Williams, William (Pantycelyn)
William Williams (1717–91) oedd tad yr emyn cynulleidfaol Cymraeg ac un o brif arweinwyr y mudiad Methodistaidd yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Fe’i ganed i deulu o ffermwyr eithaf cysurus eu byd yn ardal Llanymddyfri yng ngogledd sir Gaerfyrddin. Magwyd ef ymhlith yr Anghydffurfwyr. Tua 1737 aeth i astudio mewn academi Ymneilltuol ger Talgarth yn sir Frycheiniog, a’i fryd ar fod yn feddyg, ac fel y gwelir, er enghraifft, o’r troednodiadau helaeth ar seryddiaeth yn ei gerdd hir, Golwg ar Deyrnas Crist (1756; ail arg. 1764), bu gan Williams ddiddordeb byw mewn materion gwyddonol ar hyd ei fywyd. Bu ganddo ddiddordeb mawr hefyd mewn dysg yn gyffredinol, fel y dengys ei gyfrol enseiclopedaidd, Pantheologia, neu Hanes Holl Grefyddau’r Byd (1762–1778/9). Adlewyrchai hynny ddylanwad yr Oleuedigaeth arno, er ei fod yn ofni rhesymoliaeth; ac mae’n werth nodi yn y cyd-destun hwn mai cyd-ddisgybl iddo yn yr un academi, yn ôl pob tebyg, oedd yr athronydd dylanwadol, Richard Price (1723–91).
Tra oedd Williams yn yr academi, cafodd dröedigaeth efengylaidd dan bregethu Howel Harris (1714–73), arweinydd ifanc tanllyd y mudiad Methodistaidd cynnar yng Nghymru. Mudiad efengylaidd adnewyddol a diwygiadol y tu mewn i’r Eglwys Anglicanaidd – yr eglwys wladol yng Nghymru ar y pryd – oedd Methodistiaeth yn y ddeunawfed ganrif, ac yn sgil ei dröedigaeth penderfynodd Williams geisio am urddau yn yr eglwys honno. Yn 1740 fe’i penodwyd yn gurad i’r llenor, Theophilus Evans (1693–1767), i wasanaethu mewn rhai plwyfi yn ardal Llanwrtyd yng ngogledd sir Frycheiniog. Fel y dengys ei gyfrol, The History of Modern Enthusiasm (1752; ail arg. 1757), roedd Theophilus Evans yn ffyrnig yn erbyn Methodistiaeth, ac oherwydd ei wrthwynebiad ef ac eraill i Fethodistiaeth ei gurad, gwrthododd Esgob Tyddewi roi urddau offeiriadol llawn i Williams. Yn sgil hynny, gadawodd Williams ei guradaeth erbyn dechrau 1744, ac er iddo aros yn dechnegol yn ddiacon yn yr Eglwys Wladol hyd ddiwedd ei oes, treuliodd weddill ei fywyd yn teithio’r wlad yn pregethu ac yn bugeilio seiadau’r Methodistiaid (yn enwedig y rhai yn sir Aberteifi a sir Gaerfyrddin) ac yn cynorthwyo arweinydd mawr arall y mudiad Methodistaidd, Daniel Rowland (1711?–90), Llangeitho – un o bregethwyr mwyaf nerthol ei ddydd – yn ei weinidogaeth.
Am fwy na deugain mlynedd o 1744 ymlaen, teithiodd Williams o’i gartref yn ffermdy Pantycelyn (sydd ychydig filltiroedd i’r dwyrain o Lanymddyfri), dros 2,500 milltir bob blwyddyn ar hyd a lled Cymru ar gefn ei geffyl. Ar ei deithiau, yn ogystal â bugeilio’r credinwyr Methodistaidd ac efengylu, gwerthai ei gyhoeddiadau niferus ac amrywiol eu natur – ynghyd, mae’n debyg, â gwerthu te. Gan gynnwys adargraffiadau, cyhoeddodd bron cant o lyfrau a llyfrynnau rhwng 1744 a’i farwolaeth, gan ddod drwy hynny yn brif lais llenyddol Diwygiad Methodistaidd y ddeunawfed ganrif yng Nghymru.
