Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Corau Telyn"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Dyddia’r côr [[telyn]] proffesiynol Cymreig cyntaf yn ôl i’r 19g. pan oedd y [[Cambrian Minstrels]], grŵp o ddeg cerddor o deulu [[John Roberts]] (Telynor Cymru), yn perfformio ar hyd a lled y wlad. Rhoddodd eu perfformiad gerbron y Frenhines Victoria ym mhlasty Palé, Llandderfel, statws cenedlaethol iddynt fel ''ensemble'' Cymreig yn ogystal â chydnabyddiaeth fel prif gôr telynau’r cyfnod yng Nghymru.
+
Dyddia’r côr [[telyn]] proffesiynol Cymreig cyntaf yn ôl i’r 19g. pan oedd y [[Cambrian Minstrels, Y (neu Teulu Roberts) | Cambrian Minstrels]], grŵp o ddeg cerddor o deulu [[Roberts, John (Alaw Elwy, Telynor Cymru; 1816-94) | John Roberts]] (Telynor Cymru), yn perfformio ar hyd a lled y wlad. Rhoddodd eu perfformiad gerbron y Frenhines Victoria ym mhlasty Palé, Llandderfel, statws cenedlaethol iddynt fel ''ensemble'' Cymreig yn ogystal â chydnabyddiaeth fel prif gôr telynau’r cyfnod yng Nghymru.
  
Ar droad yr 20g. gwelwyd cnewyllyn o gorau [[telynau teires]] ym Mhlasty Llanofer, yn bennaf o ganlyniad i nawdd a chefnogaeth [[Augusta Hall]] (Arglwyddes Llanofer) i’r traddodiadau Cymreig. Yn dilyn ei marwolaeth yn 1896, ymgymerodd ei merch, yr Arglwyddes Augusta Herbert, â’r gwaith o gefnogi a datblygu’r diwylliant Cymraeg a chanlyniad ei hanogaeth oedd perfformiad côr telynau teires Llanofer yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Y Fenni yn 1913. Dyma berfformiad olaf y côr hwn dan arweiniad y delynores Suzanna Berrington Gryffudd Richards fodd bynnag, ac yn ystod yr 20g. dirywio fu hanes y corau telynau a berfformiai’n rheolaidd yng Nghymru. Fel yn achos y Cambrian Minstrels, cerddorion a thelynorion o’r un teulu a ffurfiai’r mwyafrif o gorau telyn Cymreig yn y cyfnod hwn. Wrth i’r delyn deires golli ei bri yn ystod yr 20g., diflannodd y corau telynau teires ymron yn gyfan gwbl ac fe’u disodlwyd gan gorau telyn bedal ''Grecian''.
+
Ar droad yr 20g. gwelwyd cnewyllyn o gorau [[Telyn Deires | telynau teires]] ym Mhlasty Llanofer, yn bennaf o ganlyniad i nawdd a chefnogaeth [[Hall, Augusta (1802-96) | Augusta Hall]] (Arglwyddes Llanofer) i’r traddodiadau Cymreig. Yn dilyn ei marwolaeth yn 1896, ymgymerodd ei merch, yr Arglwyddes Augusta Herbert, â’r gwaith o gefnogi a datblygu’r diwylliant Cymraeg a chanlyniad ei hanogaeth oedd perfformiad côr telynau teires Llanofer yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Y Fenni yn 1913. Dyma berfformiad olaf y côr hwn dan arweiniad y delynores Suzanna Berrington Gryffudd Richards fodd bynnag, ac yn ystod yr 20g. dirywio fu hanes y corau telynau a berfformiai’n rheolaidd yng Nghymru. Fel yn achos y Cambrian Minstrels, cerddorion a thelynorion o’r un teulu a ffurfiai’r mwyafrif o gorau telyn Cymreig yn y cyfnod hwn. Wrth i’r delyn deires golli ei bri yn ystod yr 20g., diflannodd y corau telynau teires ymron yn gyfan gwbl ac fe’u disodlwyd gan gorau telyn bedal ''Grecian''.
  
