Jones, Heather (g.1949)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:42, 13 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores werin a phop a aned yng Nghaerdydd i deulu di-Gymraeg yw Heather Jones. Dechreuodd ddysgu’r Gymraeg yn yr ysgol a daeth i gysylltiad yn gyntaf â’r byd pop Cymraeg yng ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn. Yno, cyfarfu â Dafydd Iwan a Dewi ‘Pws’ Morris a oedd yn rhan o’r ymgyrch i gyfieithu caneuon cyfoes yr 1960au i’r Gymraeg - ymgyrch y trodd ei bwyslais yn raddol at ysgrifennu caneuon gwreiddiol.

Cyfarfu Heather Jones â Geraint Jarman mewn ymarferion côr yn Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd. Yn 1966 ymddangosodd ar y rhaglen deledu adloniant Hob y Deri Dando yn canu ‘Plaisir d’Amour’. Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerfyrddin yn 1967 ysgrifennodd Jarman y gân ‘Beth Sydd i Mi’ ar ei chyfer ac enillodd y gystadleuaeth bop newydd honno, gan ddod i sylw Meredydd Evans, pennaeth adloniant ysgafn y BBC. Yn sgil hynny, dechreuodd Heather Jones berfformio ledled Cymru ynghyd â chael ei chyfres deledu gyntaf, sef Gwrando ar Fy Nghân.

Perthyn sain acwstig, ysgafn i’w record gyntaf, Caneuon (Teldisc 1968), gyda’r mwyafrif o’r caneuon yn gyfieithiadau, ac fe’i dilynwyd gyda’r sengl ‘Ddoi Di’/‘Fe Ddaw’ (Cambrian, 1969). Yn 1968, cyfarfu Heather Jones â Meic Stevens, a chyda Jarman a Stevens ffurfiodd y tri Y Bara Menyn, grŵp a geisiai symud i fwrdd o’r math o ganu ysgafn a berthynai i grwpiau pop Cymraeg y cyfnod megis Y Pelydrau a’r Diliau. Daeth galw cynyddol am eu hadnoddau lleisiol nodedig, ac fe’u clywir yn canu ar nifer o recordiau Cymraeg o’r cyfnod, gan gynnwys ‘Dŵr’ gan Huw Jones (Sain, 1969). Bu’n dawel am gyfnod ar ôl ei phriodas gyda Geraint Jarman a genedigaeth eu plentyn, Lisa, lle cyfyngwyd ar ei chyfle i ddatblygu ei gyrfa gerddorol gan ei dyletswyddau teuluol, ond fe’i darbwyllwyd gan Meic Stevens i ailafael yn yr yrfa honno, ac fe ryddhaodd y ddau record hir ‘fer’ o’r enw Heather gyda phum cân yn unig arni (Newyddion Da, 1971).

Bu’n rhan o sioe seicedelig Cwmni Theatr Cymru Sachliain a Lludw yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1971, gyda Meic Stevens, Y Tebot Piws a’r grŵp roc o Ben-y-bont ar Ogwr, James Hogg, yn cyfrannu. Yn yr un flwyddyn, ar gyfer sioe lwyfan The Green Desert gyda’r Hennessys a’r actores adnabyddus, Margaret John (1926–2011), derbyniodd Heather Jones benillion ‘Colli Iaith’ gan Harri Webb a lluniwyd alaw briodol ar eu cyfer gan Meredydd Evans. Teimlai Heather Jones fod cyfeiliant gitâr yn anaddas i’r gân ac ar awgrym Geraint Jarman aeth ati i’w chanu’n ddigyfeiliant. Roedd hynny’n tanlinellu grym ac angerdd neges y geiriau – gyda natur fregus y llais yn adlewyrchu natur fregus yr iaith Gymraeg – a byth ers hynny bu ‘Colli Iaith’ yn un o ganeuon canonaidd yr ymgyrch iaith yng Nghymru. Parhaodd i gydweithio gyda Geraint Jarman, ac enillodd gystadleuaeth Disc a Dawn yn 1972 gyda’i gân ‘Pan Ddaw’r Dydd’.

O ran ei gyrfa unawdol trodd Heather Jones o fod yn artist gwerinol ac acwstig i ganu gyda band trydanol. Clywid awgrym clir o’r hyn a oedd eto i ddod yn y gân roc trwm, ‘Cwm Hiraeth’, oddi ar ei EP Gwrandewch Ar fy Nghân (Sain, 1972) – cân a recordiwyd ychydig yn ddiweddarach gan y gantores roc Rhiannon Tomos – ac yna ar draciau megis ‘Nos Ddu’ oddi ar ei halbwm cyflawn cyntaf, Mae’r Olwyn yn Troi (Sain, 1974), a recordiwyd yn stiwdio Rockfield ger Trefynwy.

Roedd ei ail halbwm Jiawl (Sain, 1976) hyd yn oed yn fwy echblyg yn ei ddefnydd o arddulliau roc, gan gynnwys y gân eponymaidd ar y record ynghyd â ‘Cân i Janis’, ei theyrnged i’r gantores blues Americanaidd ddylanwadol, Janis Joplin (1943–70). Heather oedd ‘Nia’ yn y cynhyrchiad gwreiddiol o’r opera roc, Nia Ben Aur (1974). Wrth chwarae yn Aberystwyth un noson ar ôl rhyddhau Jiawl (1976) llwyddodd Heather Jones i berswadio Geraint Jarman i ddod i’r llwyfan i ganu rhai caneuon, gan ei fod yn gweithio ar ei albwm cyntaf, Gobaith Mawr y Ganrif, ar y pryd. Roedd ymateb y gynulleidfa mor ffafriol fel y penderfynodd Jarman barhau i ganu gyda’r un cerddorion, a dychwelodd Heather Jones at ganu gwerin am gyfnod.

Bu’n perfformio’n gyson ers yr 1960au ac mae’n un o leisiau mwyaf adnabyddus Cymru, gydag adnoddau lleisiol arbennig, gan symud yn gwbl ddidrafferth o sain gwerin ‘Colli Iaith’ at lais roc caled ‘Jiawl’. Bu hefyd yn canu ar nifer o recordiau Saesneg, fel rhan o’r grŵp Hin Deg, ac ar draws y byd yn canu caneuon traddodiadol Cymreig. Parhaodd i ryddhau recordiau unawdol, gan gynnwys Hwyrnos (Sain, 2000) ac Enaid (Sain, 2006). Rhyddhawyd casgliad o’i chaneuon gorau gan Sain yn 2004 ynghyd â’r hunangofiant Gwrando Ar Fy Nghân yn 2007. Urddwyd hi i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008, ac mae hefyd wedi derbyn Gwobr Cyfraniad Oes gan BBC Radio Cymru.

Sarah Hill a Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Caneuon [EP] (Welsh Teldisc TEP872, 1968)
  • ‘Ddoi Di’/‘Fe Ddaw’ [sengl] (Cambrian CSP704, 1969)
  • Heather (Newyddion Da ND2, 1971)
  • Colli Iaith [EP] (Sain 20, 1971)
  • Pan Ddaw’r Dydd [EP] (Sain 30, 1971)
  • Mae’r Olwyn yn Troi (Sain 1008M, 1974)
  • Jiawl! (Sain 1047M, 1976)
  • Hwyrnos (Sain SCD2268, 2000)
  • Goreuon/Best of (Sain SCD2374, 2004)
  • Enaid (Sain SCD2442, 2006)

Llyfryddiaeth

  • Heather Jones, Gwrando Ar Fy Nghân (Caerdydd, 2007)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.