Ffeministiaeth amlhiliol

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 07:37, 26 Mai 2023 gan SionJonesCaerdydd (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Multiracial feminism)

1. Cyflwyno ffeministiaeth amlhiliol

Mae ffeministiaeth amlhiliol yn cyfeirio at waith ymchwil ac at ymgyrchoedd menywod o gymunedau ethnig lleiafrifiedig (ethnically minoritised communities) a ffeministiaid gwyn sydd hefyd yn gefnogwyr gwrth-hiliaeth er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb ar sail rhywedd a hil ac ar sail nodweddion cymdeithasol eraill, fel dosbarth (Thompson, 2002). Mae rhai ffeministiaid amlhiliol yn beirniadu ffeministiaeth am ganolbwyntio’n bennaf ar brofiadau menywod gwyn, dosbarth canol, ac yn credu bod ffeministiaid wedi anwybyddu bywydau menywod o liw (Zinn a Dill, 1996). Mae ffeministiaeth amlhiliol yn cydnabod croestoriadedd (intersectionality), sef y syniad bod nodweddion cymdeithasol fel rhywedd a hil yn cydblethu â’i gilydd ac yn effeithio ar brofiadau menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig (Hancock, 2007). Gan fod nodweddion cymdeithasol unigolion yn cael eu profi yr un pryd, mae’n anodd datgan mai un nodwedd gymdeithasol, e.e. hil, dosbarth, rhywedd, rhywioldeb, yn unig sydd yn achosi’r anghydraddoldeb (Hancock, 2007).

Mae ffeministiaeth amlhiliol yn edrych ar brofiadau menywod o wahanol grwpiau ethnig lleiafrifiedig. Mae grwpio menywod o wahanol grwpiau ethnig lleiafrifiedig dan fframwaith damcaniaethol ffeministiaeth amlhiliol yn weithred strategol ac yn cydnabod, er bod profiadau menywod yn amrywio, fod yna hefyd debygrwydd ym mhrofiadau’r menywod hyn sy’n medru cefnogi a chyfoethogi’r ddamcaniaeth. Mae yna gryfder o ran edrych ar brofiadau merched o gefndiroedd gwahanol, yn ôl ffeministiaid amlhiliol (Crenshaw, 1991). Mae Hurtado (1996) yn nodi pedair prif egwyddor sy’n gysylltiedig â ffeministiaeth amlhiliol:

1. cydnabod bod nodweddion gormes hiliol, rhywedd a dosbarth yn digwydd yr un pryd;
2. cydnabod bod gormes hiliol yn rhan o gymyn cymdeithas;
3. deall bod damcaniaeth ffeministiaeth amlhiliol wedi’i gwreiddio yn y byd academaidd, mewn gwleidyddiaeth a digwyddiadau bob dydd;
4. gwrthwynebu ymyleiddio grwpiau gwahanol o’r gymuned.

2. Datblygiad ffeministiaeth amlhiliol

Er bod menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig wedi’u cysylltu â ffeministiaeth, nid oedd eu cyfraniadau’n cael eu cydnabod (Thompson 2002). Roeddent felly’n cael eu trin fel pobl ar y cyrion er eu bod nhw hefyd yn ddioddef anghydraddoldeb ar sail rhywedd.

Yn y 1970au bathwyd y term menywod y trydydd dosbarth (third class women) gan rai ffeministiaid amlhiliol i esbonio’r cysylltiad rhwng materion rhyngwladol oedd yn effeithio ar fenywod, e.e. hiliaeth, gan gynnwys goruchafiaeth pobl wyn (white supremacy), trefedigaethedd ac imperialaeth (Mohanty, Russo a Torres, 1991). Nid oedd y materion hyn yn cael eu cydnabod gan ffeministiaid gwyn.

Yn yr 1980au, yn America ac yn y Deyrnas Unedig, gwelwyd cynnydd yn nifer y menywod o gymunedau ethnig lleiafrifiedig oedd yn addysgu mewn prifysgolion ac yn uniaethu â syniadau ffeministiaeth amlhiliol. Cysylltodd nifer ohonynt eu gwaith â theori feirniadol hil a ffeministiaeth, gan gynnwys ffeministiaeth amlhiliol. Ysgrifennodd un o’r ffeministiaid enwocaf, yr Americanes Affricanaidd bell hooks, lyfr o’r enw Ain’t I a Woman? Black Women and Feminism (1981) oedd yn trafod ei phrofiadau personol ac yn cydblethu cysyniadau academaidd i’r naratif. Ffeminist amlhiliol dylanwadol arall yw’r Americanes Affricanaidd Patricia Hill Collins. Yn ei llyfr, Black Feminist Thought, dadleuodd Collins (1991) ei bod yn hanfodol ystyried sut mae hil, rhywedd a dosbarth yn cydblethu ac yn effeithio ar freintiau cymdeithasol a goruchafiaeth. Yn ôl Collins (1991), mae’n bwysig sicrhau nad yw ffeministiaeth amlhiliol yn cael ei gweld yn ymylol i waith ffeministiaid. Mae gwaith Collins (1991) wedi cael dylanwad uniongyrchol ar drafodaethau ym maes ffeministiaeth (Snyder, 2008). Mae ffeministiaeth amlhiliol felly’n cynnig cyfleoedd i gydweithio a chynhyrchu damcaniaethau newydd sy’n gynhwysol i ferched o wahanol grwpiau ethnig ac yn cyfoethogi’r drafodaeth ar hunaniaeth, anghydraddoldeb a’r cysyniad o bŵer. Ers yr 1980au, mae diddordeb mewn astudiaethau ffeministiaeth amlhiliol wedi cynyddu, yn benodol ymysg ffeministiaid gwyn a dynion du (duCille, 1996).

