Eliffant

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp roc oedd Eliffant a fu’n cyfuno clindarddach gitarau a chaneuon llawn melodïau yn hytrach nag apelio’n unig at bendolcwyr yn ysgwyd cen o’u gwallt. Roedd Geraint Griffiths – lleisydd a phrif angor y grŵp fel cyfansoddwr a gitarydd – yn aelod o’r grŵp ffync byrhoedlog Injaroc. Hanai o Bont-rhyd-y-fen a bu’n aelod o grwpiau roc yn Llundain yn ogystal ag yn aelod gwadd o Edward H Dafis pan oeddent yn recordio yn y stiwdio.

Hanai’r aelodau eraill o siroedd y gorllewin. Bu John Davies (gitâr flaen), Clive Richards (gitâr fas) a Colin Owen (drymiau) yn aelodau o’r grŵp Chwys. Bu’r grŵp hwnnw’n boblogaidd am gyfnod wrth i’r lleisydd, Sulwyn Rees, dynnu sylw trwy arddangos doniau’r siewmon. Dechreuodd Eliffant berfformio yn 1978 gan ddenu haid o ddilynwyr ffyddlon. Ymunodd Euros Lewis i chwarae’r allweddellau er mwyn cyflenwi sain y band. Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf yn Neuadd Goffa Pontyberem ym mis Mai y flwyddyn honno a dychwelodd y band i Gwm Gwendraeth droeon yn ystod eu bodolaeth.

Yn ystod y blynyddoedd cynnar perfformiai Eliffant ym mhob cwr o Gymru, yn y colegau ac yn y canolfannau a oedd yn adnabyddus am gynnal gigs Cymraeg, o Blas Coch ar Ynys Môn i’r Top Rank yng Nghaerdydd. Rhyddhaodd y band ddau albwm ar label Sain, M.O.M (Sain, 1979) a Gwin y Gwan (Sain, 1980). Cyfeiria teitl y cyntaf at ddywediad cyfarwydd ymhlith ieuenctid siroedd y gorllewin (‘mas o ’ma’) gan danlinellu ymgais y grŵp i uniaethu â’u cynulleidfa. Cyfeiria teitl yr ail albwm at un o allforion enwocaf Iwerddon, Guinness. Arferai’r bechgyn alw mewn tafarn ym mhentref Crymych ar eu ffordd i ymarfer mewn neuadd gyfagos. O’r arfer hwnnw y deilliodd y gân gyfarwydd ‘Cowbois Crymych’. Rhai o’r caneuon eraill a gydiodd yn y gynulleidfa Gymraeg oedd ‘W Capten’, ‘Nôl ar y Stryd’ a ‘Nôl i Gairo’ wrth i lais cadarn Geraint Griffiths ei morio hi.

Cafodd Eliffant eu dewis yn fand roc gorau’r flwyddyn yn 1979 gan ddarllenwyr y cylchgrawn Sgrech. Ymunodd Gordon Jones i chwarae’r drymiau yn 1981. Rhyddhawyd dwy record fer ar label M.A.C.Y.M. (Mudiad Adloniant Cymraeg Ieuenctid Môn) ac ar label Llef, label y band ei hun. Y caneuon ar y naill oedd ‘Seren’/ ‘Lisa Lân’ ac ar y llall clywyd ‘Ti yw’r unig un’/‘Tywyllwch’. Daeth y band i ben yn 1983. Trodd Geraint Griffiths at yrfa fel canwr unigol gan gyhoeddi nifer o albymau. Trodd ei law at actio a chyfunodd ei ddoniau yn y sioe gerdd Teilwng yw’r Oen, sef addasiad o Young Messiah a ddarlledwyd ar S4C. Er i’r aelodau ddod ynghyd ar gyfer dau berfformiad yng Ngheredigion yn 1994, parhau â’u gyrfaoedd y tu hwnt i’r byd cerddorol fu eu hanes.

Hefin Wyn

Disgyddiaeth

  • M.O.M (Sain 1130M, 1979)
  • Gwin y Gwan (Sain 1184M, 1980)
  • ‘Ti yw’r unig un’/‘Tywyllwch’ [sengl] (Llef, 1983)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.