Solidariaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Solidarity)

Roedd solidariaeth gymdeithasol yn gysyniad pwysig iawn yng ngwaith y cymdeithasegwr Ffrengig Émile Durkheim, ac yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg datblygodd theori swyddogaetholdeb. Mae swyddogaethwyr yn canolbwyntio ar y ffordd y mae unigolion a sefydliadau cymdeithasol yn cydweithredu. Defnyddiodd Durkheim y syniad o organeb fiolegol i ddisgrifio’r ffordd roedd yn gweld cymdeithas, â phob rhan ohoni’n gweithio gyda’r rhannau eraill er mwyn cynnal y gymdeithas. Credai Durkheim fod dau brif fath o solidariaeth o fewn cymdeithasau: solidariaeth fecanyddol a solidariaeth organig.

Amlinellodd Durkheim lawer o’i syniadau am solidariaeth yn The Division of Labour (De la division du travail social, 1893). Yn ei farn ef, roedd solidariaeth yn cael ei chynnal gan y tebygrwydd rhwng unigolion o fewn cymdeithasau traddodiadol, o ran eu credoau a’u gwerthoedd yn bennaf. Solidariaeth fecanyddol oedd y term a roddodd Durkheim ar y math hwn o solidariaeth. Cyferbynnodd solidariaeth fecanyddol â solidariaeth organig. Yn ôl Durkheim, cafwyd newidiadau mawr i natur y solidariaeth o fewn cymdeithasau yn Ewrop wedi’r Chwyldro Diwydiannol. Arweiniodd hyn at newidiadau sylweddol yn natur gwaith unigolion.

Yn y cyfnod traddodiadol, dim ond ychydig o swyddi oedd ar gael i bobl – y rhan fwyaf o’r rhain yn grefftau, fel gwaith saer, gwaith gof, neu waith amaethyddol. Ar ôl y Chwyldro Diwydiannol, datblygodd amrywiaeth mawr o swyddi yn y ffatrïoedd diwydiannol newydd. Roedd gwaith pobl felly’n fwy arbenigol; byddent yn tueddu i ganolbwyntio ar un elfen fach o’r cynnyrch, ac roedd angen cydweithrediad rhwng nifer mawr o weithwyr er mwyn cwblhau’r cynnyrch. Roedd yr angen am gydweithrediad yn hollbwysig i Durkheim; credai mai dyna oedd yn cynnal solidariaeth mewn cymdeithasau diwydiannol modern.

O fewn cymdeithasau wedi’u seilio ar solidariaeth organig, roedd llai o debygrwydd rhwng unigolion o ran eu credoau a’u gwerthoedd. Arweiniodd hyn at newidiadau yn natur y gyfraith. O fewn cymdeithasau traddodiadol, rôl y gyfraith oedd cosbi’r rhai oedd yn gwyro oddi wrth werthoedd cyffredin y gymdeithas. Gan fod mwy o unigolyddiaeth ac amrywiaeth mewn credoau ac mewn cymdeithasau oedd wedi’u seilio ar solidariaeth organig, daeth cyfreithiau sifil, masnachol a gweinyddol yn fwy amlwg. Datblygodd y proffesiynau newydd hefyd eu safonau eu hunain i reoli eu gwaith.

Defnyddiodd Durkheimy term anomie i ddisgrifio sefyllfaoedd pan oedd newidiadau cymdeithasol yn digwydd yn gyflym ac nad oedd y strwythurau newydd – cyfreithiau, er enghraifft – yn gallu datblygu’n ddigon cyflym ar gyfer y sefyllfa. Pan fyddai hyn yn digwydd, roedd y diffyg normau cymdeithasol ac egwyddorion cymdeithasol yn golygu ei bod yn anodd i bobl wybod sut y dylent fyw, ac o ganlyniad roedd solidariaeth gymdeithasol yn methu.

Rhian Barrance

Llyfryddiaeth

Durkheim, É. (1893/2014), The Division of Labour in Society (New York: Free Press).

Durkheim, É. (1897/2002), Suicide (London: Routledge).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.