Democratiaeth gymdeithasol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Social Democracy)

Cyflwyno Democratiaeth Gymdeithasol

Gellir dehongli Democratiaeth Gymdeithasol fel ffrwd o sosialaeth sy’n arddel safbwyntiau mwy cymedrol na Marcsaeth. Datblygodd yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn sgil meddwl pellach gan ffigyrau megis yr Almaenwr, Eduard Bernstein (1899), yn ei gyfrol, Evolutionary Socialism. A siarad yn gyffredinol, datblygodd Democratiaeth Gymdeithasol ar sail amheuaeth o ddwy elfen allweddol o’r byd-olwg Marcsaidd, sef y pwyslais ar chwyldro fel yr unig fodd o sicrhau newid gwleidyddol a chymdeithasol ystyrlon, a’r gred bod rhaid dymchwel cyfalafiaeth yn llwyr er mwyn sicrhau mesur o gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwyd ehangu sylweddol ar yr etholfraint, ar draws Ewrop, gan olygu bod nifer cynyddol o’r dosbarth gweithiol yn cael yr hawl i bleidleisio. Er enghraifft, ym Mhrydain, estynnwyd yr hawl i nifer cyfyngedig o weithwyr ym 1867 ac ehangwyd ar hyn ym 1884 (Senedd DU 2021). Yna, erbyn 1918, estynnwyd yr hawl i ddynion yn gyffredinol a hefyd i nifer cyfyngedig o fenywod (Senedd DU 2021).

Arweiniodd y newidiadau hyn at sefyllfa lle roedd gan y dosbarth gweithiol lais gwleidyddol tipyn cryfach na oedd ganddo cynt, ac yn sgil hynny roedd tebygolrwydd i’w fuddiannau gael mwy o sylw. O ganlyniad, daeth nifer cynyddol o sosialwyr gan gynnwys Bernstein (1899) i’r casgliad nad oedd modd cynnal y ddadl Farcsaidd o blaid yr angen am chwyldro treisgar. Roedd ehangu’r etholfraint yn cynnig llwybr newydd i’r dosbarth gweithiol – bellach roedd modd i sosialaeth fod yn achos a gâi ei hyrwyddo’n raddol trwy gyfrwng y broses ddemocrataidd.

Honnodd Marx fod cyfalafiaeth yn drefn a fyddai’n arwain at dlodi parhaol a chynyddol ymhlith y dosbarth gweithiol (gweler Williams 1980/2015). Fodd bynnag, o tua 1870 ymlaen, gwelwyd cynnydd graddol mewn cyflogau a safonau byw ar draws nifer o wledydd Ewrop (er enghraifft, gweler Gazeley 2014). Yn arwyddocaol, ac yn gwbl groes i broffwydoliaethau Marx, roedd hwn yn gynnydd a estynnai i bob dosbarth cymdeithasol ac nid dim ond rhai aelodau cefnog o’r dosbarth bwrgeisiol. Ar ben hynny, ni welwyd y math o bolareiddio cymdeithasol rhwng y proletariat a’r bourgeoisie a gafodd ei ddarogan gan Marx. Yn hytrach, yn sgil newidiadau o fewn y farchnad lafur, cyflogwyd mwy a mwy o bobl mewn meysydd proffesiynol (gweision sifil, athrawon, cyfreithwyr ayb), gan esgor ar garfan gymdeithasol newydd – y dosbarth canol – nad oedd yn perthyn i’r proletariat na’r bourgeoisie (Perkin 1990).

Yn sgil tueddiadau o’r fath, daeth nifer o sosialwyr megis Bernstein (1899) i’r casgliad nad oedd y disgrifiad Marcsaidd o gyfalafiaeth – trefn a nodweddwyd gan ecsploetio economaidd amrwd ynghyd â gwrthdaro dosbarth di-baid (gweler Marx ac Engels 1848/2014) – yn un a oedd bellach yn dal dŵr. Roedd yn drefn a oedd wedi addasu ac felly gellid codi cwestiynau ynglŷn â’r angen i’w dymchwel yn llwyr.

O ystyried hyn, nid yw’n syndod fod democratiaid cymdeithasol yr ugeinfed ganrif, er enghraifft aelodau Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen, Plaid Lafur y Deyrnas Unedig neu Blaid Sosialaidd yr Eidal, wedi mabwysiadu amcanion cymdeithasol a gwleidyddol tipyn mwy cyfyng. Yn hytrach na sôn am ddymchwel cyfalafiaeth yn llwyr, tueddwyd i roi’r pwyslais ar yr angen i’w ffrwyno a’i diwygio trwy fabwysiadu’r nodweddion canlynol.

