Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ôl-foderniaeth"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 1: Llinell 1:
Term i ddisgrifio diwylliant y cyfnod ers yr Ail Ryfel Byd, a ddaeth yn wreiddiol o faes pensaernïaeth, yw ôl-foderniaeth. O fewn disgwrs lenyddol mae gwreiddiau’r term yn Ffrainc, a daeth i’r amlwg ym meysydd astudiaethau diwylliannol a llenyddol yn y byd Saesneg ei iaith yn ystod y 1980au. Erbyn iddo ddod yn derm llosg yng Nghymru yn y 1990au, câi ei ddefnyddio yn fwy na heb fel gair cyfystyr â ‘theori’ neu ‘ôl-strwythuraeth’, yn enwedig felly gan y rhai a’i dilornai. Mae perthynas ôl-foderniaeth â [[moderniaeth]] yr un mor annatod ag un [[strwythuraeth]] ag ôl-[[strwythuraeth]]. Weithiau fe’i collfernir fel dim amgen na throednodyn i foderniaeth, a chydnabyddir ei fod yn anodd i’w ddiffinio: ‘camelion o air’ ydyw yn ôl John Rowlands. Ond yn sylfaenol iawn, gellir disgrifio [[moderniaeth]] ac ôl-foderniaeth fel ei gilydd fel creisis mewn cyfathrebu.  
+
{{DEFAULTSORT:Ol-foderniaeth}}Term i ddisgrifio diwylliant y cyfnod ers yr Ail Ryfel Byd, a ddaeth yn wreiddiol o faes pensaernïaeth, yw ôl-foderniaeth. O fewn disgwrs lenyddol mae gwreiddiau’r term yn Ffrainc, a daeth i’r amlwg ym meysydd astudiaethau diwylliannol a llenyddol yn y byd Saesneg ei iaith yn ystod y 1980au. Erbyn iddo ddod yn derm llosg yng Nghymru yn y 1990au, câi ei ddefnyddio yn fwy na heb fel gair cyfystyr â ‘theori’ neu ‘ôl-strwythuraeth’, yn enwedig felly gan y rhai a’i dilornai. Mae perthynas ôl-foderniaeth â [[moderniaeth]] yr un mor annatod ag un [[strwythuraeth]] ag ôl-[[strwythuraeth]]. Weithiau fe’i collfernir fel dim amgen na throednodyn i foderniaeth, a chydnabyddir ei fod yn anodd i’w ddiffinio: ‘camelion o air’ ydyw yn ôl John Rowlands. Ond yn sylfaenol iawn, gellir disgrifio [[moderniaeth]] ac ôl-foderniaeth fel ei gilydd fel creisis mewn cyfathrebu.  
  
 
Roedd celfyddyd ‘fodernaidd’ wedi herio confensiynau’r dydd yn y 19 g., a’r pwysicaf o’r confensiynau hyn, efallai, oedd [[Realaeth]]. Gwrthodwyd mimesis, neu gelfyddyd sy’n llunio <nowiki>copi</nowiki> o realiti, e.e. y math o [[nofel]] sy’n ddibynnol ar draethydd trydydd person, hollwybodus sy’n gosod darlun cyflawn o gymdeithas gerbron y darllenydd (fel rhai o nofelau’r Ffrancwr Honoré de Balzac (1799-1850) neu’r Cymro Daniel Owen (1836-1895)). Estheteg optimistaidd oedd [[Realaeth]], wedi ei seilio ar y gred y gellid esbonio popeth, neu y gellid anelu at esbonio popeth. I’r awdur modernaidd ar ddiwedd y 19g. a dechrau’r 20g. doedd hi ond yn bosib deall y byd fesul tipyn, neu ddim ond o berspectif penodol. Roedd ffigwr yr adroddwr trydydd person hollwybodus yn wrthun, ac felly os defnyddio adroddwr, rhaid oedd atgoffa’r darllenydd mai ffigwr rhithiol ydoedd, ac nid rhyw awdurdod ar yr hyn a ddywedid, gan ddefnyddio technegau fel [[llif yr ymwybod]] (meddylier am waith James Joyce neu Virginia Woolf). Er ei fod hefyd yn ymwrthod â’r un confensiynau, yr hyn sydd yn wahanol mewn ôl-foderniaeth yw ei fod yn derbyn ac yn wir yn cofleidio drylliogrwydd y byd modern, tra roedd [[moderniaeth]] yn y bôn yn hiraethu am gyfanrwydd.
 
