Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Carolau"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Roedd llawer o garolau’n gysylltiedig ag arferion gwerin nad oeddynt yn amlwg grefyddol er eu bod yn perthyn i hen wyliau’r saint. Cenid carolau Mai y tu allan i’r tai i ddathlu Calan Mai a chroesawu’r haf, a cheid dawnsio o gylch y fedwen Fai, y fedwen haf neu’r gangen haf. Yng ngogledd Cymru roedd arferion y gangen haf yn arbennig yn gyfle i orymdeithio’n lliwgar a chanu caneuon megis y ‘Cadi ha’. Yn y de, cysylltid arferion y fedwen Ifan â Gŵyl Ifan (24 Mehefin). Roedd llawer o’r canu hwn hefyd yn gysylltiedig â’r ffair ac â’r ŵylmabsant, sef gŵyl sant yr eglwys leol lle’r oedd cyfle i rialtwch. Atgyfodwyd nifer o’r arferion hyn yn y cyfnod diweddar wrth i [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Amgueddfa Werin Cymru]] a Chymdeithas Ddawns Werin Cymru drefnu dathliadau Gŵyl Fai a Gŵyl Ifan. | Roedd llawer o garolau’n gysylltiedig ag arferion gwerin nad oeddynt yn amlwg grefyddol er eu bod yn perthyn i hen wyliau’r saint. Cenid carolau Mai y tu allan i’r tai i ddathlu Calan Mai a chroesawu’r haf, a cheid dawnsio o gylch y fedwen Fai, y fedwen haf neu’r gangen haf. Yng ngogledd Cymru roedd arferion y gangen haf yn arbennig yn gyfle i orymdeithio’n lliwgar a chanu caneuon megis y ‘Cadi ha’. Yn y de, cysylltid arferion y fedwen Ifan â Gŵyl Ifan (24 Mehefin). Roedd llawer o’r canu hwn hefyd yn gysylltiedig â’r ffair ac â’r ŵylmabsant, sef gŵyl sant yr eglwys leol lle’r oedd cyfle i rialtwch. Atgyfodwyd nifer o’r arferion hyn yn y cyfnod diweddar wrth i [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Amgueddfa Werin Cymru]] a Chymdeithas Ddawns Werin Cymru drefnu dathliadau Gŵyl Fai a Gŵyl Ifan. | ||
− | [[Delwedd:Cymal Cyntaf y Garol.jpeg|thumb|<small>Cymal Cyntaf y Garol ‘O Deued Pob Cristion’.</small> | + | [[Delwedd:Cymal Cyntaf y Garol.jpeg|thumb|<small>Cymal Cyntaf y Garol ‘O Deued Pob Cristion’.</small>]] |
Mae’r canu gwaseila (gw. [[Gwasael, Canu]]) yn gysylltiedig â Gŵyl Fair y Canhwyllau ar 2 Chwefror – ceid arferion ‘canu yn drws’ yng ngogledd Cymru nid annhebyg i draddodiad y Fari Lwyd yn y de, gyda phenillion yn cael eu canu bob yn ail gan gwmni o’r tu mewn ac o’r tu allan. Cofnododd Richard Morris (1703–79) yn ''Llawysgrif Richard Morris o Gerddi'' ryw dri dwsin o garolau gwirod canu ac ateb, ac roedd caneuon gorchest hefyd yn rhan o arferion Gŵyl Fair y Canhwyllau (Parry-Williams, 1931). | Mae’r canu gwaseila (gw. [[Gwasael, Canu]]) yn gysylltiedig â Gŵyl Fair y Canhwyllau ar 2 Chwefror – ceid arferion ‘canu yn drws’ yng ngogledd Cymru nid annhebyg i draddodiad y Fari Lwyd yn y de, gyda phenillion yn cael eu canu bob yn ail gan gwmni o’r tu mewn ac o’r tu allan. Cofnododd Richard Morris (1703–79) yn ''Llawysgrif Richard Morris o Gerddi'' ryw dri dwsin o garolau gwirod canu ac ateb, ac roedd caneuon gorchest hefyd yn rhan o arferion Gŵyl Fair y Canhwyllau (Parry-Williams, 1931). |
Diwygiad 13:25, 25 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn diffinio ‘carol’ fel ‘dawns; cân ysgafn lawen mewn mesur rhydd, yn enwedig y math a genid ar ŵyl i ganlyn dawnsio … cân grefyddol neu dduwiol, cân neu emyn o lawenydd, yn enwedig ynglŷn â’r Nadolig.’ Rhydd y diffiniad hwn olwg ar yr amrywiaeth pwyslais hanesyddol sydd i’r gair. Erbyn heddiw, fe’i cysylltir yn bennaf â’r math o gân boblogaidd a genir i ddathlu’r Nadolig, ond y mae ei chefndir yn lletach na hynny a cheir nifer o enghreifftiau yn y traddodiad Cymraeg o garolau sy’n perthyn i dymhorau eraill yn y flwyddyn (e.e. carolau Mai a charolau Haf). Mae’r cysylltiad â’r ddawns yn bwysig oherwydd mae’n pwysleisio ysgafnder y garol fel cân mewn mesur rhydd a genir i ddathlu. Defnyddia Gerallt Gymro y gair Lladin chorea (dawns gorawl) i ddisgrifio dawnsio a chanu ar ŵyl y santes Eluned yn y 12g., ac mewn llawysgrif o’r 14g. cynghorir addolwyr i ganu emyn penodol wrth garola neu ddawnsio.
