Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwasael, Canu"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Llyfryddiaeth)
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Mae’r gair ‘gwasael’ yn gysylltiedig â’r gair Saesneg ''wassail'' (‘bydd iach’), ac ystyr canu gwasael yn y bôn yw ‘canu iechyd da’. Traddodiad ydyw o yfed er mwyn bendithio tyfiant a hybu ffrwythlonedd, ac â’r defnydd o’r term yn ôl i’r 12g. o leiaf. Mae’r syniad o fudd a bendith trwy gyfarch yn ganolog i’r arfer, ac yn bwysicach na’r yfed ei hun; ac mae’r canu sy’n gysylltiedig â’r arfer yn cynrychioli corff o lenyddiaeth werin o bwys, heb fod yn gyfyngedig i Gymru. Tebyg yw nifer o’r defodau Cymreig i rai a gofnodwyd mewn gwledydd a diwylliannau eraill.
 
Dechreuai’r flwyddyn Geltaidd ar 1 Tachwedd (wedi noson [[Calan]] Gaeaf), a gellir yn fras adnabod tri chyfnod amaethyddol yn y flwyddyn: 1. paratoi’r tir (Tachwedd–Mawrth); 2. dwyn y tir i’w lawn ffrwyth (Mawrth–Gorffennaf); 3. cynaeafu’r cynnyrch a’i ddwyn i mewn (Gorffennaf–Hydref). Mae’r canu gwasael yn bennaf gysylltiedig â’r prif wyliau yn ystod y flwyddyn, Calan Gaeaf, Nadolig (a ddisodlodd yr hen ŵyl baganaidd, Satwrnalia), y Calan, yr Ystwyll (6 Ionawr), Gŵyl Fair y Canhwyllau (2 Chwefror), yr Ynyd a’r Pasg, a Chalan Mai. Ceir sawl enw gwahanol ar y canu gwaseila, er enghraifft, canu tan bared, canu gwirod, a chanu yn drws. Am fod y canu yn ganu cyfarch, mae’r caneuon yn aml yn gofyn am fynediad i’r tŷ, gydag awgrym na fydd y cantorion yn symud o’r fan nes cael mynd i mewn. Mae hefyd ganeuon yn diolch am groeso, yn canmol y cwrw a’r bwyd ac yn bendithio’r tŷ a’r [[teulu]].
+
Dechreuai’r flwyddyn Geltaidd ar 1 Tachwedd (wedi noson Calan Gaeaf), a gellir yn fras adnabod tri chyfnod amaethyddol yn y flwyddyn: 1. paratoi’r tir (Tachwedd-Mawrth); 2. dwyn y tir i’w lawn ffrwyth (Mawrth-Gorffennaf); 3. cynaeafu’r cynnyrch a’i ddwyn i mewn (Gorffennaf–Hydref). Mae’r canu gwasael yn bennaf gysylltiedig â’r prif wyliau yn ystod y flwyddyn, Calan Gaeaf, Nadolig (a ddisodlodd yr hen ŵyl baganaidd, Satwrnalia), y Calan, yr Ystwyll (6 Ionawr), Gŵyl Fair y Canhwyllau (2 Chwefror), yr Ynyd a’r Pasg, a Chalan Mai. Ceir sawl enw gwahanol ar y canu gwaseila, er enghraifft, canu tan bared, canu gwirod, a chanu yn drws. Am fod y canu yn ganu cyfarch, mae’r caneuon yn aml yn gofyn am fynediad i’r tŷ, gydag awgrym na fydd y cantorion yn symud o’r fan nes cael mynd i mewn. Mae hefyd ganeuon yn diolch am groeso, yn canmol y cwrw a’r bwyd ac yn bendithio’r tŷ a’r teulu.
  