Fe’i cofir yn arbennig am ei ragoriaeth fel emynydd. Ef yn anad neb a fu’n gyfrifol am ddatblygu genre yr emyn yn y Gymraeg. Cyn amser Williams, salmau cân oedd y prif ddeunydd canu cynulleidfaol yn yr addoliad Cristnogol yng Nghymru, a gellir rhifo’r emynau a gyfansoddwyd cyn yr 1730au yn y degau yn hytrach na’r cannoedd, a’r rheini ar ryw hanner dwsin o fesurau gwahanol. Ond amcangyfrifir bod dros 3,000 o emynau Cymraeg wedi eu cyfansoddi rhwng dechrau’r mudiad Methodistaidd yng nghanol yr 1730au a marwolaeth Williams yn 1791, ac yr oedd nifer y mesurau erbyn ei farw wedi cynyddu i tua hanner cant. Williams Pantycelyn ei hun a luniodd dros 850 o’r emynau hynny, ac ef a arloesodd lawer o’r mesurau newydd, yn aml wrth fenthyca tonau poblogaidd o Loegr.
Yn y ‘theori emynyddol’ a ddatblygodd Williams yn y rhageiriau i’w lyfrau emynau, gwelwn gydbwysedd rhwng y gwrthrychol a’r goddrychol. Ar y naill law, meddai Williams, dylai’r sawl sydd am lunio emynau ei drwytho ei hun mewn llyfrau o ‘brydyddiaeth addas’, ac yn enwedig yn llyfrau barddonol y Beibl; ond yr un pryd pwysleisia fod llunio emynau yn fwy nag ‘adnabod prydyddiaeth’ a meistroli technegau barddol, a dywed na ddylai neb ond y rheini sy’n ‘wir adnabod Duw yn ei Fab’ fentro ar y dasg, a hynny dim ond pan fyddont ‘yn teimlo eu heneidiau yn agos i’r Nef, tan awelon yr Ysbryd Glân’.
Er bod y rhagenw ‘fi’ yn amlwg yn ei emynau a bod naws bersonol iawn yn rhedeg trwyddynt, rhaid bod yn ofalus i beidio o anghenraid ag uniaethu’r ‘fi’ honno â Williams Pantycelyn. Fel y noda ef ei hun, anelodd at greu rhychwant o emynau a fyddai’n addas ar gyfer cyflyrau amrywiol y Cristion o Fethodist. Ar gyfer mynegi’r profiadau a’r cyflyrau hynny, datblygodd ieithwedd ystwyth a briodai’r iaith lenyddol a’r iaith lafar. Trwy hynny, a thrwy ei feistrolaeth ar grefft y canu rhydd, palmantodd y ffordd ar gyfer canu telynegol y bedwaredd ganrif ar bymtheg; nid rhyfedd i John Morris-Jones alw ei emyn, ‘Mi dafla’ ’maich oddi ar fy ngwar’, yn un o delynegion perffeithiaf yr iaith. Roedd gan Williams ddawn rhigymu naturiol, ac yn ei emynau rhigymai yn rhy rwydd yn rhy aml; ond ar ei orau cyrhaeddodd entrychion iasol yn ei waith, cymaint felly fel y gallai Thomas Charles ddweud bod ‘rhai pennillion [sic] yn ei Hymnau fel marwor tanllyd, yn poethi ac yn taniaw yr holl nwydau wrth eu canu’.
Fel y gellid ei ddisgwyl gan emynydd efengylaidd, person y Duw-ddyn, Iesu Grist, a’r iachawdwriaeth a ddaw drwy ei farwolaeth ar y groes, yw canolbwynt emynau Williams Pantycelyn. Yn ei waith cawn ddwy ddelwedd lywodraethol y dychwel atynt dro ar ôl tro, sef delwedd y pererin ac un y carwr. Pwysai Williams yn drwm ar y Beibl, nid yn unig fel canllaw awdurdodol ym materion ffydd ac ymddygiad, ond hefyd fel ffynhonnell ar gyfer ei ddelweddau; a tharddiad beiblaidd yn bennaf sydd i’r ddwy ddelwedd hyn. Gan dynnu yn enwedig ar lyfr Exodus yn yr Hen Destament, gwelwn Williams yn defnyddio hanes pobl etholedig Duw, yr Israeliaid, yn cael eu gwaredu o gaethiwed yn yr Aifft ac yna’n crwydro trwy’r anialwch nes croesi afon Iorddonen i mewn i Ganaan, Gwlad yr Addewid, yn ddarlun o daith y Cristion trwy anialwch y byd hwn nes mynd trwy afon angau i’r nefoedd. Yna, gan dynnu’n arbennig ar Ganiad Solomon, un arall o lyfrau’r Hen Destament, fe’i cawn yn darlunio perthynas Crist a’i bobl fel perthynas cariadon; ac un o nodweddion pennaf emynau Williams Pantycelyn yw’r mynegiant o gariad nwydus at Grist a’r hiraeth dwys am ei bresenoldeb sy’n rhedeg trwyddynt.