Er bod ffeministiaid amlhiliol yn rhannu’r un math o egwyddorion â ffeministiaid eraill, maent wedi edrych ar agweddau gwahanol ar ffeministiaeth dros y degawdau diwethaf o ganlyniad i gynnydd mewn ymgyrchu ac ymchwil. Er enghraifft, bu ffeministiaid Americanaidd-Asiaidd yn gwrthwynebu ac yn ymladd yn erbyn ystrydebau oedd yn eu tanseilio ac yn hyrwyddo goddefedd a delwedd ecsotig. Yn wahanol i hyn, rhoddodd ffeministiaid Americanaidd-Affricanaidd fwy o bwyslais ar faterion oedd yn effeithio ar reoli cyrff menywod du, gan ymgyrchu yn erbyn yr ymgais i gyfiawnhau diffyg hawliau a breintiau menywod du yn gyfreithiol, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol (Huartado, 1996).

3. Ffeministiaeth amlhiliol a Chymru

Mae ymchwil wedi edrych ar y rhwystrau y mae menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig yn eu hwynebu yn y gymdeithas yng Nghymru. Yn hanesyddol, mae menywod o leiafrifoedd ethnig wedi cael eu tangynrychioli yng ngwleidyddiaeth Cymru. Er enghraifft, nid oedd unrhyw fenyw o gefndir ethnig lleiafrifiedig yn aelod o Senedd Cymru tan i’r fenyw gyntaf o liw, Natasha Ashgar, gael ei hethol ym mis Mai 2021 (Flint, 2021). Cyhoeddodd Race Equality First adroddiad yn 2019 yn edrych ar rai o’r ffactorau oedd yn atal menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig yng Nghymru rhag camu i mewn i wleidyddiaeth. Yn yr adroddiad dadleuodd Race Equality First (2019) ei bod hi’n bwysig bod menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig yn cael eu cynrychioli mewn gwleidyddiaeth gan y bydd hyn yn cynyddu’r drafodaeth ar faterion sy’n effeithio ar fenywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig.

Yn ogystal, mae ymchwil blaenorol wedi edrych ar y rhwystrau mae menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig yn eu hwynebu ym myd gwaith yng Nghymru. Er enghraifft, cynhaliodd Chwarae Teg ymchwil yn edrych ar brofiadau menywod du, Asiaidd, a rhai o leiafrifoedd ethnig o gymryd rhan yn yr economi yn 2019. Er bod profiadau menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig yn amrywio, darganfu Chwarae Teg (2019) fod eu profiadau’n cael eu hymyleiddio fwyfwy a’u bod yn wynebu anghydraddoldeb a rhagfarnau hiliol ychwanegol o’u cymharu â menywod gwyn. Roedd hynny’n ei gwneud hi’n anoddach iddynt gael swydd neu gael dyrchafiad ym myd gwaith. Defnyddir y term ‘nenfwd gwydr triphlyg’ (‘triple glass ceiling’) i egluro’r rhwystrau ychwanegol y mae menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig yn eu hwynebu ym myd gwaith (Chwarae Teg, 2019).

Fel rhan o brosiect arbennig, roedd Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Lleiafrifoedd Ethnig Cymru (Ethnic Minority Welsh Women Achievement Association, 2021), mudiad sy’n dathlu bywydau a llwyddiannau menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig yng Nghymru, wedi bod yn casglu straeon menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig sydd wedi cael eu geni neu wedi setlo yng Nghymru ers 1948. Bwriad y prosiect yw dogfennu’r brwydrau y mae menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig wedi’u hwynebu a’r cyfraniadau y maent wedi’u gwneud i’r gymdeithas yng Nghymru.

Ym maes addysg, cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru adroddiad yn 2021 ar gynyddu cydraddoldeb ar sail hil yn y system addysg. Canolbwyntiodd yr adroddiad ar wella cydraddoldeb ar sail hil ym maes addysg, o ran y gweithle, profiadau myfyrwyr o hiliaeth a deilliannau myfyrwyr. Mae’r adroddiad yn awgrymu y dylid cynnal gwerthusiadau pellach i ymchwilio i effeithiolrwydd rhaglenni ac ymyriadau o fewn gwahanol is-grwpiau ethnig lleiafrifiedig, gan gynnwys menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig (Canolfan Polisi Cyhoeddus 2021:10).