Roedd celfyddyd ‘fodernaidd’ wedi herio confensiynau’r dydd yn y 19 g., a’r pwysicaf o’r confensiynau hyn, efallai, oedd [[Realaeth]]. Gwrthodwyd mimesis, neu gelfyddyd sy’n llunio <nowiki>copi</nowiki> o realiti, e.e. y math o [[nofel]] sy’n ddibynnol ar draethydd trydydd person, hollwybodus sy’n gosod darlun cyflawn o gymdeithas gerbron y darllenydd (fel rhai o nofelau’r Ffrancwr Honoré de Balzac (1799-1850) neu’r Cymro Daniel Owen (1836-1895)). Estheteg optimistaidd oedd [[Realaeth]], wedi ei seilio ar y gred y gellid esbonio popeth, neu y gellid anelu at esbonio popeth. I’r awdur modernaidd ar ddiwedd y 19g. a dechrau’r 20g. doedd hi ond yn bosib deall y byd fesul tipyn, neu ddim ond o berspectif penodol. Roedd ffigwr yr adroddwr trydydd person hollwybodus yn wrthun, ac felly os defnyddio adroddwr, rhaid oedd atgoffa’r darllenydd mai ffigwr rhithiol ydoedd, ac nid rhyw awdurdod ar yr hyn a ddywedid, gan ddefnyddio technegau fel [[llif yr ymwybod]] (meddylier am waith James Joyce neu Virginia Woolf). Er ei fod hefyd yn ymwrthod â’r un confensiynau, yr hyn sydd yn wahanol mewn ôl-foderniaeth yw ei fod yn derbyn ac yn wir yn cofleidio drylliogrwydd y byd modern, tra roedd [[moderniaeth]] yn y bôn yn hiraethu am gyfanrwydd.

Y diwygiad cyfredol, am 14:41, 16 Tachwedd 2018

Term i ddisgrifio diwylliant y cyfnod ers yr Ail Ryfel Byd, a ddaeth yn wreiddiol o faes pensaernïaeth, yw ôl-foderniaeth. O fewn disgwrs lenyddol mae gwreiddiau’r term yn Ffrainc, a daeth i’r amlwg ym meysydd astudiaethau diwylliannol a llenyddol yn y byd Saesneg ei iaith yn ystod y 1980au. Erbyn iddo ddod yn derm llosg yng Nghymru yn y 1990au, câi ei ddefnyddio yn fwy na heb fel gair cyfystyr â ‘theori’ neu ‘ôl-strwythuraeth’, yn enwedig felly gan y rhai a’i dilornai. Mae perthynas ôl-foderniaeth â moderniaeth yr un mor annatod ag un strwythuraeth ag ôl-strwythuraeth. Weithiau fe’i collfernir fel dim amgen na throednodyn i foderniaeth, a chydnabyddir ei fod yn anodd i’w ddiffinio: ‘camelion o air’ ydyw yn ôl John Rowlands. Ond yn sylfaenol iawn, gellir disgrifio moderniaeth ac ôl-foderniaeth fel ei gilydd fel creisis mewn cyfathrebu.

Roedd celfyddyd ‘fodernaidd’ wedi herio confensiynau’r dydd yn y 19 g., a’r pwysicaf o’r confensiynau hyn, efallai, oedd Realaeth. Gwrthodwyd mimesis, neu gelfyddyd sy’n llunio copi o realiti, e.e. y math o nofel sy’n ddibynnol ar draethydd trydydd person, hollwybodus sy’n gosod darlun cyflawn o gymdeithas gerbron y darllenydd (fel rhai o nofelau’r Ffrancwr Honoré de Balzac (1799-1850) neu’r Cymro Daniel Owen (1836-1895)). Estheteg optimistaidd oedd Realaeth, wedi ei seilio ar y gred y gellid esbonio popeth, neu y gellid anelu at esbonio popeth. I’r awdur modernaidd ar ddiwedd y 19g. a dechrau’r 20g. doedd hi ond yn bosib deall y byd fesul tipyn, neu ddim ond o berspectif penodol. Roedd ffigwr yr adroddwr trydydd person hollwybodus yn wrthun, ac felly os defnyddio adroddwr, rhaid oedd atgoffa’r darllenydd mai ffigwr rhithiol ydoedd, ac nid rhyw awdurdod ar yr hyn a ddywedid, gan ddefnyddio technegau fel llif yr ymwybod (meddylier am waith James Joyce neu Virginia Woolf). Er ei fod hefyd yn ymwrthod â’r un confensiynau, yr hyn sydd yn wahanol mewn ôl-foderniaeth yw ei fod yn derbyn ac yn wir yn cofleidio drylliogrwydd y byd modern, tra roedd moderniaeth yn y bôn yn hiraethu am gyfanrwydd.

