Ideoleg

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Ideology)

Bathwyd y term ‘ideoleg’ gan Antoine Destutt de Tracy (1754–1836) yn Mémoire sur la faculté de penser (Destutt de Tracy, 1796/2003) i ddynodi ei ymgais i greu gwyddor gysyniadol. Trwy astudio tarddiad syniadau, nod radical de Tracey oedd ailffurfio gwleidyddiaeth, moeseg, economeg a’r gymdeithas gyfan mewn modd democrataidd a seciwlar (Kennedy, 1979: 353–4). Fodd bynnag, drwy’r canrifoedd, gwelwyd newidiadau amlwg yn ystyr y term, â’r drafodaeth bwysicaf yn y traddodiad Marcsaidd. Yn y traddodiad hwn gwelwn sawl defnydd posib, a hyd yn oed yng ngwaith Karl Marx gwelwn bedwar ystyr pur wahanol i’r gair. Edrychir ar yr ystyron hyn a’u datblygiad yng ngwaith nifer o feddylwyr.

Gwelir y ddau ddefnydd cyntaf o’r term yn The German Ideology (1845/1970). Yn ei ystyr cyntaf, cyfeiria ‘ideoleg’ at ddull o ddamcaniaethu sy’n nodweddiadol o weithiau’r delfrydwyr Almaenig (yn enwedig G. W. F. Hegel) a’r Hegeliaid Ifanc (fel Feuerbach). Mae Marx (ac Engels) yn pwysleisio dylanwad cymdeithas ar ein syniadau a’n hymwybyddiaeth: bod ein hymwybyddiaeth a’n syniadau wedi’u cyflyru gan y gymdeithas y mae bodau dynol yn rhan ohoni, y dull cynhyrchu penodol sy’n perthyn i’r gymdeithas honno a’r strwythur economaidd ehangach. Mewn dull ideolegol o feddwl, fodd bynnag, pwysleisir blaenoriaeth syniadau dros y ffactorau hanesyddol ac economaidd hyn. Gan hynny, dynoda ideoleg yma ddull o ddadansoddi sy’n celu gwir natur faterol realiti, gan droi popeth wyneb i wared (Marx ac Engels, 1845/1970: 47). Sgileffaith hyn yw fod yr ideolegwyr yn credu y gellir newid cymdeithas drwy newid ein hymwybyddiaeth, ond, yn nhyb Marx, rhaid newid y gymdeithas.

Yn yr ail ddefnydd o’r gair, yn The German Ideology (Marx ac Engels, 1845/1970), cyfeiria ideoleg at reolaeth y dosbarth llywodraethol dros syniadau’r gymdeithas: ‘fel cynhyrchwyr syniadau dylanwadol’ mae’r dosbarth llywodraethol ‘yn rheoli cynnyrch a lledaeniad syniadau eu cyfnod; eu syniadau hwy, felly, yw syniadau llywodraethol yr oes’ (Marx ac Engels, cyfieithwyd gan Rees, 2014: 28). Gan mai aelodau’r dosbarth llywodraethol, felly, sy’n rheoli syniadau’r gymdeithas, gallant gyflwyno’u safbwyntiau hwy fel ‘deddf dragwyddol’, fel ffeithiau na ellir eu cwestiynu, gan gelu’r gorthrwm cymdeithasol sy’n cynnal eu cyflwr breintiedig (Marx ac Engels, cyfieithwyd gan Rees, 2014: 28).