4. Beirniadaeth o ffeministiaeth amlhiliol

Mae ffeministiaeth amlhiliol yn ddamcaniaeth sydd wedi esblygu dan ddylanwad traddodiadau cadarnhaol. Serch hynny, mae’r term ‘amlhiliol’ yn cael ei weld yn un dadleuol (Crenshaw, 1989). Yn hytrach na defnyddio amlddiwylliannol, defnyddiwyd amlhiliol fel ffordd o bwysleisio’r modd y mae hil yn ogystal â rhywedd yn effeithio ar fywydau merched o gefndiroedd ethnig. Mae eraill wedi cwestiynu’r defnydd o’r term ‘amhiliol’ oherwydd bod hil yn anodd ei diffinio gan mai lluniad cymdeithasol ydyw, sef cysyniad sydd wedi cael ei ddiffinio gan bobl. Beirniadaeth arall o’r pwyslais ar hil gan ffeministiaeth amlhiliol yw ei fod yn rhoi blaenoriaeth i ddatrys problemau unigolion yn hytrach nag anghydraddoldeb cymdeithasol. Mae hyn yn broblemus oherwydd bod angen cydnabod sut mae strwythurau cymdeithasol yn effeithio ar israddoldeb a breintiau mewn cymdeithas (Crenshaw, 1991).

Mae ôl-foderniaeth hefyd wedi herio syniadau ffeministiaeth amlhiliol gan honni bod y ddamcaniaeth hon yn ystyried bod hunaniaeth yn rhywbeth darniog (fragmented) a’i bod yn bosibl i’n hunaniaeth newid a thrawsnewid yn barhaus (Gillman, 2010). Mae’r syniad hwn yn annilysu astudiaethau sydd wedi edrych ar hiliaeth a rhywiaeth mewn cymdeithas. Serch hynny, fel y mae ffeministiaid amlhiliol fel Collins (1991) yn dadlau, nid yw unigolion yn profi nodweddion cymdeithasol fel hil, dosbarth, rhywedd neu rywioldeb yn unigol. Yn hytrach, mae’r nodweddion cymdeithasol hyn wedi cydblethu â’i gilydd ac yn effeithio ar brofiadau menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig.

Savanna Jones

Llyfryddiaeth

Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (2021), Gwella cydraddoldeb hiliol ym maes addysg, https://www.wcpp.org.uk/wp-content/uploads/2021/03/Gwella-Cydraddoldeb-Hiliol-ym-maes-Addysg.pdf [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2021].

Chwarae Teg (2019), Nenfwd gwydr triphlyg: rhwystrau i fenywod Duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) rhag cymryd rhan yn yr economi, https://chwaraeteg.com/wp-content/uploads/2019/08/NGT-Rhwystrau-i-Fenywod-BAME_Adroddiad-cryno.pdf [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2021].

Collins, P. H. (1991), Black Feminist Thought: Knowledge, Consciousness, and the Politics of Empowerment (New York: Routledge).

Crenshaw, K. W. (1991), ‘Mapping the margins: intersectionality, identity politics, and violence against women of color’, Stanford Law Review, 43(6), 1241–99.

Crenshaw, K. W. (1989), ‘Demarginalizing the intersection of race and sex: a black feminist critique of antidiscrimination doctrine, feminist theory, and antiracist politics’, University of Chicago Legal Forum, 1(8), 139–67.

duCille, A. (1996), Skin Trade (London: Harvard University Press).

Ethnic Minority Welsh Women Achievement Association (2021), Heritage Lottery Fund Project, https://www.emwwaa.org.uk/hlfproject [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2021].

Flint, R. (2021), Welsh Election 2021: First woman of colour elected to Welsh Parliament, https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-57041114 [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Gillman L. (2010), Storytelling as Embodied Knowledge: Womanist Praxis in Alice Walker’s The Color Purple, Unassimilable Feminisms, Breaking Feminist Waves (New York: Palgrave Macmillan).

Hancock, A. M. (2007), ‘Intersectionality as a normative and empirical paradigm’, Politics and Gender, 3(2), 248–54.

Hooks, b. (1981), Ain’t I a Woman? Black women and feminism (Boston: South End Press).

Hurtado, A. (1996), The Color of Privilege: three blasphemies on race and feminism (Michigan: University of Michigan Press).

Mohanty, C. T., Russo, A., a Torres, L. (1991), Third World Women and the Politics of Feminism (Bloomington: Indiana University Press).

Race Equality First (2019), The Under-representation of Black and Minority Ethnic (BME) Women in Politics in Wales, https://raceequalityfirst.org/wp-content/uploads/2019/07/Under-Representation-of-BME-Women-in-Politics-in-Wales.pdf [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2021].

Snyder, R. C. (2008), ‘What is third‐wave feminism? A new directions essay’, Signs, 34(1), 175–96.

Thompson, B. (2002), ‘Multiracial Feminism: Recasting the Chronology of Second Wave Feminism’, Feminist Studies, 28(2), 337–60.

Zinn, M. B. a Dill, B. T. (1996), ‘Theorizing difference from multiracial feminism’, Feminist Studies, 22(2), 321–31.