Categori:Daearyddiaeth

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:00, 6 Mehefin 2023 gan Gweinyddwr (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Ers nifer o flynyddoedd bellach gwelwyd cynnydd sylweddol yn y nifer o fodiwlau daearyddiaeth a ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws Cymru. Bwriad casgliad Daearyddiaeth yr Esboniadur yw llenwi’r bwlch mewn adnoddau addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym meysydd daearyddiaeth ffisegol a dynol. Ar gyfer pob term, boed yn broses, tirffurf, damcaniaeth neu dechneg, ceir diffiniad, esboniad, enghreifftiau a llyfryddiaeth. Ysgrifennwyd yr esboniadau gan staff a myfyrwyr ol-raddedig adrannau daearyddiaeth Prifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.