Mae gwreiddiau ôl-foderniaeth yng ngwaith theorïwyr Ffrengig fel Louis Althusser (1918-1990), Roland Barthes (1915-1980), Jacques Derrida (1930-2004) a Michel Foucault (1926-1984). Rhoes y rhain lawer o sylw yn eu gwaith i ffigyrau moderniaeth. Jean-Français Lyotard (1924-1998) oedd y cyntaf i ddefnydio’r term yn ei ystyr cyfredol, yn La Condition postmoderne (1979), a gyfieithiwyd i’r Saesneg yn 1984. Athronydd ydoedd o ran hyfforddiant, a chyflwyna’r gwaith fel adroddiad ar gyflwr ‘gwybodaeth’ yn ein ‘cymdeithasau mwyaf datblygedig’. Gellir gweld llyfr allweddol Lyotard fel ymateb yn erbyn gwaith Jürgen Habermas (1929-), athronydd o’r Almaen. Roedd Lyotard yn feirniadol o Habermas am fod hwnnw eisiau i athroniaeth barhau yn llinach yr Oleuedigaeth trwy ymwadu â chrefydd ac ofergoeliaeth. Ond roedd Lyotard o’r farn bod Habermas yn deisyfu dealltwriaeth lwyr, ac felly wedi syrthio i fagl ‘grand récit’, neu uwchnaratif yr Oleuedigaeth. Diffiniodd Lyotard y chwyldro syniadol a fu ers diwedd y 19g. fel creisis naratifau, gan fentro diffinio ôl-foderniaeth ei hun, ar ei symlaf, fel ‘anghrediniaeth tuag at uwchnaratifau’. Uwchnaratifau yw’r hyn a geir gan rai o feddylwyr mwyaf dylanwadol y cyfnod modern, fel Hegel a Marx, sef y syniad bod i hanes fomentwm a’i fod yn symud i gyfeiriad arbennig mewn modd cynyddgar. Mae hyn yn cymryd yn ganiataol bod yna undod neu bwrpas i’w ganfod, ac mai rôl yr hanesydd neu’r athronydd neu’r beirniad llenyddol yw chwilio am yr undod a’r ystyr. Targedau penodol Lyotard yn La Condition postmoderne yw naratifau rhyddfreiniol am y ddynoliaeth (o Gristnogaeth i Farcsiaeth), a hefyd naratif rhesymegol gwyddoniaeth.

Enw arall a gysylltir yn agos ag ôl-foderniaeth yw un Jean Baudrillard (1929-2007), awdur Simulations (1981), a gyfieithiwyd i’r Saesneg yn 1983. Yn y gwaith dylanwadol hwn esbonia gysyniad y simulacrum, sef math o ddelwedd. Yn ôl Baudrillard nid yw ein cymdeithas bellach yn gallu adnabod ei hun ond drwy’r delweddau ohoni sy’n ein hamgylchynu, ac mae’r delweddau hyn yn ein twyllo, oherwydd eu bod wedi erydu’r ffin rhwng y real a’r rhith, neu’r arwyneb a’r dyfnder. Pen draw’r ddadl yw bod cynrychioliadau o’r real yn sefyll i mewn dros y peth go iawn, nes cuddio’r gwir; e.e. mae’r delweddau teledu a ddetholwyd i ddangos rhyfel y Gwlff (1991) yn celu gwirionedd y rhyfel. I Baudrillard nid yw ‘realiti’ yn bodoli, nid oes yna ‘wreiddiol’ y tu ôl i ddelwedd, e.e. nid yw’r delweddau perffaith o fenyweidd-dra a geir mewn hysbysebion yn bodoli. Mae’r ddelwedd, neu’r arwydd yn ‘wag’, neu yn ddau-ddimensiwn yn hytrach na thri. Ar un wedd mae hyn yn diswyddo’r beirniad llenyddol, ond ar y llaw arall mae yna debygrwydd amlwg gyda syniadaeth ôl-strwythurol, lle mae arwydd ieithyddol (h.y. gair) ond yn ein tywys at arwyddion eraill. Dim ond sglefrio ar yr wyneb sy’n bosib gydag iaith; chwalwyd y syniad bod i destun arwyneb sydd yn ein cyfeirio at ddyfnder neu sylfaen o ystyr. Nid chwilio am undod terfynol yw gwaith y beirniad felly, ond yn hytrach dethlir y broses o ddehongli a deall celf. Mae ôl-foderniaeth yn naturiol wrthwynebus felly i feirniadaeth Farcsaidd, ac yn fwy diweddar i hanesyddiaeth newydd.

