Ôl drefedigaethedd (Gwyddorau Cymdeithasol)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:04, 8 Medi 2024 gan AdamPierceCaerdydd (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Post-colonialism)

Maes eang sy’n berthnasol i nifer o ddisgyblaethau academaidd yw astudiaethau ôl-drefedigaethol. Yn fras, mae’n ymwneud ag astudio effeithiau trefedigaethu ac ymerodraethau ar gymunedau trefedigaethol. Mae ôl-drefedigaethedd yn aml yn edrych ar y berthynas rym rhwng yr hyn a elwir yn ‘fetropol’, sef y man lle crynhoir grym economaidd, gwleidyddol a diwylliannol yr ymerodraeth, a’r ‘ymylon’ neu’r ‘cyrion’, sef, yn fras, y mannau hynny sy’n cael eu hecsbloetio’n economaidd gan y metropol. Yn draddodiadol, canolbwyntir ar ymerodraethau Ewropeaidd y 15–20g a’u heffaith ar gymunedau ac ardaloedd ar gyfandiroedd America, Affrica ac Asia, ond nid ydyw’r maes wedi ei gyfyngu i hyn. Nodweddid y berthynas rhwng y metropol a’r cyrion gan drais, goruchafiaeth a hiliaeth, ac fe ddefnyddid yr hyn a elwir yn ddisgwrs drefedigaethol i roi cyfiawnhad moesol i’r berthynas hon. Defnyddid y ddisgwrs i bwysleisio israddoldeb pobl y cyrion a goruchafiaeth ddiwylliannol, gymdeithasol a moesol y metropol, gan ddarlunio’r berthynas drefedigaethol rhyngddynt fel un gymwynasgar, gyda’r metropol yn rhannu rhinweddau ei ddiwylliant datblygedig â’r cyrion cyntefig.

Er bod astudiaethau ôl-drefedigaethol wedi hen sefydlu o fewn meysydd academaidd fel hanes, anthropoleg, gwleidyddiaeth, athroniaeth, daearyddiaeth, llenyddiaeth a chymdeithaseg, nid ydynt yn gyfyngedig i’r meysydd hyn. Gellir cymathu’r syniadau hyn i unrhyw faes academaidd lle mae anghyfartaledd grym yn sgil trefedigaethedd yn bodoli. Yn wir, un o ddadleuon creiddiol un o brif awduron y maes, Edward Said (1978;1993), yw bod prosesau sy’n creu gwybodaeth drefedigaethol yn digwydd ym mhob math o feysydd, o’r Celfyddydau a’r Dyniaethau i’r Gwyddorau. Yn ddiweddar, gwelwyd twf mewn beirniadaeth ôl-drefedigaethol o astudiaethau amgylcheddol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd rhoi ystyriaeth i drefedigaethedd o fewn ymatebion i’r argyfwng hinsawdd.

Mae’r term ‘ôl-drefedigaethol’ yn awgrymu astudiaeth o gyfnod penodol, ac mae tuedd i’w ystyried fel petai’n cyfeirio at astudiaeth o gyfnod llinol, cronolegol sy’n ymestyn o’r cyfnod trefedigaethol hyd at y frwydr am annibyniaeth, ac yna tuag at gyfnod o ôl-drefedigaethedd. Ond mae’r cysyniad o neodrefedigaethedd (neocolonialism) a gwledydd fel Cymru nad ydynt yn ffitio’r model llinol hwn wedi ymestyn ffiniau’r diffiniad. Bathwyd y term neo-drefedigaethedd gan Kwame Nkrumah (1909–72) er mwyn disgrifio defnydd gwledydd dominyddol o’r farchnad rydd, globaleiddio, cyfalafiaeth ac imperialaeth diwylliannol i ymyrryd yn fewnol â gwledydd llai datblygedig er budd y gwledydd datblygedig, a hynny wedi i’r ymerodraeth ffurfiol ddod i ben. I’r perwyl hwn, yn Saesneg gwahaniaethir weithiau rhwng ‘postcolonialism’ a ‘post-colonialism’, gyda’r naill yn cyfeirio at gorff syniadaethol a’r llall at gyfnod hanesyddol a chronolegol. Yn ei erthygl ‘Bardd arallwlad: Dafydd ap Gwilym a theori ôl-drefedigaethol’ (2006) awgryma Dylan Foster Evans y ‘gellid efallai ddadlau o blaid defnyddio ffurf fel “oldrefedigaethol” yn y Gymraeg, er gwaethaf yr ymddangosiad chwithig’ (t. 66).