Ym Meddgelert yn yr 1930au, penderfynodd Edith Evans (Telynores Eryri) ffurfio côr telyn, ac fe’u hadwaenid fel Côr Telyn Eryri. Cynhaliwyd eu cyngerdd cyntaf y tu allan i’r ‘Bedd’ yng Nghricieth a daethant yn hynod boblogaidd drwy’r wlad. Yn eu hanterth, roeddent yn cael eu cydnabod fel ensemblau offerynnol gorau Cymru. Yn ogystal â diddanu eu cynulleidfaoedd fel côr telynau, arferent [[ganu penillion]], adrodd, canu unawdau a deuawdau telyn yn ogystal â dadlau ac ymgomio. Magwyd Edith Evans yn sŵn [[canu gwerin]] a chanu penillion, a bu’n gweithio’n ddiwyd i gadw’r traddodiadau hyn yn fyw. Roedd yn ddisgybl ac yn gyfeilles agos i [[Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn), a fu’n cyd-chwarae gyda Chôr Telynau Eryri mewn dros 2,000 o gyngherddau. Yn ogystal â pherfformio’n lleol, teithiodd y côr i rai o brif drefi Lloegr, gan gynnwys Llundain, Lerpwl, Manceinion, Caerlleon a Rhydychen.
+
Ym Meddgelert yn yr 1930au, penderfynodd Edith Evans (Telynores Eryri) ffurfio côr telyn, ac fe’u hadwaenid fel Côr Telyn Eryri. Cynhaliwyd eu cyngerdd cyntaf y tu allan i’r ‘Bedd’ yng Nghricieth a daethant yn hynod boblogaidd drwy’r wlad. Yn eu hanterth, roeddent yn cael eu cydnabod fel ensemblau offerynnol gorau Cymru. Yn ogystal â diddanu eu cynulleidfaoedd fel côr telynau, arferent [[Canu Penillion (gwreiddiau) | ganu penillion]], adrodd, canu unawdau a deuawdau telyn yn ogystal â dadlau ac ymgomio. Magwyd Edith Evans yn sŵn [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | canu gwerin]] a chanu penillion, a bu’n gweithio’n ddiwyd i gadw’r traddodiadau hyn yn fyw. Roedd yn ddisgybl ac yn gyfeilles agos i [[Richards, Nansi (Telynores Maldwyn; 1888-1979) | Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn), a fu’n cyd-chwarae gyda Chôr Telynau Eryri mewn dros 2,000 o gyngherddau. Yn ogystal â pherfformio’n lleol, teithiodd y côr i rai o brif drefi Lloegr, gan gynnwys Llundain, Lerpwl, Manceinion, Caerlleon a Rhydychen.
  
Ni welwyd yr un côr telynau teires ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol, fodd bynnag, tan 2004 pan berfformiodd Rhes Ganol, grŵp o chwe thelynor, sef [[Robin Huw Bowen]], Rhiain Bebb, Eleri Turner, Huw Roberts, Wynn Thomas a’i fab, Steffan Thomas. Mae’r côr wedi teithio ar hyd a lled gogledd Cymru yn perfformio ac yn cynnal gweithdai, yn ogystal â recordio albwm o gerddoriaeth telyn dan y teitl ''Yn y Gwaed''.
+
Ni welwyd yr un côr telynau teires ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol, fodd bynnag, tan 2004 pan berfformiodd Rhes Ganol, grŵp o chwe thelynor, sef [[Bowen, Robin Huw (g.1957) | Robin Huw Bowen]], Rhiain Bebb, Eleri Turner, Huw Roberts, Wynn Thomas a’i fab, Steffan Thomas. Mae’r côr wedi teithio ar hyd a lled gogledd Cymru yn perfformio ac yn cynnal gweithdai, yn ogystal â recordio albwm o gerddoriaeth telyn dan y teitl ''Yn y Gwaed''.
  
 
Erbyn diwedd yr 20g. a dechrau’r 21g. roedd corau ac ensemblau telyn wedi dechrau adennill eu poblogrwydd yng Nghymru. Yn ogystal â phartïon a chorau telyn ieuenctid ar lefel sirol a chenedlaethol, ceir perfformiadau a recordiadau o gerddoriaeth gan gorau telyn megis Côr Telyn Teilo, Côr Telyn Bro Ystwyth a Chôr Telyn CGWM (Canolfan Gerdd William Mathias, Caernarfon).
 
Erbyn diwedd yr 20g. a dechrau’r 21g. roedd corau ac ensemblau telyn wedi dechrau adennill eu poblogrwydd yng Nghymru. Yn ogystal â phartïon a chorau telyn ieuenctid ar lefel sirol a chenedlaethol, ceir perfformiadau a recordiadau o gerddoriaeth gan gorau telyn megis Côr Telyn Teilo, Côr Telyn Bro Ystwyth a Chôr Telyn CGWM (Canolfan Gerdd William Mathias, Caernarfon).