Nid traddodiad a ddeilliodd o’r [[canu plygain]] eglwysig yw’r canu gwasael Nadolig, ond traddodiad ar wahân, ac yn perthyn i ddosbarth gwahanol o bobl. Serch hynny, gwelir elfennau crefyddol yn dod i mewn i’r canu gwasael o ddiwedd yr 17g., megis yn y caneuon a welir yng nghasgliad Thomas Jones, Amwythig, ''Llyfr [[Carolau]] a Dyriau Duwiol'' (1696). Mae rhai o’r caneuon yn ganeuon cynyddol, er enghraifft, ‘Y Cyntaf Dydd o’r Gwyliau’, ‘Y Perot ar y Pren Pêr’ a ‘Carol Gwirod yn Drws’, ac weithiau hefyd yn ganeuon gorchest, lle daw elfen gystadleuol i’r amlwg. Daw pwysigrwydd cyfarch i ddymuno ffrwythlondeb yn ystod y flwyddyn yn amlwg yn y defodau Calan, lle byddai gwaseilwyr yn mynd o amgylch y ffermydd i gyfarch, i ofyn am fwyd a diod, ac i ddymuno cynhesrwydd ar yr aelwyd. Enghraifft o gân Galan yn dymuno ffrwythlondeb yw ‘Cân y Berllan’. Byddai plant yn cyfarch weithiau gan bledio eu tlodi: ‘Rhowch galennig yn galonnog / I blant bach sydd heb un geiniog’.
+
Nid traddodiad a ddeilliodd o’r [[Canu Plygain |canu plygain]] eglwysig yw’r canu gwasael Nadolig, ond traddodiad ar wahân, ac yn perthyn i ddosbarth gwahanol o bobl. Serch hynny, gwelir elfennau crefyddol yn dod i mewn i’r canu gwasael o ddiwedd yr 17g., megis yn y caneuon a welir yng nghasgliad Thomas Jones, Amwythig, ''Llyfr Carolau a Dyriau Duwiol'' (1696). Mae rhai o’r caneuon yn ganeuon cynyddol, er enghraifft, ‘Y Cyntaf Dydd o’r Gwyliau’, ‘Y Perot ar y Pren Pêr’ a ‘Carol Gwirod yn Drws’, ac weithiau hefyd yn ganeuon gorchest, lle daw elfen gystadleuol i’r amlwg. Daw pwysigrwydd cyfarch i ddymuno ffrwythlondeb yn ystod y flwyddyn yn amlwg yn y defodau Calan, lle byddai gwaseilwyr yn mynd o amgylch y ffermydd i gyfarch, i ofyn am fwyd a diod, ac i ddymuno cynhesrwydd ar yr aelwyd. Enghraifft o gân Galan yn dymuno ffrwythlondeb yw ‘Cân y Berllan’. Byddai plant yn cyfarch weithiau gan bledio eu tlodi: ‘Rhowch galennig yn galonnog / I blant bach sydd heb un geiniog’.
  
Defod sy’n perthyn i gyfnod y Calan hefyd yw’r Fari Lwyd, a geir yn bennaf ym Morgannwg (ac ym mhlwyf Llangynwyd yn benodol), ond hefyd ym Mynwy a rhannau o Sir Gâr, ac a oedd yn arbennig o boblogaidd rhwng tuag 1850 ac 1920. Byddai un o lanciau’r pentref yn gweithio penglog ceffyl wedi ei gorchuddio â chynfas a’i haddurno â rhubanau, gyda nifer o lanciau eraill yn ffurfio gosgordd. Roedd canu ac weithiau ddawnsio yn rhan o ddefod y Fari Lwyd. [[Pwnco]] oedd [[arddull]] y canu fel arfer, sef ymryson ar rigymau rhwng gosgordd y Fari a thrigolion y tŷ, gyda’r osgordd yn ceisio cael dod i mewn. Wedi sicrhau mynediad, byddai pawb yn mwynhau cwrw a chacennau ar yr aelwyd ac yn canu i fendithio’r tŷ a’r teulu am y flwyddyn.
+
Defod sy’n perthyn i gyfnod y Calan hefyd yw’r Fari Lwyd, a geir yn bennaf ym Morgannwg (ac ym mhlwyf Llangynwyd yn benodol), ond hefyd ym Mynwy a rhannau o Sir Gâr, ac a oedd yn arbennig o boblogaidd rhwng tuag 1850 ac 1920. Byddai un o lanciau’r pentref yn gweithio penglog ceffyl wedi ei gorchuddio â chynfas a’i haddurno â rhubanau, gyda nifer o lanciau eraill yn ffurfio gosgordd. Roedd canu ac weithiau ddawnsio yn rhan o ddefod y Fari Lwyd. [[Pwnco]] oedd arddull y canu fel arfer, sef ymryson ar rigymau rhwng gosgordd y Fari a thrigolion y tŷ, gyda’r osgordd yn ceisio cael dod i mewn. Wedi sicrhau mynediad, byddai pawb yn mwynhau cwrw a chacennau ar yr aelwyd ac yn canu i fendithio’r tŷ a’r teulu am y flwyddyn.
  
