Howell, Gwynne (g.1938)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Gwynne Howell yng Ngorseinon, ac er mai jazz oedd ei ddiddordeb cyntaf daeth i’r brig fel un o’r bas-baritoniaid uchaf eu parch yn nhai opera’r byd. Ei fwriad cyntaf oedd bod yn gynllunydd trefol ond ar ôl derbyn gwersi fel myfyriwr rhan-amser yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Manceinion (y Royal Northern erbyn hyn) a chael cefnogaeth gan ei athro llais Gwilym Gwalchmai Jones (1921–70), penderfynodd fynd yn ganwr proffesiynol.

Wedi derbyn cytundebau gan Sadler’s Wells yn 1968 a’r Tŷ Opera Brenhinol yn 1970, datblygodd ei yrfa yn sydyn ac yn fuan roedd yn canu dan brif arweinyddion y byd. Ymhlith y rolau pwysicaf yn ei repertoire y mae’r rhan fwyaf o’r prif rannau yn operâu Verdi a Wagner – Miller, Sparafucile, Ferrando, Padre Guardino, Philip II, Hans Sachs, Gurnemanz ac yn y blaen. Ei hoff ran oedd Hans Sachs yn Die Meistersinger a chafodd ganmoliaeth yn gyson am ei berfformiadau yng ngweithiau Wagner, yn Der Ring des Nibelungen a Parsifal yn benodol.

Nid mewn operâu yn unig y bu’n canu, fodd bynnag. Ceir recordiad nodedig ohono o’r 1960au yn rhan Christus mewn perfformiad enwog o’r Dioddefaint yn ôl Sant Ioan (Bach) dan arweiniad Benjamin Britten. Yn y neuadd gyngerdd hefyd cofir am lawer perfformiad ganddo, er enghraifft yn Y Greadigaeth (Haydn), Missa Solemnis (Beethoven) dan arweinyddiaeth Josef Krips, ac Offeren Rhif 3 Anton Bruckner.

Cafodd yrfa anarferol o hir fel canwr, gan ei fod yn dal i ganu’n broffesiynol wrth iddo nesáu at ei 80 oed. Yn ei saithdegau mae wedi ei gyfyngu’i hun i rannau llai trwm (Simone yn Gianni Schicchi, er enghraifft), ond mae ei brysurdeb yn y maes recordio a’i ddycnwch yn teithio ar draws y byd (i ganu yn Houston yn Billy Budd gan Britten, er enghraifft) yn arwydd o’i ymroddiad proffesiynol, cryfder ei lais a’i frwdfrydedd cerddorol.

Richard Elfyn Jones



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.