Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Crefydd"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
 
(Saesneg: ''Religion'')
 
(Saesneg: ''Religion'')
  
'''1. Diffinio'''
+
'''1. Diffinio crefydd'''
  
 
Mae ceisio cynnig diffiniad o’r term ‘crefydd’ yn destun trafodaethau niferus. Yn wir, mae gwahanol ysgolheigion a meddylwyr yn synied am y term mewn amryw ffyrdd. Yn ei lyfr ''The Varieties of Religious Experience'' (1902), diffiniodd y seicolegydd William James grefydd fel cyfuniad o deimladau, gweithredoedd a phrofiadau unigol dynion mewn perthynas â’r dwyfol. Diffiniad diddorol, ond un nad yw’n gwbl addas oherwydd ceir islais ‘duw-ganolog’ iddo, ac fel y gwyddys nid oes gan rai crefyddau dduw, er enghraifft Bwdhaeth a Chonffiwsiaeth. Yn fwy diweddar, gwelwyd Paul James a Peter Mandeville (2010: xii–xiii) yn cynnig mai’r hyn yw crefydd yw system o gredoau, symbolau ac arferion sy’n ystyried natur bodolaeth ac sydd mewn cymundeb ag eraill, ynghyd ag ‘aralledd’ yn gyffredinol. Mae’r academydd Ninian Smart (1998: 11–17) fel petai’n cyflwyno tir canol rhwng dwyfoldeb William James ac aralledd Paul James a Peter Mandeville drwy gynnig bod yna saith elfen benodol sy’n dynodi’r hyn yw crefydd: defodaeth, straeon <nowiki>naratif</nowiki> a chwedlonol, emosiwn, cymdeithas a sefydliad, <nowiki>moeseg</nowiki> a chyfraith, athrawiaeth ac athroniaeth, ac elfennau materol. O ystyried hyn oll felly, gellir casglu mai’r hyn yw crefydd yn ei hanfod yw system gymdeithasegol a diwylliannol o gredoau sy’n ymwneud ag agweddau megis sut i fyw, sut i ymddwyn, a sut y dylid deall y byd a’r bydysawd yn gyffredinol, ac sy’n cynnwys elfen ysbrydol neu oruwchnaturiol neu gyfuniad o’r ddeubeth.
 
Mae ceisio cynnig diffiniad o’r term ‘crefydd’ yn destun trafodaethau niferus. Yn wir, mae gwahanol ysgolheigion a meddylwyr yn synied am y term mewn amryw ffyrdd. Yn ei lyfr ''The Varieties of Religious Experience'' (1902), diffiniodd y seicolegydd William James grefydd fel cyfuniad o deimladau, gweithredoedd a phrofiadau unigol dynion mewn perthynas â’r dwyfol. Diffiniad diddorol, ond un nad yw’n gwbl addas oherwydd ceir islais ‘duw-ganolog’ iddo, ac fel y gwyddys nid oes gan rai crefyddau dduw, er enghraifft Bwdhaeth a Chonffiwsiaeth. Yn fwy diweddar, gwelwyd Paul James a Peter Mandeville (2010: xii–xiii) yn cynnig mai’r hyn yw crefydd yw system o gredoau, symbolau ac arferion sy’n ystyried natur bodolaeth ac sydd mewn cymundeb ag eraill, ynghyd ag ‘aralledd’ yn gyffredinol. Mae’r academydd Ninian Smart (1998: 11–17) fel petai’n cyflwyno tir canol rhwng dwyfoldeb William James ac aralledd Paul James a Peter Mandeville drwy gynnig bod yna saith elfen benodol sy’n dynodi’r hyn yw crefydd: defodaeth, straeon <nowiki>naratif</nowiki> a chwedlonol, emosiwn, cymdeithas a sefydliad, <nowiki>moeseg</nowiki> a chyfraith, athrawiaeth ac athroniaeth, ac elfennau materol. O ystyried hyn oll felly, gellir casglu mai’r hyn yw crefydd yn ei hanfod yw system gymdeithasegol a diwylliannol o gredoau sy’n ymwneud ag agweddau megis sut i fyw, sut i ymddwyn, a sut y dylid deall y byd a’r bydysawd yn gyffredinol, ac sy’n cynnwys elfen ysbrydol neu oruwchnaturiol neu gyfuniad o’r ddeubeth.
Llinell 7: Llinell 7:
 
'''2. Crefydd o bersbectif cymdeithasol'''
 
'''2. Crefydd o bersbectif cymdeithasol'''
  
Yn gymdeithasegol, gellir dweud mai’r hyn yw crefydd yw system o gredoau ac/neu arferion sy’n clymu pobl ynghyd. Mae crefydd yn rym dylanwadol, cysyniadol ac ideolegol pwerus iawn sy’n medru effeithio ar [[strwythur]] a [[normau]] cymdeithas. Fodd bynnag, mae cymdeithasau’n amrywio o ran union nifer y crefyddau sy’n bodoli ynddynt a’r graddau y mae crefydd yn effeithio ar yr anian gymdeithasol.
+
Yn gymdeithasegol, gellir dweud mai’r hyn yw crefydd yw system o gredoau ac/neu arferion sy’n clymu pobl ynghyd. Mae crefydd yn rym dylanwadol, cysyniadol ac ideolegol pwerus iawn sy’n medru effeithio ar [[strwythur cymdeithasol|strwythur]] a normau cymdeithas. Fodd bynnag, mae cymdeithasau’n amrywio o ran union nifer y crefyddau sy’n bodoli ynddynt a’r graddau y mae crefydd yn effeithio ar yr anian gymdeithasol.
  
 
'''3. Crefyddoldeb'''
 
'''3. Crefyddoldeb'''
Llinell 13: Llinell 13:
 
Mae crefyddoldeb (''religiosity'') yn agwedd bwysig ar gymdeithas, ond mae ei union ddiffiniad wedi amrywio ymysg ysgolheigion a gwahanol feddylwyr. Yn gyffredinol, defnyddir y term ‘crefyddoldeb’ i ddynodi pa mor arwyddocaol yw crefydd mewn cymdeithas, boed ar lefel unigol neu dorfol. Gall gwyddonwyr cymdeithasol asesu crefyddoldeb mewn cymdeithas wrth archwilio pa mor ddylanwadol yw credoau crefyddol, nifer y bobl sy’n ymwneud â chrefydd, a nifer y sefydliadau crefyddol sydd mewn bod, megis addoldai a mudiadau ffydd.  
 