Nodweddion Democratiaeth Gymdeithasol

Yr Economi Gymysg

Dyma drefniant economaidd sy’n sefyll hanner ffordd rhwng cyfalafiaeth farchnadol gwbl rydd a pherchnogaeth gyhoeddus o bob agwedd ar yr economi (Andersson 2010). Mae democratiaid cymdeithasol wedi tueddu i gydnabod bod gan y farchnad rydd ei lle ar sail ei gallu i hybu menter a chynhyrchu cyfoeth. O ganlyniad, dadleuwyd y dylid cyfyngu mesurau sy’n sefydlu pherchnogaeth gyhoeddus i feysydd penodol – uchelfannau’r economi megis trydan, glo, dur a’r rheilffyrdd – tra bo gweddill yr economi’n parhau mewn perchnogaeth breifat.

Rheoli Economaidd

Er bod democratiaid cymdeithasol yn derbyn bod gan y gyfalafiaeth ei rhinweddau, maent hefyd yn gweld bod angen ei rheoleiddio er mwyn sicrhau twf economaidd cyson a gwarchod rhag cyfnodau o ddiweithdra neu chwyddiant sydyn. Golyga hyn fod democratiaid cymdeithasol fel meddylwyr rhyddfrydiaeth modern wedi dadlau o blaid polisïau macro-economaidd Keynes (1936) sy’n defnyddio gwariant cyhoeddus a threthiant er mwyn rheoleiddio cyfalafiaeth.

Gwladwriaeth Les

Dyma’r dull a ffafrir gan ddemocratiaid cymdeithasol er mwyn ceisio dofi’r anghyfartaledd all godi o dan gyfalafiaeth (gweler Pierson a Leimgruber 2010). Trwy’r wladwriaeth les – sefydliadau megis y drefn addysg, y gwasanaeth iechyd, y drefn fudd-daliadau – gall y wladwriaeth ail-ddosbarthu cyfoeth a chyfleoedd, gan geisio sicrhau mwy o gydraddoldeb ar draws cymdeithas a lleihau tlodi.

Democratiaeth Gymdeithasol o 1945 ymlaen

Yn y cyfnod rhwng tua 1945 a’r 1970au cynnar tybiai nifer fod y math o syniadau a gâi eu harddel gan ddemocratiaid cymdeithasol – syniadau a oedd yn gorgyffwrdd yn helaeth ag elfennau o ryddfrydiaeth fodern – wedi dod i gynrychioli’r ‘synnwyr cyffredin’ gwleidyddol ar draws y mwyafrif o wladwriaethau’r gorllewinol. Eto i gyd, roedd hwn yn gyfnod o dwf economaidd cyson, diweithdra isel a chwyddiant isel ac o ganlyniad roedd modd i wladwriaethau ariannu darpariaethau lles mwyfwy hael (Brown a Lauder 2001). Fodd bynnag, arweiniodd dirwasgiad mawr y 1970au at argyfwng i’r sawl oedd yn arddel democratiaeth gymdeithasol a chreodd hyn y gwagle gwleidyddol a alluogodd i ddadleuon gwahanol iawn y Dde Newydd ddechrau ennill tir (Brown a Lauder 2001).

Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Sosialaeth: Ffrydiau Amrywiol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i addasu gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Llyfryddiaeth

Andersson, J. (2010). The Library and the Workshop: social democracy and capitalism in the knowledge age. (Stanford: Stanford University Press)

Bernstein, E. (1899), Evolutionary Socialism. https://www.marxists.org/reference/archive/bernstein/works/1899/evsoc/index.htm [Cyrchwyd: 26 Ebrill 2021]

Brown, P. a Lauder, H. (2001). Capitalism and Social Progress. (Basingstoke: Palgrave Macmillan)

Gazeley, I. (2014). ‘Income and Living Standards, 1870-2010’, yn Floud, R., Humphries, J., a Johnson, P. (goln). The Cambridge Economic History of Modern Britain. Volume 2: 1870 to the present. 2il gyfrol. (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt), tt 151-180

Keynes, J. (1936), The general theory of employment, interest, and money. (London: Macmillan)

Marx, K ac Engels, F. (1848/2014), Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol. https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1982~4u~vx7iUPMZ [Cyrchwyd: 26 Ebrill 2021]

Perkin, H. (1990). The rise of professional society: England since 1880. (London: Routledge).

Pierson, C. a Leimgruber, M. (2010). ‘Intellectual Roots’ yn Castles, F., Leibfried, S., Lewis, J., Obinger, H. a Pierson, C. (goln.) The Oxford Handbook of the Welfare State. (Oxford: Oxford University Press), tt. 32-44

Senedd DU. (2021). Key dates. https://www.parliament.uk/about/living-heritage/transformingsociety/electionsvoting/chartists/keydates/ [Cyrchwyd: 26 Ebrill 2021]

Williams, H. (1980/2015). Marx. https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1758~4v~69mREL7f [Cyrchwyd: Mawrth 2021]


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.