Roedd llawer o garolau’n gysylltiedig ag arferion gwerin nad oeddynt yn amlwg grefyddol er eu bod yn perthyn i hen wyliau’r saint. Cenid carolau Mai y tu allan i’r tai i ddathlu Calan Mai a chroesawu’r haf, a cheid dawnsio o gylch y fedwen Fai, y fedwen haf neu’r gangen haf. Yng ngogledd Cymru roedd arferion y gangen haf yn arbennig yn gyfle i orymdeithio’n lliwgar a chanu caneuon megis y ‘Cadi ha’. Yn y de, cysylltid arferion y fedwen Ifan â Gŵyl Ifan (24 Mehefin). Roedd llawer o’r canu hwn hefyd yn gysylltiedig â’r ffair ac â’r ŵylmabsant, sef gŵyl sant yr eglwys leol lle’r oedd cyfle i rialtwch. Atgyfodwyd nifer o’r arferion hyn yn y cyfnod diweddar wrth i Amgueddfa Werin Cymru a Chymdeithas Ddawns Werin Cymru drefnu dathliadau Gŵyl Fai a Gŵyl Ifan.
Mae’r canu gwaseila (gw. Gwasael, Canu) yn gysylltiedig â Gŵyl Fair y Canhwyllau ar 2 Chwefror – ceid arferion ‘canu yn drws’ yng ngogledd Cymru nid annhebyg i draddodiad y Fari Lwyd yn y de, gyda phenillion yn cael eu canu bob yn ail gan gwmni o’r tu mewn ac o’r tu allan. Cofnododd Richard Morris (1703–79) yn Llawysgrif Richard Morris o Gerddi ryw dri dwsin o garolau gwirod canu ac ateb, ac roedd caneuon gorchest hefyd yn rhan o arferion Gŵyl Fair y Canhwyllau (Parry-Williams, 1931).
Traddodiad Cymreig cyfoethog, sydd wedi magu poblogrwydd newydd ers chwarter olaf yr 20g., yw traddodiad y carolau plygain. Nododd Richard Morris ddwy garol blygain yn ei lawysgrif, ac roedd cyfansoddi carolau plygain yn rhan o draddodiad gwerin sawl ardal. Un o garolwyr mwyaf toreithiog Sir Fôn yn y 18g. oedd Richard Parry, Dyserth, y daeth nifer o’i garolau i feddiant John Owen (1856–1937), Dwyran, Môn, mewn dwy lawysgrif a ddiogelir yn Amgueddfa Werin Cymru ( Evans a Kinney, 1993). Mae’r llawysgrifau hyn yn dyst i fywiogrwydd canu carolau ym Môn yn y 19g. Roedd y gwasanaeth plygain yn rhan boblogaidd o ddefod y Nadolig a cheir tystiolaeth o Ddolgellau yn 1785 am yr arfer o fynd i’r eglwys cyn y wawr ac aros yno tan wyth y bore i wrando ar garolau plygain. Parhaodd yr arfer drwy’r 19g. ond gyda mwy o bwyslais ar y gwasanaeth a chylch y plygain yn ddwy ran fel y’i dethlir heddiw. Mae’n ymddangos fod gwreiddiau’r plygain yn hen offeren Nadolig ganol nos yr Eglwys Babyddol, a bod y carolau’n cyfrif am barhad ei apêl. Yn ardal Ceinewydd, Ceredigion, y cofnodwyd yr hynaf mae’n debyg o blith y carolau Cymraeg traddodiadol, sef ‘Ar fore Dydd Nadolig’, a all fod â’i gwreiddiau yng nghanu plaengan y 15g.