Mae crefyddoldeb (''religiosity'') yn agwedd bwysig ar gymdeithas, ond mae ei union ddiffiniad wedi amrywio ymysg ysgolheigion a gwahanol feddylwyr. Yn gyffredinol, defnyddir y term ‘crefyddoldeb’ i ddynodi pa mor arwyddocaol yw crefydd mewn cymdeithas, boed ar lefel unigol neu dorfol. Gall gwyddonwyr cymdeithasol asesu crefyddoldeb mewn cymdeithas wrth archwilio pa mor ddylanwadol yw credoau crefyddol, nifer y bobl sy’n ymwneud â chrefydd, a nifer y sefydliadau crefyddol sydd mewn bod, megis addoldai a mudiadau ffydd.  
  
Yn ôl Clements (2015), gellir archwilio’r modd y mae crefydd yn effeithio ar brofiadau, agweddau a [[gwerthoedd]] unigolion mewn cymdeithas wrth ystyried <nowiki>tair</nowiki> elfen benodol: perthyn, ymddygiad a chred. Gellir mesur yr elfen o berthyn drwy ystyried nifer aelodau sefydliadau crefyddol. Mae ymddygiad yn ei amlygu ei hun yn y gweithgareddau ‘crefyddol’ mae pobl yn rhan ohonynt – boed yn gyhoeddus neu’n breifat. Yr hyn a olygir gan gred yw bod â ffydd: coelio mewn duwiau, ysbrydion, gwyrthiau a/neu fywyd ar ôl marwolaeth. Dylid nodi bod ysgolheigion eraill, er enghraifft Cornwall, Albrecht, Cunningham a Pitcher (1986), yn rhestru mwy o elfennau penodol i grefyddoldeb.
+
Yn ôl Clements (2015), gellir archwilio’r modd y mae crefydd yn effeithio ar brofiadau, agweddau a gwerthoedd unigolion mewn cymdeithas wrth ystyried <nowiki>tair</nowiki> elfen benodol: perthyn, ymddygiad a chred. Gellir mesur yr elfen o berthyn drwy ystyried nifer aelodau sefydliadau crefyddol. Mae ymddygiad yn ei amlygu ei hun yn y gweithgareddau ‘crefyddol’ mae pobl yn rhan ohonynt – boed yn gyhoeddus neu’n breifat. Yr hyn a olygir gan gred yw bod â ffydd: coelio mewn duwiau, ysbrydion, gwyrthiau a/neu fywyd ar ôl marwolaeth. Dylid nodi bod ysgolheigion eraill, er enghraifft Cornwall, Albrecht, Cunningham a Pitcher (1986), yn rhestru mwy o elfennau penodol i grefyddoldeb.
  
 
Dylid nodi y ceir rhai problemau ynglŷn â mesur crefyddoldeb unigolion. Nid yw ysgolheigion yn unfryd unfarn ynghylch union ddiffiniad y term, felly ceir rhai’n asesu agweddau gwahanol i’w gilydd. Fodd bynnag, a chymryd ein bod yn derbyn diffiniad Clements (2015), cyfyd nifer o broblemau oherwydd bod ffydd yn rhywbeth newidiol ac fe all amrywio o dro i dro; yn ogystal â hynny, gellir bod yn grefyddol heb o reidrwydd fynychu addoldy. Buasai’n anodd asesu’r union niferoedd yn hyn o beth.
 
Dylid nodi y ceir rhai problemau ynglŷn â mesur crefyddoldeb unigolion. Nid yw ysgolheigion yn unfryd unfarn ynghylch union ddiffiniad y term, felly ceir rhai’n asesu agweddau gwahanol i’w gilydd. Fodd bynnag, a chymryd ein bod yn derbyn diffiniad Clements (2015), cyfyd nifer o broblemau oherwydd bod ffydd yn rhywbeth newidiol ac fe all amrywio o dro i dro; yn ogystal â hynny, gellir bod yn grefyddol heb o reidrwydd fynychu addoldy. Buasai’n anodd asesu’r union niferoedd yn hyn o beth.
Llinell 23: Llinell 23:
 
'''4.1 [[Karl Marx]] (1818–83)'''
 
'''4.1 [[Karl Marx]] (1818–83)'''
  
Gellir [[gwerthfawrogi]] safbwyntiau [[Marx]] am grefydd drwy ystyried ei ddamcaniaethau cymdeithasegol amrywiol, yn enwedig ei ddealltwriaeth o [[ddieithrio]] (''alienation''). Yn ''A Contribution to the Critique of Hegel’s Philosophy of Right'' (1844/2009), dadleua [[Marx]] fod crefydd yn cynrychioli darlu <nowiki>ffug</nowiki> o realiti a myn fod pobl ar drugaredd grymoedd nad ydynt yn eu deall. Mae ymgiprys â chrefydd, yn ôl Marx, yn fater o ymgiprys â’r byd y mae crefydd benodol yn ei ddarlunio. Mae crefydd yn offeryn i’r sawl sy’n creu anghyfiawnder yn ogystal â bod yn destun gwrthwynebiad i’r anghyfiawnder hwnnw. Mae beirniadu crefydd, felly, yn feirniadaeth ar y sawl sydd angen crefydd. Mae’n rym dwyochrog sydd â’r gallu i effeithio ar [[strwythur]] cymdeithasegol creiddiol. Felly, canolbwyntia dealltwriaeth Marx ar rôl crefydd fel endid, yn arbennig mewn perthynas â’r sawl sy’n wan yn gymdeithasol. Datganodd Marx (1844/2009; fy nghyfieithiad) yn sicr mai: ‘Crefydd yw ochenaid y creadur gorthrymedig, calon byd digalon, ac enaid amodau dienaid. Lodnwm y bobl ydyw.’
+
Gellir <nowiki>gwerthfawrogi</nowiki> safbwyntiau [[Karl Marx|Marx]] am grefydd drwy ystyried ei ddamcaniaethau cymdeithasegol amrywiol, yn enwedig ei ddealltwriaeth o [[ymddieithrio|ddieithrio]] (''alienation''). Yn ''A Contribution to the Critique of Hegel’s Philosophy of Right'' (1844/2009), dadleua [[Karl Marx|Marx]] fod crefydd yn cynrychioli darlu <nowiki>ffug</nowiki> o realiti a myn fod pobl ar drugaredd grymoedd nad ydynt yn eu deall. Mae ymgiprys â chrefydd, yn ôl [[Karl Marx|Marx]], yn fater o ymgiprys â’r byd y mae crefydd benodol yn ei ddarlunio. Mae crefydd yn offeryn i’r sawl sy’n creu anghyfiawnder yn ogystal â bod yn destun gwrthwynebiad i’r anghyfiawnder hwnnw. Mae beirniadu crefydd, felly, yn feirniadaeth ar y sawl sydd angen crefydd. Mae’n rym dwyochrog sydd â’r gallu i effeithio ar [[strwythur cymdeithasol|strwythur cymdeithasegol]] creiddiol. Felly, canolbwyntia dealltwriaeth [[Karl Marx|Marx]] ar rôl crefydd fel endid, yn arbennig mewn perthynas â’r sawl sy’n wan yn gymdeithasol. Datganodd [[Karl Marx|Marx]] (1844/2009; fy nghyfieithiad) yn sicr mai: ‘Crefydd yw ochenaid y creadur gorthrymedig, calon byd digalon, ac enaid amodau dienaid. Lodnwm y bobl ydyw.’
  