Mae defnydd Williams o ddelweddau’r pererin a’r carwr yn enghreifftiau o’r hyn a elwir yn ‘gysgodeg’ neu ‘deipoleg’ (typology), techneg a dynnai credinwyr Methodistaidd y ddeunawfed ganrif i mewn i’r naratif beiblaidd mewn ffordd ddramatig a deinamig. Mae’r dechneg hon ynghlwm wrth gred Williams ynghylch y Beibl a’i ddull o’i ddehongli. Teitl pumed bennod ei gerdd hir, Golwg ar Deyrnas Crist, yw ‘Llyfr Statut Teyrnas Crist, neu Grist yn bob peth yn y Beibl’; ac er bod y Beibl yn gasgliad o lyfrau amrywiol a ysgrifennwyd dros sawl canrif, mae Williams Pantycelyn yn ei drin yn gyfanwaith organig, gan gredu bod y cwbl yn ‘Air Duw’ a bod yr Hen Destament yn ddrych i weld Iesu Grist ac amgylchiadau a chyflyrau’r eglwys Gristnogol a’r Cristion unigol ynddo. (Trafodir ‘cysgodeg’ Pantycelyn yn fanwl gan Kathryn Jenkins a Glyn Tegai Hughes. Gw. hefyd Teipoleg).
Yn ogystal â’i emynau, cyhoeddodd Williams Pantycelyn amrywiaeth eang o weithiau eraill, gan gynnwys dwy gerdd hir epigol a thros 30 o farwnadau. Er nad ydynt yn farddoniaeth fawr, gwnaeth y marwnadau hynny gyfraniad allweddol tuag at greu hanesyddiaeth ar gyfer y Methodistiaid, ac maent yn bwysig i’n dealltwriaeth o natur ac ethos y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru. Cyhoeddodd hefyd nifer o weithiau rhyddiaith, rhai yn wreiddiol ac eraill yn gyfieithiadau o’r Saesneg. Mae ei weithiau rhyddiaith gwreiddiol yn ddarnau o ysgrifennu creadigol ar ffurf llythyrau neu ddialogau bywiog gan gymeriadau a chanddynt enwau Lladinaidd neu Roegaidd, a rhwng yr elfen greadigol honno a’r ffaith eu bod yn ddadansoddiadau o’r enaid unigol ac o natur cymdeithas, gellir ystyried rhai o’r gweithiau hyn yn egin nofelau. Yr hyn sy’n uno bron y cyfan o weithiau Williams, gan gynnwys ei emynau, yw eu diben ymarferol. Yr ysgogiad dros eu cynhyrchu oedd, nid er mwyn creu llenyddiaeth gaboledig ond i ddarparu gweithiau ‘at iws’, er mwyn i’r gymuned Fethodistaidd ddeall eu profiadau yn well ac er mwyn eu hadeiladu yn eu ffydd a’u cynghori o ran eu hymddygiad.
Llenor athrylithgar yw Williams, ond athrylith annisgybledig ac anwastad ydyw. Y mae hefyd yn llenor yr eithafion, fel y gwelir yn y cyferbynnu cyson sydd yn ei waith rhwng gwres ac oerni, goleuni a thywyllwch. Gweld y byd o bersbectif y nef y mae Williams yn ei waith, ond mae ei draed hefyd yn gadarn ar y ddaear, fel y gwelwn yn natur ymarferol llawer o’i weithiau. Fel y dengys ei gyfrol, Drws y Society Profiad (1777), yr oedd y seiat brofiad yn gwbl ganolog i’r mudiad Methodistaidd. Ar gyfrif craffter ei ddadansoddi eneidegol a’i synnwyr cyffredin, ystyrid Williams yn bencampwr ar arwain seiadau, a bernir bod ei weithiau yn enghreifftiau arloesol yn y Gymraeg o ysgrifennu seicolegol a chymdeithasegol. Coleddai Williams syniadau ôl-filflwyddol, sef y gred y bydd cyfnod o filflwyddiant cyn diwedd y byd, pan fydd efengyl Crist a chyfiawnder cymdeithasol yn teyrnasu dros y ddaear gron. (Gw. Milenariaeth/Milflwyddiaeth). Gwelir mynegiant clir o hyn yn ei lyfryn, Aurora Borealis (1774), ac yn ei wrthwynebiad i gaethwasiaeth: ef oedd y cyntaf i gyfieithu enghraifft o genre bwerus y ‘slave narrative’ i’r Gymraeg, a hynny yn 1779.