Parhaodd llawer o’r arferion traddodiadol wedi’r Diwygiad Protestannaidd ac fe geir beirdd yr 17g. yn cyfansoddi carolau y gellid eu canu; dyna a geir, er enghraifft, yng nghasgliad Thomas Jones, Carolau a Dyriau Duwiol (1696). Parhaodd apêl carolau’r Ficer Prichard (1579?–1644), megis ‘Awn i Fethlem’ a ‘Clywch adrodd mawr gariad’, am ganrifoedd, ac fe’u cenid i alawon traddodiadol. Yr alaw fwyaf poblogaidd a hirhoedlog y cenid carolau plygain arni oedd ‘Ffarwel Ned Puw’, a daliwyd i arfer ‘Gwêl yr Adeilad’, sef alaw faled o Loegr yn wreiddiol (‘See the Building’), fel alaw i garolau plygain yng Nghymru. Ceir sawl ffurf hefyd ar fesur ‘Mentra Gwen’.
Rhoddwyd hwb i’r traddodiad plygain trwy’r gwaith recordio a wnaethpwyd gan Roy Saer yn Nyffryn Tanad yn yr 1960au, lle’r oedd traddodiad y carolau plygain wedi para’n ddi-dor. Ailboblogeiddiwyd llawer o’r carolau plygain a oedd wedi eu diogelu ym Maldwyn a datblygodd traddodiad newydd o wasanaethau plygain ar hyd a lled Cymru. Nodwedd bennaf llawer o’r carolau plygain yw eu meithder – maent yn aml yn ymdrin nid yn unig â geni Crist ond â’i farwolaeth a’i atgyfodiad hefyd, gan gwmpasu holl drefn y cadw o fewn un garol, mewn nifer fawr o benillion.
Yn ystod y 19g. gwelwyd symudiad tebyg i’r hyn a gafwyd yn Lloegr i gefnogi canu carolau Nadolig, wrth i’r Ŵyl ei hun ddenu mwy o sylw yn ystod oes Victoria. Lluniodd y cyfansoddwr J. D. Jones (1827–70) y casgliad Caniadau Bethlehem (1857), sy’n dibynnu ar hen donau traddodiadol, i geisio hybu’r arfer o wasanaeth plygain. Erbyn diwedd y 19g. ymledodd yr arfer o lunio carolau Nadolig gwreiddiol yn Gymraeg. Yn Aberaeron, byddai L. J. Roberts (1866–1931) a J. M. Howell (1855–1927) yn cyfansoddi carol newydd bob Nadolig ac yn ei chyhoeddi ar daflen. Byddai’r cyfansoddwr Daniel Protheroe yntau yn cyfansoddi carol Nadolig newydd i’w chyhoeddi ar ei gerdyn Nadolig blynyddol. Cyfansoddwyd y garol gyfarwydd ‘O deued pob Cristion’ yn wreiddiol gan Jane Ellis, Yr Wyddgrug, a’i chyhoeddi yn 1840; ond fe’i poblogeiddiwyd wrth iddi gael ei diogelu a’i throsglwyddo yn y traddodiad llafar. Erbyn yr 20g. daeth cyfansoddi carolau Nadolig yn arfer cyffredin, a chynhwyswyd mwy o garolau o fewn y casgliadau emynau enwadol. Cyhoeddwyd casgliadau o garolau, megis Carolau Hen a Newydd (1954), Awn i Fethlem (1983) ac Wrth y Preseb (1985) a gynhwysai amrywiaeth o gyfieithiadau o garolau Ewrop yn ogystal â chyfansoddiadau Cymraeg gwreiddiol.
Rhidian Griffiths
Llyfryddiaeth
- T. H. Parry-Williams (gol.), Llawysgrif Richard Morris o Gerddi (Caerdydd, 1931)
- Meredydd Evans a Phyllis Kinney (gol.), Hen Alawon: Carolau a Cherddi (Cymeithas Alawon Gwerin Cymru, 1993)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.