Marc Evans

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:37, 25 Gorffennaf 2014 gan Marc Haynes (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Ganwyd Marc Evans yng Nghaerdydd ym 1959, ac aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen. Dechreuodd ei yrfa yn y diwydiant ffilm yn gweithio fel rhedwr, ond cyn hynny bu’n fyfyriwr Celf yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt, a dilynodd gwrs ffilm blwyddyn o hyd ym Mryste ar ôl cael blas ar ffilmiau yng ngweithdai ffilm a fideo Canolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd.

Daeth ei gyfle cyntaf i ysgrifennu a chyfarwyddo ffilm yng Nghymru ym 1984 pan sicrhaodd arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gynhyrchu’r ffilm fer Johnny Be Good. Er i’r ffilm ddwyieithog hon sy’n edrych ar ddylanwad y juke box mewn cymuned wledig yn y Preseli ennill gwobrau yng Ngŵyl Ffilmiau Llundain a’r Ŵyl Ffilmiau Geltaidd yn Douarnenez, ni ddangoswyd mohoni ar S4C am gryn amser.

Aeth ymlaen i weithio gyda Red Rooster Films, cwmni Stephen Bayly, ar sawl cynhyrchiad megis Homing/Oed yr Addewid (1986); Letters From Patagonia (1988) a The Gift (1989) a hefyd ar gyfres straeon hud a lledrith i Channel 4, East of the Moon (1987).

Ym 1989, pan oedd yn gweithio fel swyddog i BAFTA Cymru, ysgrifennodd Evans adolygiad dylanwadol o’r system ariannu ffilmiau yng Nghymru dan y teitl In Media Res. Roedd yr erthygl yn feirniadol o Bwyllgor Ffilm Cyngor Celfyddydau Cymru am fod "prin yn ddigonol i gynnal rhaglen gredadwy," ac mae David Berry’n nodi bod yr adroddiad wedi braenaru’r tir ar gyfer sawl polisi ffilm cryfach megis dosbarthu ffilmiau Cymreig yn well ac ariannu pellach ar gyfer ffilmiau byrion.

Wedi cyfnod o weithio ar ddramâu teledu, daeth cyfle cyntaf Evans i gyfarwyddo ffilm lawn. Ar y cyd ag Aled Samuel, ef oedd awdur Ymadawiad Arthur (1994), oedd yn ddatblygiad trawiadol i draddodiad ffilm S4C gan ei bod yn gomedi gwyddonias du a gwyn. Cymysg fu’r ymateb i’r ffilm fel cyfanwaith er ei bod wedi llwyddo mewn sawl ystyr.

Roedd y rhaglen ddrama ddogfen The Silent Village (1995) yn ddechrau ar bartneriaeth rhwng Evans ac Ed Thomas a fyddai’n arwain at y ffilm a lwyddodd i dorri allan o Gymru gan symud ei yrfa i lefel ryngwladol. Aiff The Silent Village â’r gwyliwr i Gwmgïedd, y pentref lle saethwyd y ffilm wreiddiol The Silent Village (Henry Jennings, 1943) a phentref genedigol Ed Thomas ei hun. Trwy’r ffilm deuwn i ddeall profiadau'r trigolion o’r ffilm, o’r rhyfel ac o fyw mewn ardal ddiwydiannol.

Daeth llwyddiant cyntaf Evans yng ngolwg y beirniaid ffilm gyda House of America ym 1996. Mae’r ffilm, sy’n bortread clawstroffobig o berthynas brawd a chwaer gyda’u mam (perfformiad trawiadol gan Siân Phillips) a’r byd tu hwnt i’w swigen yn y cymoedd llwm, yn chwarae ar themâu o gyfrinachau teuluol, hunaniaeth a’r ysfa am y man gwyn fan draw.

Trwy deithio’r ffilm i wyliau ffilm megis Sundance, Stockholm ac eraill ledled y byd, daeth enw Evans yn hysbys fel cyfarwyddwr newydd talentog a chafodd gynnig gwneud ei ail ffilm sinema o fewn blwyddyn sef Resurrection Man (1997/1998), er iddo gyfaddef ei hun nad oedd yn hollol lwyddiannus gyda’r ffilm (gweler y cyfweliad Ffresh isod). Symudodd oddi wrth ddrama am ychydig i gynhyrchu’r ffilm Beautiful Mistake (1998). Ffilm ddogfen ar y cyd â John Cale, y Cymro o’r band The Velvet Underground oedd hon, gan dynnu nifer o gerddorion a bandiau o sin fyrlymus y cyfnod i greu gweithiau newydd gyda delweddau gan Evans.

Gellid dweud mai’r ffilm a roddodd ei le i Marc ar y llwyfan rhyngwladol a Hollywood oedd y ffilm arswyd ddyfeisgar My Little Eye (2002). Gan fanteisio ar y cyffro am raglenni fel Big Brother, oedd yn sail i stori’r ffilm bu’n llwyddiant masnachol ysgubol gan ennill £2,566,742 yn y theatrau ym Mhrydain yn unig ac yn sicr bu’n gyfrifol am roi enw i Evans, er da neu er drwg, fel cyfarwyddwr ffilmiau tywyll.

Yn fuan wedyn cyfarwyddodd y ffilm farddoniaeth unigryw Dal:Yma/Nawr (2002/2003); ffilm uchelgeisiol sy’n llwyddo i blethu delweddau a cherddi. Roedd ar ffurf nifer o vignettes wedi eu strwythuro o amgylch ffilm ddogfen am Eisteddfod Tyddewi 2002. Enillodd wobr Ysbryd yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ffilmiau Geltaidd a 5 gwobr BAFTA Cymru.

Cyfarwyddodd ffilm genre arall wedyn dan y teitl Trauma (2004), oedd yn ymgais i ddod ag elfen Hitchcock-aidd yn ôl i arswyd gan weithio gydag enwau mawr megis Colin Firth a Mena Suvari. Ddwy flynedd yn ddiweddarach wedi ymdrech galed i ariannu’r prosiect nesaf rhyddhawyd Snow Cake. Roedd hon yn ymadawiad o’r genre arswyd gan ganolbwyntio yn lle ar berthynas gwraig ag awtistiaeth (Sigourney Weaver), â dyn sydd wedi dioddef trawma wedi damwain car (Alan Rickman).

Dangoswyd ei ffilm ddiweddaraf Patagonia (2010) sydd â’i wraig, Nia Roberts, yn y brif ran, am y tro cyntaf ar 28 Hydref yng Ngŵyl Ffilmiau Llundain BFI. Mae ei ffilm nesaf, Hunky Dory, sydd wedi ei gosod yn Abertawe, yn cael ei hôl-gynhyrchu gyda’r bwriad o’i rhyddhau yn 2011.

Bywgraffiad gan Rhodri ap Dyfrig.

Llyfryddiaeth

  • Berry, David (1994). Wales and Cinema: The First Hundred Years. University of Wales Press: Cardiff.
  • The Western Mail, 17 Ionawr 2004. ‘Dark Mark’, Marc Evans yn cael ei gyfweld gan Claire Hill.