Un o’r rhai cyntaf i geisio mynd i’r afael ag effaith y profiad trefedigaethol oedd Frantz Fanon (1925–61). Edrychai Fanon, oedd â chefndir mewn seicoleg, yn benodol ar effaith hierarchaeth hiliau (racial hierarchy) ar bobl o dras Affricanaidd yn nhrefedigaethau Ffrainc. Ganed Fanon ar Ynys Martinique, a oedd yn drefedigaeth Ffrengig ar y pryd. Bu’n ymladd yn Algeria a Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn mynd i Ffrainc i astudio seiciatreg, a bu’r hiliaeth a brofodd yn ystod y cyfnod hwnnw yn ddylanwad mawr ar ei waith. Cyhoeddodd Peau noire, masques blancs (Black Skin, White Masks) yn 1952 a Les Damnés de la Terre (The Wretched of the Earth) yn 1961. Roedd y cysyniad o hunanddieithrio (self-alienation), term wedi ei fenthyg o fyd seicoleg) yn un pwysig yn ei waith wrth iddo ymdrin â sut roedd yr hunaniaeth Ddu wedi ei thanseilio gan effaith hiliaeth a strwythurau iaith drefedigaethol nes bod pobl Ddu eu hunain yn ymdrechu i fod yn ‘wyn’.

Troi i edrych ar gynnyrch testunol yr ymerodraethau eu hunain a wnaeth Edward Said (1935–2003) yn ei gyfrol Orientalism (1978), gan ddadansoddi’r ddisgwrs drefedigaethol honno yr oedd rhagflaenwyr iddo fel Aimé Césaire (1913–2008) a Frantz Fanon wedi ymateb iddi yn eu gwaith. Astudiai Said berthynas y Gorllewin a’r ‘Orient’, sef y diwylliannau dwyreiniol a oedd yn cael eu trefedigaethu gan ymerodraethau Ewropeaidd. Amlinella’r broses o greu’r ‘Orient’, sef rhyw ‘Ddwyrain’ homogenaidd a dychmygol, gan Ewropeaid fel gwrthbwynt i’w Gorllewin gwareiddiedig, uwchraddol hwy. Yn ôl Said, crëwyd y ‘Dwyrain’ gan ddisgwrs, sef corff o destunau llenyddol, celf, a thestunau academaidd a gwyddonol a gynhyrchwyd gan y Gorllewin i ddisgrifio a ‘chreu’ y ‘Dwyrain’, proses sy’n cael ei disgrifio fel orientalism, neu ddwyreinioldeb. Amlyga gwaith Said effaith disgwrs hiliol, ystrydebol ar y modd y dychmygir realiti. Mae’r safbwynt yn un lluniadaethol (constructivist), sef bod strwythurau’n cael eu creu gan hunaniaeth a ffactorau cymdeithasol, yn hytrach na chan realiti materol.

Mae eraill wedi amlygu’r newidiadau diwylliannol a ddaeth yn sgil gwrthdaro rhwng gwahanol ddiwylliannau. Mae Homi K. Bhabha (1949– ) yn un o’r rhai sydd wedi datblygu’r syniad o hybridedd (hybridity). O India y daw Bhabha, ac mae ei waith mwyaf adnabyddus yn ymwneud â datblygu cysyniadau fel hybridedd. Yn ei gyfrol The Location of Culture (1994), archwilia’r gofod lle mae diwylliannau’n cwrdd, gan gyfeirio astudiaethau ôl-drefedigaethol tuag at ffiniau diwylliannol, aneddfeydd gwladfawyr (defnyddir trefedigaethau gwladychwyr hefyd yn y Gymraeg ar gyfer settler colonies) a sefyllfaoedd eraill lle mae diwylliannau’r trefedigaethwyr a’r trefedigaethau yn dylanwadu ar ei gilydd, gan greu ffurfiau diwylliannol newydd.

Ffordd arall o edrych ar y modd y cynrychiolir cymunedau sydd wedi dioddef yn sgil trefedigaethu yw drwy ystyried cysyniad yr isarall (subaltern), sy’n deillio o waith Antonio Gramsci (1891–1937) ar hegemoni ddiwylliannol, a’i effaith ar grwpiau sydd ar y cyrion. Un a ddatblygodd y gwaith hwn yw Gayatri Chakravorty Spivak (1942– ), hefyd o India. Gan dynnu ar ffeministiaeth, dadadeiladaeth, a Marcsaeth, mae gwaith mwyaf dylanwadol Spivak yn ymwneud â’r modd y mae’r ‘isarall’, sef yr is-boblogaeth nad yw’n rhan o sefydliadau diwylliannol, yn cael ei gynrychioli. Yn ei herthygl ‘Can the subaltern speak?’ (1983) mae hi’n awgrymu na all yr isarall fyth siarad a’i gynrychioli ei hun.