Er mai trwy’r Gymraeg y gweithredai Williams Pantycelyn yn bennaf, medrai’r Saesneg, ac yr oedd yn rhan o rwydwaith efengylaidd a ymestynnai i bob rhan o Brydain, yn ogystal ag i Ewrop a Gogledd America. Cyfansoddodd ychydig dros gant o emynau yn Saesneg, ynghyd â rhai marwnadau, a dengys y rheini ôl ei addysg Saesneg a’i gynefindra â llenyddiaeth Saesneg a’r arddull Awgwstaidd. Erys ‘Guide me, O thou great Jehovah’, ei addasiad Saesneg ef a’r esboniwr, Peter Williams (1723–96), o’i emyn, ‘Arglwydd, arwain drwy’r anialwch / Fi, bererin gwael ei wedd’, ymhlith yr emynau Saesneg mwyaf poblogaidd yn fyd-eang.
Gallai Thomas Charles hawlio am Williams yn 1813: ‘Effeithiodd ei Hymnau gyfnewidiad neillduol ar agwedd crefydd yn mhlith y Cymry, a’r addoliad cyhoeddus yn eu cyfarfodydd.’ Ac wrth i Fethodistiaeth ac Anghydffurfiaeth efengylaidd dyfu a lledu trwy Gymru nes dod yn hegemoni ddiwylliannol, felly hefyd y lledodd dylanwad Williams Pantycelyn. Arwydd o’i safle ac o’r anwyldeb tuag ato yn Oes Victoria yw sylw’r cymeriad Wil Bryan yn nofel Daniel Owen, Rhys Lewis (1885): ‘Mi gymra’ fy llŵ fod y Brenin mawr a’r hen Bant yn chums.’ Adleisir hynny yng ngherdd T. H. Parry-Williams, ‘Chums’, ac mae ysgrifeniadau Parry-Williams yn enghraifft o ddylanwad Williams Pantycelyn ar y bywyd diwylliannol Cymraeg yn yr ugeinfed ganrif, a’r parch y delid ef ynddo, hyd yn oed gan y rhai na rannent ei argyhoeddiadau crefyddol, a hynny ar gyfnod o drai ar Gristnogaeth gyfundrefnol yng Nghymru. Yn wir, dadleuodd Dafydd Glyn Jones mai etifeddion i Williams Pantycelyn yw llenorion mor amrywiol â Daniel Owen, Kate Roberts, Gwenallt a John Gwilym Jones yn yr hunan-ddadansoddi a’r hunan-ddarganfod a welir yn eu gwaith. Williams, meddai, yw un o brif sylfaenwyr llenyddiaeth Gymraeg fodern a chychwynnydd y traddodiad hwnnw yn ein llenyddiaeth sy’n gofyn ‘beth yw dyn, beth yw’r bersonoliaeth, a sut mae darganfod y gwir am ei natur’. Ar ben hynny, gallai Derec Llwyd Morgan ddweud mai Williams a greodd y dychymyg modern yng Nghymru.
Llenor a ddaeth yn drwm dan ddylanwad Williams Pantycelyn oedd Saunders Lewis. Derbyniodd Williams a’i waith lawer o sylw gan feirniaid llenyddol a haneswyr diwylliannol dros y blynyddoedd, ond y drafodaeth fwyaf disglair a dadleuol arno yn ddiau yw cyfrol Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927). Ynddi portreadir Williams (yn ei waith cynnar, o leiaf) fel pererin unig ac unigolyddol, un a greodd lwybr llenyddol newydd a oedd yn groes i’r estheteg Gymreig draddodiadol â’i phwylais ar swyddogaeth gymdeithasol barddoniaeth. Yn wir, â Saunders Lewis mor bell â haeru mai Williams ‘oedd y bardd rhamantus, a’r bardd modern, cyntaf yn Ewrop’ a’r bardd Cymraeg cyntaf ‘i droi profiadau mewnol a chyflyrau enaid yn brif ddeunydd barddoniaeth’, gan ddadlau hefyd ei fod yn rhagredegydd i seicoleg Freudaidd. Cafwyd cryn drafod ar y gyfrol a chryn anghytuno ynghylch ei chynnwys, gydag R. Tudur Jones, er enghraifft, yn dangos mai etifedd i’r Piwritaniaid ydoedd Williams, ac nid cyfrinydd Catholig annhymig, fel y maentumiai Saunders Lewis, tra pwysleisiodd Alwyn Roberts mai ‘bugail y seiadau’ a bardd cymdeithasol oedd Williams yn anad dim, o ran crefft a chynnwys ei waith. Ond er bod nifer o’r damcaniaethau sydd yng nghyfrol Saunders Lewis wedi eu gwrthod, erys yn un o binaclau mwyaf, a mwyaf cynhyrfus, beirniadaeth lenyddol Gymraeg yr ugeinfed ganrif.