Byddai’r pwnco fel arfer ar ryw fath o fesur [[englyn]]: ‘Wel dyma ni’n dwad / Gyfeillion diniwad’, gyda newid i fesur y [[triban]] wedi cyrraedd y tŷ (gw. [[Kinney]] 2011, 72–3). Cofnodir arfer hela’r dryw yn bennaf yn Sir Benfro. Perthyn i gyfnod y Flwyddyn Newydd, y Calan neu’r Ystwyll, ond fe’i cysylltir hefyd â Gŵyl San Steffan (26 Rhagfyr). Ceid tŷ neu elor o bren, wedi’i addurno â rhubanau amryliw, i gario’r dryw bach o amgylch y tai. Mae’r canu sy’n gysylltiedig â’r ddefod eto yn ganu holi ac ateb, ond ceir caneuon gwerin sy’n sôn am hela’r dryw, ac mae’n debyg fod yr hela hwn hefyd yn rhan o’r ddefod ar un adeg.
+
Byddai’r pwnco fel arfer ar ryw fath o fesur [[englyn]]: ‘Wel dyma ni’n dwad / Gyfeillion diniwad’, gyda newid i fesur y [[triban]] wedi cyrraedd y tŷ (gw. [[Kinney, Phyllis (g.1922) | Kinney]] 2011, 72–3). Cofnodir arfer hela’r dryw yn bennaf yn Sir Benfro. Perthyn i gyfnod y Flwyddyn Newydd, y Calan neu’r Ystwyll, ond fe’i cysylltir hefyd â Gŵyl San Steffan (26 Rhagfyr). Ceid tŷ neu elor o bren, wedi’i addurno â rhubanau amryliw, i gario’r dryw bach o amgylch y tai. Mae’r canu sy’n gysylltiedig â’r ddefod eto yn ganu holi ac ateb, ond ceir caneuon gwerin sy’n sôn am hela’r dryw, ac mae’n debyg fod yr hela hwn hefyd yn rhan o’r ddefod ar un adeg.
  
Cysylltir canu Gŵyl Fair â Gŵyl Fair y Canhwyllau ar 2 Chwefror, ond efallai fod cyfnod y canu, y ceir y dystiolaeth amlaf iddo ar Ynys Môn ac yn Arfon, yn para am rai dyddiau o ddiwedd Ionawr ymlaen. Ceir dau fath o’r canu hwn, sef crefyddol a gloddestol, ac mae’n bosibl mai cyweithiau cymunedol oedd y caneuon yn hytrach na gwaith un awdur yn unig. Fel yn achos defodau gwasael eraill, mae’r caneuon yn gofyn am fynediad i’r tŷ ac yn ymofyn am dân a golau, a byddai canu pellach wedi i’r carolwyr gael mynediad. Mae’n debyg fod y ddefod hon eto â’i gwreiddiau mewn deisyfiad am ffrwythlonedd, a diogelwyd nifer o enghreifftiau o lestri gwaseila Gŵyl Fair a ddefnyddid i gyflwyno gwirod i’r Forwyn.
 
Mae’r canu gwasael sy’n gysylltiedig â Chalan Mai yn dynodi croesawu’r haf a’r tymor ffrwythlon, ac yn cynnwys [[carolau]] Mai neu garolau haf. Diogelwyd nifer o garolau haf o ail hanner yr 17g. a’r 18g., a cheir yn llawysgrifau [[John Jenkins]] (Ifor Ceri) yn y [[Llyfrgell Genedlaethol]] ddetholiad o’r ceinciau a ddefnyddid, ynghyd â phenillion agoriadol y carolau. Mae amryw o’r carolau hyn yn waith Huw Morys (1622–1709), Llansilin, Sir Ddinbych. Byddai Calan Mai hefyd yn achlysur dawnsio cylch a [[dawnsio]] morys, gan ddefnyddio’r fedwen Fai neu’r pawl haf. Perthyn y gân ‘Cadi Ha’ i’r traddodiad hwn, a cheir carolau eraill sy’n cynnwys elfennau crefyddol o ddiolch i Dduw am ddaioni’r ddaear. Ceid hefyd gyfeilio ar y [[ffidil]] neu’r [[delyn]] ar Galan Mai.
+
Mae’r canu gwasael sy’n gysylltiedig â Chalan Mai yn dynodi croesawu’r haf a’r tymor ffrwythlon, ac yn cynnwys [[carolau]] Mai neu garolau haf. Diogelwyd nifer o garolau haf o ail hanner yr 17g. a’r 18g., a cheir yn llawysgrifau [[Jenkins, John (Ifor Ceri; 1770-1829) | John Jenkins]] (Ifor Ceri) yn y [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Llyfrgell Genedlaethol]] ddetholiad o’r ceinciau a ddefnyddid, ynghyd â phenillion agoriadol y carolau. Mae amryw o’r carolau hyn yn waith Huw Morys (1622–1709), Llansilin, Sir Ddinbych. Byddai Calan Mai hefyd yn achlysur dawnsio cylch a [[Gwerin, Arferion Dawnsio | dawnsio]] morys, gan ddefnyddio’r fedwen Fai neu’r pawl haf. Perthyn y gân ‘Cadi Ha’ i’r traddodiad hwn, a cheir carolau eraill sy’n cynnwys elfennau crefyddol o ddiolch i Dduw am ddaioni’r ddaear. Ceid hefyd gyfeilio ar y [[ffidil]] neu’r [[Telyn | delyn]] ar Galan Mai.
  
