Colofn

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Column

Erthygl yn amlygu barn bersonol yr awdur, sy’n ymddangos yn aml ac yn rheolaidd mewn papur newydd neu gylchgrawn. Fel arfer, mae’n mynd i’r afael â digwyddiadau cyhoeddus.

Datblygodd ffurf y golofn o draethodau’r 1800au ac ar y cychwyn roeddent yn gyfyngedig i hiwmor, clecs a gwleidyddiaeth. Erbyn heddiw, mae colofn yn ymddangos fel un darn rhwng 300 a 800 o eiriau mewn man amlwg (e.e. ar flaen adran newyddion lleol neu ar dudalennau barn) ac yn tueddu i fynd i’r afael â phynciau gwahanol dros amser.

Gelwir colofnau ar raglenni newyddion yn ‘draethodau, ‘darn barn’ neu ‘safbwyntiau’ (essays, opinions and viewpoints), a chyfeirir atynt fel wyneb dynol newyddiaduraeth.

Mewn papurau newydd neu gylchgronau, gwelir enw’r awdur yn glir uwchben neu oddi tan yr erthygl.

Mae hyn yn wahanol i’r golofn olygyddol ddienw sy’n mynegi llais swyddogol y sefydliad newyddion. Gelwir y golofn hon yn leader, neu pan fydd yn ymdrin â gwahanol bynciau, fe’i gelwir yn editorial articles. Gan amlaf mae’r darnau hyn, sy’n ymddangos ar dudalen yng nghanol y papur islaw logo’r papur, yn cael eu hysgrifennu gan dîm o ddirprwy olygyddion neu uwch-ohebwyr.

Mae colofnau yn cynnig cyfle i awdur fynegi barn bersonol ar ddigwyddiadau neu faterion cyfoes, i gynnig cyngor neu sylwebaeth ac i adolygu llyfrau, ffilmiau neu’r celfyddydau.

Ymddangosodd y colofnau cyntaf yn yr 1800au mewn sawl lle ar draws y byd; cyhoeddwyd y golofn gyntaf, y ‘Journal of Occurences’, yn Boston, Unol Daleithiau America, yn 1768 yn y New York Journal. Cyfres o adroddiadau newyddion dienw oeddynt a oedd yn creu gelyniaeth yn erbyn Prydain ac yn ceisio ennyn cydymdeimlad y darllenwyr tuag at sefyllfa pobl Boston. Cawsant eu hailargraffu mewn sawl papur newydd arall yn y trefedigaethau rhwng 1768 a 1769.

Yn ogystal, yn ystod y deng mlynedd cyn y Rhyfel Cartref, roedd Karl Marx a Friedrich Engels (yn ysgrifennu ar faterion Ewropeaidd ar gyfer y New York Tribune) ymysg y colofnwyr. Ond credir mai’r cyfnod rhwng y ddau ryfel byd oedd oes aur y colofnwyr. Cafodd y colofnau poblogaidd eu syndiceiddio, sef bod yr erthyglau yn cael eu gwerthu i amryw o bapurau newydd gan fod cynifer yn eu darllen, gyda’r awduron yn mabwysiadu arddulliau amrywiol a naws gwahanol yn eu herthyglau – yn ddifrifol, dadansoddol, moesol, dychanol a difyr.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.