Felly nodweddir diwylliant y cyfnod ôl-fodernaidd gan agwedd ddrwgbybus tuag at awdurdod. Mewn pensaernïaeth yr enghraifft enwocaf yw’r Sainsbury Wing ar Oriel Gelf y National Gallery yn Llundain. Mae’r adeilad yn benthyg nodweddion pensaernïol clasurol er mwyn eu cyfuno gyda’r modern mewn ffordd sy’n tanseilio’r hyn a fenthyciwyd, e.e. gan dorri rheolau’r clasurol mewn modd hunanymwybodol a bwriadol, yn hytrach na chreu copi, neu deyrnged syml. Mewn llenyddiaeth mae yna ogwydd gwrth-draddodiadol, gwrth-Realaidd, fel a geir yn ffuglen Mihangel Morgan (1955-). Mae nofelau Alain Robbe-Grillet (1922-2008), a gysylltir â symudiad y nouveau roman (nofel newydd), yn wrth-naratifau, ac yn dangos mwy o ddiddordeb mewn iaith yn hytrach na dilyn confensiynau’r nofel.

Mae’r ‘cyflwr ôl-fodern’ yn effeithio arnom ni i gyd, nid dim ond trwy wylio neu ddarllen gweithiau ôl-fodern fel nofelau Mihangel Morgan, ond ar lefel fwy sylfaenol, trwy ddylanwad y cyfryngau torfol. Rydym yn byw o dan gyfalafiaeth fodern, gyda’r cyfryngau a thechnoleg yn holl-bresennol, a’n ffyrdd o gyfathrebu wedi eu chwyldroi. Pwysleisia ôl-fodernwyr fod ein byd modern yng ngwledydd cyfalafol y Gorllewin yn gwbl wahanol i’r hyn ydoedd ar ddechrau’r 20g. Yn ein cymdeithas wybodaeth (‘information society’), dadleuir, caiff ‘gwybodaeth’ ei defnyddio mewn ffordd eironig, er mwyn cadarnhau a chyfiawnhau byd-olwg y rhai sydd â grym. Meddylier am y ‘newyddion’ ar y teledu. Pwy sy’n penderfynu beth sy’n ddigon pwysig i fod ar y rhaglen, a beth am drefn yr eitemau? Mae’n amlwg nad yw hi’n fater mor syml â gosod gwybodaeth gerbron, oherwydd mae’n rhaid dewis a dethol, ac mae yna ddylanwadau ar y broses, rhai gwleidyddol a chyfalafol. Naïf fyddai dathlu’r ffaith bod y cyfryngau yn gallu cyrraedd pawb a rhoi gwybodaeth i bawb. Defnyddia Baudrillard enghraifft rhyfel y Gwlff (1991) i ddangos hyn. Yn ôl ei ddadl enwog ef, digwyddiad cyfryngol ydoedd y rhyfel, gan mai delweddau wedi eu creu gan y camerâu at ddibenion gwleidyddol oedd y cyfrwng a ddefnyddiwyd i’n hysbysu a’n haddysgu amdano. Ymhellach, galwodd Baudrillard ein cymdeithas ni yn gymdeithas y ddelwedd neu’r simulacra, sef cymdeithas sy’n masnachu mewn delweddau, a defnyddiodd Disneyland fel enghraifft. Yn ôl Baudrillard yn Simulations mae’r parc yn bodoli er mwyn celu’r ffaith bod America go-iawn yn fath o Disneyland. H.y. caiff Disneyland ei osod gerbron fel rhywbeth sydd yn amlwg yn ddychmygol, ac i fod yn ffug, dim ond er mwyn ein twyllo bod gweddill America, neu’r America go-iawn, yn real mewn cyferbyniad. Mewn gwirionedd, yn ôl Baudrillard, dyw America ddim bellach yn real, yn hytrach cyfres o ddelweddau ydyw. Mae ôl-fodernwyr, felly, yn ddrwgdybus o ‘wybodaeth’, ac yn ymwybodol iawn bod yr hyn a welwn ni o’r byd wedi cael ei fanipiwleiddio (e.e. gan y cyfryngau), neu’r ‘société de spectacle’ (‘cymdeithas y sioe/ darlun’).

