Budgie

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Band roc trwm a ddaeth i amlygrwydd yn bennaf rhwng 1975 ac 1985. Ffurfiwyd y band yng Nghaerdydd ar ddiwedd yr 1960au. Yr aelodau gwreiddiol oedd Burke Shelley (llais a gitâr fas), Tony Bourge (gitâr a llais) a Ray Phillips (drymiau); ond bu amrywiol aelodau dros y blynyddoedd, gan gynnwys drymwyr a gitaryddion megis Pete Boot, Steve Williams, Robert Kendrick a John Thomas. Bu’r gitarydd Myfyr Isaac hefyd yn aelod o’r band rhwng 1975 ac 1978 cyn iddo ymuno â grwpiau pop Cymraeg megis Jîp a Bando.

Daeth llwyddiant pennaf Budgie yng nghanol yr 1970au ar ôl rhyddhau eu pedwaredd a’u pumed record hir, In for the Kill! (MCA, 1974) a Bandolier (MCA, 1975). Roedd y ddau albwm yn nodedig am eu caneuon roc trwm amladrannol a geisiai ymestyn terfynau arferol y gân roc dri munud a’i throi’n endid llawer mwy trwy ddatgan a datblygu nifer o riffiau cysylltiol a’u gosod yn gyfochr ag adrannau gwrthgyferbyniol (fel yn y caneuon ‘Breaking All the House Rules’ ac ‘I Can’t See My Feelings’ allan o Bandolier). Yn ddiweddarach, ymglywir â dylanwadau eraill hefyd, megis harmonïau a rhythmau Lladin-Americanaidd gitaryddion tebyg i Carlos Santana (g.1947) ac Al Di Meola (g.1954), ynghyd â rhythmau ffync, ar eu seithfed record hir, Impeckable (A&M, 1978).

Cymharol fyrhoedlog fu poblogrwydd Budgie, a hynny’n rhannol o ganlyniad i ymddangosiad pync ar ddiwedd yr 1970au. Roedd ethos pync yn bur wahanol i un grwpiau roc trwm megis Budgie. Daeth yn ffasiynol yng ngwasg gerddorol y cyfnod i feirniadu grwpiau roc trwm a roc blaengar am eu hagwedd uchelgeisiol, ymhongar a hunanfaldodus. Roedd elfennau o roc trwm a roc blaengar yn perthyn i arddull Budgie, ac yn hynny o beth gellir eu cymharu â Rush, y grŵp o Ganada, a oedd, fel Budgie, yn driawd roc pwerus, er nad oedd gan Budgie yr un lefel o soffistigeiddrwydd a gallu meistraidd, na chwaith yr un apêl ryngwladol.

Dros y blynyddoedd bu i nifer o grwpiau a cherddorion gydnabod dylanwad cynnar Budgie ar eu cerddoriaeth, gan gynnwys Iron Maiden a Metallica. Yn wir, yn 1988 recordiodd Metallica fersiwn o un o’u caneuon, sef ‘Breadfan’.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Budgie (MCA MKPS2018, 1971)
  • Squawk (MCA MKPS2023, 1972)
  • Never Turn Your Back on a Friend (MCA MDKS8010, 1973)
  • In for the Kill! (MCA MAPS7413, 1974)
  • Bandolier (MCA MAPS 8092, 1975)
  • If I Were Brittania I’d Waive the Rules (A&M AMLH 68377, 1976)
  • Impeckable (A&M AMLH 64675, 1978)
  • Power Supply (Active ACT LP1, 1980)
  • Nightflight (RCA LP 6003, 1981)
  • Deliver Us from Evil (RCA LP 6054, 1982)
  • “You’re All Living in Cuckooland” (Noteworthy NP15, 2006)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.