Llwyddodd damcaniaethau Marx i gael effaith ar ddatblygiad cymdeithaseg, yn enwedig mewn perthynas â’r hyn a alwyd yn ddamcaniaeth amddifadedd (''deprivation theory''), sef y syniad bod crefydd yn ateb gofynion y sawl sydd ar waelod hierarchaeth cymdeithas – rhydd iddynt ffocws amgen i’w sefyllfaoedd beunyddiol.
+
Llwyddodd damcaniaethau [[Karl Marx|Marx]]i gael effaith ar ddatblygiad cymdeithaseg, yn enwedig mewn perthynas â’r hyn a alwyd yn ddamcaniaeth amddifadedd (''deprivation theory''), sef y syniad bod crefydd yn ateb gofynion y sawl sydd ar waelod hierarchaeth cymdeithas – rhydd iddynt ffocws amgen i’w sefyllfaoedd beunyddiol.
  
'''4.2 Émile Durkheim (1858–1917)'''
+
'''4.2 [[Émile Durkheim]] (1858–1917)'''
  
Gellir nodi dau destun penodol o eiddo [[Durkheim]] fel ffynonellau sy’n dangos ei syniadau am grefydd o safbwynt cymdeithasegol. Yn ei lyfr ''Hunanladdiad'' (1897/2002), mae Durkheim yn cyfeirio at berthynas crefydd a chyfraddau hunanladdiad. Casglodd fod hunanladdiad yn fwy cyffredin ymysg Protestaniaid na Chatholigion, a hynny oherwydd bod Catholigion fel petaent wedi eu hintegreiddio’n fwy i arferion crefyddol cymdeithasol, er enghraifft cyffesu a’r offeren. Awgryma’r gwaith yma hefyd fod gafael crefydd draddodiadol ar gymdeithasau modern yn gwanhau.  
+
Gellir nodi dau destun penodol o eiddo [[Émile Durkheim|Durkheim]] fel ffynonellau sy’n dangos ei syniadau am grefydd o safbwynt cymdeithasegol. Yn ei lyfr ''Hunanladdiad'' (1897/2002), mae [[Émile Durkheim|Durkheim]] yn cyfeirio at berthynas crefydd a chyfraddau hunanladdiad. Casglodd fod hunanladdiad yn fwy cyffredin ymysg Protestaniaid na Chatholigion, a hynny oherwydd bod Catholigion fel petaent wedi eu hintegreiddio’n fwy i arferion crefyddol cymdeithasol, er enghraifft cyffesu a’r offeren. Awgryma’r gwaith yma hefyd fod gafael crefydd draddodiadol ar gymdeithasau modern yn gwanhau.  
  
Yn ei lyfr ''Ffurfiau Sylfaenol Bywyd Crefyddol'' (1912/2008), mae Durkheim yn datgan mai sefydliad cymdeithasol sy’n cynnwys system o gredoau ac arferion yw crefydd, yn ogystal â sail i gymdeithas foesegol sy’n uno pobl o anian gyffelyb. Deil fod gan bob [[defod]] grefyddol yr un swyddogaeth, waeth ymhle y digwydd na sut. Yn hyn o beth, felly, mae crefydd yn anhepgor ac yn gyffredinol. Ond deil na fydd crefydd yn gallu cyflawni ei swyddogaeth draddodiadol mewn cymdeithasau arbenigol ac y bydd angen iddi gael swyddogaeth amgen. Yn ôl Durkheim, mae swyddogaeth yn cynnwys math o ddefnyddioldeb sy’n cyfeirio at gymdeithas a’i hanghenion. Mae gan grefydd swyddogaeth gymdeithasol ac <nowiki>ystyr</nowiki> a ''priori''. Gan hynny, mae o’r farn y bydd ffydd yn seiliedig ar resymeg, a chyfiawnder yn seiliedig ar werthoedd creiddiol [[rhesymoliaeth]].  
+
Yn ei lyfr ''Ffurfiau Sylfaenol Bywyd Crefyddol'' (1912/2008), mae [[Émile Durkheim|Durkheim]] yn datgan mai sefydliad cymdeithasol sy’n cynnwys system o gredoau ac arferion yw crefydd, yn ogystal â sail i gymdeithas foesegol sy’n uno pobl o anian gyffelyb. Deil fod gan bob [[defod]] grefyddol yr un swyddogaeth, waeth ymhle y digwydd na sut. Yn hyn o beth, felly, mae crefydd yn anhepgor ac yn gyffredinol. Ond deil na fydd crefydd yn gallu cyflawni ei swyddogaeth draddodiadol mewn cymdeithasau arbenigol ac y bydd angen iddi gael swyddogaeth amgen. Yn ôl [[Émile Durkheim|Durkheim]], mae swyddogaeth yn cynnwys math o ddefnyddioldeb sy’n cyfeirio at gymdeithas a’i hanghenion. Mae gan grefydd swyddogaeth gymdeithasol ac <nowiki>ystyr</nowiki> a ''priori''. Gan hynny, mae o’r farn y bydd ffydd yn seiliedig ar resymeg, a chyfiawnder yn seiliedig ar werthoedd creiddiol [[rhesymoliaeth]].  
  