Mae’r gymhariaeth rhwng Cymru fel gwlad ôl-drefedigaethol a’r gwledydd a enillodd eu hannibyniaeth oddi wrth ymerodraethau Ewropeaidd yn yr 20g yn un gymhleth. Y rheswm dros hynny yw fod seiliau ‘trefedigaethol’ Cymru yn perthyn i gyfnod hanesyddol cwbl wahanol i’r un a ystyrir gan lawer fel priod faes ymchwil beirniadaeth ôl-drefedigaethol (gweler trafodaeth Chris Williams, ‘Problematizing Wales’, yn Postcolonial Wales (2005)). Mae nifer o ysgolheigion, gan gynnwys yn amlycaf o bosib R. R. Davies a’i erthygl ‘Colonial Wales’ (1972), wedi olrhain ‘ôl-drefedigaethedd’ Cymreig i gyfnod y goncwest a’r cyfnod lle gellid dadlau bod Cymru mewn perthynas drefedigaethol ffurfiol â Lloegr. O 1282 hyd at Ddeddfau Uno 1536 a 1543 gellid disgrifio Cymru fel rhanbarth wedi ei threfedigaethu. Wedi’r Deddfau Uno, peidiodd y berthynas rhwng Lloegr a Chymru â bod yn un lle ceid trefedigaethwr a threfedigaeth; yn hytrach, daeth Cymru yn rhan swyddogol o’r metropol. Mae eraill (gweler pennod Richard Wyn Jones (2005) yn Postcolonial Wales) wedi dadlau, fodd bynnag, nad oedd diwedd trefedigaethedd ffurfiol wedi golygu diwedd y berthynas rym anghytbwys, nac ychwaith ddiwedd effaith trefedigaethedd ar ddiwylliant a chymunedau, ac felly fod fframwaith beirniadaeth ôl-drefedigaethol yn parhau i fod yn ddull addas o astudio diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru. Roedd yr athronydd J. R. Jones (1911–70), a ysgrifennodd yn helaeth am arwahanrwydd y genedl Gymreig, o’r farn nad trefedigaeth oedd Cymru, ond bod theori ôl-drefedigaethol yn parhau’n berthnasol iddi.

Efallai mai un o’r cyfraniadau mwyaf amlwg i’r maes ôl-drefedigaethedd yng nghyd-destun Cymru yw’r gyfrol Postcolonial Wales a ymddangosodd yn 2005 ac sy’n cynnwys erthyglau ar sawl thema, gan gynnwys datganoli, yr iaith Gymraeg, llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelf, a hil. Mae Dylan Phillips (2005), yn ei erthygl ‘A New Beginning or the Beginning of the End? The Welsh Language in Postcolonial Wales’ yn tynnu sylw at y defnydd o ieithwedd ôl-drefedigaethol gan ymgyrchwyr iaith: ‘from the description of Whitehall policy in Wales as “colonial policy”, to the ironic labelling of the secretary of state for Wales as “governor general”’ (t.101). Mae Glenn Jordan (2005) wedyn yn ei erthygl yntau, ‘ “We never really noticed you were coloured”: Postcolonial reflections on Immigrants and Minorities in Wales’ yn tynnu sylw at agweddau tuag at hil yng Nghymru, gan herio’r ddisgwrs ganolog am hunaniaeth Gymreig, a rhoi llais i’r Arall sydd ar y cyrion o fewn y ddisgwrs honno.

Yn yr un modd â Glenn Jordan (2005), mae Charlotte Williams yn ei hunangofiant Sugar and Slate (2002) yn herio’r math o ddisgwrs ddeuaidd sy’n canolbwyntio ar Gymru yn erbyn Lloegr, y Gymraeg yn erbyn y Saesneg, gan greu gofod i drafod profiad pobl o liw o fewn y disgyrsiau hyn.

Yn ei gwaith hithau, mae Kirsti Bohata (2005) yn dadlau yn erbyn gorsymleiddio’r ddeuoliaeth rhwng Cymru a Phrydain ac yn dangos bod canrifoedd o gymathu diwylliannol a gwleidyddol, yn ogystal â rôl Cymru mewn prosiect imperialaidd, wedi gwneud y ffiniau rhwng y ddwy wlad yn amwys.

