Hiliaeth
(Saesneg: Racism)
1. Cyflwyniad i hiliaeth
Hiliaeth yw gweithred wahaniaethol sydd wedi’i gwreiddio mewn ymddygiad neu agwedd yn erbyn person neu grŵp o bobl sy’n rhannu nodweddion hil benodol. Mae nifer o academyddion yn diffinio hiliaeth fel ‘prejudice plus power’ (Eddo-Lodge, 2017). Mae hiliaeth yn cymryd yn ganiataol bod hil yn ffordd dderbyniol o wahaniaethu rhwng pobl a’i bod yn gyfiawn i dra-arglwyddiaethu dros grwpiau ethnig lleiafrifiedig (ethnically minoritised groups) mewn cymdeithas gan eu trin yn llai ffafriol (Cross, 2020). Enghreifftiau o hiliaeth yw’r cynnydd mewn troseddau casineb tuag at bobl Asiaidd yn ystod pandemig Covid-19 (BBC News, 2021) neu’r ffaith fod pobl ddu yn fwy tebygol o gael eu stopio gan yr heddlu o’u cymharu â phobl wyn (Jones ac Wyn Jones 2022). Ar un llaw, gall hiliaeth ddigwydd yn ymwybodol, hynny yw, fod unigolion yn mynegi meddyliau, teimladau neu weithredoedd penodol tuag at eraill yn seiliedig ar eu hil. Neu, ar y llaw arall, gall ddigwydd yn ddiarwybod, ar ffurf ystrydebau cymdeithasol am rai grwpiau neu unigolion ar sail eu hil y mae unigolion yn eu ffurfio y tu allan i’w hymwybyddiaeth eu hunain. Gelwir hyn hefyd yn duedd ddiarwybod (unconscious bias). Mae’n werth nodi nad yw tuedd ddiarwybod wedi ei chyfyngu i faterion yn ymwneud â hil ac ethnigrwydd yn benodol. Gall rhagfarn fodoli tuag at unrhyw grŵp cymdeithasol, e.e. ar sail oedran, rhywedd, hunaniaeth rywiol, cyfeiriadedd rhywiol, a chrefydd.
Yn y Deyrnas Unedig ac America, cysylltir hiliaeth â’r cysyniad o fraint pobl wyn (white privilege), y syniad fod pobl wyn yn fwy breintiedig ac yn cael mwy o fanteision mewn cymdeithas o’u cymharu ag unigolion o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig, a goruchafiaeth pobl wyn (white supremacy) – y gred ffug fod pobl wyn yn uwch eu statws o’u cymharu â grwpiau ethnig lleiafrifiedig. Nid yw hiliaeth bob amser yn fwriadol neu’n amlwg yn y ffordd mae’n gweithredu (Garner, 2007).
2. Hiliaeth sefydliadol
Gall hiliaeth ddigwydd ar sawl lefel wahanol. Mae’r term hiliaeth sefydliadol (institutional racism), neu hiliaeth systemig (systemic racism), yn cydnabod y gall sefydliadau yn ogystal ag unigolion fod yn hiliol. Cyfeiria’r term hiliaeth sefydliadol at fethiant sefydliadau i ddarparu gwasanaeth addas a safonol i unigolion o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig oherwydd eu hil. Mae’r term hiliaeth sefydliadol yn cael ei gysylltu ag adroddiad gan Syr William MacPherson (1999), a edrychodd ar y modd yr ymatebodd yr heddlu i farwolaeth Stephen Lawrence (dyn ifanc du a laddwyd mewn ymosodiad hiliol). Yn yr adroddiad, daeth MacPherson i’r casgliad fod yna dystiolaeth fod hiliaeth sefydliadol yn bodoli ymysg yr heddlu gan nad oeddent wedi gwneud digon i ddal yr unigolion a laddodd Stephen Lawrence. Awgrymodd MacPherson y gallai hiliaeth sefydliadol fodoli mewn sefydliadau eraill hefyd a phwysleisiodd ei bod yn bwysig i sefydliadau sicrhau nad yw eu polisïau a’u harferion yn anfanteisio unrhyw aelod o’r gymdeithas.
3. Microymosodiadau
Yn ôl Gillborn (2008), mae hiliaeth wedi addasu dros amser o ganlyniad i newidiadau yn ein cymdeithas. Er enghraifft, cydnabyddir bod hiliaeth heddiw yn cynnwys microymosodiadau (microaggressions) neu ystrydebau sydd wedi’u derbyn yn ein diwylliant ni. Mae microymosodiadau yn weithredoedd sy’n tueddu i fod yn fach ac yn gynnil, ond maent yn cael eu hailadrodd ac yn tyfu i fod yn weithredoedd mwy. Yn aml, mae microymosodiadau’n gysylltiedig â thuedd ddiarwybod, er enghraifft dweud bod person du yn ‘siarad Cymraeg yn dda’ gan gymryd yn ganiataol nad ydynt yn medru siarad yr iaith, neu gyffwrdd gwallt person du heb ganiatâd.
4. Polisi a hiliaeth
Mae hil yn un o’r nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Golyga hyn ei bod yn anghyfreithlon i sefydliadau wahaniaethu neu drin unigolion yn llai ffafriol ar sail eu hil (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2021).
Savanna Jones
Llyfryddiaeth
BBC News (2021), ‘Asian hate crime in UK increases during pandemic’, https://www.bbc.co.uk/news/av/uk-56937299 [Cyrchwyd: 13 Mai 2021]
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2021), Deg cwestiwn allweddol am y ddeddf, https://www.equalityhumanrights.com/cy/equality-act/deg-cwestiwn-allweddol-am-y-ddeddf [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
Cross, K. J. (2020), ‘Racism is the manifestation of White supremacy and antiracism is the answer’, Journal of Engineering Education, 109(4), 625–8.
Eddo-Lodge, R. (2017), Why I’m no longer talking to White people about race (London: Bloomsbury Circus).
Garner, S. (2007), Whiteness (London and New York: Routledge).
Gillborn, D. (2008), Racism and Education: Coincidence or Conspiracy? (London: Routledge).
Jones, R. ac Wyn Jones, R. (2022). The Welsh criminal justice system: on the jagged edge. (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
MacPherson, W. (1999), The Stephen Lawrence Inquiry, https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/277111/4262.pdf [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.