 
'''4.3 Max Weber (1864–1920)'''
 
'''4.3 Max Weber (1864–1920)'''
Llinell 37: Llinell 37:
 
Gwelir yng ngwaith [[Weber]] gyfuno cymdeithaseg economaidd â chymdeithaseg crefydd er mwyn tanlinellu pwysigrwydd y dylanwadau diwylliannol sydd ynghlwm â chrefydd fel moddion i ddeall tarddiad [[cyfalafiaeth]]. Cyflwynodd Weber ddealltwriaeth eang am grefydd fel ymgais systematig i ateb cwestiynau am fywyd dynol. Dechreuodd Weber drafod cymdeithaseg grefyddol yn ei astudiaeth ar ''The Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism'' (1905/2001). Un o brif ddadleuon y gwaith hwn yw bod tarddiad amryw o’r egwyddorion sy’n nodweddu [[cyfalafiaeth]] mewn athrawiaethau Calfinaidd, ac felly â chysylltiad Cristnogol.
 
Gwelir yng ngwaith [[Weber]] gyfuno cymdeithaseg economaidd â chymdeithaseg crefydd er mwyn tanlinellu pwysigrwydd y dylanwadau diwylliannol sydd ynghlwm â chrefydd fel moddion i ddeall tarddiad [[cyfalafiaeth]]. Cyflwynodd Weber ddealltwriaeth eang am grefydd fel ymgais systematig i ateb cwestiynau am fywyd dynol. Dechreuodd Weber drafod cymdeithaseg grefyddol yn ei astudiaeth ar ''The Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism'' (1905/2001). Un o brif ddadleuon y gwaith hwn yw bod tarddiad amryw o’r egwyddorion sy’n nodweddu [[cyfalafiaeth]] mewn athrawiaethau Calfinaidd, ac felly â chysylltiad Cristnogol.
  
Ymhelaethodd ar hyn mewn gweithiau lle’r astudiodd grefyddau amrywiol a’u cymharu, sef ''The Sociology of Religion'' (1920/1965), ac, yn fwy penodol, yn ''The Religion of China'' (1915/1951), ''The Religion of India'' (1916/1958) ac ''Ancient Judaism'' (1917/1952). Yn y gweithiau hyn, trafododd ddwy agwedd benodol, sef bod cysylltiad rhwng crefydd ac economeg, a bod yna berthynas rhwng [[strwythur]] cymdeithasol a syniadau crefyddol. Heb os, ystyriai [[Weber]] grefydd fel grym dylanwadol mewn cymdeithas. Daethai i gredu bod syniadau crefyddol, ochr yn ochr â [[rhesymoliaeth]], mathemateg a gwyddoniaeth, wedi effeithio ac yn parhau i effeithio ar ddatblygu systemau economaidd yn y Gorllewin. Canlyniad asesu’r gwahanol grefyddau yn y fath fodd oedd casglu bod ceisio rhesymoli amryw agweddau ar fywyd, gan gynnwys elfennau economaidd, gwleidyddol a deallusol, yn weithred o fwydo proses raddol o [[seciwlareiddio]] – sef math o ‘ddadrithiad’ efo’r byd modern.  
+
Ymhelaethodd ar hyn mewn gweithiau lle’r astudiodd grefyddau amrywiol a’u cymharu, sef ''The Sociology of Religion'' (1920/1965), ac, yn fwy penodol, yn ''The Religion of China'' (1915/1951), ''The Religion of India'' (1916/1958) ac ''Ancient Judaism'' (1917/1952). Yn y gweithiau hyn, trafododd ddwy agwedd benodol, sef bod cysylltiad rhwng crefydd ac economeg, a bod yna berthynas rhwng [[strwythur cymdeithasol]] a syniadau crefyddol. Heb os, ystyriai [[Weber]] grefydd fel grym dylanwadol mewn cymdeithas. Daethai i gredu bod syniadau crefyddol, ochr yn ochr â [[rhesymoliaeth]], mathemateg a gwyddoniaeth, wedi effeithio ac yn parhau i effeithio ar ddatblygu systemau economaidd yn y Gorllewin. Canlyniad asesu’r gwahanol grefyddau yn y fath fodd oedd casglu bod ceisio rhesymoli amryw agweddau ar fywyd, gan gynnwys elfennau economaidd, gwleidyddol a deallusol, yn weithred o fwydo proses raddol o [[seciwlareiddio]] – sef math o ‘ddadrithiad’ efo’r byd modern.  
  
 
'''4.4 Cymdeithaseg Crefydd Fodernaidd'''
 
'''4.4 Cymdeithaseg Crefydd Fodernaidd'''
Llinell 110: Llinell 110:
 
Jones, R. D. (2015), ‘Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn’, ''Gwerddon'', 19, 9–27.
 
Jones, R. D. (2015), ‘Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn’, ''Gwerddon'', 19, 9–27.
 
    
 
    
Llywodraeth Cymru (2015), ''Ffocws Ystadegol ar Grefydd yng Nghymru'' ([[Caerdydd]]: Llywodraeth Cymru).
+
Llywodraeth Cymru (2015), ''Ffocws Ystadegol ar Grefydd yng Nghymru'' (<nowiki>Caerdydd</nowiki>: Llywodraeth Cymru).
  
 
Marx, K. (1844/2009), ''A Contribution to the Critique of Hegel’s Philosophy of Right'' [Deutsch-Französische Jahrbücher], https://www.marxists.org/archive/marx/works/1843/critique-hpr/intro.htm [Cyrchwyd: 5 Chwefror 2021].
 
Marx, K. (1844/2009), ''A Contribution to the Critique of Hegel’s Philosophy of Right'' [Deutsch-Französische Jahrbücher], https://www.marxists.org/archive/marx/works/1843/critique-hpr/intro.htm [Cyrchwyd: 5 Chwefror 2021].