Er ei anwastadrwydd, gellid dadlau mai Williams Pantycelyn yw llenor Cymraeg pwysicaf y cyfnod modern cynnar; ac o gofio ei ddylanwad ffurfiannol ar y bywyd diwylliannol Cymraeg, a chofio hefyd ei le canolog ym mywyd crefyddol Cymru – fel y gwelir o’r ffaith bod 10% o’r emynau yn y casgliad emynau cydenwadol, Caneuon Ffydd (2001), gan Williams, a’r ffaith bod ei emynau yn parhau i gael eu canu ym mhob rhan o Gymru bob wythnos – gellid dadlau mai Williams Pantycelyn fu’r dylanwad pennaf ar feddwl a byd-olwg y Cymry yn ystod y ddwy ganrif a aeth heibio.
E. Wyn James
Llyfryddiaeth
[Charles, T.] (1813), 'Buchwedd a Marwolaeth y Parch. William Williams, o Bant y Celyn, Sir Gaerfyrddin', Trysorfa, 2:11 (Ionawr 1813), 443–54.
Evans, E. (2010), Bread of Heaven: The Life and Work of William Williams, Pantycelyn (Bridgend: Bryntirion Press).
Hodges, H. A. (2017), Flame in the Mountains: Williams Pantycelyn, Ann Griffiths and the Welsh Hymn, gol. E. W. James (Tal-y-bont: Y Lolfa).
Hughes, G. T. (1983), Williams Pantycelyn, cyfres ‘Writers of Wales’ (Cardiff: University of Wales Press).
Hughes, G. T. (2017), ‘Yr Hen Bant’: Ysgrifau ar Williams Pantycelyn (Tal-y-bont: Y Lolfa).
James, E. W. (2002), ‘Williams Pantycelyn a Gwawr y Mudiad Cenhadol’, yn G. H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XVII (Llandysul: Gwasg Gomer), tt. 65–101.
James, E. W. (2016), ‘The Longing and the Legacy: Liturgy and Life in the Hymns of William Williams of Pantycelyn’, The Bulletin of the Hymn Society of Great Britain and Ireland, cyf. 21:5, rhif 286 (Winter 2016), 163–78.
Jenkins, K. (2011), Cân y Ffydd: Ysgrifau ar Emynyddiaeth, gol. Rhidian Griffiths (Cymdeithas Emynau Cymru).
Jones, R. M. (1994), Cyfriniaeth Gymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), pennod 3.
Jones, D. G. (1972), ‘Tueddiadau yn ein Llên Ddiweddar’, Y Traethodydd, CXXVII, rhif 543 (Gorffennaf 1972), 171–86.
Jones, D. G. (1973), ‘Saunders Lewis a Thraddodiad y Ddrama Gymraeg’, Llwyfan, 9 (Gaeaf 1973), 1–12.
Jones, R. T. (1987), Saunders Lewis a Williams Pantycelyn, Darlith Goffa Henry Lewis (Abertawe: Coleg Prifysgol Abertawe).
Lewis, S. (2016), Williams Pantycelyn – argraffiad newydd gyda rhagymadrodd gan D. Densil Morgan (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Llên Cymru, 17: 3–4 (1993) – rhifyn arbennig ar Williams Pantycelyn.
Morgan, D. Ll. (1981), Y Diwygiad Mawr (Llandysul: Gwasg Gomer).
Morgan, D. Ll. (1983), Williams Pantycelyn, cyfres ‘Llen y Llenor’ (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn).
Morgan, D. Ll. (gol.) (1991), Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (Llandysul: Gwasg Gomer) – ceir yn y gyfrol hon lyfryddiaeth gynhwysfawr gan Huw Walters o weithiau ar fywyd a gwaith Williams.
Morgan, D. (gol.) (1966), Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif a’u Cefndir (Llandybïe: Llyfrau’r Dryw).
Roberts, A. (1972), ‘Pantycelyn fel Bardd Cymdeithasol’, Y Traethodydd, CXXVII, rhif 541 (Ionawr 1972), 7–13.
Roberts, G. M. (1949), Y Pêr Ganiedydd [Pantycelyn]. Cyfrol I: Trem ar ei Fywyd (Gwasg Aberystwyth).
Roberts, G. M. (1958), Y Pêr Ganiedydd [Pantycelyn]. Cyfrol II: Arweiniad i’w Waith (Gwasg Aberystwyth).
Rhys, R. (2017), ‘“Gwyn a Gwridog”: Caniad Solomon yn Emynau William Williams, Pantycelyn’, Y Traethodydd, CLXXII, rhif 722 (Gorffennaf 2017), 160–74.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.