Nod gweithiau ôl-fodernaidd, felly, yw herio ffyrdd ‘normal’ o weld pethau ac o feddwl; ac nid oes yna un ysgol o gelf neu o lenyddiaeth ôl-fodernaidd, yn hytrach mae’n symudiad lluosog ac amrywiol, ac ymhellach mae’n gwrthod yr hierarchiaeth sy’n gwahanu celf aruchel oddi wrth gelf poblogaidd.

Bu cryn drafod ar ôl-foderniaeth yng Nghymru yn y 1990au, yn arbennig felly yng nghyd-destun y nofel Gymraeg, gan roi sylw i destunau fel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad (1961), Gareth Miles, Trefaelog (1989), Twm Miall Cyw Haul (1994) a Cyw Dôl (1995), Wiliam Owen Roberts, Bingo (1985) a Y Pla (1987) a Robin Llywelyn, Seren Wen ar Gefndir Gwyn (1992). O safbwynt beirniadaeth, dywed Simon Brooks yn O Dan Lygad y Gestapo i John Rowlands ddechrau creu ôl-foderniaeth Cymraeg, ac yn sicr ceir ganddo drafodaeth allweddol ar y pwnc yn ei erthygl ‘Chwarae â chwedlau’ (1996). Ffrwydrodd y ddadl yng Nghymru yn dilyn gwobrwyo Robin Llywelyn am ei nofel Seren Wen yn Eisteddfod Aberystwyth 1992. Ceir crynodeb o hanes derbyniad y nofel gan Angharad Price yn Rhwng Du a Gwyn (2002); cwynai adolygwyr a sylwebwyr bod un ai’r nofel ei hun neu’r trafodaethau a ddigwyddodd yn ei sgil yn elitaidd, yn ffug, ac yn anghymreig. Roedd pobl yn ymwrthod â’r label ‘ôl-fodern’ yng Nghymru, nes ei ystumio yn ‘pen-ôl foderniaeth’ (gweler Angharad Tomos a Bobi Jones). Meddai John Rowlands, yng nghyd-destun trafodaeth o’r dadeni mewn rhyddiaith Gymraeg: ‘term di-ddal y chwaraewyd ag ef fel â phêl oedd ôl-foderniaeth, a thybid mai rhywbeth llithrig a lliwgar, caotig ac anarchaidd oedd ôl-foderniaeth, gan greu’r argraff mai’r hyn a wnâi’r nofel Gymraeg ddiweddar oedd tynnu stumiau ar farddoniaeth’. A or-ddefnyddiwyd y term, ac mewn ystyr rhy eang yn y Gymraeg? Yn sicr fe ddefnyddiwyd y term yn llawer amlach nag ‘ôl-strwythurol’ neu ‘dadadeiladol’, ond yr un oedd y gŵyn yn amlach na pheidio. Beirniadwyd y cylchgrawn theoretig arloesol Tu Chwith a sefydlwyd yn 1993 am ‘ieithwedd siwdo-academaidd’. Ymateb un o’r golygyddion, Simon Brooks, oedd mynnu mai ‘Gêm iaith yw ôl-foderniaeth, mae’n wir, ac er nad oes raid iddi fod yn ddifrifol, mae bob amser o ddifrif’. Ceir hefyd drafodaeth o ymateb pobl i’r termau gan John Rowlands yn Taliesin yn 1995. Cafwyd hefyd ymateb gwrthwynebus ond deallusol gan Richard Wyn Jones a Jerry Hunter yn yr un rhifyn o Taliesin mewn erthygl sy’n cwyno bod termau beirniadaeth ôl-fodernaidd yn anghyson, a’i fod hefyd yn ddiffygiol o safbwynt datblygu gwleidyddiaeth ryddfreiniol. Ym marn John Rowlands problem ôl-foderniaeth yng Nghymru oedd ei fod yn ymwrthod â’r trosgynnol, a bod y Cymry am gadw gafael ar hyn, a hefyd eisiau meddwl bod llenyddiaeth yn sanctaidd, tra bod ôl-foderniaeth yn ei thrin fel dim mwy na math arall o ddisgwrs. Wrth dafoli, ar ddiwedd y ddegawd, awgryma Gwenllïan Dafydd mai’r ffaith nad oedd y gynulleidfa Gymraeg wedi cael digon o nofelau modernaidd i’w paratoi ar gyfer y rhai ôl-fodernaidd fu’n gyfrifol am y ‘croeso llugoer’ a gawsant.