Y diwygiad cyfredol, am 10:31, 25 Mai 2023

(Saesneg: Religion)

1. Diffinio crefydd

Mae ceisio cynnig diffiniad o’r term ‘crefydd’ yn destun trafodaethau niferus. Yn wir, mae gwahanol ysgolheigion a meddylwyr yn synied am y term mewn amryw ffyrdd. Yn ei lyfr The Varieties of Religious Experience (1902), diffiniodd y seicolegydd William James grefydd fel cyfuniad o deimladau, gweithredoedd a phrofiadau unigol dynion mewn perthynas â’r dwyfol. Diffiniad diddorol, ond un nad yw’n gwbl addas oherwydd ceir islais ‘duw-ganolog’ iddo, ac fel y gwyddys nid oes gan rai crefyddau dduw, er enghraifft Bwdhaeth a Chonffiwsiaeth. Yn fwy diweddar, gwelwyd Paul James a Peter Mandeville (2010: xii–xiii) yn cynnig mai’r hyn yw crefydd yw system o gredoau, symbolau ac arferion sy’n ystyried natur bodolaeth ac sydd mewn cymundeb ag eraill, ynghyd ag ‘aralledd’ yn gyffredinol. Mae’r academydd Ninian Smart (1998: 11–17) fel petai’n cyflwyno tir canol rhwng dwyfoldeb William James ac aralledd Paul James a Peter Mandeville drwy gynnig bod yna saith elfen benodol sy’n dynodi’r hyn yw crefydd: defodaeth, straeon naratif a chwedlonol, emosiwn, cymdeithas a sefydliad, moeseg a chyfraith, athrawiaeth ac athroniaeth, ac elfennau materol. O ystyried hyn oll felly, gellir casglu mai’r hyn yw crefydd yn ei hanfod yw system gymdeithasegol a diwylliannol o gredoau sy’n ymwneud ag agweddau megis sut i fyw, sut i ymddwyn, a sut y dylid deall y byd a’r bydysawd yn gyffredinol, ac sy’n cynnwys elfen ysbrydol neu oruwchnaturiol neu gyfuniad o’r ddeubeth.

2. Crefydd o bersbectif cymdeithasol

Yn gymdeithasegol, gellir dweud mai’r hyn yw crefydd yw system o gredoau ac/neu arferion sy’n clymu pobl ynghyd. Mae crefydd yn rym dylanwadol, cysyniadol ac ideolegol pwerus iawn sy’n medru effeithio ar strwythur a normau cymdeithas. Fodd bynnag, mae cymdeithasau’n amrywio o ran union nifer y crefyddau sy’n bodoli ynddynt a’r graddau y mae crefydd yn effeithio ar yr anian gymdeithasol.

3. Crefyddoldeb

Mae crefyddoldeb (religiosity) yn agwedd bwysig ar gymdeithas, ond mae ei union ddiffiniad wedi amrywio ymysg ysgolheigion a gwahanol feddylwyr. Yn gyffredinol, defnyddir y term ‘crefyddoldeb’ i ddynodi pa mor arwyddocaol yw crefydd mewn cymdeithas, boed ar lefel unigol neu dorfol. Gall gwyddonwyr cymdeithasol asesu crefyddoldeb mewn cymdeithas wrth archwilio pa mor ddylanwadol yw credoau crefyddol, nifer y bobl sy’n ymwneud â chrefydd, a nifer y sefydliadau crefyddol sydd mewn bod, megis addoldai a mudiadau ffydd.

Yn ôl Clements (2015), gellir archwilio’r modd y mae crefydd yn effeithio ar brofiadau, agweddau a gwerthoedd unigolion mewn cymdeithas wrth ystyried tair elfen benodol: perthyn, ymddygiad a chred. Gellir mesur yr elfen o berthyn drwy ystyried nifer aelodau sefydliadau crefyddol. Mae ymddygiad yn ei amlygu ei hun yn y gweithgareddau ‘crefyddol’ mae pobl yn rhan ohonynt – boed yn gyhoeddus neu’n breifat. Yr hyn a olygir gan gred yw bod â ffydd: coelio mewn duwiau, ysbrydion, gwyrthiau a/neu fywyd ar ôl marwolaeth. Dylid nodi bod ysgolheigion eraill, er enghraifft Cornwall, Albrecht, Cunningham a Pitcher (1986), yn rhestru mwy o elfennau penodol i grefyddoldeb.

Dylid nodi y ceir rhai problemau ynglŷn â mesur crefyddoldeb unigolion. Nid yw ysgolheigion yn unfryd unfarn ynghylch union ddiffiniad y term, felly ceir rhai’n asesu agweddau gwahanol i’w gilydd. Fodd bynnag, a chymryd ein bod yn derbyn diffiniad Clements (2015), cyfyd nifer o broblemau oherwydd bod ffydd yn rhywbeth newidiol ac fe all amrywio o dro i dro; yn ogystal â hynny, gellir bod yn grefyddol heb o reidrwydd fynychu addoldy. Buasai’n anodd asesu’r union niferoedd yn hyn o beth.

4. Safbwyntiau am grefydd yn y gwyddorau cymdeithasol

Mae safbwyntiau am grefydd yn y gwyddorau cymdeithasol wedi hawlio cryn sylw ar hyd y blynyddoedd, yn enwedig felly ymysg rhai o feddylwyr a chymdeithasegwyr amlycaf hanes. Gan hynny, ystyrir yma ddetholiad o unigolion sy’n perthyn i’r dosbarth clasurol, a’r agweddau hynny sy’n nodweddiadol o’r dosbarth modernaidd ac ôl-fodernaidd.

4.1 Karl Marx (1818–83)

Gellir gwerthfawrogi safbwyntiau Marx am grefydd drwy ystyried ei ddamcaniaethau cymdeithasegol amrywiol, yn enwedig ei ddealltwriaeth o ddieithrio (alienation). Yn A Contribution to the Critique of Hegel’s Philosophy of Right (1844/2009), dadleua Marx fod crefydd yn cynrychioli darlu ffug o realiti a myn fod pobl ar drugaredd grymoedd nad ydynt yn eu deall. Mae ymgiprys â chrefydd, yn ôl Marx, yn fater o ymgiprys â’r byd y mae crefydd benodol yn ei ddarlunio. Mae crefydd yn offeryn i’r sawl sy’n creu anghyfiawnder yn ogystal â bod yn destun gwrthwynebiad i’r anghyfiawnder hwnnw. Mae beirniadu crefydd, felly, yn feirniadaeth ar y sawl sydd angen crefydd. Mae’n rym dwyochrog sydd â’r gallu i effeithio ar strwythur cymdeithasegol creiddiol. Felly, canolbwyntia dealltwriaeth Marx ar rôl crefydd fel endid, yn arbennig mewn perthynas â’r sawl sy’n wan yn gymdeithasol. Datganodd Marx (1844/2009; fy nghyfieithiad) yn sicr mai: ‘Crefydd yw ochenaid y creadur gorthrymedig, calon byd digalon, ac enaid amodau dienaid. Lodnwm y bobl ydyw.’

