Cowbois Rhos Botwnnog
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ffurfiwyd Cowbois Rhos Botwnnog (neu Cowbois) yn Rhos Botwnnog, Llŷn, yn 2006 gan dri brawd, Iwan (prif lais, gitâr), Aled (llais, gitâr fas) a Dafydd Hughes (drymiau). Mae eu cerddoriaeth yn dwyn llawer o nodweddion alt-country, er gwaethaf dylanwadau o’r byd roc ar rai o’u recordiadau. Maent yn un o fandiau Cymraeg mwyaf proffesiynol a llwyddiannus y cyfnod diweddar.
Ar ôl i Aled Hughes sefydlu label newydd, Sbrigyn Ymborth, gyda dau ffrind yn 2006, rhyddhawyd albwm cyntaf y Cowbois, Dawns y Trychfilod, yn 2007 a gynhyrchwyd gan Dylan Roberts (Dyl Mei), gynt o Pep Le Pew a’r Genod Droog. Aeth yr albwm i rif un yn siart C2 ac fe gafodd adolygiadau brwd. Yr un flwyddyn, cipiodd y Cowbois wobr Band Newydd Gorau yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru, yn ogystal â gwneud argraff wrth berfformio droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug. Dilynwyd Dawns y Trychfilod gan sengl ar y cyd gyda’r gantores Gwyneth Glyn o’r enw Paid â Deud (Sbrigyn Ymborth, 2008), a oedd yn drefniant o alaw werin Gymraeg o’r un enw.
Yn 2008 ymunodd y gitarydd Llyr Pari, gynt o’r band Jen Jeniro, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach rhyddhawyd eu hail albwm, Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn (Sbrigyn Ymborth, 2010), a gynhyrchwyd y tro hwn gan David Wrench. Roedd yr albwm yn llwyddiannus, a derbyniodd wobr Albwm y Flwyddyn gan gylchgrawn Y Selar; wrth ei hyrwyddo yn ystod 2011 ymddangosodd y band yng Ngŵyl Sŵn yng Nghaerdydd, Gŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mrycheiniog ac fel prif fand yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.
Canmolwyd yr albwm Draw Dros y Mynydd (Sbrigyn Ymborth, 2012) gan amryw o sylwebwyr, gan gynnwys DJ BBC Radio 6, Tom Robinson, a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cerddoriaeth Cymru. Yn fwy diweddar, mae’r band wedi arbrofi gyda chanu yn Saesneg, gyda’u fersiwn o’r gân draddodiadol Americanaidd ‘Fall On My Knees’ yn denu sylw yn y wasg gerddorol Saesneg. Ar ôl saib o’r stiwdio, rhyddhawyd eu halbwm IV yn 2016, fe’u gwelwyd yn rhoi mwy o amlygrwydd i synau’r syntheseisydd wrth iddynt barhau i arbrofi gyda’u math arbennig eu hunain o roc-gwerin. Cafwyd cyfraniadau gan Branwen Williams (llais, piano ac organ) o’r grŵp Siddi, ac Euron Jones ar y gitâr ddur bedal, a fu’n aelodau ers 2010.
Craig Owen Jones
Disgyddiaeth
- Dawns y Trychfilod (Sbrigyn Ymborth SY01, 2007)
- [gyda Gwyneth Glyn] ‘Paid â Deud’ [sengl] (Sbrigyn Ymborth, 2008)
- Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn (Sbrigyn Ymborth SY09, 2010)
- Draw Dros y Mynydd (Sbrigyn Ymborth SY014, 2012)
- IV (Sbrigyn Ymborth SY024, 2016)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.