Hughes-Jones, Llifon (1918-96)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Llifon Hughes-Jones yng Ngharmel ger y Groeslon, Sir Gaernarfon, a derbyniodd ei addysg ym Mhwllheli, Bangor, Coleg Cerdd Manceinion a Choleg Trinity, Llundain. Roedd yn adnabyddus fel arweinydd, organydd, cyfansoddwr (yn arbennig am ei ganeuon swynol i blant), awdur a beirniad mawr ei barch yng Nghymru a’r tu hwnt i Glawdd Offa. Cyhoeddwyd ei weithiau gan nifer o gwmnïau megis Cwmni Cyhoeddi Gwynn, Roberton, Y Lolfa a Curiad.

Mae ei waith yn perthyn i draddodiad cerddoriaeth ysgafn Prydain yn y cyfnod cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac yn ddeniadol, yn draddodiadol a thonyddol. Roedd Hughes-Jones yn meddu ar dechneg sicr ac yn deall y llais dynol (er iddo hefyd gyfansoddi peth cerddoriaeth offerynnol megis Dau Ddarn Byr i’r Obo a’r Piano, Agorawd Langdon a Dau Breliwd i Gerddorfa).

Roedd ei ddawn yn amlwg wrth gyfansoddi ar gyfer plant; llwyddai i ysgrifennu darnau addas heb ddangos agwedd nawddoglyd tuag atynt. Cenir llawer o’i ganeuon mewn eisteddfodau mawr a mân, ac maent yn arddangos adnabyddiaeth o derfynau lleisiol o fewn fframwaith tonyddol. Mewn casgliadau fel Caneuon Llifon, sef deuddeg o ganeuon a gyfansoddwyd yn 1987 ac sy’n cynnwys ‘Cân y Melinydd’, ‘Cymylau’ a ‘Gwelais Bren’, mae’r cyfansoddwr yn llwyddo i greu’r naws briodol.

Mewn casgliadau eraill o ganeuon megis Carol yr Alarch a chaneuon eraill a Patapan: Deg o Ganeuon, mae’n arddangos chwaeth ddewisol o fewn pob gosodiad. Cyfansoddodd yn ogystal nifer o weithiau corawl poblogaidd. Mae ei How Far is it to Bethlehem? (1977) a Sleep (1978) yn parhau’n boblogaidd. Mae ei ddarnau ar gyfer corau meibion hefyd yn ganadwy a chofiadwy – Emyn Noswyl, Y March Glas, Coed y Glyn a Cwyn Cariad. Mae’n esiampl nodedig o gerddor a oedd yn gwybod terfynau ei dalent gerddorol nid ansylweddol.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth

  • Gwefannau cwmnïau cyhoeddi Gwynn, Roberton, Curiad a Gwasg y Lolfa
  • Archif Papurau Llifon Hughes-Jones (Prifysgol Bangor)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.