Y diwygiad cyfredol, am 16:03, 16 Mehefin 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Dyddia’r côr telyn proffesiynol Cymreig cyntaf yn ôl i’r 19g. pan oedd y Cambrian Minstrels, grŵp o ddeg cerddor o deulu John Roberts (Telynor Cymru), yn perfformio ar hyd a lled y wlad. Rhoddodd eu perfformiad gerbron y Frenhines Victoria ym mhlasty Palé, Llandderfel, statws cenedlaethol iddynt fel ensemble Cymreig yn ogystal â chydnabyddiaeth fel prif gôr telynau’r cyfnod yng Nghymru.

Ar droad yr 20g. gwelwyd cnewyllyn o gorau telynau teires ym Mhlasty Llanofer, yn bennaf o ganlyniad i nawdd a chefnogaeth Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer) i’r traddodiadau Cymreig. Yn dilyn ei marwolaeth yn 1896, ymgymerodd ei merch, yr Arglwyddes Augusta Herbert, â’r gwaith o gefnogi a datblygu’r diwylliant Cymraeg a chanlyniad ei hanogaeth oedd perfformiad côr telynau teires Llanofer yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni yn 1913. Dyma berfformiad olaf y côr hwn dan arweiniad y delynores Suzanna Berrington Gryffudd Richards fodd bynnag, ac yn ystod yr 20g. dirywio fu hanes y corau telynau a berfformiai’n rheolaidd yng Nghymru. Fel yn achos y Cambrian Minstrels, cerddorion a thelynorion o’r un teulu a ffurfiai’r mwyafrif o gorau telyn Cymreig yn y cyfnod hwn. Wrth i’r delyn deires golli ei bri yn ystod yr 20g., diflannodd y corau telynau teires ymron yn gyfan gwbl ac fe’u disodlwyd gan gorau telyn bedal Grecian.

Ym Meddgelert yn yr 1930au, penderfynodd Edith Evans (Telynores Eryri) ffurfio côr telyn, ac fe’u hadwaenid fel Côr Telyn Eryri. Cynhaliwyd eu cyngerdd cyntaf y tu allan i’r ‘Bedd’ yng Nghricieth a daethant yn hynod boblogaidd drwy’r wlad. Yn eu hanterth, roeddent yn cael eu cydnabod fel ensemblau offerynnol gorau Cymru. Yn ogystal â diddanu eu cynulleidfaoedd fel côr telynau, arferent ganu penillion, adrodd, canu unawdau a deuawdau telyn yn ogystal â dadlau ac ymgomio. Magwyd Edith Evans yn sŵn canu gwerin a chanu penillion, a bu’n gweithio’n ddiwyd i gadw’r traddodiadau hyn yn fyw. Roedd yn ddisgybl ac yn gyfeilles agos i Nansi Richards (Telynores Maldwyn), a fu’n cyd-chwarae gyda Chôr Telynau Eryri mewn dros 2,000 o gyngherddau. Yn ogystal â pherfformio’n lleol, teithiodd y côr i rai o brif drefi Lloegr, gan gynnwys Llundain, Lerpwl, Manceinion, Caerlleon a Rhydychen.

Ni welwyd yr un côr telynau teires ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol, fodd bynnag, tan 2004 pan berfformiodd Rhes Ganol, grŵp o chwe thelynor, sef Robin Huw Bowen, Rhiain Bebb, Eleri Turner, Huw Roberts, Wynn Thomas a’i fab, Steffan Thomas. Mae’r côr wedi teithio ar hyd a lled gogledd Cymru yn perfformio ac yn cynnal gweithdai, yn ogystal â recordio albwm o gerddoriaeth telyn dan y teitl Yn y Gwaed.

Erbyn diwedd yr 20g. a dechrau’r 21g. roedd corau ac ensemblau telyn wedi dechrau adennill eu poblogrwydd yng Nghymru. Yn ogystal â phartïon a chorau telyn ieuenctid ar lefel sirol a chenedlaethol, ceir perfformiadau a recordiadau o gerddoriaeth gan gorau telyn megis Côr Telyn Teilo, Côr Telyn Bro Ystwyth a Chôr Telyn CGWM (Canolfan Gerdd William Mathias, Caernarfon).

Yn 2007, daeth cant o delynau ynghyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i lansio’r wythfed Symposiwm Ewropeaidd ar gyfer y delyn a gafodd ei gynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn honno. Torrwyd record fyd-eang ar gyfer y cynulliad mwyaf o delynau yn perfformio gyda’i gilydd ar un safle.

Gwawr Jones



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.