gŵyl y Tri Chwm) gyntaf ym mis Mai 1930 pan ddaeth Walford Davies â thri chôr at ei gilydd ynghyd â thri arweinydd gwadd, Henry Wood, W. Gillies Whittaker a Malcolm Sargent, am wythnos o berfformiadau gan gynnwys Hymn of Praise Mendelssohn a Messiah Handel. Deuai aelodau’r corau o gymoedd Rhondda, Dâr a Merthyr ac roedd yr Ŵyl yn eithaf unigryw, yn ôl y daflen, gan ei bod yn gwasanaethu achos cerddoriaeth ar y naill law ac yn ymdrech ar raddfa fawr i adfywio cymdeithas yr un pryd. Gwnaed colled o £640, a dalwyd gan grant gan Ymddiriedolaeth Carnegie i gynorthwyo cerddoriaeth mewn ardaloedd difreintiedig. Torrwyd yn ôl ar yr Ŵyl a’i gwneud yn ddigwyddiad tridiau o 1932 gyda Sargent yn arwain ar saith achlysur yn olynol. Erbyn 1938 roedd 29 o gorau cyfun yn cynnwys 2,770 o gantorion, a cherddorfa o 70 o offerynwyr yn cyfeilio.
Cynhaliwyd gwyliau ym Mhafiliwn Aberpennar, y man perfformio mwyaf yng Nghymru ar y pryd, a dosbarthwyd 15,000 o gopïau o lawlyfr blynyddol dros ardal eang. Bu perfformiadau o repertoire yr Ŵyl yng ngwahanol ardaloedd y corau hefyd. Roedd Cronfa Noddwyr yn galluogi aelodau’r corau i brynu cerddoriaeth a mynychu ymarferion am y nesaf peth i ddim, ‘gan gofio bod nifer fawr o gantorion yn dioddef trallodion diweithdra, ac eto’n ddigon dewr i ddod i’r Ŵyl a chanu fel pe na bai ganddynt ofal yn y byd’ (cyfieithiad o daflen yr Ŵyl, 1938). Cynhaliwyd ysgolion penwythnos i arweinyddion yn y Barri a Phontypridd, dan arweiniad Henry Wood a Leslie Woodgate, a bu W. H. Reed yn cynnig hyfforddiant ar dechneg offerynnau llinynnol. Roedd gan bob un o’r corau unigol Bwyllgor Merched i werthu tocynnau ac, yn ystod y Dirwasgiad, byddai hyd yn oed y tocynnau rhataf yn cael eu prynu gan rai aelodau o’r gynulleidfa mewn rhandaliadau, er mai nod yr Ŵyl oedd sicrhau bod y gerddoriaeth orau ar gael i bawb yn ddiwahân, yn hytrach na gwneud elw.
Ymhlith yr unawdwyr lleisiol yr oedd Elsie Suddaby, Astra Desmond, Heddle Nash a Walter Widdop, a chafwyd ambell i seren o offerynnwr fel y pianydd Clifford Curzon a’r feiolinydd Sybil Eaton. Cyflwynwyd Dioddefaint yn ôl Sant Mathew Bach a Samson Handel ochr yn ochr â gweithiau cyfoes fel King Olaf Elgar, Toward the Unknown Region Vaughan Williams, Three Jovial Huntsmen Walford Davies a Dark the Night Malcolm Sargent. Clywyd cerddoriaeth Gymreig hefyd, gan gynnwys Deffro, Mae’n Ddydd David Evans, Salm i’r Ddaear T. Hopkin Evans a Victory of St Garmon Harry Evans.
Torrodd yr Ail Ryfel Byd ar draws yr Ŵyl a chynhaliwyd perfformiadau rhanbarthol mewn gwahanol ganolfannau yn y de hyd nes y gallodd yr Ŵyl ddychwelyd i Aberpennar yn 1947, er mai hon fyddai’r Ŵyl olaf. Roedd y rhesymau am ei dirwyn i ben yn cynnwys diffyg arweinwyr lleol, diffyg diddordeb ymhlith pobl ifanc a diddordebau newydd fel darlledu a’r sinema.
Rhian Davies
Llyfryddiaeth
- ‘Harlech Festival’, Cambrian News, 10 Gorffennaf 1914, 2
- Henry Walford Davies, The Musical Outlook in Wales (Y Drenewydd, 1926)
- Taflen, ‘Three Valleys’ Festival Patrons’ Fund’, 1938 (LlGC, Llawysgrifau Prifysgol Cymru)
- W. R. Allen, ‘The choral tradition’ yn Peter Crossley- Holland (gol.), Music in Wales (Llundain, 1948), 30–43
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.