Llwyddodd damcaniaethau Marxi gael effaith ar ddatblygiad cymdeithaseg, yn enwedig mewn perthynas â’r hyn a alwyd yn ddamcaniaeth amddifadedd (deprivation theory), sef y syniad bod crefydd yn ateb gofynion y sawl sydd ar waelod hierarchaeth cymdeithas – rhydd iddynt ffocws amgen i’w sefyllfaoedd beunyddiol.

4.2 Émile Durkheim (1858–1917)

Gellir nodi dau destun penodol o eiddo Durkheim fel ffynonellau sy’n dangos ei syniadau am grefydd o safbwynt cymdeithasegol. Yn ei lyfr Hunanladdiad (1897/2002), mae Durkheim yn cyfeirio at berthynas crefydd a chyfraddau hunanladdiad. Casglodd fod hunanladdiad yn fwy cyffredin ymysg Protestaniaid na Chatholigion, a hynny oherwydd bod Catholigion fel petaent wedi eu hintegreiddio’n fwy i arferion crefyddol cymdeithasol, er enghraifft cyffesu a’r offeren. Awgryma’r gwaith yma hefyd fod gafael crefydd draddodiadol ar gymdeithasau modern yn gwanhau.

Yn ei lyfr Ffurfiau Sylfaenol Bywyd Crefyddol (1912/2008), mae Durkheim yn datgan mai sefydliad cymdeithasol sy’n cynnwys system o gredoau ac arferion yw crefydd, yn ogystal â sail i gymdeithas foesegol sy’n uno pobl o anian gyffelyb. Deil fod gan bob defod grefyddol yr un swyddogaeth, waeth ymhle y digwydd na sut. Yn hyn o beth, felly, mae crefydd yn anhepgor ac yn gyffredinol. Ond deil na fydd crefydd yn gallu cyflawni ei swyddogaeth draddodiadol mewn cymdeithasau arbenigol ac y bydd angen iddi gael swyddogaeth amgen. Yn ôl Durkheim, mae swyddogaeth yn cynnwys math o ddefnyddioldeb sy’n cyfeirio at gymdeithas a’i hanghenion. Mae gan grefydd swyddogaeth gymdeithasol ac ystyr a priori. Gan hynny, mae o’r farn y bydd ffydd yn seiliedig ar resymeg, a chyfiawnder yn seiliedig ar werthoedd creiddiol rhesymoliaeth.

4.3 Max Weber (1864–1920)

Gwelir yng ngwaith Weber gyfuno cymdeithaseg economaidd â chymdeithaseg crefydd er mwyn tanlinellu pwysigrwydd y dylanwadau diwylliannol sydd ynghlwm â chrefydd fel moddion i ddeall tarddiad cyfalafiaeth. Cyflwynodd Weber ddealltwriaeth eang am grefydd fel ymgais systematig i ateb cwestiynau am fywyd dynol. Dechreuodd Weber drafod cymdeithaseg grefyddol yn ei astudiaeth ar The Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism (1905/2001). Un o brif ddadleuon y gwaith hwn yw bod tarddiad amryw o’r egwyddorion sy’n nodweddu cyfalafiaeth mewn athrawiaethau Calfinaidd, ac felly â chysylltiad Cristnogol.

Ymhelaethodd ar hyn mewn gweithiau lle’r astudiodd grefyddau amrywiol a’u cymharu, sef The Sociology of Religion (1920/1965), ac, yn fwy penodol, yn The Religion of China (1915/1951), The Religion of India (1916/1958) ac Ancient Judaism (1917/1952). Yn y gweithiau hyn, trafododd ddwy agwedd benodol, sef bod cysylltiad rhwng crefydd ac economeg, a bod yna berthynas rhwng strwythur cymdeithasol a syniadau crefyddol. Heb os, ystyriai Weber grefydd fel grym dylanwadol mewn cymdeithas. Daethai i gredu bod syniadau crefyddol, ochr yn ochr â rhesymoliaeth, mathemateg a gwyddoniaeth, wedi effeithio ac yn parhau i effeithio ar ddatblygu systemau economaidd yn y Gorllewin. Canlyniad asesu’r gwahanol grefyddau yn y fath fodd oedd casglu bod ceisio rhesymoli amryw agweddau ar fywyd, gan gynnwys elfennau economaidd, gwleidyddol a deallusol, yn weithred o fwydo proses raddol o seciwlareiddio – sef math o ‘ddadrithiad’ efo’r byd modern.

4.4 Cymdeithaseg Crefydd Fodernaidd

Gellir dweud bod pum syniad sylfaenol yn greiddiol i gymdeithasau a phrosiectau modernaidd (Schaanning 1992): cred mewn gwirionedd a dull, cred mewn digwyddiadau terfynol, cred mewn dulliau dadorchuddiol, cred mewn datblygiad, a chred mewn rhyddid.

Nid oes modd rhoi union ddyddiad dechrau’r cyfnod modernaidd mewn cymdeithaseg grefyddol. Serch hynny, digon yw dweud bod y syniadau diffiniol hyn gan Schaanning yn dynodi cyfnod ideolegol, cymdeithasol a diwylliannol ‘newydd’ a gwahanol i’r hyn a fu cyn hynny, yn enwedig felly’r syniadaeth glasurol.