'''Rhidian Griffiths'''
 
'''Rhidian Griffiths'''
Llinell 19: Llinell 20:
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
:Rhiannon Ifans, ''Sêrs a Rybana: astudiaeth o’r canu gwasael'' (Llandysul, 1983)
+
*Rhiannon Ifans, ''Sêrs a Rybana: astudiaeth o’r canu gwasael'' (Llandysul, 1983)
  
:Phyllis Kinney, ''Welsh Traditional Music'' ([[Caerdydd]], 2011)
+
*Phyllis Kinney, ''Welsh Traditional Music'' (Caerdydd, 2011)
  
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 15:56, 8 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mae’r gair ‘gwasael’ yn gysylltiedig â’r gair Saesneg wassail (‘bydd iach’), ac ystyr canu gwasael yn y bôn yw ‘canu iechyd da’. Traddodiad ydyw o yfed er mwyn bendithio tyfiant a hybu ffrwythlonedd, ac â’r defnydd o’r term yn ôl i’r 12g. o leiaf. Mae’r syniad o fudd a bendith trwy gyfarch yn ganolog i’r arfer, ac yn bwysicach na’r yfed ei hun; ac mae’r canu sy’n gysylltiedig â’r arfer yn cynrychioli corff o lenyddiaeth werin o bwys, heb fod yn gyfyngedig i Gymru. Tebyg yw nifer o’r defodau Cymreig i rai a gofnodwyd mewn gwledydd a diwylliannau eraill.

Dechreuai’r flwyddyn Geltaidd ar 1 Tachwedd (wedi noson Calan Gaeaf), a gellir yn fras adnabod tri chyfnod amaethyddol yn y flwyddyn: 1. paratoi’r tir (Tachwedd-Mawrth); 2. dwyn y tir i’w lawn ffrwyth (Mawrth-Gorffennaf); 3. cynaeafu’r cynnyrch a’i ddwyn i mewn (Gorffennaf–Hydref). Mae’r canu gwasael yn bennaf gysylltiedig â’r prif wyliau yn ystod y flwyddyn, Calan Gaeaf, Nadolig (a ddisodlodd yr hen ŵyl baganaidd, Satwrnalia), y Calan, yr Ystwyll (6 Ionawr), Gŵyl Fair y Canhwyllau (2 Chwefror), yr Ynyd a’r Pasg, a Chalan Mai. Ceir sawl enw gwahanol ar y canu gwaseila, er enghraifft, canu tan bared, canu gwirod, a chanu yn drws. Am fod y canu yn ganu cyfarch, mae’r caneuon yn aml yn gofyn am fynediad i’r tŷ, gydag awgrym na fydd y cantorion yn symud o’r fan nes cael mynd i mewn. Mae hefyd ganeuon yn diolch am groeso, yn canmol y cwrw a’r bwyd ac yn bendithio’r tŷ a’r teulu.

Nid traddodiad a ddeilliodd o’r canu plygain eglwysig yw’r canu gwasael Nadolig, ond traddodiad ar wahân, ac yn perthyn i ddosbarth gwahanol o bobl. Serch hynny, gwelir elfennau crefyddol yn dod i mewn i’r canu gwasael o ddiwedd yr 17g., megis yn y caneuon a welir yng nghasgliad Thomas Jones, Amwythig, Llyfr Carolau a Dyriau Duwiol (1696). Mae rhai o’r caneuon yn ganeuon cynyddol, er enghraifft, ‘Y Cyntaf Dydd o’r Gwyliau’, ‘Y Perot ar y Pren Pêr’ a ‘Carol Gwirod yn Drws’, ac weithiau hefyd yn ganeuon gorchest, lle daw elfen gystadleuol i’r amlwg. Daw pwysigrwydd cyfarch i ddymuno ffrwythlondeb yn ystod y flwyddyn yn amlwg yn y defodau Calan, lle byddai gwaseilwyr yn mynd o amgylch y ffermydd i gyfarch, i ofyn am fwyd a diod, ac i ddymuno cynhesrwydd ar yr aelwyd. Enghraifft o gân Galan yn dymuno ffrwythlondeb yw ‘Cân y Berllan’. Byddai plant yn cyfarch weithiau gan bledio eu tlodi: ‘Rhowch galennig yn galonnog / I blant bach sydd heb un geiniog’.