Maes cysylltiedig ag astudiaethau ôl-drefedigaethol sy’n berthnasol i Gymru yw astudiaethau anheddfeydd gwladfaol (settler colonial studies). Mae astudiaethau trefedigaethol gwladychol hefyd yn cael ei ddefnyddio fel term Cymraeg ar gyfer settler colonial studies. Er bod un o brif awduron y maes, Lorenzo Veracini (2010), yn pwysleisio nad cangen o astudiaethau ôl-drefedigaethol mo theori anheddfeydd gwladfaol, mae gorgyffwrdd amlwg rhyngddynt. Mae’r gwahaniaeth, yn ôl Veracini (2010), yn ymwneud â pherthynas yr ymsefydlwyr â’r metropol. Mewn trefedigaeth mae’r trefedigaethwyr yn parhau i uniaethu â’r metropol, ond yn achos anheddwyr gwladfaol, mae’r hunaniaeth yn newid, ac mae’r anheddwyr yn ceisio cymryd arnynt hunaniaeth y diriogaeth newydd. Mae enghreifftiau’n cynnwys Israel a’r Wladfa Gymreig. Gwnaed defnydd helaeth o’r theori i drafod y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia gan Geraldine Lublin (2017), ond mae eraill, fel Lucy Taylor (2018), yn ymdrin â’r Wladfa yn nhermau trefedigaethedd.

Grug Muse'

Llyfryddiaeth

Aaron, J. a Williams, C. (2005), Postcolonial Wales (Cardiff: University of Wales Press).

Bhabha, H. K. (gol.) (1990), Nation and Narration (London: Routledge).

Bhabha, H. K. (1994), The Location of Culture (London: Routledge).

Bohata, K. (2005), Postcolonialism Revisited (Cardiff: University of Wales Press).

Davies, R. R. (1974), ‘Colonial Wales’, Past & Present, 65(1), 3–23.

Fanon, F. (1952), Peau noire, masques blancs (Paris: Les Éditions du Seuil); cyfieithwyd fel Black Faces, White Masks, Charles Lam Markmann (New York: Grove Press, 1967).

Fanon, F. (1961), Les Damnés de la terre (Paris: Maspéro); cyfieithwyd fel The Wretched of the Earth, Constance Farrington (New York: Grove Weidenfeld, 1963).

Forsdick, C. a Murphy, D. (goln) (2003), Postcolonial Studies: A Critical Introduction (London: Routledge).

Foster Evans, D. (2006), ‘ “Bardd Arallwlad”: Dafydd ap Gwilym a Theori Ôl-drefedigaethol’ yn: Thomas, O. (gol), Llenyddiaeth mewn Theori (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Jones, J. R. (1966). Prydeindod https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=2038~4n~NOVt9fmN [Cyrchwyd: 10 Awst 2021].

Jones, R. W. (2005), ‘In the shadow of the first-born: the colonial legacy in Welsh politics’ yn: Aaron, J. a Williams, C. (goln), Postcolonial Wales (Cardiff: University of Wales Press).

Jordan, G. (2005), ‘ “We never really noticed you were coloured”: postcolonial reflections on immigrants and minorities in Wales’ yn: Aaron, J. a Williams, C. (goln), Postcolonial Wales (Cardiff: University of Wales Press).

Lublin, G. (2009), ‘Y Wladfa: gwladychu heb drefedigaethu?’, Gwerddon, 4, 8–23.

Lublin, G. (2017), Memoir and Identity in Welsh Patagonia (Cardiff: University of Wales Press).

Mason, W. (2020), ‘Gwlad yr Asyn a’r golwg deublyg: diffinio’r ddrama ôl-drefedigaethol Gymreig’, Gwerddon, 31, 31–58.

Nkrumah, K. (1963), Africa Must Unite (London: Heinemann).

Phillips, D. (2005), ‘A New Beginning or the Beginning of the End? The Welsh Language in Postcolonial Wales’ yn: Aaron, J. a Williams, C. (goln), Postcolonial Wales (Cardiff: University of Wales Press) . Said, E. (1978), Orientalism (New York: Pantheon Books).

Said. E. (1993), Culture and Imperialism (New York: Knopf).

Spivak, G. (1988), Can the Subaltern Speak? (Basingstoke: Macmillan).

Taylor, L. (2018), ‘Global perspectives on Welsh Patagonia: the complexities of being both colonizer and colonized’, Journal of global history, 13(3), 446–68.

Veracini, L. (2010), Settler Colonialism: a theoretical overview. Basingstoke: Palgrave Macmillan.

Williams, C. (2002), Sugar and Slate. Aberystwyth: Planet.

Williams, C. (2005), ‘Problematizing Wales: an exploration in historiography and postcoloniality’ yn: Aaron, J. a Williams, C. (goln), Postcolonial Wales (Cardiff: University of Wales Press).

Williams, D. (2000), ‘Pan-Celticism and the limits of post- colonialism: W. B. Yeats, Ernest Rhys, and Williams Sharp in the 1890s’ yn: Brown, T. a Stephens, R. (goln.), Nations and Relations: Writing Across the British Isles (Cardiff: New Welsh Review), tt. 1–29.

Young, R. (2001), Postcolonialism: an Historical Introduction (Oxford: Blackwell).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.