4.5. Cymdeithaseg Crefydd Ôl-fodernaidd

Mae moderniaeth wedi cael ei beirniadu’n hallt gan amryw ac mae rhai wedi ymateb i hyn drwy gyflwyno ôl-foderniaeth fel cysyniad i ddisgrifio cymdeithas a diwylliant cyfoes. Mae ôl-foderniaeth yn gysyniad cymdeithasol sydd â’i wreiddiau mewn damcaniaethau celfyddydol a phensaernïol, ond beth mae hyn yn ei olygu i gymdeithaseg grefyddol? Yn ôl James Beckford (1992: 19), gellir canfod pedair nodwedd sy’n diffinio ôl-foderniaeth: ymwrthod â phositifiaeth a rhesymoliaeth fel safonau cadarn am wybodaeth; parodrwydd i gyfuno symbolau o wahanol ffynonellau a strwythurau i greu systemau amgen; dathlu darnio gwybodaeth, arddel eironi a bod yn chwareus; a bod yn barod i roi heibio’r awydd i ganfod chwedlau, naratifau neu strwythurau ‘dyrys’ am wybodaeth. Canlyniad hyn, felly, yw cynnig golwg amgen ar ddealltwriaeth draddodiadol a chyfoes am grefydd.


5. Crefydd yng Nghymru

Ceir un gyfrol yn arbennig sy’n ystyried crefyddau amrywiol yng Nghymru, sef gwaith Richard C. Allen a David Ceri Jones gyda Trystan O. Hughes, The Religious History of Wales: Religious Life and Practice in Wales from the Seventeenth Century to the Present Day (2014). Er y pwyslais hanesyddol, cynigir trosolwg goleuedig o’r modd yr arddelir crefyddau gwahanol yng Nghymru.

Mae amryw o astudiaethau pwysig wedi cael eu cynnal mewn perthynas â Christnogaeth yng Nghymru – nifer yn ystyried hanes y grefydd a’i dylanwad ar feddwl, diwylliant a chymdeithas y Cymry. Ymysg y gweithiau mwyaf nodedig mae pedair cyfrol o eiddo’r diwinydd D. Densil Morgan. Yn The Span of the Cross: Christian Religion and Society in Wales, 1914–2000 (1999; ail arg. 2011); Wales and the Word: Historical Perspectives on Religion and Welsh Identity (2008); Theologia Cambrensis: Protestant Religion and Theology in Wales, Volume 1: From Reformation to Revival 1588–1760 (2018); Volume 2: The Long Nineteenth Century 1760–1900 (2021), ceir trafodaethau pwysig am ddatblygiad gwahanol enwadau Cristnogol yng Nghymru ac effaith y grefydd ar y Cymry fel pobl. Yn ogystal, dylid crybwyll y gyfrol a olygwyd gan David Walker sy’n archwilio’n ofalus yr Eglwys Gristnogol mewn cyd-destun Celtaidd: A History of the Church in Wales (1976).

Mae haneswyr hefyd wedi nodi’r berthynas glòs rhwng y Gymraeg a Christnogaeth. Fe ddaeth cyfieithiad o’r Beibl i’r Gymraeg gan William Morgan ym 1588 yn garreg filltir arwyddocaol yn hanes a datblygiad y Gymraeg, a’i pherthynas â Christnogaeth anghydffurfiol (nonconformist) am ganrifoedd i ddod. A daeth y capel, felly, yn un o brif fannau i ddiwylliant Cymreig a’r iaith ffynnu hyd at yr ugeinfed ganrif (Davies, 2004). Yn hanesyddol, daeth Christnogaeth anghydffurfiol yn gysylltiedig â’r Cymry Cymraeg dosbarth gweithiol, ac fe ddylanwadodd yn aruthrol ar addysg yng Nghymru. Honnodd Chambers (2005) fod dirywiad yn yr iaith Gymraeg yn sgil yr oes ddiwydiannol wedi cael effaith sylweddol ar Gristnogaeth yng Nghymru. Un o brif oblygiadau hyn ar gymdeithas yng Nghymru oedd iddo danseilio’r Gymraeg a sefydliadau Cymreig, gan gynnwys y capel.

Heb os, mae’r diddordeb wedi tueddu i ganolbwyntio ar Gristnogaeth, ond mae astudiaethau eraill sydd wedi mynd i’r afael â chrefyddau llai amlwg yng Nghymru hefyd. Tuedda’r rhain i ganolbwyntio ar hanes y gwahanol grefyddau neu’r berthynas ddiddorol a dyrys, ambell dro, sy’n bodoli rhwng cymdeithas y Cymry a chrefyddau ar wahân i Gristnogaeth.

Yn 2009, cyhoeddodd Jeaneane D. Fowler a Merv Fowler gyfrol yn archwilio Bwdhaeth yng Nghymru a’r Gororau, gan ystyried yn arbennig sut mae’r wlad wedi coleddu’r grefydd ac wedi llwyddo i greu fersiwn Cymreig ohoni: Chanting in the Hillsides: Nichiren Daishonim Buddhism in Wales and the Borders.

Yn 2011, gwelwyd cyhoeddi The Dragon and the Crescent: Nine Centuries of Contact with Islam gan Grahame Davies, cyfrol unigryw sy’n archwilio’r cysylltiad rhwng y Cymry a’r grefydd Islam. Ystyria’r gyfrol ffynonellau hanesyddol a llenyddol er mwyn deall y dylanwad Mwslimaidd ar Gymru ac, yn wir, ddylanwad Cymru ar wledydd Islam. Yn y cyswllt hwn, dylid cyfeirio at astudiaeth Rhys Dafydd Jones. Cyhoeddwyd erthygl ganddo yn Gwerddon yn 2015 a archwiliodd yn fanwl sefyllfa Mwslimiaid yn y Gymru wledig fodern. Yn sicr, mae’r erthygl hon yn un ddiddorol: mae’n ystyried straeon gwir gan Fwslimiaid sy’n byw yn yr ardaloedd gwledig yn trafod perthynas amrywiol y Mwslimiaid â chymdeithas yn y Gymru gyfoes.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth bwysicaf o’r Iddewon yng Nghymru gan Cai Parry-Jones yn 2017 – The Jews of Wales: A History. Olrheinir datblygiadau a dirywiad cymdeithasau Iddewig ar hyd a lled Cymru gan roi sylw diddorol a dyledus i’r agweddau cymdeithasegol sy’n gysylltiedig â bod yn Iddew yng Nghymru.