Gwelwn drydydd ystyr i ideoleg yng ngwaith Marx, y tro hwn o’r Rhagair i Economic & Philosophic Manuscripts of 1844 (Marx, 1844/2009). Fel rhan o’r ddamcaniaeth ar Fateroliaeth Hanesyddol, pwysleisir y daw ffurf gymdeithasol yn llyffethair ar rymoedd cynhyrchu’r ddynoliaeth, gan arwain at gyfnod o wrthdaro a chwyldro. Mewn cyfnod o chwyldro, rhaid yw gwahaniaethu (yn nhyb Marx) rhwng y trawsffurfiadau ar y lefel economaidd ‘a’r ffurfiau cyfreithiol, gwleidyddol, crefyddol, celfyddydol neu athronyddol – y ffurfiau ideolegol – drwy eu cyfrwng y daw dynion yn ymwybodol o’r gwrthdrawiadau hyn, ac yr ymladdant eu brwydrau allan’. (Marx ac Engels, dyfynnwyd gan Rees, 2014: 15–16; pwyslais wedi’i ychwanegu). Pennir ystyr gweddol niwtral i ideoleg yma: nid cyfeirio at gamddeall dylanwad cymdeithas a wneir, nac ychwaith at reolaeth ddeallusol y dosbarth llywodraethol, ond at ryw fath o syniadaeth wleidyddol. Datblygir y fersiwn hwn o ideoleg yn arbennig yng ngwaith Vladimir Lenin (1870–1924; gweler Marcsaeth-Leniniaeth). Gwelir y defnydd hwn yn gyson mewn trafodaethau cyfredol lle defnyddir y term ‘ideoleg’ mewn modd disgrifiadol a niwtral. Gellir meddwl am drafodaethau ar ‘ideolegau gwleidyddol’ sy’n dynodi dim mwy na’r egwyddorion penodol sy’n perthyn i ryw fudiad gwleidyddol. Gan hynny, gallwn sôn am ‘ideoleg’ wleidyddol, fel sosialaeth, rhyddfrydiaeth neu geidwadaeth, heb fod unrhyw dinc beirniadol yn perthyn i hynny.

Ceir y pedwerydd ystyr yng ngwaith aeddfed Marx, sef ffetisiaeth cynwyddau. Mewn cyfalafiaeth, ymddengys bod gwerth nwyddau yn hanfodol iddynt, gan gelu’r ffaith fod gwerth nwydd yn deillio o berthynas lafur gymdeithasol. Gan hynny, ymddengys yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn gynnyrch unigolion fel endidau annibynnol ar ddynoliaeth (gweler Marx 1867/1990: 164–5). Y ffurf ar ideoleg sydd ar waith yma, felly, yw fod y sefyllfa bresennol yn ymddangos yn naturiol ac yn anorfod, yn hytrach na rhywbeth y gellir ei newid gan fodau dynol (a’r sgileffaith o gyfiawnhau’r gorthrwm sydd wrth ei wraidd). Datblygir a chyfoethogir y fersiwn hwn o ideoleg gan nifer o brif ffigyrau Marcsaeth Orllewinol, fel Georg Lukács (1885–1971), a meddylwyr Damcaniaeth Feirniadol Ysgol Frankfurt, fel Herbert Marcuse (1898–1979) a Theodor Adorno (1903–69).

Gwelwn felly fod sawl ystyr posib i’r term ‘ideoleg’, hyd yn oed yng ngwaith un meddyliwr, ac erbyn heddiw mae’n gwbl amhosib cynnig un diffiniad cyflawn o’r term. Gwelir sawl fersiwn arall posib o ideoleg, a hynny yng ngweithiau meddylwyr sy’n bur wahanol i’w gilydd, o waith Émile Durkheim (1858–1917) i ffigyrau Marcsaidd fel Louis Althusser (1918–90), Raymond Williams (1921–88), a Pierre Bourdieu (1930–2002). Felly, er mwyn deall union ystyr y term ‘ideoleg’ yng ngwaith unrhyw feddyliwr, rhaid deall ei ddefnydd o fewn cyd-destun penodol y sawl sy’n ei ddefnyddio.

Garmon Iago

Llyfryddiaeth

Destutt de Tracy, A. (1796/2003), Mémoire sur la faculté de penser, http://www.bibnum.education.fr/scienceshumainesetsociales/psychologie/memoire-sur-la-faculte-de-penser [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Kennedy, E. (1979), ‘ “Ideology” from Destutt De Tracy to Marx’, Journal of the History of Ideas, 40 (4), 353–68.

Marx, K. (1844/2009), Economic & Philosophic Manuscripts of 1844, https://www.marxists.org/archive/marx/works/download/pdf/Economic-Philosophic-Manuscripts-1844.pdf [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K. (1867/1990), Capital: Volume 1 (London: Penguin).

Marx, K. ac Engels, F. (1845/1970), The German Ideology (New York: International Publishers).

Rees, W. J. (2014), Be’ Ddywedodd Karl Marx: Cyfrol 1, https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1897~4z~aUw8tYQE [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.