O’i osod mewn cyd-destun rhyngwladol, nid yw’r ymateb a fu yng Nghymru yn gymaint o syndod. Yn wir gellir ei weld fel symptom o’r rhwyg a ddigwyddodd yn y traddodiad athronyddol tua diwedd y 19g. Yn sgil gwaith athronwyr megis G. W. F. Hegel (1770-1831) a Friedrich Nietzsche (1844-1900) tyfodd dau draddodiad athronyddol gwrthwynebus o fewn y ddisgyblaeth, a adnabyddir bellach fel athroniaeth cyfandirol Ewrop ar un llaw, ac athroniaeth empeiraidd, ‘dadansoddol’ y byd Saesneg ar y llaw arall. Mae’r ail grŵp o athronwyr, sy’n cynnwys y Cymro Bertrand Russell (1872-1970) a’i ddisgybl Ludwig Wittgenstein (1889-1951), yn yr un modd â dilornwyr ôl-foderniaeth yn casáu jargon, ac yn disgwyl i iaith fod yn glir fel ffenestr ar y byd.

Heather Williams

Llyfryddiaeth

Baudrillard, J. (1991), La Guerre du Golfe n’a pas eu lieu (1991), cyfieithiwyd fel The Gulf War Did Not Take Place, gan Paul Patton (Bloomington: Gwasg Prifysgol Indiana, 1995).

Baudrillard, J. (1981), Simulacres et simulation (Paris: Galilée), cyfieithiwyd fel Simulacra and Simulation, gan Sheila Glaser (Ann Arbor: Gwasg Prifysgol Michigan, 1994).

Bertens, H. (1995), The Idea of the Postmodern: A History (Llundain, Routledge).

Brooks, S. (1993), ‘Dadl rhwng cromfachau’, Barn 368, 26-27.

Brooks, S. (1996), ‘Gohebiaeth. Llythyr ynghylch ôl-foderniaeth. Ateb sylwadau Jerry Hunter a Richard Wyn Jones’, Taliesin 93, 95-100.

Brooks, S. (2004), O Dan Lygaid y Gestapo: Yr Oleuedigaeth Cymraeg a Theori Lenyddol yng Nghymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Butler, C. (2002), Postmodernism: A Very Short Introduction (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen).

Dafydd, G. (1999), 'Ffuglen Gymraeg Ôl-Fodern', traethawd Phd Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Davies, D.W. (1993), ‘Ôl-foderniaeth o chwith’, Barn 365, 42-44.

Hunter, J. a Jones, R.W. (1995), ‘O’r chwith: pa mor feirniadol yw beirniadaeth ôl-fodern?’, Taliesin, 92, 9-32.

Jones, R.M. a Tomos, A. (1996), ‘Pen-ôl foderniaeth’, Golwg, t. 16.

Lyotard, J.-F. (1979), La Condition postmoderne: rapport sur le savoir (Paris: Minuit), cyfieithiwyd gan Geoffrey Bennington a Brian Massumi fel The Postmodern Condition: A Report on Knowledge (Minneapolis: Minneapolis University Press, 1984).

Malpas, S. (2005), The Postmodern (Llundain: Routledge).

Price, A. (2002), Rhwng Du a Gwyn (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru).

Rowlands, J. (1990), ‘Beirniadu’n groes i’r graen’, Taliesin, 71, 57-65.

Rowlands, J. (1995), ‘Holi Simon Brooks’, Taliesin, 92, 33-41.

Rowlands, J. (1996), ‘Chwarae â chwedlau: cip ar y nofel Gymraeg ôl-fodernaidd’, Y Traethodydd, 151, rhif 636, 5-24.

Rowlands, J. (2000), ‘Robat Gruffydd a’r gweddill ffyddlon’, yn Y Sêr yn eu Graddau: Golwg ar Ffuglen y Nofel Gymraeg Ddiweddar, gol. John Rowlands (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), 165-91.

Waugh, P. (gol.) (1992), Postmodernism: A Reader (Llundain: Arnold).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.