Dylid nodi hefyd fod peth sylw wedi cael ei roi i grefydd newydd y datblygwyd cangen ohoni yng Nghaergybi, Ynys Môn, sef Jedïaeth (Jediism). Yr enw ar fudiad swyddogol y grefydd athronyddol hon yw Eglwys Ryngwladol y Jedi ac mae ei phoblogrwydd yn cynyddu. Cyhoeddwyd cyfrol esboniadol i’r grefydd gan ei sylfaenydd, Daniel M. Jones, yn 2017, sef Become the Force: 9 Lessons on How to Live as a Jediist Master. Ochr yn ochr â’r gwersi am Jedïaeth, ceir elfen gymdeithasegol wrth i Jones drafod ymateb pobl Môn, Cymru a thu hwnt i’r grefydd newydd hon.

Er bod iddi hanes a thraddodiad Cristnogol cryf, mae ystadegau’n dangos bod Cymru bellach yn wlad amlffydd gyda nifer o grwpiau crefyddol yn bodoli ar draws y wlad. Yn ôl cyfrifiad 2011, roedd 57.6% o boblogaeth Cymru yn eu disgrifio’u hunain fel Cristnogion – gostyngiad sylweddol o’r 71.9% a gofnodwyd yng nghyfrifiad 2001 (Llywodraeth Cymru, 2015). Yn ogystal â hyn, honnodd 32.1% eu bod heb grefydd, cynnydd o 18.5% ers 2001 (Llywodraeth Cymru, 2015). Serch hyn, mae nifer o’r rheiny sydd yn nodi eu bod yn Fwslimiaid, yn Hindŵiaid neu’n Fwdhyddion wedi dyblu ers 2001 yng Nghymru (Llywodraeth Cymru, 2015).

Gareth Evans-Jones

Llyfryddiaeth

Allen, N. J., Pickering W. S. F. a Watts Miller, W. (goln) (1998), On Durkheim’s Elementary Forms of Religious Life (London: Routledge).

Allen, R. C. a Jones, D. C. gyda Hughes, T. O. (2014), The Religious History of Wales: Religious Life and Practice in Wales from the Seventeenth Century to the Present Day (Cardiff: Welsh Academic Press).

Beckford, J. (1992), ‘Religion, modernity and post-modernity’, yn: Wilson, B. R. (gol.), Religion: Contemporary Issues (London: Bellew), tt. 11–27.

Bromley, D. (2007), Teaching New Religious Movements (Oxford: Oxford University Press).

Chambers, P. (2005), Religion, Secularisation, and Social Change in Wales: Congregational Studies in a Post-Christian Society (Cardiff: University of Wales Press).

Clarke, P. B. (gol.) (2009), The Oxford Handbook of the Sociology of Religion (Oxford: Oxford University Press).

Clements, B. (2015), Religion and Public Opinion in Britain: Continuity and Change (London: Palgrave Macmillan).

Cornwall, M., et al. (1986), ‘The Dimensions of Religiosity: A Conceptual Model with an Empirical Test’, Review of Religious Research, 27 (3), 226–44.

Davies, G. (2011), The Dragon and the Crescent: Nine Centuries of Contact with Islam (Bridgend: Seren).

Davies, J. (2004), The Welsh Language: A History (Cardiff: University of Wales Press).

Durkheim, E. (1897/2002), Suicide: A Study in Sociology (London: Routledge).

Durkheim, E. (1912/2008), Elementary Forms of Religious Life (Oxford: Oxford University Press).

Fowler, J. D. a Fowler, M. (2009), Chanting in the Hillsides: Nichiren Daishonim Buddhism in Wales and the Borders (Brighton & Portland: Sussex Academic Press).

Gellner, E. (1992), Postmodernism, Reason and Religion (London: Routledge).

James, P. a Mandeville, P. (2010), Globalization and Culture: Vol. 2. Globalizing Religions (London: Sage Publications).

James, W. (1902), The Varieties of Religious Experience. A Study in Human Nature (New York: Longmans, Green & Co).

Jones, D. M. (2017), Become the Force: 9 Lessons on How to Live as a Jediist Master (London: Watkins).

Jones, R. D. (2015), ‘Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn’, Gwerddon, 19, 9–27.

Llywodraeth Cymru (2015), Ffocws Ystadegol ar Grefydd yng Nghymru (Caerdydd: Llywodraeth Cymru).

Marx, K. (1844/2009), A Contribution to the Critique of Hegel’s Philosophy of Right [Deutsch-Französische Jahrbücher], https://www.marxists.org/archive/marx/works/1843/critique-hpr/intro.htm [Cyrchwyd: 5 Chwefror 2021].

Morgan, D. D. (1999; ail arg. 2011), The Span of the Cross: Christian Religion and Society in Wales, 1914–2000 (Cardiff: University of Wales Press).

Morgan, D. D. (2008), Wales and the Word: Historical Perspectives on Religion and Welsh Identity (Cardiff: University of Wales Press).

Morgan, D. D. (2018), Theologia Cambrensis: Protestant Religion and Theology in Wales, Volume 1: From Reformation to Revival 1588–1760 (Cardiff: University of Wales Press).

Morgan, D. D. (2021), Theologia Cambrensis: Protestant Religion and Theology in Wales, Volume 2: The long Nineteenth Century 1760–1900 (Cardiff: University of Wales Press).

Norris, P. ac Inglehart, R. (2004), Sacred and Secular: Religion and Politics Worldwide (Cambridge: Cambridge University Press).

Parry-Jones, C. (2017), The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press).

Schaaning, E. (1992), Modernitetens oppløsning (Oslo: Spartacus).

Schluchter, W. (1989), Rationalism, Religion, and Domination: A Weberian Perspective (Berkeley: University of California Press).

Smart. N. (1998), The World’s Religions, 2il argraffiad (Cambridge, New York a Melbourne: Cambridge University Press).

Swedberg, R. (2005), The Max Weber Dictionary: Key Words and Central Concepts (Stanford, CA: Stanford University Press).

Taylor, C. (2007), A Secular Age (Cambridge, MA: Harvard University Press).

Walker, D. (gol.) (1976), A History of the Church in Wales (Penarth: Church in Wales Publications for the Historical Society of the Church in Wales).

Weber, M. (1905/2001), The Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism (London: Routledge).

Weber, M. (1915/1951), The Religion of China (Glencoe: Free Press).

Weber, M. (1916/1958), The Religion of India (Glencoe: Free Press).

Weber, M. (1917/1952), Ancient Judaism (London: George Allen and Unwin).

Weber, M. (1920/1965), The Sociology of Religion (London: Meuthen).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.