Defod sy’n perthyn i gyfnod y Calan hefyd yw’r Fari Lwyd, a geir yn bennaf ym Morgannwg (ac ym mhlwyf Llangynwyd yn benodol), ond hefyd ym Mynwy a rhannau o Sir Gâr, ac a oedd yn arbennig o boblogaidd rhwng tuag 1850 ac 1920. Byddai un o lanciau’r pentref yn gweithio penglog ceffyl wedi ei gorchuddio â chynfas a’i haddurno â rhubanau, gyda nifer o lanciau eraill yn ffurfio gosgordd. Roedd canu ac weithiau ddawnsio yn rhan o ddefod y Fari Lwyd. Pwnco oedd arddull y canu fel arfer, sef ymryson ar rigymau rhwng gosgordd y Fari a thrigolion y tŷ, gyda’r osgordd yn ceisio cael dod i mewn. Wedi sicrhau mynediad, byddai pawb yn mwynhau cwrw a chacennau ar yr aelwyd ac yn canu i fendithio’r tŷ a’r teulu am y flwyddyn.

Byddai’r pwnco fel arfer ar ryw fath o fesur englyn: ‘Wel dyma ni’n dwad / Gyfeillion diniwad’, gyda newid i fesur y triban wedi cyrraedd y tŷ (gw. Kinney 2011, 72–3). Cofnodir arfer hela’r dryw yn bennaf yn Sir Benfro. Perthyn i gyfnod y Flwyddyn Newydd, y Calan neu’r Ystwyll, ond fe’i cysylltir hefyd â Gŵyl San Steffan (26 Rhagfyr). Ceid tŷ neu elor o bren, wedi’i addurno â rhubanau amryliw, i gario’r dryw bach o amgylch y tai. Mae’r canu sy’n gysylltiedig â’r ddefod eto yn ganu holi ac ateb, ond ceir caneuon gwerin sy’n sôn am hela’r dryw, ac mae’n debyg fod yr hela hwn hefyd yn rhan o’r ddefod ar un adeg.

Cysylltir canu Gŵyl Fair â Gŵyl Fair y Canhwyllau ar 2 Chwefror, ond efallai fod cyfnod y canu, y ceir y dystiolaeth amlaf iddo ar Ynys Môn ac yn Arfon, yn para am rai dyddiau o ddiwedd Ionawr ymlaen. Ceir dau fath o’r canu hwn, sef crefyddol a gloddestol, ac mae’n bosibl mai cyweithiau cymunedol oedd y caneuon yn hytrach na gwaith un awdur yn unig. Fel yn achos defodau gwasael eraill, mae’r caneuon yn gofyn am fynediad i’r tŷ ac yn ymofyn am dân a golau, a byddai canu pellach wedi i’r carolwyr gael mynediad. Mae’n debyg fod y ddefod hon eto â’i gwreiddiau mewn deisyfiad am ffrwythlonedd, a diogelwyd nifer o enghreifftiau o lestri gwaseila Gŵyl Fair a ddefnyddid i gyflwyno gwirod i’r Forwyn.

Mae’r canu gwasael sy’n gysylltiedig â Chalan Mai yn dynodi croesawu’r haf a’r tymor ffrwythlon, ac yn cynnwys carolau Mai neu garolau haf. Diogelwyd nifer o garolau haf o ail hanner yr 17g. a’r 18g., a cheir yn llawysgrifau John Jenkins (Ifor Ceri) yn y Llyfrgell Genedlaethol ddetholiad o’r ceinciau a ddefnyddid, ynghyd â phenillion agoriadol y carolau. Mae amryw o’r carolau hyn yn waith Huw Morys (1622–1709), Llansilin, Sir Ddinbych. Byddai Calan Mai hefyd yn achlysur dawnsio cylch a dawnsio morys, gan ddefnyddio’r fedwen Fai neu’r pawl haf. Perthyn y gân ‘Cadi Ha’ i’r traddodiad hwn, a cheir carolau eraill sy’n cynnwys elfennau crefyddol o ddiolch i Dduw am ddaioni’r ddaear. Ceid hefyd gyfeilio ar y ffidil neu’r delyn ar Galan Mai.

Rhidian Griffiths

Llyfryddiaeth

  • Rhiannon Ifans, Sêrs a Rybana: astudiaeth o’r canu gwasael (Llandysul, 1983)
  • Phyllis Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.