Tyler, Bonnie (g.1951)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:44, 26 Medi 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores bop a ddaeth i amlygrwydd ar ddiwedd yr 1970au gan brofi cryn lwyddiant rhyngwladol yn ystod yr 1980au. Fe’i ganed yn Sgiwen, ger Castell-nedd. Glöwr oedd ei thad. Roedd ei mam yn gerddorol a chanai yn y côr lleol. Ar ddechrau’r 1970au bu Bonnie Tyler, neu Gaynor Hopkins fel ag yr ydoedd ar y pryd, yn dra llwyddiannus mewn cystadlaethau talent lleol, ac yn 1975 cafodd gynnig cytundeb recordio gyda label RCA yn Llundain. Newidiodd ei henw i Sherene Davis yn ystod yr 1970au cynnar am ei fod yn rhy debyg i enw’r gantores bop o Gymru, Mary Hopkin, cyn ei newid drachefn tua 1975, ar gais RCA i Bonnie Tyler.

Y dylanwadau cynnar ar Tyler oedd cantoresau soul a blues megis Tina Turner a Janis Joplin. Gwnaeth ei marc gyntaf gyda’r gân ‘Lost in France’ (RCA, 1976) - un o nifer o senglau cynnar a gyfansoddwyd ac a gynhyrchwyd gan Steve Wolfe a Ronnie Scott ac a gyrhaeddodd ddeg uchaf y siartiau cenedlaethol. Gwerthodd trydedd sengl Tyler, ‘It’s a Heartache’ (RCA, 1977), dros filiwn o gopïau yn Unol Daleithiau America gan gymell rhai i gymharu ei llais pwerus, llawn mynegiant ag eiddo’r canwr Rod Stewart.

Arwyddodd Tyler i label Columbia/CBS yn America yn 1983 gan gydweithio gyda Jim Steinman, a fu’n gyfrifol am gyfansoddi a chynhyrchu recordiau megis Bat Out of Hell gan y canwr Meatloaf. Bu’n berthynas lwyddiannus, a chyrhaeddodd ‘Total Eclipse of the Heart’ rif un yn siartiau America a Phrydain yn 1983, gyda’r record hir Faster Than the Speed of Light (Columbia, 1983) hefyd yn cyrraedd y brig. Recordiodd Tyler ddeuawd gyda Shakin’ Stevens yn 1983 (‘A Rockin’ Good Way’), Cymro arall a ddaeth i’r amlwg yn ystod yr 1980au, a chanodd hefyd gyda’r cerddor amldalentog Todd Rundgren ar ei record hir Secret Dreams and Forbidden Fire (Columbia, 1986). Roedd y gân ‘Holding Out For A Hero’, oddi ar yr un albwm, wedi’i defnyddio’n wreiddiol yn y ffilm Footloose (Paramount, 1984).
Bonnie Tyler yn canu yng nghystadleuaeth Eurovision yn Sweden, 2013.

Daeth newid cyfeiriad yn ystod yr 1990au gyda phoblogrwydd Tyler yn cynyddu mewn gwledydd Ewropeaidd megis yr Almaen, Norwy a Sweden, ac yn 2003 cafodd lwyddiant yn Ffrainc ar ôl recordio deuawd gyda’r gantores Kareen Antonn. Roedd recordiau megis Angel Heart (Hansa, 1992) yn perthyn i arddulliau pop canol-y-ffordd a chanu gwlad, ac, yn achos All In One Voice (EastWest, 1998), yn cynnwys rhai dylanwadau gwerinol a Cheltaidd. Aeth i gyfeiriad pop symffonig yn ddiweddarach gan gynhyrchu record hir o drefniannau pop gyda’r cyfansoddwr Karl Jenkins o’r enw Heart Strings (CMC, 2002) i gyfeiliant cerddorfa symffoni o Brâg. Cynrychiolodd Brydain yng nghystadleuaeth Eurovision yn Sweden yn 2013.

Yn wahanol i gantoresau megis Mary Hopkin a Cerys Matthews, ni chanodd Tyler yn Gymraeg cyn troi i’r Saesneg. Yn wir, dywedodd mewn cyfweliad yn 2012, ‘Does neb o’r ardal honno [Sgiwen] yn siarad Cymraeg, felly wnes i erioed ddysgu’r iaith.’ Efallai y byddai ei gyrfa wedi bod yn wahanol petai’r Gymraeg wedi bod yn rhan o’i chefndir a’i magwraeth.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • The World Starts Tonight (RCA PL25063, 1977)
  • Natural Force (RCA PL25152, 1978)
  • Diamond Cut (RCA PL25194, 1979)
  • Goodbye to the Island (RCA LP5002, 1981)
  • Faster Than the Speed of Night (CBS 25304, 1983)
  • Secret Dreams and Forbidden Fire (CBS 86319, 1986)
  • Hide Your Heart (CBS 460125, 1988)
  • Bitterblue (Hansa 212142, 1991)
  • Angel Heart (Hansa 74321 11491, 1992)
  • Silhouette in Red (Hansa 74321 16522, 1993)
  • Free Spirit (EastWest 0630-12108-2, 1996)
  • All in One Voice (EastWest 3984-25658-2, 1998)
  • Heart Strings (CMC 5423452, 2002)
  • Simply Believe (EGP 517024 2, 2004)
  • Wings (Stick 100, 2005)
  • Rocks and Honey (ZYX 21010-2, 2013)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.