Sefydliadau

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:56, 7 Medi 2024 gan AdamPierceCaerdydd (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Institutions)

Mae gan gymdeithas anghenion sylfaenol. Gan eu bod yn cyflawni swyddogaethau hanfodol i’r gymdeithas ehangach, mae rôl sefydliadau cymdeithasol yn ganolog i sylfaen cymdeithas. Mae sefydliadau cymdeithasol yn cynorthwyo cymdeithas i weithredu’n effeithiol drwy gynnal anghenion sylfaenol cymdeithas (Schaefer 2012).

Esiamplau o sefydliadau cymdeithasol sydd â rôl benodol o fewn cymdeithas yw’r teulu, y system addysg, crefydd, a’r llywodraeth. Er enghraifft, yn ôl swyddogaetholdeb prif rôl y teulu yw atgyfnerthu a chymdeithasoli unigolion.

Mae theorïau consensws fel swyddogaetholdeb yn gweld sefydliadau cymdeithasol yn hanfodol i oroesiad cymdeithas (gweler Prys a Hodges 2020). Ond mae theorïau gwrthdaro megis Marcsaeth, ffeministiaeth, damcaniaeth feirniadol hil, damcaniaeth feirniadol anabledd, ôl-drefedigaethedd a [[theori cwiar] yn gweld bod sefydliadau cymdeithasol yn hytrach yn cynnal anghydraddoldebau gan eu bod yn gweithredu er mwyn ffafrio un grŵp dros eraill.

Adam Pierce

Llyfryddiaeth

Prys, C. a Hodges, R. (2020), Cyflwyniad i Gymdeithaseg https://indd.adobe.com/view/0b0da3d8-e44e-4900-8475-a3c016add729 [Cyrchwyd: 29 Medi 2021].

Schaefer, R. (2012), Sociology: a brief introduction (New York: McGraw-Hill).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.